E-fwletin 24 Mawrth 2019

TOMOS A NINNAU YN AMAU

Y mae rhai o’r geiriau ar y plac wedi’u gwisgo’n gysgod gan y canrifoedd, ond mae’r dweud yn ddigon clir. Maen nhw’n tystio mai “yma”, mewn ogof yn ardal Little Mount yn ninas Chennai, yn ne-ddwyrain India, y bu Tomos, y disgybl o amheuwr, yn cuddio tua’r flwyddyn 58 OC.

“Yma” yr oedd o pan oedd Rajah Mahadevan, brenin lleol, yn ei erlid am feiddio pregethu efengyl Iesu Grist yn y rhan hon o’r byd. Ac “yma” y mae’r maen cochlyd ei liw lle y gorffwysodd ei law mewn panig wrth geisio dianc – a gadael ol ei fysedd, medden nhw, sydd “yma” o hyd.

Mae’r hyn ddigwyddodd i’r disgyblion ar ol y croeshoelio ar Golgotha tua’r flwyddyn 33 OC wedi bod yn destun chwilfrydedd i mi erioed. Rydan ni’n gwybod, oherwydd tystiolaeth hanesyddol, hollol wrthrychol, mai Ioan oedd yr unig ddisgybl gafodd fyw i fod yn hen, a fo hefyd oedd yr unig un a gafodd farw o achosion naturiol. Fe ferthyrwyd pob un o’r lleill. Fe groeshoeliwyd rhai, fel Iesu ei hun; fe gafodd eraill eu llabyddio neu eu trywanu i farwolaeth.

Doedd dewis bod yn bregethwr Newyddion Da ddim yn ennyn cyfoeth na phoblogrwydd na bywyd hawdd yn nyddiau’r Eglwys Fore.

Ond nid yr ogof oedd diwedd stori Tomos. “Yma”, a’r waliau llaith yn cau amdano, a’i erlidiwr yn nesau, yr aeth Tomos ar ei liniau a galw am help gan Dduw. Galw, fuaswn i’n meddwl, efo pob gewyn ffydd yn ei gorff, am i ryw rym ddod o rywle i’w achub rhag ei ladd. Onid dyna ydi ein hanes ni i gyd, pan mae ein cefnau ni yn erbyn y wal?

A dyna pryd y digwyddodd o. Daeth llafn o oleuni o ben pella’r gell wleb a drewllyd. Roedd yno agoriad bychan y gallai Tomos a’i gyfeillion sleifio trwyddo, allan i’r awyr iach. Roedd yno gyfle. Achubiaeth, os liciwch chi.

Fe lwyddodd Tomos i ddianc bryd hynny, ac fe barhaodd i bregethu’r geiriau yr oedd o wedi’u clywed o enau Crist ei hun, wrth gynulleidfaoedd newydd, mewn llefydd a hinsawdd hollol ddieithr. Fo sefydlodd Gristnogaeth yn India.

Dair cilomedr yn unig o Little Mount, mae’r arwyddion a’r mapiau yn nodi enw lle arall o’r enw Sant Thome Mount – Mynydd Sant Tomos. Ac yma, yn y flwyddyn 72 OC, y lladdwyd y disgybl-nad-oedd-yn-amheuwr-bellach, gyda gwaywffon wenwynig ei wrthwynebwyr.

Bellach, mae Cadeirlan St Tomos yn nodi’r fan. Mae yma gwfaint a chartref plant, mae llwyfan awyr-agored ar gyfer cynnal gwasanaethau, mae sustem sain a gwifrau’n cracio yn yr awel… ac mae yma dawelwch a gwynder a chanhwyllau a gweddiau troednoeth ymwelwyr.

I’r Pabyddion pybyr sy’n cyfri’r 135 o risiau sy’n rhaid eu dringo i gyrraedd yma, mae’n benyd werth chweil. I’r twristiaid sy’n dod i dynnu lluniau er mwyn medru dweud eu bod nhw wedi bod, mae’n gamp iddyn nhw fynd oddi yma heb fod wedi cael eu cyffwrdd. Ac ydw, rydw innau’n credu’n llwyr i mi ymweld a man llofruddio Tomos. Dw i’n credu yn ei farw.

Ond, a minnau wedi rhoi fy llaw yn ol honedig ei fysedd, a ydw i’n coelio i mi ymweld ag ogof Tomos, y man lle daeth goleuni o rywle a chynnig ffordd allan iddo fo? A ydw i’n credu’r chwedl sy’n cynnal sylfeini eglwysi Little Mount? Mae hwnnw’n gwestiwn gwahanol – oherwydd y mae coelio yn un peth; a chredu yn fater hollol wahanol.

Ac onid dyna oedd profiad Tomos ei hun?

 

Y geiriau ar y plac ger yr ogof:

YR OGOF

lle gorweddai, tra’n cuddio

rhag cael ei erlid, ychydig cyn ei ferthyru

gan Rajah Mahadevan, brenin Mylaphram,

TOMOS

un o ddeuddeg disgybl mawr Crist

yr union un a roddodd ei fysedd yng

nghlwyfau ei Arglwydd a’i Dduw.

Gollyngwch eich ceiniog wrth y crair hanesyddol

ac archeolegol hynod hwn.