Clywed am hanes Nehemeia a’i bobl, gyda chymorth Duw, yn ailadeiladu waliau Jerwsalem mewn dosbarth Beiblaidd yn ddiweddar. Dod i wybod mwy am ei bwyslais ar weddi a’i anogaeth ar i bobl gydweithio er mwyn adfer y ddinas wrth droi at gyfres ddiddorol Rhys Llwyd am y proffwyd a’i gredo a’i waith.
Mynegodd Nehemeia ddigon o gonsýrn am Jerwsalem a dod i adnabod angen ei gymuned. Rydym yn byw mewn oes ac amgylchiadau gwahanol iawn heddiw ond mae arwyddocâd o hyd i hanes Nehemeia mewn perthynas â’r eglwys Gristnogol.
Beth yw’n consýrn ni am gyflwr yr Eglwys? Ydyn ni’n adnabod ei hanghenion? Mae yna lond trol o gonsýrn a siarad dibendraw am hyn ond mater arall yw gweithredu! Pan ddaw hi’n fater o wneud rhywbeth mae’n haws yn aml iawn i ni, fel yr estrys, guddio’n pen yn y tywod. Gwell gadael i bethau fod a pheidio â meddwl gormod am yfory. Mae yna nifer o deuluoedd ifainc, llawer ohonynt wedi’u denu o’r wlad i’r dref am amryw resymau, yn dal i chwilio am eglwys i addoli ynddi heddiw. Ond nid chwilio fel ddoe ychwaith. Nid y flaenoriaeth yw enwad neilltuol, fel, efallai, yn nyddiau tad-cu a mam-gu. Yn hytrach, awydd mawr y teuluoedd hyn heddiw yw dod o hyd i eglwys fyw sy’n cofleidio’r gymuned o’i chwmpas. A, gwaetha’r modd, dyw hynny ddim bob amser yn rhwydd. Chwilio maen nhw am eglwys lle mae sŵn plant yn hytrach na thawelwch a marweidd-dra. Eglwys sy’n anturio, arloesi ac yn herio yn hytrach na gweld problemau a pheryglon. Eglwys sydd heb ei llyffetheirio gan hen gadwynau a strwythurau enwadol. A lle mae eglwys fyw mae’r teuluoedd yno – yn gymysg oll i gyd o ran enwadaeth. Natur yr eglwys sy’n eu huno.
Ond beth mae llawer o’r teuluoedd hyn yn ei weld o’u cwmpas y dyddiau hyn? Sefyllfa ranedig gyda phobl mewn sawl man, oddi mewn i’r un filltir sgwâr yn aml, yn ymlwybro’n flinedig i wahanol flychau a rheiny’n ddigon difflach. A’r capeli hynny’n rhygnu byw a phalu ymlaen, doed a ddêl. Maent yn sôn am ddod ynghyd i gydaddoli ond prin os o gwbl yw’r achlysuron hyn. A sut mae teuluoedd ifainc yn dod i wybod am eglwys fyw yn y lle cyntaf meddech chi? Wel, drwy’r cyfryngau newydd yn aml iawn. Mae’r eglwys fyw’n cofleidio technoleg gyfoes. Mae gan dechnoleg y grym i ddod â phobl ynghyd mewn dulliau na welwyd erioed o’r blaen. Mae presenoldeb ar lein yn gweithredu fel drws ffrynt i’r eglwys fyw!
Diolch am hanes Nehemeia. Mae o leiaf un peth creiddiol sy’n gyffredin i Nehemeia a ninnau heddiw, sef ein hangen am help Duw. Ond efallai mai dymchwel yn hytrach na chodi muriau yw’n her fawr ni!