Dechrau – 4 darlleniad

PEDWAR DARLLENIAD A SYLWADAU

Cynog Dafis

Darlleniad 1: ‘Yr Hen Allt’

Cerdd am atgyfodiad yw ‘Yr Hen Allt’ gan Waldo Williams, cerdd am y broses naturiol o ymadfywio ar ôl marwolaeth. Mae’n agor ac yn cau ar nodyn o obaith ond rhwng y ddau ben mae tywyllwch, dinistr ac erchylltra.

Wele, mae’r hen allt yn tyfu eto,
A’i bywyd yn gorlifo ar bob tu
Serch ei thorri lawr i borthi uffern
Yn ffosydd Ffrainc trwy’r pedair blynedd ddu.

Pedair blynedd hyll mewn gwaed a llaca,
Pedair blynedd erch ’mysg dur a phlwm –
Hen flynyddoedd torri calon Marged,
A blynyddoedd crino enaid Twm.

Ond wele, mae’r hen allt yn tyfu eto
A’i chraith yn codi’n lân oddi ar ei chlwy …
A llywodraethwyr dynion a’u dyfeiswyr
Yn llunio arfau damnedigaeth fwy.

O’r hen allt fwyn, fe allwn wylo dagrau,
Mor hyfryd ffôl dy ffydd yn nynol-ryw,
A’th holl awyddfryd, er pob gwae, yn disgwyl,
Disgwyl awr datguddiad meibion Duw

 

Dehongliad

Dyma’r cefndir hanesyddol. Cyn Rhyfel Byd 1914-18 roedd gan nifer helaeth o ffermydd Cymru elltydd o goed – rhyw 3 chyfer o dir serth mewn cwm nad oedd yn addas i’w aredig a’i drin. Roedd y gelltydd yma’n elfen hanfodol yn hwsmonaeth y ffermydd ac yn cael eu cynnal a’u cadw: coed aeddfed yn cael eu cwympo i wneud polion cau, llidiardau a chlwydi, coesau offer a choed tân, gan wneud lle i goed ifainc dyfu. Byddai llawr y gelltydd yn gyforiog o fywyd amrywiol, yn ecosystemau bychain cyfoethog.

Rhwng 1914 ac 1918 fe’u torrwyd yn y bôn, yn llwyr a chyfan gwbl, at ddibenion y Rhyfel. Yn lle gwasanaethu gofynion yr economi lleol mewn modd cynaliadwy, fe’u defnyddiwyd i ‘borthi uffern yn ffosydd Ffrainc’. Chawson-nhw byth mo’u hadfer i’w swyddogaeth wreiddiol, yn elfen hanfodol yn ecoleg ac economi amaeth draddodiadol – o leiaf tan i Goed Cymru gychwyn prosiect i’w hadfywhau yn y 1980au, ymhell wedi amser cyfansoddi’r gerdd hon.

Serch y weithred yma o fandaliaeth ecolegol, ebychiad o syndod llawen sy’n agor y gerdd. “Wele” (gan adleisio efallai 1 Corinthiaid, 15, 51: ‘Wele yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch, eithr ni a’n newidir oll mewn moment…) ‘Wele, mae’r hen allt yn tyfu eto’

Pwy feddyliai! Ac nid rhyw ail dyfu carcus, crintach. Mae’i ‘bywyd yn gorlifo o bob tu’. Gorlifo! Mae’r peth yn anhygoel!

Ond mae’r duwch dinistriol yn llechu yn y cefndir, heb ei ddileu. Nid rhyw bwl sydyn o fandaliaeth wallgof, ond pedair blynedd, pedair blynedd, pedair blynedd o ryfela ‘hyll, ‘erch’. Dur a phlwm yw’r arfau sy’n lladd ac yn clwyfo ac yn diffeithio’r tir: ‘gwaed, ‘llaca’.

A’r effaith yn barhaol. Fuodd y bachgen gwirion-ddiffuant a aeth i’r Rhyfel fyth yr un fath, na’i gariad/ ei wraig/ei fam ychwaith. Dyma ‘hen flynyddoedd torri calon Marged / A blynyddoedd crino enaid Twm’

Yr hen symlrwydd gobeithiol naïf wedi mynd am byth. Llygaid wedi’u hagor i’r duedd i achosi galanastra difaol di-ben-draw sy’n gynhenid yn natur Dyn, yn barod ar unrhyw adeg, yn ôl yr amgylchiadau, i ffrwydro i’r wyneb.

Ac mae gwaeth i ddod.

Mae’r bardd yn ailadrodd ei linell syn-obeithiol gyntaf. Yn llawenhau eilwaith yng gallu ymadferol Natur. Yn cynnig cysur, yn ceisio goleuo’r duwch:

‘Ond’ – ond! – ‘wele mae’r hen allt yn tyfu eto,
A’i chraith yn codi’n lân oddi ar ei chlwy’

Fodd bynnag, ar yr un pryd, yn gyfamserol â’r adfywio, mae

‘llywodraethwyr dynion a’u dyfeiswyr
yn llunio arfau damnedigaeth fwy’

‘Yn llunio’. Yn mynd ati, nid mewn pwl sydyn o dreisgarwch difeddwl, ond yn drefnus-systematig, i gynllunio galanastra gwaeth nag erioed.

Ac eto, mae adfywiad yr allt – a hithau’n wanwyn, tymor yr atgyfodiad ysgrythurol – yn digwydd. Mae’n digwydd am mai dyna yw trefn Natur. Dyna yw ‘holl awyddfryd’ yr hen allt, ‘er pob gwae’. Mae’i ffydd hi yn y ddynoliaeth – ffydd wirion, naïf, hyfryd – yn ffôl, ac eto’n mynnu cael ei ffordd.

Felly y mae-hi – lladdfa ac atgyfodiad am yn ail â’i gilydd. Felly mae-hi yng nghalendr yr Eglwys Gristnogol. Y Croeshoelio, y disgyn i uffern, yr atgyfodi. Bob blwyddyn, nid unwaith ac am byth. Dyw’r atgyfodi ddim yn diddymu hylltra’r Groes. Dyw adfywiad rhyfeddol yr hen allt ddim yn diddymu hylltra erch y Rhyfel.

Ond mae rhagor i’w ddweud fan hyn. Mae holl awyddfryd yr allt – yr hen allt – Natur, y Drefn – yn mynnu dichonoldeb gwell. Mae’n ‘disgwyl, yn disgwyl’ yr hyn sydd i ddod, er ‘pob gwae’ a ddaw yn y cyfamser, y dydd pan ddaw Dyn i’w briod gyflwr – dyma awr datguddiad meibion Duw (Paul eto, Rhufeiniaid 8, 19: ‘Canys awyddfryd y creadur sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw’).

‘Hyfryd-ffôl’ yw’r ffydd all gredu hynny. Ond mae’n ffydd angenrheidiol – mae’i hangen-hi, mae rhaid wrthi. Ac mae’n gynhenid yn yr hen allt, yn Natur, a chan mai rhan o Natur ydyn ni, mae’n gynhenid ynon ninnau hefyd.

Darlleniad 2: Ffotosynthesis

Yn y Gwanwyn, adeg y Pasg, bydd echel y Ddaear yn altro fel ag i beri i Hemisffer y Gogledd droi tua’r haul. Bydd y dydd yn ymestyn a’r tymheredd yn codi a hynny yn ei dro yn cyflymu ffotosynthesis. Dyna’r pryd yr oedd bywyd yr hen allt ‘yn gorlifo o bob tu’.

Ffotosynthesis yw’r broses naturiol ryfeddol sy’n defyddio ynni’r haul i fachu’r nwy carbon diocsid o’r awyr i greu’r holl gyfansoddion (compowndiau) organig cymhleth. Yr ynni cemegol hwn sydd yn ei dro yn cyflenwi’r ynni, gyda mân eithriadau, ar gyfer holl amrywiaeth ryfeddol bywyd ar y Ddaear. Ffotosynthesis hefyd sy’n cynhyrchu a chynnal yr ocsigen i atmosffer y Ddaear, sy’n gwbl angenrheidiol i oroesiad anfeiliaid a llawer o organebau byw cymhleth eraill. Yr ocsigen gwargedol [swrplws] a gynhyrchwyd gan organebau cyntefig, cyanobacteria, yn lled gynnar yn hanes y Ddaear a arweiniodd at ocsigeneiddio moroedd ac awyr y Ddaear ac, yn ôl pob tebyg, at wneud bywyd cymhleth yn bosibl.

Dyma yn fras sut mae’r broses gyfareddol hon yn gweithio yn achos planhigion.

Bydd golau’r haul yn taro ar y ddeilen, y mae ei chroen allanol, yr epidermis, yn dryloyw, a’r golau (sef yr ynni ymbelydrol) yn gallu treiddio drwyddo at y celloedd y tu fewn. Mae planhigion ac organebau gwyrdd eraill fel algae yn gwneud defnydd o bigment gwyrdd o’r enw chloroffyl i amsugno’r golau. O fewn y celloedd mae’r ffotosynthesis yn digwydd mewn chloroplastiau. Is-unedau yw’r chloroplastiau yma, a gall fod rhwng 450,000 ac 800,000 ohonyn-nhw i bob milimedr sgwâr o’r ddeilen.

O amgylch pob chloroplast mae pilen (math o groen) a’r tu fewn i honno mae hylif dwrllyd sy’n cael ei alw’n stroma. O fewn y stroma mae staciau o bilennau eraill sef thylakoidiaid – a dyma ni wedi cyrraedd o’r diwedd i union safle’r ffotosynthesis.

Mae ynni o’r golau’n yn egnïo electronau (yn union fel y rhai sy’n cyflenwi’r trydan yn ein cartrefi) mewn “canolfannau adweithio” ac yn y fan honno yn cael eu defnyddio i hollti dwr ac i ryddhau y nwy ocsigen a hefyd hydrogen (ar ffurf proton nid nwy). Mae’r hydrogen/proton yma a’r electronau yn cael eu defnyddio i fachu carbon o’r awyr a’i droi’n siwgyrau.

Mae cyfres o adweithiau eraill sy’n gallu storio’r ynni cemegol mewn cemegolion fel starts am amser hir a chaniatáu hirhoedledd pethau byw.

Yn gryno felly, mae ffotosynthesis yn dal ynni o’r heulwen i droi carbon diocsid yn garbohydrad (siwgr, starts a seliwlos) sy’n rhoi’r ynni sy’n galluogi’r planhigyn i dyfu.

Mae un pwynt allweddol i’w ychwanegu. Mae photosynthesis yn gweithio i’r gwrthwyneb i anadliad celloedd. Mewn ffotosynthesis mae carbon diocsid yn cael ei droi’n garbohydrad. Wrth i’r gell anadlu mae carbohydrad yn cael ei ocsigeneiddio a’i droi’n garbon diocsid. Mae’r nail broses yn amsugno carbon diocsid a’r llall yn ei ryddhau gan ddiogelu’r cydbwysedd yn yr atmosffer, patrwm ein tymhorau a chylch o farwolaeth ac ail eni. Y cydbwysedd yna sy’n cael ei beryglu yn awr gan arfer dynoliaeth ers rhyw ddwy ganrif o losgi tanwydd ffosil (glo, olew a nwy) ar raddfa fawr. Cynnyrch yw’r tanwydd ffosil yma o blanhigion bach a mawr a amsugnodd garbon diocsid filiynau o flynyddoedd yn ôl a’i gloi’n ddiogel yng nghrombil y Ddaear. Allyrru’r carbon diocsid yma i’r atmosffer sydd, mae’n gwbl amlwg erbyn hyn, yn achosi newid yn hinsawdd y blaned ac yn peryglu dyfodol y ddynoliaeth.

Darlleniad 3: Llythyr Paul at y Rhufeiniad, 8, 8-23

Yn llythyron Paul y cawn-ni’r cyfeiriadau cyntaf at Atgyfodiad Iesu, y myth a oedd mor ganolog i brofiad ysbrydol y Cristnogion cynnar. Fel y gwelwyd, mae Waldo Williams yn ‘Yr Hen Allt’ yn tynnu’n drwm ar wythfed bennod Llythyr Paul at y Rhufeiniaid. Fel y mae Paul yn sefydlu cysylltiad dwfn rhwng y greadigaeth naturiol a dynoliaeth yn y dyhead am fyd gwell, felly y mae Waldo yn priodoli i Natur yn yr Hen Allt ‘awyddfryd’ sy’n dyheu am y byd gwell, a thra gwahanol, hwnnw.  

‘Yr wyf yn cyfrif nad yw dioddefiadau’r presennol i’w cymharu â’r gogoniant sydd yn cael ei ddatguddio i ni. Yn wir, y mae’r greadigaeth [“awyddfryd y creadur” yn yr hen gyfieithad] yn disgwyl yn daer am i blant Duw gael eu datguddio. Oherwydd darostyngwyd y greadigaeth i oferedd, nid o’i dewis ei hun, ond trwy’r hwn a’i darostyngodd, yn y gobaith y câi’r greadigaeth hithau ei rhyddhau o gaethiwed a llygredigaeth, a’i dwyn i ryddid a gogoniant plant Duw. Oherwydd fe wyddom fod yr holl greadigaeth yn ochneidio, ac mewn gwewyr drwyddi, hyd heddiw. Ac nid y greadigaeth yn unig, ond nyni sydd â blaenffrwyth yr Ysbryd gennym, yr ydym ninnau’n ochneidio ynom ein hunain wrth ddisgwyl ein mabwysiad yn blant Duw, sef rhyddhad ein corff o gaethiwed. Oherwydd yn y gobaith hwn y cawsom ein hachub.’

Gosododd Waldo Williams ei ddarlun e o atgyfodiad ysbrydol yn y Gwanwyn, tymor atgyfodiad Natur. Felly hefyd yr Efengylwyr a osododd maes o law eu chwedlau gwefreiddiol am atgyfodiad Iesu yn adeg y Pasg, gwyl gwaredigaeth y genedl o gaethiwed, a Gwyl y Gwanwyn. Fel y mae Natur yn dod yn fyw drachefn ar ôl duwch a marwolaeth y Gaeaf, felly fe ddaw’r Iesu’n fyw drachefn wedi duwch yr erlid, yr arteithio a’r dienyddiad. Mae dawn greadigol yr Efengylwyr ac fe ddichon wahanol draddodiadau llafar yn eu harwain i gyflwyno amrywiaeth o storïau a manylion yn eu fersiynau o’r chwedl, pob un ohonyn yn cyfrannu at ei swyn ac at gyfoeth ei hystyr symbolaidd.

Un o’r hyfrytaf yw stori Ioan am Fair Magdalen yn cwrdd â’r Iesu atgyfodedig. Yn y fersiwn yma, dyw Pedr ac Ioan ddim yn deall arwyddocâd y bedd gwag wedi i Mair eu harwain ato. I’r wraig angerddol, enigmatig hon (sy’n ymddangos ymhob un o’r fersiynau) y mae Iesu’n dewis yn gyntaf ei ddatguddio’i hunan. Dyma’r darn, yng nghyfieithiad William Morgan/John Davies:

Darlleniad 4: Efengyl Ioan, 20 10-18

Yna y disgyblion a aeth ymaith drachefn at yr eiddynt. Ond Mair a safodd wrth y bedd oddi allan, yn wylo; ac fel yr oedd hi yn wylo hi a ymostyngodd i’r bedd, ac a ganfu ddau angel mewn gwisgoedd gwynion, yn eistedd, un wrth ben, ac un wrth draed y lle y dodasid corff yr Iesu.

A hwy a ddywedasant wrthi, ‘O wraig, paham yr wyt ti yn wylo?’ Hithau a ddywedodd wrthynt, ‘Am ddwyn ohonynt hwy fy Arglwydd i ymaith, ac nis gwn pa le y dodasant ef.’

Ac wedi dywedyd ohoni hyn, hi a droes drach ei chefn , ac a welodd yr Iesu yn sefyll: ac nis gwyddai hi mai yr Iesu oedd efe.

Yr Iesu a ddywedodd wrthi, ‘O wraig, paham yr wyt ti yn wylo? Pwy yr wyt ti yn ei geisio?’ Hithau, yn tybio mai y garddwr oedd efe, a ddywedodd wrtho, ‘Syr, os tydi a’i dygaist ef, dywed i mi pa le y dodaist ef, a myfi a’i cymeraf ef ymaith’.

Yr Iesu a ddywedodd wrthi, ‘Mair’. Hithau a droes, ac a ddywedodd wrtho, ‘Raboni’; yr hyn yw dywedyd, Athro.

         Yr Iesu a ddywedodd wrthi, ‘Na chyffwrdd â mi, oblegid ni ddyrchefais i eto at fy Nhad; eithr dos at fy mrodyr a dywed wrhynt, “Yr wyf yn dyrchafu at fy Nhad i a’ch Tad chwithau, a’m Duw i a’ch Duw chwithau” ’.

Mair Magdalen a ddaeth ac a fynegodd i’r disgyblion weled ohoni hi yr Arglwydd, a dywedyd ohono y pethau hyn wrthi.

Un peth sy’n gyffredin i bedwar fersiwn chwedl yr atgyfodiad yw mai gwragedd sy’n dod o hyd i’r bedd gwag ac yn derbyn y newydd i’r Iesu atgyfodi: ym Mathew, Mair Magdalen a’r ‘Fair arall’; ym Marc Mair Magdalen, Mair mam Iago a Salome; yn Luc ‘y gwragedd’; yn Ioan Mair Magdalen.

Pam gwragedd? Am mai gwragedd sy’n geni ac yn bwydo, ac (yn draddodiadol) yn gofalu am ac yn meithrin plant a thrwy hynny yn sicrhau atgynhyrchu’r hil o genhedlaeth i genhedlaeth. Tyfodd Mair mam yr Iesu dros y canrifoedd yn eicon o berthynas y fam â’i phlentyn. Yn hanes gwaredigaeth plant Israel o gaethiwed (eu hailenedigaeth fel cenedl) mae Miriam (yn y gwraidd yr un enw â ‘Mair’) yn chwarae rhan allweddol drwy achub y baban Moses rhag tynged bechgyn eraill ei hil.

Cwbl briodol felly mai gwragedd sydd yn yr efengylau yn derbyn y wybodaeth gyfrin am atgyfodi Iesu o’r bedd ac yn cyfryngu’r wybodaeth i’r disgyblion.

A’r Gwanwyn yn y tir ac anobaith y llymder wedi mynd heibio, dyma’r disgyblion yn deffro i ryfeddod y ffaith nad oedd y Newyddion Da yr oedd yr Iesu wedi peri, nid heb gryn berswâd, iddyn-nhw roi eu ffydd ynddo, wedi’i ddifa unwaith ac am byth gan yr erlid, yr arteithio a’r dienyddiad arswydus didrugaredd. Roedd y Newyddion Da yn fyw drachefn, yn blaguro o’r newydd.