Holi Tanni Grey-Thompson

Holi Tanni Grey-Thompson

  

Ganwyd Tanni Grey-Thompson yng Nghaerdydd yn 1969. Nid oes angen rhestru ei medalau yn y Gemau Paralympaidd (12 i gyd) ac iddi ennill gwobr y BBC, Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn deirgwaith. Yn 2009 cafodd ei derbyn i’r Orsedd ac mae yn Nhŷ’r Arglwyddi er 2010. Mae wedi derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd gan 16 o brifysgolion. Dyma ddetholiad o gyfweliad gyda Brian Dapper a ymddangosodd yn wreiddiol yn y cylchgrawn Third Way. (Gweler yr ôl-nodyn ar y diwedd)

Yn eich hunangofiant, Seize the Day (Hodder & Stoughton), yr ydych yn dweud,I mi, nid mater o goncro anawsterau yw anabledd ac mae’n anodd gweld fy hun fel “role model”.’ Ond i mi mae darllen am y ffon ddur a roddwyd yn eich cefn yn golygu gorchfygu anawsterau a dyna pam y mae athletwyr paralympaidd yn arwyr i gymaint ohonom. A wyf yn anghywir yn meddwl felly?

Nac ydych. Mae nifer wedi cael anawsterau mawr iawn. Ond fe’m magwyd mewn teulu dosbarth canol cyfforddus, y tad yn bensaer â chyflog da, mam lawnamser a chwaer hynaf ardderchog. Cefais rieni cefnogol iawn ac addysg dda; roedd gennym ddau gar a chawsom wyliau ardderchog – doedd dim anawsterau mawr. A doedd dim anawsterau na chaledi am fy mod yn athletwraig ac angen ymarfer yn galed a bod hynny wedi digwydd. Nid yw’r rhan fwyaf o athletwyr yn llwyddo i fynd i’r gemau ond fe lwyddais i nid yn unig i fynd i un, ond i bump – bûm yn ffodus iawn! Roeddwn yn digwydd bod mewn cadair olwyn ond doedd dim rhwystrau yn hynny. Pan mae pobl yn dod ataf ac yn dweud, ‘Waw, sut ydych yn llwyddo mewn cadair olwyn?’, does yr un rhan ohonof yn meddwl, ‘Biti na fuaswn yn medru cerdded.’ Ni fyddai cerdded yn rhoi dim imi nad ydwyf yn ei gael yn barod heddiw. Nid yw methu cerdded wedi fy rhwystro rhag gwneud dim rydwyf wedi bod eisiau ei wneud nac am ei wneud. Petawn eisiau neidio parasiwt, neu blymio sgwba, fe allwn wneud hynny. Cofiwch, mae’n niwsans weithiau pan mae’n tywallt y glaw ac mae’n cymryd mwy o amser i fynd i’r car! Roedd yn waeth pan oeddwn yn iau – ‘Mae’n wych yr hyn rydych yn ei wneud!’… ‘Rydych chi mor ddewr!’ Ac nid yw hynny’n wir. Fy mai i oedd fod y ffon ddur yn fy nghefn wedi torri unwaith. A does gen i ddim dewis, mae’n rhaid ei chael … a dyna fo.

Sut fagwrfa gawsoch chi?

Cefais rieni rhyfeddol. Ganwyd fi yn spina bifida, ond ni chefais fy ngwarchod efo cotton wool ac nid oeddynt am i neb arall fy nhrin yn wahanol. Roeddynt wastad yn dweud nad oeddynt wedi gwneud job dda o gael plant – fy chwaer hynaf â chalon wan a dislocated hips … a minnau! Ond doedd hynny ddim yn eu dal yn ôl. Eu hagwedd oedd: ‘Dowch yn eich blaen … peidiwch â llusgo … os ydych chi eisiau gwneud rhywbeth, yna – gwnewch!’

Fe wnaeth hynny wahaniaeth mawr i’m bywyd mewn cyfnod pan oedd pobl anabl fwy neu lai yn cael eu rhoi o’r golwg, neu o’r neilltu. Fe ddywedodd meddyg wrth fy mam y buaswn wedi fy rhoi mewn gofal o ryw fath, petawn wedi fy ngeni rai blynyddoedd ynghynt. Roedd fy rhieni yn barod i siarad yn agored am bethau fel hyn, rhag i mi glywed rhywai eraill yn gwneud hynny. Fel person anabl mae rhywun yn profi llawer o ragfarn a gwahaniaethu yn fy erbyn (discrimination) ac mae pobl yn dweud pethau ofnadwy o gas a sarhaus weithiau, ond nid yw hynny erioed wedi fy mhoeni oherwydd roeddwn wedi trafod hynny yn gyson gyda fy rhieni.

Rydych yn dweud hefyd yn eich llyfr nad ydych yn hoffi’r term ‘person anabl’ a bod yn well gennych y geiriau ‘person ag anabledd’.

O, ddeudis i hynny? Wel, mae pethau wedi newid erbyn hyn. ‘Person anabl’ sy’n swyddogol gywir, mae’n debyg.

Fel ‘plentyn anabl’ roeddwn yn cael fy adnabod yn blentyn ac mae’n siŵr fy mod wedi dadlau nad oedd bod yn anabl yn ddim ond un rhan o’r hyn oeddwn. Mae’n hawdd diffinio’r ‘anabledd’ oherwydd dyna’r peth cyntaf a wêl pobl eraill. Roedd gennyf wallt byr am y rhan fwyaf o’m cyfnod fel athletwraig, ac fe glywais ‘y bachgen anabl’ yn cael ei ddweud amdanaf! Ac mae rhywun yn meddwl: dydych chi ddim hyd yn oed yn edrych yn fy wyneb, dim ond ar y gadair olwyn. Ac felly roedd yn golygu dweud wrth y cyhoedd: edrychwch tu hwnt i’r peth cyntaf rydych yn ei weld! Mae’n siŵr fy mod wedi dod yn fwy ‘ymosodol’ yn fy ymgyrch dros ‘hawliau’r anabl’ a’m bod yn berson anabl am fod cymdeithas wedi fy ngwneud yn ‘analluog’. Mae cymaint o fannau o hyd na allaf fynd iddynt am fy mod yn anabl, ac felly ni allaf fod yn ‘berson ag anabledd’ hyd nes y gallaf wneud popeth y gall person heb anabledd ei wneud. Rydym yn dod yn nes at hynny, ond mae ffordd bell i fynd eto.

Rwyf wedi dod yn fwy ymwybodol o iaith. Fe wyddwn, pe bawn yn llwyddo mewn chwaraeon, y byddai gennyf lwyfan i siarad am bethau eraill sydd angen tynnu sylw atynt. Er bod chwaraeon yn bwysig i mi, roedd gennyf hefyd restr faith o bethau eraill i’w cyflawni ac erbyn hyn yr wyf yn teimlo mai un cam yn unig oedd chwaraeon tuag at yr hyn yr wyf yn gobeithio’i gyflawni. Roeddwn yn teimlo fod yna fwriad i mi wneud rhywbeth arall. Nid wyf yn siŵr beth ydyw eto, ond rhan ohono yn unig oedd y llwyddiant mewn chwaraeon.

Fe fu’n rhaid i chi unwaith grafangu oddi ar drên am nad oedd neb o’r staff ar gael. Petai rhywun fel Syr Steve Redgrave wedi cael yr un profiad fe fyddai yna brotest fawr wedi dilyn y digwyddiad. I ba raddau mae ein hagwedd tuag at bobl ag anabledd wedi newid?

Mae’n filltiroedd lawer gwell nag y bu. Ond roedd yr ymateb ar lein i’r stori am helynt y tren yn brawf arbennig. Fe ysgrifennwyd pethau fel, ‘Fe ddylai pobl fel chi fod mewn tryciau gwartheg yng nghefn y trên, rhag i chi heintio pobl gyffredin’.

Ydych chi o ddifrif?

Ydw … ac mae pethau fel yna wedi’u dweud yn fy wyneb o’r blaen. Mae hynny’n fy ngwneud yn fwy penderfynol i barhau i newid pethau a dyna pam yr wyf yn Nhŷ’r Arglwyddi.

A gawsoch fagwrfa grefyddol?

Roedd gan fy mam a nhad ffydd gref iawn er nad oeddynt yn siarad llawer am hynny. Ond roedd mam yn dweud yn gyson nad oedd neb yn cael anawsterau na allent eu wynebu ac rwy’n siŵr hefyd ei bod yn gweld fod fy nghael i’n blentyn yn ‘alwad’ a roddwyd iddi.

Ond rydych yn honni nad ydych yn grefyddol erbyn hyn …

Mae hynny’n wir … oherwydd ein bod wedi symud o gwmpas cymaint, efallai. Fe gefais fy medyddio mewn capel Cymraeg, ond doedd fy nhad ddim yn siarad Cymraeg ac felly fe gefais fy magu gyda’r Methodistiaid Saesneg.

Pan oeddwn yn 11 oed fe es i Lourdes, ac fe es i i Eglwys Gatholig am ychydig, ond fe gawsom offeiriad oedd yn gofyn i ni sefyll a chydio dwylo ac fe fyddai’n cyfeirio at rywun yn ddirybudd a gofyn, ‘Fysech chi’n hoffi gweddïo?’ Doedd hynny ddim yn gydnaws â’n teulu ni o gwbwl! Yn y diwedd fe setlodd fy rhieni ar awyrgylch isel-eglwysig yr eglwys Anglicanaidd yng Nghymru … ond nid wyf fi wedi dod o hyd i’r ‘lle iawn’ rywsut. Wn i ddim a ydwyf mewn gwirionedd yn chwilio am y lle hwnnw, neu’n gobeithio fod y lle hwnnw’n siŵr o ymddangos ryw ddiwrnod … Mae gennyf ffydd ond rwyf yn ei chael yn anodd, anodd iawn i’w mynegi. Nid yw ynglŷn â mynd i’r capel yn unig, er bod hynny’n rhan ohono, ond mae ynglŷn ag ansawdd bywyd a chymdeithas a chariad a gofal amdanom ein gilydd. Mae’r ffordd y cawsom ein dwyn i fyny yn ddylanwad aruthrol arnaf.

Mae gennych gred mai ‘fel hyn roedd pethau i fod’?

Oes, mae gen i. Mae popeth sy’n digwydd i ryw bwrpas. (Mae gennym ddigonedd o ddywediadau yn ein teulu ni!) Wn i ddim beth sydd yn yr arfaeth i mi – beth sydd i fod i mi – ond rwy’n cofio rhywun yn dweud wrth fy nhad pan oeddwn yn 21ain oed y byddwn yn cyrraedd Tŷ’r Arglwyddi, ac ugain mlynedd yn ddiweddarach, dyna ble rydwyf. Felly, wn i ddim, rwy’n meddwl weithiau fod yna gynllun neu drefn. Nid i bawb, wrth gwrs – mae hyn yn sobr o anodd i’w egluro a’i ddweud – ond i rai, efallai.

Ac mae gennych ymwybyddiaeth fawr o’ch Cymreictod …

O oes, yn llwyr. Fe wnes yn siŵr fod ein merch yn cael ei geni yng Nghymru ac rwyf wedi dod yn fwy rhugl yn y Gymraeg ac yn falch o fod yn Gymraes. Mae’n anodd egluro hyn i Saeson, mor anodd â cheisio egluro fy ffydd. Mewn gwirionedd, mae’n debyg iawn i ffydd mewn llawer ffordd.

Fe ddywedodd Eric Liddell, pan enillodd y ras 400m yn Olympics 1924, fod Duw wedi ei wneud yn gyflym a phan fyddai’n rhedeg yr oedd yn teimlo bodlonrwydd a bendith Duw. A oes rhai eraill yn cael yr un teimlad ar y trac? A ydych chi wedi teimlo hynny?

Ar adegau rydych yn teimlo eich bod ar ryw lefel wahanol, a hyd yn oed yn teimlo nad chi sydd yna ond rhywun neu rywbeth arall. Mae’n deimlad rhyfedd iawn, na allaf ei egluro. Wyddoch chi, er fy mod yn siarad llawer am fod yn anabl, nid wyf yn teimlo yn anabl ac i mi mater ydoedd o wthio terfynau corfforol a bod mor gyflym a chryf ag oedd bosibl i mi fod. A dyna fo. Ceisio bod yn dda a gwneud yn dda.

Mae athletwyr yn griw gwahanol, yn tydyn? Beth sy’n eich gwneud yn wahanol, tybed? Ydyn nhw’n ceisio profi rhywbeth?

O, ydyn wir …

Beth oeddech chi’n ceisio’i brofi?

Weithiau fe fydd pobl yn gofyn a oeddwn yn ceisio profi rhywbeth am fy mod mewn cadair. Nac oeddwn, mewn gwirionedd, oherwydd yr un bersonoliaeth sydd gennyf nawr ag a oedd gennyf cyn fy mharlysu (yn saith oed).

Ond yr oeddwn angen profi imi fy hun y gallwn fod yn dda wrth gael nod ac ymarfer yn ddigon caled. Ac roedd ynglŷn â phrofi rhywbeth i’r teulu hefyd. Nid oedd wahaniaeth am neb arall, ond mae fy nheulu yn bopeth i mi. Ond nid wyf erioed wedi teimlo fy mod wedi gwneud digon.

 A ydych yn teimlo fod yna rywbeth yn eich gyrru o hyd?

Ar ôl gorffen cystadlu (yn 2007) rwyf yn llawer mwy tawel fy meddwl. Un peth a wnaeth i mi ymddeol oedd teimlo nad oeddwn yn berson neis iawn … ac ar adegau, rhwng y cystadlu a’r teithio, roeddwn yn mynd yn fwy a mwy diflas. … Rwyf yn well person ar ôl peidio bod yn athletwraig. Fe drefnwyd ein priodas o gwmpas dyddiadau cystadlaethau ac fe wnes i hyd yn oed sôn am ddyddiad pryd y dylwn fod yn feichiog os oeddwn am gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2002! Fe gollais Nadoligau a phenblwyddi, ac fe drefnodd fy chwaer ei phriodas o gwmpas fy amserlen i! Roeddwn yn hunanol iawn fel athletwraig, ac roedd fy nheulu’n caniatáu imi fod …

Rydych yn fy atgoffa o’r sioc a gefais wrth ddarllen yn eich llyfr: ‘Fe all ras cadair olwyn fod yn beryglus, yn fygythiol, yn filain ac yn ddychryn. Mae chwaraeon yn aml yn cael eu dyrchafu, fel y celfyddydau, fel rhywbeth dyrchafol, ond tybed, yn y pen draw, nad yw’n ddim ond dyrchafu’r hunan?’ Ond rydych yn cael eich ystyried yn ‘drysor cenedlaethol’, Tanni. A yw hynny’n faich ychwanegol?

Rwyf yn ei chael yn anodd ymateb i ganmoliaeth neu gael tynnu llun fel seléb am mai fi ydi Tanni Grey-Thompson oherwydd nid wyf yn gweld beth maen nhw’n ei weld. Dim ond Tanni ydw i. ‘Chi ydi Tanni, ynte?’ Beth mae rhywun yn ei ddweud? Wel, ie, diolch … ond beth mae hynny’n ei olygu yn y pen draw? Nid yw’r teulu yn fy nhrin fel rhywun arbennig o gwbwl. ‘Grounding’ yw fy ngair i am eu hagwedd tuag ataf, sef rhoi fy nhraed ar y ddaear (!!), siarad yn blaen. Weithiau’n ddigywilydd o onest. Pan fydd pobl yn gofyn i’m gŵr (a oedd yn athletwr paralympig ei hun) sut beth ydi bod yn briod â TG-T, ei ymateb yn aml yw: ‘Wnaeth hi erioed fy nghuro i. Roeddwn yn well na hi.’

A ydych yn gweld gwahaniaeth rhwng ‘colli’ a ‘methu’?

Yn bendant iawn. Fe gollais mewn llawer o gystadlaethau, ond yn anaml y bu i mi fethu. Gair ofnadwy ydi ‘methu’. Mae’n hawdd troi cefn ar bethau weithiau, a dweud, ‘Tydw i ddim am drafferthu’, ac osgoi bod mewn sefyllfa sy’n gofyn am sialens i chi eich hun. Rwy’n cofio, cyn cyflwyno’r gwelliant cyntaf yn Nhŷ’r Arglwyddi, i mi daflu i fyny yn y toiledau a meddwl, ‘Oh, my God’. Digon ysgafala yw chwaraeon, mewn gwirionedd, ond mae Tŷ’r Arglwyddi (beth bynnag yw barn pobl amdano) yn medru effeithio ar fywydau bob dydd pobl gyffredin. Mae’n gyfrifoldeb aruthrol ac yn un yr wyf yn ei gymryd yn gwbwl ddifrifol – a rhaid mentro.

Mae’r sgwrs hon yn rhan o gyfweliad Brian Draper â Tanni Grey-Thompson ar wefan High Profiles a gyhoeddwyd yn wreiddiol yng nghylchgrawn Third Way, Awst 2012. Gellir darllen y cyfweliad llawn ar https://highprofiles.info/interview/tanni-grey-thompson/.

Rydym yn ddiolchgar iawn am ganiatâd i’w chyhoeddi yn Agora.

Mae Brian Draper yn awdur nifer o lyfrau fel: Spiritual Intelligence: A new way of being (Lion, 2009) a Soulfulness: Deepening the mindful life (Hodder & Stoughton, 2016). Bu’n olygydd Third Way (1997–2001) ac yn darlithio ar  ddiwylliant cyfoes yn y London Institute for Contemporary Christianity. Mae’n gyfrannwr cyson i Thought for the day. Ef yw cyfarwyddwr Echosounder, cwmni ymgynghori ar ‘spiritual intelligence’. 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18 YMATEB: Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, cliciwch YMA i adael sylw.