E-fwletin 31 Mawrth 2019

Cynhadledd ‘Dechrau o’r Newydd’

Daeth yn agos i 60 o bererinion drwy’r drws i Gynhadledd Dechrau o’r Newydd yn Aberystwyth ddoe (Mawrth 30). Mae hynny, ys gwedodd y boi’ny, yn gweud rhywbeth. Ond Beth? yw’r cwestiwn…

Bagad lled frith oedden-nhw – nifer dda o ffyddloniaid Cristnogaeth 21, y mwyafrif yn fynychwyr mannau addoli, eraill, drwy wybod i fi, yn ‘anghredinwyr’, un aelod blaenllaw o Ddyneiddwyr Cymru a dyn a’i gwyr pa amrywiadau pellach. Wedi dod efallai am eu bod yn meddwl (yn gryf neu’n gymhedrol) bod y busnes Cristnogaeth yma’n bwysig, ac oes oedd-e, nad wnaiff-hi mo’r tro ragor i rygnu ymlaen ar y cledrau cyfarwydd, a bod mawr angen ‘dechrau o’r newydd’.

Cafwyd seigiau amrywiol o ansawdd uchel i’w llyncu a’u treulio.

Arwel (‘Rocet’, addas ei lysenw) Jones, blaenor Methodus, yn olrhain ei daith o ‘lythrenoliaeth oddefol’ drwy amheuon, myfyrio ac astudio i’r sylweddoliad nad cofnod hanesyddol, na maniffesto chwaith, mo’r Testament Newydd ond mynegiant drwy narratif ddychmygus o brofiad, ‘gwirionedd mytholegol’, a rhyfeddod y person Iesu yn y canol. ‘Y ddealltwriaeth hon,’ meddai ‘yw ein harfogaeth’.

Catrin Williams wedyn yn son am amrywiaeth y dehongliadau y mae hi’n dod ar eu traws, a hithau’n ysgolhaig Testamant Newydd. Dehongli, meddai, nid datganiadau dogmataig o wirionedd honedig-absoliwt, yw hanfod y mater. Ac nid mater o dansygrifio i hyn-a-hyn o osodiadau penodol yw ‘ffydd’ a ‘chredu’ ychwaith, ond ymddiriedaeth yn ac ymrwymiad i’r gwerthoedd a’r egwyddorion sy i’w gweld yn nysgeidiaeth a bywyd Iesu.

Aeth Gareth Wyn Jones ati i ddad-eiladu myth y Cwymp yn ôl Genesis yng ngoleuni’r  wybodaeth wyddonol ac anthropolegol ddiweddaraf. Fuodd yna erioed gyflwr o berffeithrwydd yn unrhyw Eden gyntefig meddai ond ffaith anwadadwy yw bod drygioni, hunanoldeb a chreulonder yn wreiddiol yn y natur ddynol. Gall natur ein diwylliant fodd bynnag ddwysáu neu lareiddio’n gyriannau drwg, a’r pryder yw bod ein diwylliant cyfredol ni, drwy annog prynwriaeth, hunanoldeb a chystadleuaeth ddilyffethair ein tywys tua’r tywyllwch, yn cynnwys dinistr ecolegol, yn hytrach na’r goleuni.

A dyna Huw Williams, sosialydd, dyneiddiwr ac athronydd, i gloi. Roedd e’n gweld gwleidyddiaeth y chwith cyfredol a dyneiddiaeth yn nychlyd o ddiffyg cynnwys ysbrydol a moesegol. Hynny yn ei dro’n cyfrannu at apêl yr asgell dde a’r ffasgaeth y rhagwelodd JR Jones ei dwf o ganlyniad i ‘Argyfwng Gwacter Ystyr’. Fe welai Huw botensial yn nhraddodiad Cristnogol Cymru, Morgan Llwyd yn benodol, i gyfrannu at lanw’r gwacter hwnnw. Dyma’i eiriau clo. “Welaf i ddim sut y mae creu sylfaen foesol gref i fywyd dynol heb y gred bod grym a sylwedd y cread ohono’i hun yn dda. Rwy’n amau a yw credu hynny yn fy ngwneud yn Gristion, ond os felly, buaswn yn ddigon bodlon ar hynny.’

Yn y drafodaeth fywiog-angerddol wedyn gofynnodd rhywun sut oedd sicrhau bod y llwybr canol goleuedig Cristnogol yn mynd i gael llais yng nghanol honiadau amrwd seciwlariaeth groch ar y naill law a ffwndamentaliaeth grefyddol ar y llaw arall.

Ddim heb i rywun geisio mynegi cyfeiriad y llwybr yna mewn geiriau clir, dealladwy, a’i arddel, os nad yw hynny’n ormod o baradocs, gyda chymedroldeb angerddol, ddweden i. Dyw Cristnogaeth 21, fforwm agored i leisiau amrywiol, ddim am wneud hynny. Deall yn iawn. Ond os nad ydyn ni am ildio’r maes i’r eithafion amrwd, bydd rhaid i rywrai wneud. Dyna yn fy marn i yw’r cam nesaf rhesymegol. Dechrau o’r newydd.