Dechrau – cyflwyniad

Dal i Gredu: Ail-ddehongli Myth Cristnogaeth

 Cynog Dafis

1       Fframio’r Drafodaeth

Man cychwyn unrhyw drafodaeth adeiladol am ddyfodol Cristnogaeth (a chrefydd yn gyffredinol) yw cydnabod mai am fyth rydyn ni’n sôn. Myth, nid fel celwydd, ond fel stori ddychmyglawn sy’n cyfleu ei hystyr drwy symboliaeth a metaffor. Goddrychol, nid gwrthrychol, yw ei dehongliad, ac o feddwl dyn, nid o unrhyw ffynhonnell oruwchnaturiol, y mae’n tarddu.

Nid gwneud yn fach o Gristnogaeth mo’i gweld yn y termau hynny ond agor y drws i weld ei gwir werth, canfod hyd a lled ei chyfoeth dihysbydd. Nid rhyw ddull israddol, diffygiol o ddehongli realiti yw myth ond, ys dywed Aled Jones Williams am y dychymyg, ‘ffordd arall – a dilys! – o wybod’. Ymhellach meddai, ‘yn selerydd y dychymyg y mae’r symbolau, [a] chraidd y crefyddol [yw] byw drwy a gyda symbolau’ 1.

Ail gynsail trafodaeth adeiladol yw cydnabod campau gogoneddus Gwyddoniaeth yn natblygiad ein gwareiddiad ni. Cydnabod hefyd mai hi, Gwyddoniaeth, piau esbonio’r Bydysawd yn ei holl ddibendrawdod anchwiliadwy, mawr a bach, a rhoi’r gorau i unrhyw awgrym y gall crefydd, Gristnogol neu arall, gyfrannu at esbonio pethau felly. Byd empeiriaeth – byd gwrthrychedd, rhesymeg, mesur a phwyso, tystiolaeth a phrawf yw byd Gwyddoniaeth.

Mae hyn yn golygu, ymysg pethau eraill, ddiosg y syniad o Fod Goruwchnaturiol personol sy’n gyfrifol am y Bydysawd ac yn ein caru ni blant dynion. Duw damcaniaeth yw hwn, y gellir gofyn amdano, ‘Ydych-chi’n credu ynddo neu beidio?’, fel y gofynnech-chi am y Glec Fawr neu Sylwedd Tywyll, neu Dyllau Duon, neu Esblygiad. Ac eto, i’r mwyafrif mawr o arweinwyr Cristnogaeth a’u heglwysi (ffwndamentalaidd a rhyddfrydig fel ei gilydd, ag ychydig iawn o eithriadau), rhaid tanysgrifio i (‘credu yn’) y ddamcaniaeth er mwyn cael eich cyfri’n Gristion.

Rhagdybiaeth yr ysgrif a ganlyn yw ei bod yn bryd i ni adael y ddadl seithug honno o’n hôl a gofyn, ‘Beth nesaf felly?’ – gan wrthod yr ateb rhwydd-amlwg: mai cefnu sydd raid, dympio holl ogoniant, doethineb a dwyster y profiad a’r gynhysgaeth Gristnogol. Dympio yn y broses gyda llaw, dalp go fawr o’n diwylliant cenedlaethol hefyd.

Cafodd Cristnogaeth ei llurgunio, a chymerodd ffurfiau hyll, erchyll eu heffeithiau, drosodd a thro, ar hyd yr oesoedd. Cafodd ei mynych herwgipio i’w dibenion eu hunain gan wladwriaethau a buddiannau eraill. Fel y gwelaf i bethau serch hynny hi, wedi’i gwreiddio yn Iddewiaeth a’i mireinio dros ddau fileniwm ei blodeuo annibynnol, Crsitnogaeth yw un o fythau gwychaf y ddynoliaeth,.

2       Y Myth a Etifeddwyd

Beth am i ni gael cip yn awr ar y fersiwn o’r myth hwnnw a enillodd ymlyniad cyfran helaeth o genedl y Cymry drwy Ddiwygiad Methodistaidd y 18fed ganrif, a barhaodd i hydreiddio’n diwylliant am ganrif wedyn, ac sy’n dal i ymrithio fel math o ymbelydredd pellennig yn ein hymwybyddiaeth hyd y dydd heddiw?

Neges ar y llinellau canlynol y byddai arweinwyr y Diwygiad yn ei thraethu, gydag argyhoeddiad tanbaid, wrth annog y lliaws gwerinol i ymroi o ddifrif i Gristnogaeth.

Creodd y Duw cariadus hollalluog y bydysawd yn berffaith, gan osod Dyn ei anwylyn yn y canol, ar lun a delw ei Greawdwr. Ac yntau’n meddu ar ryddid ewyllys, gwrthryfelodd Dyn, gan ysgwyd seiliau’r greadigaeth, dod â phechod i’r byd a gwneud dynion yn gaeth i ddrygioni. Canlyniad y pechod gwreiddiol hwn yw pob caledi a dioddefaint ac yn wir angau ei hun. Ymhellach mae gofynion cyfiawnder yn mynnu y byddai rhaid i blant dynion ddioddef poenau dirdynnol uffern hyd dragwyddoldeb.

Fodd bynnag penderfynodd Duw yn ei ras ymyrryd yn y cyfwng yma drwy ymgnawdoli, gwisgo natur Dyn yn ffurf ei Fab, a oedd o’r un hanfod ag Ef ei Hun. Byddai rhaid i hwnnw gyfranogi’n llwyr o’r cyflwr dynol, gan brofi tlodi, trallod, dirmyg a brad, a dioddef dienyddiad arteithiol. Gwnaeth y dioddefaint yma ‘Iawn’ dros bechod Dyn a bodloni gofynion rhesymol cyfiawnder. Atgyfododd y Mab yn fuddugoliaethus a dychwelyd i’r nefoedd at ei Dad lle mae’n cyd-deyrnasu mewn gogoniant.

Er mwyn cael ‘iachawdwriaeth’ a dianc o gaethiwed pechod rhaid i’r unigolyn yn gyntaf gydnabod mai pechadur yw-e. Rhaid ymagor wedyn i ras Duw a ddaw’n realiti drwy gyfrwng Iesu Grist, ffrind personol a gwrthrych serch y credadun yn ogystal â ffigwr cosmig, Mab Duw, sy’n eiriol ar ei ran gyda’r Tad yn y nefolion leoedd. Bydd ‘tröedigaeth’ yr unigolyn yn ei ryddhau o gaethiwed pechod, yn gweddnewid ansawdd ei fywyd yn y byd hwn ac yn sicrhau gwynfyd tragwyddol iddo yn y nefoedd.

Rhagflas o’r nefoedd fydd y gymdeithas fwy gwaraidd, caredig a chyfrifol y bydd y troedigion yn ymroi i’w sefydlu yn y byd hwn. Ymhellach, rhan anhepgor o fwriad y Tad yw sefydlu’i Deyrnas yng nghyflawnder amser ‘ar y ddaear hefyd’. Bydd y ddynoliaeth gyfan drwy’r byd yn ddeiliaid yn y Deyrnas honno.

Mae Williams Pantycelyn yn disgrifio’r 2 llawenydd ecstatig y byddai’r troedigion yn ei brofi wrth iddyn gael eu hargyhoeddi o’r newyddion da yma. Ar adegau fe fydden yn canu, yn llamu ac yn dawnsio wrth gael eu codi o ganol caledi a helbulon eu bywydau i ‘fyw yng nghanol y goleuni, twyllwch obry dan [eu] traed’.

3       Ysbryd yr Oes: Cynnydd

Cyd-ddigwyddodd Diwygiad Methodistaidd Cymru ag Oes y Goleuo, symudiad Ewropeaidd a oedd â’i wreiddiau yn y chwyldro gwyddonol, a phwyslais hwnnw ar reswm, tystiolaeth, arbrawf a ffaith. Heriodd meddylwyr y Goleuo awdurdod sefydliadau crefyddol a’u dogmâu. Herio a thanseilio ar yr un pryd lywodraethau brenhinol a’r dosbarthiadau breiniol, a gafael haearnaidd y rheini ar gyfoeth, grym gwleidyddol a bywydau eu gwerinoedd. Herio yn arbennig y cydblethiad annatod braidd rhwng Cristnogaeth a thra-arglwyddiaeth wleidyddol.

Brith fu hanes y canrifoedd dilynol. Gwastrododd masnachwyr a gwladwriaethau Ewrop bobloedd Affrica ac Asia, gan eu gormesu a’u hecsbloetio. Am gyfnod meddiannwyd rhai cenhedloedd gan ideolegau adweithiol, ffiaidd neu unbenaethol. Chwalwyd cyfandir Ewrop ei hun gan gyfres o ryfeloedd erchyll.

Ond yn raddol roedd gwerthoedd y Goleuo yn ymdreiddio i ymwybyddiaeth meddylwyr a gwerin bobloedd fel ei gilydd a bu’r effeithiau’n bellgyrhaeddol. Ysgubwyd ofergoelion lu – cred mewn gwrachyddiaeth yn un enghraifft – i fìn sbwriel hanes. Tyfodd democratiaeth a chydnabuwyd bod gan ddynion o bob gradd gymdeithasol rai iawnderau diymwad. Grymuswyd y dosbarth gweithiol a sefydlwyd undebau llafur. Diddymwyd caethwasiaeth a thrawsnewidiwyd agweddau at droseddu a chosbi. Mae’r ymdrech i ryddfreinio menywod ac i dderbyn tueddiadau rhywiol a fu gynt yn droseddol yn ennill tir.

Yn ail hanner yr ugeinfed ganrif dadwladychwyd, yn ffurfiol o leiaf, yr ymerodraethau Ewropeaidd. Crëwyd sefydliadau a chytundebau i hyrwyddo cydweithrediad rhyngwladol, gwahardd drwgarferion megis arteithio a cheisio datrys problemau economaidd a gwleidyddol er mwyn osgoi gwrthdaro a rhyfel.

Ar yr un pryd roedd datblygiadau gwyddoniaeth a thechnoleg yn trawsnewid bywydau: yn llaesu poen, yn dileu heintiau, yn gwella iechyd cyhoeddus ac afiechydon, yn estyn oes dyn. Mae dileu newyn a thlodi yn amcanion credadwy a chydnabyddedig os nad, o bell ffordd, yn realiti cyfredol i bawb.

Mae’n ddiau i egwyddorion ac ymroddiad Cristnogion mewn llawer dull-a-modd gyfrannu’n rymus at lawer o’r cyfnewidiadau bendithiol hyn. Does dim modd gwadu serch hynny nad seciwlareiddio cynyddol, ac ymwrthod ag athrawiaethau Cristnogaeth, y bu eu dylanwad unwaith mor dra-arglwyddiaethol, oedd prif dueddiad y cyfnod dan sylw. Mewn gair, cyd-ddigwyddodd cynnydd mawr a bendithiol yn ansawdd bywyd y ddynoliaeth, yn y byd gorllewinol o leiaf, â dirywiad Cristnogaeth.        

4       Ysbryd yr Oes: Dryswch

Cafwyd adwaith yn erbyn seciwlareiddio, ac yn erbyn rhai o enillion pwysig y Goleuo, ar ffurf ffwndamentaliaeth grefyddol, o fewn Cristnogaeth ac yn arbennig o fewn Islam. Cafodd y duedd alaethus ond deinamig yma ddylanwad cwbl anghymesur â’r nifer o bobl a’i mabwysiadodd fel ffordd o ddehongli’r byd a llywio hynt eu bywydau. I’r mwyafrif mae ffwndamentaliaeth ar y gorau yn anghredadwy ac amherthnasol, ac ar y gwaethaf yn hurt, yn ormesol ac yn beryglus.

Fodd bynnag mae pryder ynghylch cyfeiriad cymdeithas, dyfodol y ddynoliaeth hyd yn oed, yn cynyddu, a rheswm da pam. Mae’r dystiolaeth yn pentyrru nad i fyd newydd braf o welliant parhaol y cawson ni’n hebrwng gan y grymusterau a ollyngodd y Goleuo yn rhydd.

Argyfwng yr Amgylchedd Naturiol

Wrth i Ddyn gael ei rymuso gan ddarganfyddiadau Gwyddoniaeth a thwf technoleg, fe aeth impact ei weithgareddau ar yr amgylchedd naturiol sy’n gwneud ei ffyniant a’i ddiddigrwydd yn bosibl, yn gynyddol broblematig. Mae’r broblem yn amlweddog: coláps argyfyngus yn nifer ac amrywiaeth rhywogaethau’r blaned, dadsefydlogi’r hinsawdd, erydu priddoedd, llygru tir a môr ac ati. Achos gwaelodol yr argyfwng yw’r cynnydd aruthrol yn ein poblogaeth ni, homo sapiens (o 1bn an 1800 i 7.6bn yn 2018), ynghyd â’n hysfa – anniwall i bob golwg – am ragor o feddiannau, cyfleusterau a mwyniannau. Hynny yn ei dro yn arwain at ddefnydd dwysach, a chipio ardaloedd helaethach, o ofod ac adnoddau natur i’n meddiant ni.

Nid ar chwarae bach y mae mynd i’r afael â’r argyfwng yma tra’n ymroi ar yr un pryd i ddarparu at reidiau’r tlawd, yr anghenus a’r amddifaid. Bydd angen harneisio holl glyfrwch, medrusrwydd a dyfeisgarwch dyn at y dasg. Bydd cydweithio a chyd-dynnu yn lleol ac yn fyd-eang yn hanfodol. Bydd rhaid gorseddu lles y lliaws yn uwch na thrachwant grwpiau ac unigolion pwerus. Yn allweddol bydd rhaid derbyn yr angen i ymddarostwng i’r cyfyngiadau anochel y mae Natur yn eu gosod ar ein dyheadau.

Gwaetha’r modd nid i’r cyfeiriad yna y mae pethau’n symud, serch ein bod-ni’n fwy effro nag erioed i natur y sialens a rhai ymdrechion cydwladol clodwiw megis Cytundeb Paris ar newid yn yr hinsawdd (2016).

Economi Prynwriaethol

I raddau llethol mae polisi economaidd confensiynol wedi’i seilio ar gysyniad o dwf parhaus anwahaniaethol sy’n ei ddwyn i wrthdaro anochel â’r angen i warchod, heb sôn am adfywhau, cyfoeth Byd Natur. Dwysawyd y gwrthdaro sylfaenol yma ymhellach wrth i fersiwn hynod reibus o gyfalafiaeth (‘neoryddfrydiaeth’ yw’r label a roed arno), sy’n mawrygu cystadleuaeth ddilyffethair ar draul cydweithrediad, ac unigolyddiaeth remp ar draul y lles cyffredin a gwasanaethu cyd-ddyn, feddiannu meddylfryd gwleidyddion a byd busnes yn nhraean ola’r ugeinfed ganrif.

Treiddiodd yr ideoleg yna i’r diwylliant poblogaidd wrth i’r diwydiant hysbysebu borthi prynwriaeth a dyrchafu hedonistiaeth, plesera a moethusrwydd materol fel y gwerthoedd y byddai pawb normal am ymgyrraedd atyn uwch law dim. Eiconau’r oes, gwrthrychau diddordeb obsesiynol y cyfryngau torfol, yw’r selébs perfformiadol myfïol a lwyddodd i gyrraedd yr uchelfannau prynwriaethol.

Gwrthdroi’r Goleuo

O dan bwysau cyfuniad o heriadau cymhleth, cydgysylltiol, taflwyd rhai o werthoedd a gwelliannau’r Goleuo o dan amheuaeth. Mae gwerth sefydliadau a chytundebau cydwladol yn cael ei amau wrth i fath afiach o genedlaetholdeb adweithiol ennill poblogrwydd. Mae lle i ofni bod democratiaeth yn cael ei thanseilio a bod awdurdodaeth ac unbennaeth yn ennill tir. Mae disgwrs cyhoeddus camwahaniaethol, rhagfarnllyd a dicllon yn cael ei oddef o’r newydd.

Bygythiad milwrol sy’n cynyddol nodweddu cyd-berthynas rhyngwladol ar draul diplomyddiaeth, cyd-ddeall ac ymdrech i gymodi.

Mae’n wir bod y wybodaeth sydd ar gael i’r ddynoliaeth, ynghyd â’n gallu i ddadansoddi, deall a rhagweld, yn cynyddu’n garlamus, i raddau unigryw yn ein holl hanes. Mae cyfran uwch nag erioed o boblogaeth y byd yn llythrennog ac yn derbyn addysg ffurfiol. Mae-hi’r un mor wir serch hynny bod buddiannau masnachol a gwleidyddol pwerus wrthi drwy amryfal ffyrdd yn bwriadol hurteiddio a manipiwleiddio’r boblogaeth, ac yn taenu camwybodaeth niweidiol yn systematig. Lleihau potensial dynoliaeth i wynebu a datrys y sialensau sy’n ei hwynebu y mae’r gweithgareddau hyn.

Wrth i weledigaeth optimistaidd y Goleuo ddechrau pylu, un perygl amlwg yw i fath o ffataliaeth ddiobaith dreiddio i’r meddylfryd cyhoeddus. Rhywogaeth dan dynged yw homo sapiens meddir. Wrth iddi fygwth dinistrio’r cynefin a wnaeth ei llewyrch a’i champ yn bosibl, fe’i dinistrith ei hunan.

Dyma ffurf arbennig o beryglus ar ‘wacter ystyr’ J. R. Jones. Rhaid gwrthsefyll pesimistiaeth ddiymadferthol felly.

5       Dal i Gredu?

Yn y dryswch chwyrlïol yma o dueddiadau, yn y tyndra rhwng hyder heulog, hedonistiaeth ac anobaith dirfodol, beth all Cristnogaeth gynnig?

 

Y tramgwydd cyntaf yw’r ffordd y mae ystyr y gair ‘Cristion’ wedi cael ei lygru. I lawer, yr ifainc yn enwedig efallai, fe aeth yn gyfystyr â chulni, ceidwadaeth, moeseg lem, angharedig ac ymlyniad wrth sefydliadau a syniadaeth sy’n perthyn i’r gorffennol.

Ond mae’r broblem yn ehangach na’r camddeall chwerthinllyd, cynyddol gyffredin, yna o berwyl Cristnogaeth. Wrth i’r Eglwys honni mai hi sy’n meddu ar yr allwedd i ddirgelwch bodolaeth, mae’n cyfwynebu’r ysbryd ansicr, ymholgar sy’n hanfodol i’r dull gwyddonol ac felly i gynnydd gwybodaeth. Wrth arddel y syniad bod Cristnogaeth yn cynrychioli datguddiad unigryw a therfynol o bwrpas ei Duw goruwchnaturiol honedig , mae-hi’n iselhau crefyddau a diwylliannau eraill. Wrth lynu at y cysyniad o’r goruwchnaturiol fel math o realiti damcaniaethol amgen, mae’n cael i gweld yn gwisgo bwmbwrth ofergoeliaeth.

Rhaid i Gristnogaeth ddianc oddi wrth y maglau yma a’i hailddiffinio’i hun os yw hi i osgoi naill ai gyfrannu at argyfwng dynoliaeth neu fod yn ddim mwy na dargyfeiriad amherthnasol. Y cam angenrheidiol cyntaf, fel yr awgrymwyd eisoes, yw ail ddehongli’i stori yn nhermau myth. Y cam nesaf yw ceisio dangos sut y gall y myth fynd i’r afael â gwacter ystyr yr Oes a’r angen am fydolwg moesegol newydd. A oes modd i Gristnogaeth eto, ei maglau wedi’u torri, gyflawni dwy swyddogaeth gydgysylltiedig crefydd: cynnig cysur i’r unigolyn ac arweiniad moesol i gymdeithas?  

Chwilio am Gysur

Ar yr wyneb, ac o edrych arnyn mewn termau rhesymegol oer, mae’r athrawiaethau a ysbrydolodd diwygwyr efengylaidd y ddeunawfed ganrif ac a ddylanwadodd mor drwm ar fywyd y Cymry, yn wirion o gyfeiliornus. Ond o droi’r allwedd i ddatgloi eu dyfnderoedd symbolaidd does bosibl nad oes modd ailddarganfod eu gwirioneddau a’u gwerth.

Dyna i chi athrawiaeth y Cwymp, mynegiant o drueni arswydus y cyflwr dynol, y dynfa tuag at lanastra sydd yng ngwraidd ein natur ac eto’r ymdeimlad dwfn nad felly y mae pethau ‘i fod’, a bod Iachawdwriaeth, ymryddhau o afael pechod, yn bosibl, dim ond i ni ymagor i’r grymoedd creadigol-ddaionus sydd o’n cwmpas.

Gras wedyn, sef y realiti mai o’r tu hwnt i ni ein hunain y mae ceisio iachâd – drwy garedigrwydd a gofal ein cyd-ddyn, gan Natur, gan ryfeddodau’r bydysawd. Rhaid ceisio Gras wrth gwrs ac ymagor iddo. Yn fynych fe’i gwrthodir i ni, ond pan ddêl, yn rhodd rad, ein lle ni yw llawenhau a diolch amdano.

Mynegi caswir serch hynny y mae symbol canolog Cristnogaeth, sef nid yn unig bod dioddefaint, megis drwy glefyd a newyn, yn agwedd anochel ar ein cyflwr ‘yn y byd’, ond hefyd yn cael ei achosi gan ddyn i’w gyd-ddyn, a hynny’n fwriadol-giaidd, yn enwedig wrth iddo warchod ei fuddiannau a’i hunan-les rhag diwygwyr goleuedig. Ymhellach, weithiau bydd rhaid wrth ddioddefaint ac aberth er mwyn cynnal y da a threchu’r drwg.

Does dim modd anghofio’r caswir y mae’r Groes yn ei fynegi wrth i ni er gwaethaf hynny synnu at a llawenhau yn Atgyfodiad cariad, trugaredd a maddeuant ar y trydydd dydd, ar yr union amser pan fydd Natur yn ymadfywio wedi marwoldeb ymddangosiadol y gaeaf. ‘Nid oes yng ngwreiddyn Bod un wywedigaeth’.

Mae’n debyg mai syniad o draddodiad gnosticaidd y Groegiaid wedi’i fabwysiadu gan yr Eglwys Fore yw’r Ymgnawdoliad. Duw yn rhith ei Fab yn ymweld â’r Ddaear er mwyn rhannu cyfrinachau’r gwirionedd â phlant dynion a chyfranogi o’u cyflwr cyn dychwelyd i’r nefoedd, trigfan y perffaith. ‘Breuddwyd dwyfol a dwyfoldeb brau Dyn’ sydd yma bid siŵr – a rhyfeddod y ffaith y gall ambell un o’n mysg-ni, yn awr ac yn y man, lwyddo i nesáu at berffeithrwydd. Ysbrydoliaeth, gwaredigaeth weithiau, i’r gweddill ffaeledig a thestun canu diddarfod y carolwyr a’r beirdd.    

Dyw’r uchod yn ddim byd ond ymdrech bitw, garbwl, druenus o anorffenedig i bwyntio i gyfeiriad y math o ail ddehongli a allai ddod ag un o brif storïau ein diwylliant ni, fersiwn o’r myth Cristnogol, yn fyw ac yn berthnasol eto.

Mewn termau empeiraidd, mae rhai o’r edafedd yng ngwead myth Cristnogaeth yn rhedeg yn groes i realiti. Dringo’n raddol o’r llaid cyntefig a wnaeth ein rhywogaeth ni, nid cwympo oddi wrth wynfyd. Ymgyrraedd at y dwyfol fu hanes Dyn, nid elwa ar ymyriad Bod goruwchnaturiol oddi fry. Mae symbolaeth edafedd eraill, megis chwedlau llathraidd yr Atgyfodiad, yn cydredeg â realiti byd Natur a’n profiadau ninnau. Yr hyn sy’n bwysig fodd bynnag yw eu bod yn tystio i argyhoeddiad dwfn-wreiddiedig ymysg plant dynion y gall fod ystyr a phwrpas i’w rhawd brau a diflanedig yn y byd. Mewn gair, bod ein bywydau-ni’n arwyddocaol a bod moesoldeb yn hanfodol yn yr arwyddocâd yna.

Does dim byd yn nisgrifiad Gwyddoniaeth o bethau i gyfiawnhau hynny. Grymoedd didostur sydd am-yn-ail yn creu a dinistrio sydd yn y Bydysawd. Mae moesoldeb yn amherthnasol yn ffrwydradau’r swpernofau ac ymgiprys y firysau a’r gwrthgyrff yn y gell fiolegol fel ei gilydd. Drwy Fyth fodd bynnag mae Dyn wedi mynnu creu ystyr i’w fywyd, gan osod moesoldeb yng nghanol yr ystyr yna. Un enghraifft wiw o’r ymdrech yna yw’r traddodiad Iddewig-Gristnogol, ein hetifeddiaeth grefyddol ni.

Gallai ail ddehongli ac adfywio’r traddodiad yna fod yn gymorth i ni gyrraedd at Gysur amgenach na phrynwriaeth.

Arweiniad Moesol

Roedd dysgeidiaeth yr Iesu, fel y mae’r Testament Newydd yn pwysleisio, yn wrthbwynt cyferbyniol llwyr i ideoleg swyddogol a grym milwrol Ymerodraeth Rhufain. Yn nhermau’r ideoleg yna, dyw gwerthoedd y Bregeth ar y Mynydd yn ddim llai na chwerthinllyd.

I raddau llai cignoeth efallai mae gwir Gristnogaeth (sydd mor wahanol ag y gallai fod i’r erthyl ffwndamentalaidd a ymrestrodd o blaid Donald Trump) yn her radical i ideoleg swyddogol a gwerthoedd cydnabyddedig ein cyfnod ni. Rhywbeth tebyg i’r canlynol:

 

 

Yr Efengyl Gristnogol

Ideoleg Cyfalafiaeth Brynwriaethol

Gofal dros eraill

Symlrwydd buchedd

Rhannu

Cydweithio er lles y lliaws

Cyfiawnder

Cydymdeimlad

Gostyngeiddrwydd

Onestrwydd

Diddigrwydd

Tangnefedd/Heddwch

Cymodi

Goddefgarwch

Egwyddor

Gofalu am yr hunan

Gloddesta

Bachu

Cystadlu dilyffethair

Buddugoliaeth y trechaf

Ecsbloetio

Hunan-arddangos

Ffugio

Elw

Milwriaeth

Bygwth

Gorfodi

Cydymffurfio

 

Gellid trafod ac ymhelaethu, a chydnabod mai cyfaddawd wrth gwrs fel rheol a’i piau-hi. Cydnabod hefyd nad moesoldeb yw’r ateb i bopeth – rhaid wrth fedrau, doethineb, dyfeisgarwch, trefn ac egni yn ogystal. Ond o ystyried y ddwy restr fel dau ben continuwm, does bosibl nad yw-hi’n amlwg pa dueddiad y mae angen ei gryfhau yn wyneb yr argyfwng y ceisiwyd ei amlinellu uchod (gw Ysbryd yr Oes: Dryswch).

Defodaeth Newydd

Gall fod moeseg heb grefydd bid siŵr, fel y mae’r dyneiddwyr anffyddiol yn dadlau, ac mae’u safbwynt yn un i’w barchu. Ond mae’r dystiolaeth yn gryf bod Crefydd, er gwell ac er gwaeth, yn elfen arhosol yn ymddygiad y ddynoliaeth a byrbwyll ar y gorau fyddai cymryd mai peth i’w diosg wrth i’r hil ‘ddod i’w hoed’ yw-hi.

Beth am i ni ddiffinio Crefydd fel a ganlyn? Ymarfer defodol sy’n meithrin ymdeimlad o barchedig-aeth 3 a dwyster ysbrydol sy yn eu tro yn arwain at sefydlu, ar ffurf athrawiaethau, rai egwyddorion moesegol penodol. Yr agwedd olaf yna’n sy’n gwahaniaethu defodau crefydd oddi wrth rai seciwlar megis y pryd bwyd moethus neu’r hirymdroi yn Neuadd Fawr y Siopa.

Cadd defodaeth gyfarwydd ein mannau addoli ni – litwrgi’r eglwysi Catholig ac Anglicanaidd, gwasanaethau syml y capeli ac yn y blaen – eu saernïo, yn ofalus ac yn brydferth, gannoedd o flynyddau nôl. Mae’u gwreiddiau mewn byd cynwyddonol, annirnad o wahanol i’n un ni. Lluniwyd Credo Nicea 1,700 o flynyddau nôl. Os yw Cristnogaeth i’w hailddyfeisio’i hun, rhaid ailddyfeisio’i defodau hefyd.

Camgymeriad fodd bynnag fyddai dechrau o lechen lân. Serch trybestod cyfnewidiol ein diwylliant ni (neu’n wir o’i herwydd) mae parhad yn bwysig. Mae crynhoad doethineb canrifoedd wedi’i fynegi yn ein defodau cyfarwydd-ni. A’r un fydd yr elfennau mae’n debyg: darllen a gwrando, distawrwydd, gweddi a myfyrdod, traethu a dehongli, cerdd a chân, sacrament, ac efallai (pwy wyr?) gyd-ddatgan credo.

Mae’n anhygoel braidd serch hynny fod y ffactor sydd wedi chwyldroi ein byd a’n holl brofiad o fywyd dros y canrifoedd diwethaf bron yn gyfan gwbl absennol o’n defodaeth Gristnogol. Darganfyddiadau rhyfeddol Gwyddoniaeth yw hwnnw. Byddai cywiro’r diffyg difrifol yma yn y lle cyntaf yn arwydd grymus bod yna ailddiffinio sylfaenol ar waith ac yn ail yn cynnig deunydd dihysbydd i gyfoethogi addoliad cyhoeddus.

Mae’n wir, fel y dadleuwyd uchod (gw. ‘Chwilio am Gysur’) mai esbonio empeiraidd gwrthrychol yw priod weithgarwch Gwyddoniaeth. Gall rhyfeddod diderfyn ei darganfyddiadau serch hynny ennyn yr ust a’r parchedig-aeth sy’n greiddiol i’r profiad crefyddol, lawn cymaint â myth. Ac heb fyfyrio ar y berthynas rhwng canfyddiadau cyfoethog y myth a darganfyddiadau cyfoethog yr anturiaeth wyddonol, eu cyfosod yn ein meddyliau, naïf a simsan fydd ein ffydd-ni ar y gorau.

Does bosibl na ddylai fod ystyried ac elwa ar y persbectif gwyddonol yn rhan o bob gwasanaeth crefyddol. Does bosibl na ddylai fod yn rhan o addysg ddiwinyddol ein offeiriaid, ein gweinidogion a disgyblion ein hysgolion Sul?

Does dim modd adfywio Cristnogaeth heb barhau i sugno maeth ysbrydol, yn feirniadol a deallgar wrth gwrs, o’r Ysgrythurau a roddodd fod i’n traddodiad crefyddol. Ond nid nhw sydd â’r gwir terfynol. Cyfrannodd llenorion yr oesau yn gyfoethog a dylid cynnwys eu cyfraniad nhw yn ein defodau, nid nawr ac yn y man, ond yn gyson. A chyfuwch â’r elfennau hynny rhaid rhoi lle i weithiau gwyddonwyr.

Gallwn-ni ddychmygu tua’r Pasg efallai wasanaeth Cristnogol yn cynnwys darlleniadau am atgyfodiad Iesu, cerdd gan Waldo Williams a darlleniad am ryfeddod ffotosynthesis. Byddai’r bregeth yn archwilio’r berthynas rhwng y tair elfen. Ryfeddodau dwr ac awyr, cychwyn ac esblygiad bywyd amryfath, yr hinsawdd, y Glec Fawr, disgyrchiant, pellteroedd gofod y Bydysawd, dirgelwch Amser – mae’r rhestr yn ddiderfyn. Sut mae cysylltu’r deunyddiau cyfareddol hwn â rhythm y tymhorau a’r gwyliau eglwysig, os o gwbl, sydd gwestiwn diddorol. Sut yn arbennig y mae gofalu bod y cyfan yn esgor ar weledigaeth newydd o gyfrifoldeb cysegredig Dyn, yr un a grëwyd, meddai’r myth, ar lun a delw Duw, am yr amgylchedd naturiol a roddodd fod iddo?

Tybed nad yn y broses greadigol, raddol o ddyfeisio defodau newydd, addas i’n cyfnod ni, y mae adfywiad, neu yng ngwir ystyr y gair, Ddiwygiad, yn fwyaf tebyg o ddigwydd?  

Nodiadau

1         Gw ‘Ang-nghredu’ yn Duw yw’r Broblem tt 19-21

2       ee yn Martha Philopur ac Ateb Philoefangelius

3       Bathiad yr awdur i gyfateb mwy neu lai i’r Saesneg onomatopeaidd ‘awe’, rhyw gyfuniad o fraw, syndod, rhyfeddod a dirgelwch