Dechrau – dyneiddiaeth o’r newydd

Dyneiddiaeth o’r Newydd: Troi yn ôl at Gristnogaeth

 Huw L. Williams

 Cyflwyniad

Daeth myfyrdodau Aled Jones Williams, Cynog Dafis a Gareth Wyn Jones ar Gristnogaeth a chrefydd ar adeg amserol iawn o’m rhan i. Yn sosialydd ac athronydd gwleidyddol, rwyf wedi bod ers tro yn myfyrio ar gyfyngderau’r chwith, a’r methiant i gynnig syniadaeth radical yn dilyn brwydrau aflwyddiannus y mwyafrif o’r gwladwriaethau comiwnyddol, a meddiannu sosialaeth ddemocrataidd gan drydedd ffordd Anthony Giddens, Blair, Brown a’u tebyg. Profwyd canlyniadau cymysg yr ail duedd gan y Cymry yn gymaint â neb – gyda thwf dros dro mewn safonau byw, ond heb y diwygio strwythurol i’r sustem neo-ryddfrydol a fyddai’n caniatáu lefel gynaliadwy o hunangynhaliaeth i’n cymunedau. Ceir amryw resymau dros y methiannau yma, ond mae yna un rheswm yn benodol sydd yn berthnasol i’r drafodaeth hon, sef yr hyn a ddehonglaf yn fras fel gwacter ysbrydol y chwith cyfoes.

Adlewyrchir hyn, yn fy marn i, yn niffyg ymwneud deallusol gyda’r ‘ysbryd’ yn y traddodiad hwn bellach, ac yn ymarferol, wanychu’r ysbryd cymunedol fu’n gonglfaen y sosialaeth fyw a gweithgar a fu ar gerdded am gyfnodau helaeth o’r 20fed ganrif (ac yn wir y rhyddfrydiaeth gymdeithasol a oedd yn rhagflaenydd iddo). Nid pawb fyddai’n cytuno’r gyda’r farn bod syniadaeth wleidyddol yn estyniad o safbwynt moesegol ar fywyd, ond wedi’i ddehongli fel athroniaeth ddyneiddiol, y pwynt allweddol ynghylch sosialaeth yw’r ffaith ei bod hi’n llawer anoddach meithrin y cydsefyll a’r undod cymdeithasol all yrru gwelliannau i’r lliaws, heb bresenoldeb ysbrydol yn gynsail iddyn-nhw. Yn hanes diweddar Cymru mae Cristnogaeth, heb os, wedi bod yn gyfraniad sylweddol i’r ysbryd hwnnw (er fy mod yn dehongli ‘ysbrydol’ mewn ystyr ehangach na’r meddylfryd crefyddol).

O gydnabod y diffyg hwn yn ein disgwrs gwleidyddol ar y chwith, cyfyd yn ogystal y sylweddoliad bod tueddiadau gwleidyddiaeth y gorllewin dros y degawdau diwethaf yn gyffredinol wedi gwthio o’r neilltu y trafod gynt o gwmpas gwerthoedd, moesau a phosibiliadau’r ewyllys dynol. Glynu y mae’r consensws syniadaethol o gwmpas cyfalafiaeth, a’r trafod yn cael ei gyfyngu i rôl rheoleiddio’r wladwriaeth, a hyd a lled yr ailddosbarthu o fewn y drefn honno. Nid yw egwyddorion gwaelodol na’r agweddau ysbrydol sy’n cyfrannu at y fath syniadau wedi bod yn y fantol ers tro byd. I raddau, gwelir canlyniadau hyn ym mhoblogrwydd y dde eithafol sydd wedi cynnig ateb syml i’n problemau cyfoes: mai estroniaid yw’r drwg yn y caws, yn hytrach na’r syniadau rydym yn llywodraethu ar eu sail. Daw apêl i’r ysbryd yn y syniadaeth hon hefyd, gan ddyrchafu’r wladwriaeth i ryw statws cyfrin.

Nid dadleuon o’r newydd mo’r rhain wrth gwrs – darllenwch ‘Argyfwng Gwacter Ystyr’ J. R. Jones a’i sôn am y gwrthchwyldro ffasgaidd. Deillia’r gwrthchwyldro hwn, i raddau helaeth, o farwolaeth yr ysbryd rhyddymofynnol Protestannaidd, yn ôl JR. Gyda’r gwacter daw ofn a dicter a’r angen am rywbeth i’w lenwi. Ymateb JR yw ceisio’r ysbryd Cristnogol o’r newydd.

Nid annheg, gobeithio, yw dehongli prosiect y triawd cyfoes – ar un wedd – fel ymgais i geisio adnewyddu’r diwylliant anghydffurfiol yn rhannol, o leiaf, oherwydd y lles ehangach a ddaw o hynny, boed o safbwynt ysbrydol, gwleidyddol neu amgylcheddol. Wrth gwrs, ei adnewyddu trwy ieithwedd, gweithgarwch a syniadau’r diwylliant penodol yna yw’r nod; o safbwynt y dyneiddiwr na fuodd yn rhan weithredol o’r diwylliant hwnnw (pwysleisiaf gweithredol, oblegid trwy fy addysg a’m magwraeth roeddwn yn rhan ohoni waeth beth oedd fy marn ar y peth) y cwestiwn sy’n codi yw, a oes rhywbeth i’r gweddill ohonom i’w ddysgu o’r ymdrechion yma?

Yn wir, amheuaf nad oes yna gynulleidfa fwy cydymdeimladol i’r dadleuon ger bron ymysg y sawl sydd ar y tu allan, yn hytrach na’r rhai sydd ar y tu fewn i’r sefydliad crefyddol; y ni, wedi’r cyfan, fydd y rhai sydd yn debyg o fod wedi derbyn y dadleuon gwyddonol yn barod, ac yn chwilota am, neu ag angen, maeth ysbrydol yn wyneb heriau’r dydd. Oblegid er bod yna nifer yn ein mysg a fydd yn adnabod ein hunain yn ddyneiddwyr, a nifer eraill a fyddai am adnabod eu hunain felly wedi esboniad o’r ddelfryd, prin iawn mewn gwirionedd yw unrhyw fyfyrio ar sail ysbrydol neu athronyddol y safbwyntiau rheiny. I ddefnyddio’r eirfa y mae Cynog yn hoff o’i ddefnyddio, ar fenthyg o Karen Armstrong, rydym yn hyddysg yn y logos – byd rheswm a ffaith, realiti gwrthrychol, byd datrys problemau, byd empeiriaeth – ond yn dlawd o safbwynt y mythos – byd y dychymyg creadigol, byd chwedl, stori, myth a symbol.

Yn wir, yr wyf am ddadlau bod ar y prosiect dyneiddiol angen dybryd am fyfyrio ar faterion yr ysbryd, ac nid yn unig oherwydd y problemau sy’n dilyn o safbwynt sicrhau gwleidyddiaeth ryddfreiniol. Yn fwy sylfaenol na hynny, mae’r prosiect hwn (yn wir yn dilyn dadansoddiad JR o natur hunan-ddifäol yr ysbryd Protestannaidd) mewn peryg o’i danseilio ei hunan, gan adael cymdeithas gyfoes heb yr un ffynhonnell o ffydd a all gynnal, a chynnig sail i, egwyddorion moesol a gwleidyddol y gymdeithas honno.

Gwelir yng ngwaith diweddar yr athronydd Jurgen Habermas y cyfyngiadau sy’n canlyn o ddeall ein hunain a’n ymrwymiadau moesol heb ystyriaeth o’r crefyddol a’r ysbrydol, ac yn hynny o beth awgrymaf wrth ymateb mai man cychwyn priodol inni yng Nghymru yw’r traddodiad crefyddol rydym yn rhan ohoni – ein mythos ni. Gan droi at yr hanes hwnnw, a rhoi sylw penodol i Morgan Llwyd, awgrymaf fod yna syniadau ac ystyriaethau o sylwedd i’r dyneiddiwr a modd I ddeisyf deunydd ysbrydol o’r newydd. Y mae’r un peth yn wir am y datblygiad diweddaraf yma yn y drafodaeth yng Nghymru.

Wrth gloi, rwyf yn myfyrio ar sut y mae modd i’r logos gwyddonol a’r mythos Cristnogol gwrdd yn y meddwl modern seciwlar er mwyn hyrwyddo dyneiddiaeth o’r newydd. Ni fydd y dyneiddiwr modern yn gallu mabwysiadu Duw yn ei ffurf draddodiadol yn ei fythos, ond gall ddefnyddio dychymyg, creadigrwydd, chwedl, stori, myth a symbol er mwyn ail-ddehongli’r hyn a ŵyr trwy logos, a thrwy hynny feithrin bywyd ysbrydol.

 Dyneiddiaeth Seciwlar

Un o broblemau dyneiddiaeth fel credo yw’r ffaith ei bod yn bodoli ar gymaint o wahanol weddau. Bron na all rhywun awgrymu erbyn hyn debygrwydd rhwng rhyddfrydiaeth a dyneiddiaeth, yn yr ystyr bod y ddau yn cael eu hystyried yn syniadaethau mor boblogaidd nes bod eu conglfeini wedi cael eu trwytho mewn amryw syniadaethau eraill. Maent bellach yn gweithredu fel syniadau ‘default’ o fewn y gymdeithas. Daw peryg yn sgil hyn i’r naill a’r llall, yn yr ystyr nad yw’r gymdeithas yn gyffredinol yn myfyrio ar eu ‘synnwyr cyffredin’ a’i gadw’n bresennol, yn llachar ac yn hyddysg. Yn wahanol i ffydd grefyddol, ymhellach, nid yw dyneiddwyr ar y cyfan yn ymgasglu nac yn ymwneud yn y math o ddefodau a thrafod sydd yn cynnal a bywiocáu eu hegwyddorion. Nid yw’r rhelyw o ddyneiddwyr yn ymwybodol eu bod yn ddyneiddwyr oherwydd nid ydym yn trafod y peth.

Mewn amgylchiadau o’r fath, mae cryfder ag egni ysbrydol unrhyw gred yn rhwym o wegian. Fodd bynnag, dadleuaf fan hyn bod yna broblem ddyfnach, fwy strwythurol i ddyneiddiaeth fodern sydd yn peri bod ei dycnwch a’i pherthnasedd bob amser mewn peryg. Mae’r broblem yma’n deillio o hanfodion y credo, a’r tensiwn sydd yn cael ei amlygu rhwng yr amryw werthoedd. Eto, nid oes modd o reidrwydd adnabod yr egwyddorion yma trwy un ffurf o ddyneiddiaeth, rhag gwthio o’r neilltu ffurf arall, ond y mae modd enwi rhai nodweddion cyson, neu’r hyn y byddai’r athronydd Ludwig Wittgenstein yn eu galw’n ‘debygrwydd teuluol’ lle nad oes yr un rhinwedd anhepgorol ond lle mae nifer o nodweddion tebyg yn gorgyffwrdd ymhlith grŵp.

Y teulu yma yn achos dyneiddiaeth gyfoes fyddai: dyrchafu’r dull gwyddonol o ddeall y byd, a ystyrir yn ffurf ar wybodaeth sydd yn gwadu bodolaeth Duw, gan ymwrthod â’r goruwchnaturiol; yn absenoldeb Duw neu endid o’r fath, derbyniad o’r syniad nad oes i’r bydysawd ystyr neu bwrpas adnabyddadwy; bod tynged dynoliaeth wedi’i bennu gan ddynoliaeth trwy weithrediad rheswm ac awtonomi personau; bod gweithredoedd moesol wedi’u strwythuro gan anghenion bodau dynol ac nid unrhyw ymgais i gyd-fynd ag ewyllys Duw. Yr hyn sydd yn werth ei nodi o ddatganiad o’r fath (sydd yn rhyw fath o amalgam o ddatganiadau geiriaduron athroniaeth), yw’r ffaith bod dyneiddiaeth wedi cael ei diffinio erbyn hyn mewn gwrthgyferbyniad i, os nad gwrthodiad o, grefydd.

Mae hyn o bwys canolog yng nghyswllt y drafodaeth hon – oherwydd y pwyslais ar y cyswllt yn hytrach na’r gwrthddweud. Yn ehangach, mae’n amlygu tueddiad i wthio o’r neilltu gysylltiad hanesyddol pwysig. Os meddyliwn am y bennod hanesyddol bwysicaf o safbwynt amlygiad dyneiddiaeth fodern, rhaid cofio nad oedd y Dadeni Dysg yn wrth-Gristnogol yn ei hanfod; yn wir roedd nifer o’r Eglwys ynghlwm â’r diwygiad yma, ac yn edrych am ysbrydoliaeth o’r oes glasurol er mwyn dehongli Cristnogaeth o’r newydd.

Byddai’r term ‘dyneiddiwr Cristnogol’ yn ddisgrifiad teilwng hefyd o’r ffigwr amlycaf yng ngogledd Ewrop yn y cyfnod modern cynnar, sef Erasmws; dyma wrth gwrs yr unigolyn mwyaf dylanwadol wrth ledu tueddiadau deallusol y Dadeni Dysg i orllewin Ewrop. Pwysleisia gallu’r unigolyn am hunanwellhad a phwysigrwydd dysg wrth ddyrchafu dynoliaeth, ac ‘athroniaeth Crist’ yn deitl ar ei raglen addysgu. Ym myd yr Oleuedigaeth, er gwaetha’r sgeptigrwydd tuag at sefydliad yr Eglwys, ni fynnodd y mudiad dyneiddiol yma waredu [alltudio?] Cristnogaeth o’r gymdeithas. I’r gwrthwyneb, mae nifer o athronwyr mawr y deunawfed ganrif – Richard Price y Cymro yn eu plith – yn aros yn driw i’w ffydd ac yn gosod cred yn Nuw ochr yn ochr â datblygiad rhesymegol dynoliaeth. Roedd hyd yn oed Kant, athronydd mwya’r cyfnod, ac un a gysylltir yn anad neb â rhesymoliaeth, awtonomi’r unigolyn a theyrnas rheswm, yn cynnig bodolaeth Duw fel cynsail moesoldeb.

Yn wir, dim ond yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg y daeth yr ewyllys i ladd Duw yn rhan ganolog o’r traddodiad dyneiddiol, gyda Marx yn datgan mai crefydd yw ‘opiwm i’r lliaws’, y llesyddwyr yn dadlau mai hapusrwydd dyn yw’r egwyddor uchaf un, a Nietzsche wrth gwrs yn honni marwolaeth Duw. Erbyn yr 20fed ganrif roedd empeiriaeth foel wedi cydio, a’i gwreiddiau yn sgeptigaeth David Hume, a bodolaeth Duw bellach yn gysyniad nad oedd yn cyd-fynd â thueddiadau positifistiaeth yr oes. Dyma’r meddylfryd y dadleua Dewi Z. Phillips yn ei erbyn, gan nodi nad oedd modd i Dduw oroesi lle roedd Cristnogion yn mynnu ei bersonoli, sef fel bod goruwchnaturiol, a lle’r oedd diwylliant empeiraidd yn ei anterth ac yn mynnu tystiolaeth ‘wyddonol’ o’r fodolaeth honno. Mewn ymateb i gyfyng gyngor o’r fath y mae JR yn troi at y syniad o ‘waelod bod’ fel disgrifiad o’r Duwdod.

Yr empeiriaeth yma sydd erbyn hyn, yn amlwg, yn nodweddiadol o’r hyn a ystyrir yn ddyneiddiaeth, er gwaetha’r traddodiad amgenach, ond nid pob athronydd sydd yn mynnu gwarafun ffydd. Mewn gwirionedd, mae’r ddau brif athronydd yn y traddodiadau mawr – y dadansoddol Eingl-Americanaidd a’r Cyfandirol – sef John Rawls a Jurgen Habermas – ill dau yn gwneud lle i grefydd oddi fewn i’w syniadau gwleidyddol. Iddynt hwy, yn enwedig yn y gymdeithas amlddiwylliannol sydd ohoni, y mae dehongliadau gwahanol o natur bywyd yn anochel. Rôl athroniaeth, yn hytrach na’u herio, yw dychmygu cyfundrefn sy’n caniatáu cyd-fyw’r safbwyntiau yma. Dyrchefir athroniaeth felly i lefel y cymdeithasol, gan neilltuo trafodaethau crefyddol a metaffisegol am hanfodion bodolaeth i’r moesegol (ethical) beunyddiol. Canolbwyntia arbrofion meddyliol y ddau ar yr egwyddorion moesol (moral) neu’r amodau delfrydol ar gyfer syniadau a strwythurau sy’n caniatáu i bobl gyd-fyw mewn cyflwr o gyfiawnder a digonedd. Cyhyd â bod eu credoau yn rhai sydd yn parchu rhyddfreiniau eraill, nid oes lle i athroniaeth eu cwestiynu.

Er y lle y mae athroniaeth o’r fath yn ganiatáu i’r meddwl crefyddol, erys problemau o ran y berthynas rhwng crefydd a’r meddylfryd empeiraidd, fel â amlygir yng ngwaith mwy diweddar Habermas. Er bod Habermas o’r farn nad oes lle i gredoau crefyddol ym maes athroniaeth, a bod hwnnw’n faes sy’n ymwneud gyda’r egwyddorion moesol rheiny sydd yn gyffredinol a chyfanfydol y gellir eu rhannu ymysg pawb, mae’n gweld cyfyngiadau [?] i’r syniad yma yn wyneb heriau’r dydd. Yn benodol, wrth weld datblygiad gwyddoniaeth a’r modd y mae posibiliadau’r maes yn herio ein canfyddiadau o’r hyn sydd yn ganolog i’r natur ddynol, awgryma mai iaith a chredoau crefydd sydd yn fwyaf abl i ymateb. Hynny yw, yn y bôn, er mwyn amlygu ymateb moesegol priodol i rai o’r datblygiadau yma, rhaid cwympo yn ôl ar syniadau ynghylch y natur ddynol a wreiddir yn amlwg yn y traddodiad hwnnw. Sut arall y mae sôn am ac ynganu syniadau am neilltuoldeb y natur ddynol mewn modd digon grymus er mwyn gwrthwynebu’r datblygiadau yma?

Dyma ein harwain at y tensiynau o fewn dyneiddiaeth fodern a grybwyllais uchod, oblegid mae cyfyng-gyngor Habermas – o fod yn gorfod apelio at iaith crefydd, er iddo ei gomedd eisoes o drafodaeth y gyhoeddfa – yn amlygu problemau mwy cyffredinol yn y diwylliant empeiraidd cyfoes. Yr hyn a welwn yn ei drafodaeth yw enghraifft o’r modd y mae dyrchafu gwybodaeth wyddonol o’r byd yn codi cwestiynau dyrys am statws dyrchafedig dynoliaeth, oblegid y mae’r dull yma o ddeall y byd yn gallu ein harwain at safbwynt rhydwythol (reductionist) o’r byd hwnnw: bodau ffisegol heb werth intrinsig mewn bydysawd dibwrpas, yn ddim byd mwy na’r deunyddiau materol y maent wedi cyfansoddi ohonynt. Yn wir, mae’r safbwynt yma yn milwrio yn ogystal yn erbyn ystyried pobl yn fodau rhesymegol gydag ewyllys rhydd; yn hytrach rydym megis peiriannau wedi’u rhag-gyflyru i weithredu yn ôl deddfau natur – safbwynt sydd yn ei gwneud hi’n anos o lawer i feddwl am bobl yn nhermau moesol gan nad yw’r gallu’n hysbys i berson ddewis mewn modd hunan-benderfynol rhwng y da a’r drwg. Yn nhermau Kant, mae’r safbwynt empeiraidd yma yn creu darlun o unigolyn sydd yn gaeth i heteronomi yr ewyllys (hynny yw, cymhellion sydd yn deillio o’r tu allan, yn hytrach nag o ewyllys ‘mewnol’, rhydd yr unigolyn).

Mae’r fath olwg lom ar y natur ddynol yn tanseilio agwedd ddyrchafedig dyneiddiaeth: y mae rheswm a rhyddid dan warchae, y mae moesoldeb yn ymddangos fel rhith yn unig, a’r gallu i greu ystyr teilwng i fodolaeth yn freuddwyd gwrach, mewn cymdeithas o bobl fydd ar y gorau yn gallu dychmygu eu ‘da’ yn nhermau’r pethau yna sydd yn diwallu’r anghenion mwyaf bas. Dyma ganlyniad tra-arglwyddiaeth y dull gwyddonol heb ystyriaeth o’r hyn sydd y tu hwnt iddo; a dyma ddarlun o’r natur ddynol a natur y gymdeithas nad sydd, gwaetha’r modd, yn gwbl ddieithr inni.

Problem sylfaenol sy’n codi o safbwynt y ddyneiddiaeth ddigrefydd fodern felly yw sut y mae cynnal statws dyrchafedig dynoliaeth, a sicrhau’r gallu i ddehongli pwrpas neu ystyr digon sylweddol i’n bodolaeth, er mwyn cynnal fframwaith moesol-gwleidyddol sydd yn gydnaws gyda’r ddelfryd o gymdeithas sydd wedi ysbrydoli ein gwareiddiad gyhyd. Rhaid cydnabod, wrth gwrs, nad yw’r safbwynt crefyddol yn gwarantu llwyddiant o safbwynt cymdeithas sydd yn parchu’r elfennau rheiny, ond rhaid derbyn man lleiaf fodolaeth cysyniadau a disgwrs sydd o’u hanfod yn cynnig y sylfeini yma mewn modd echblyg. Er bod modd eu camddehongli, nid ydynt mewn peryg o fynd ar ddisberod yn yr un modd ag iaith foesegol ac ysbrydol y bychanfyd trwyadl empeiraidd sydd ohoni.

Gwedd ar y Mythos Cristnogol, Dyneiddiol, Cymreig

Yn yr un modd felly ag y mae Habermas yn caniatáu’r crefyddol yn ôl i mewn trwy’r drws cefn i’r gyhoeddfa, af ati fan hyn i gloddio rhywfaint o hanes Cristnogaeth Gymreig mewn archwiliad cychwynnol o’r adnoddau crefyddol-moesegol sydd ar gael inni. Yn ddiddorol ddigon, mae yna ddadl i awgrymu bod y traddodiad Cymreig erioed wedi bod yn un o ddyneiddiaeth Gristnogol, os ydym yn fodlon, yn yr un modd â Pennar Davies, i gofleidio’r heretic Pelagius fel rhan ganolog o’n hetifeddiaeth. Oblegid yn groes i ddiwinyddiaeth Awstin, a fyddai’n cael ei hadnewyddu gan Calvin a Phrotestaniaid eraill, roedd ffydd y Brython hwnnw yn ddibynnol ar y cysyniad o’r ewyllys rhydd, a gallu’r unigolyn i sicrhau ei iachawdwriaeth ei hun trwy weithredoedd da.

Gwrthoda ddehongliad Awstin o’r pechod gwreiddiol, a’r syniadau dilynol ynghylch euogrwydd a llygredigaeth y bersonoliaeth ddynol, rhagordeiniad, a’r angen am ras trwythol Duw. Yn hytrach, ystyriwyd anufudd-dod Adda fel esiampl wael yr oedd pobl wedi’i hefelychu, a bod yr Iesu wedi cynnig cyfle iddynt o’r newydd, dim ond iddynt gymryd cyfrifoldeb a gweithredu ei ewyllys yn ôl ei ddysgeidiaeth. Natur ddiwygiol, obeithiol felly oedd i Gristnogaeth y Brython, yn gosod pwyslais dyneiddiol ar addysg ac awtonomi’r unigolyn – dan ddylanwad (chwedl Davies) dysgeidiaeth y Celtiaid a oedd yn rhannu rhai nodweddion gyda’r henfyd clasurol, paganaidd. Awgryma Davies ymhellach bod modd olrhain y syniadau yma yn chwedloniaeth y Cymry a’u barddoniaeth gynnar.

O safbwynt yr oes fodern, y mae’n amserol myfyrio ar waith y gŵr hwnnw rydym yn dathlu pedwar canmlwyddiant ei eni’r flwyddyn hon, sef Morgan Llwyd, ac mae modd gwneud hynny trwy ddehongliad ‘Pelagaidd’, dyneiddiol ohono. Yn wir, pe byddem am gymryd ambell efrydydd iddo ar ei air, haws o lawer yw olrhain agweddau ar ei ddiwinyddiaeth i Belagius nag i Awstin (er bod y trywydd hwnnw’n droellog braidd). Craidd y safbwynt hwn yw’r gred sydd gan Llwyd yn y goleuni mewnol: bod Crist yn llechu ynom bob un, a bod y sail yma o fod, yn cynnig inni’r ffordd yn ôl at waredigaeth. Dyma’n ‘stafell ddirgel’, y gred oedd yn ei gysylltu gyda Chrynwyr y cyfnod. Mae’r potensial am iachawdwriaeth eisoes yn gorwedd ynom ni felly, yn hytrach na bod angen ymyrraeth drwythol gras Duw. Yn wir, yn unol â syniadau Pelagius, gyda’r goleuni mewnol hwn mae gras Duw yn bodoli ym mhob un ohonom yn barod.

Ymhlyg yn y darlun hwn yn ogystal y mae’r cysyniad o berffeithrwydd, lle nad oes angen cyfiawnhad na sancteiddiad, na chwaith ymyrraeth gras, oherwydd bod y gallu am gynnydd a gwelliant ynom yn barod. Beth yw ystyr y pechod gwreiddiol o safbwynt y weledigaeth hon, felly, a beth oedd canlyniadau’r Cwymp, pan nad oes gofyn cael ein hadfer gan ymyrraeth gras trwythol Duw? Cyflwr o ddryswch a thyndra yw’r hyn sy’n amgylchynu’r sawl sy’n gwympedig; mae’r unigolyn wedi ymgolli ynddo’i hunan – yn ei ego a’i ymwybyddiaeth o’i hunan – yn hytrach na deall ei hunan am yr hyn yw-e, trwy adnabod Crist yn ei hunan. Yr adferiad sydd angen arnom yw’r hyn a ddisgrifir megis trawsffurfiad o’r henddyn mewn i’r dyn newydd.

Nid agosáu at Dduw y mae’r unigolyn yn y broses hon trwy ymgeisio a gweithio tuag at y goleuni, gymaint â rhoi’r gorau i’r hunan. Nid yn gymaint yr ewyllys gweithredol sydd ar waith yn y syniad yma, ond y syniad o’r person yn ildio i’r Duw sydd eisioes wedi’i osod ei hunan ynddo. Mae Crist wedi gosod ynom y goleuni mewnol, a mater o’i ddilyn ydyw. Trwy ymroi, neu ‘suddo’ i’r ymwybyddiaeth honno mae modd adnabod ein pechod a’i ddileu. Ys dywed yr awdur, dyma drwytho’r goddefol â grym rhagweithiol. Rhaid dilyn esiampl Crist, a chaniatáu’r gair i siarad â ni a thrwom ni: ‘meithrin hunanymwadiad a throi’r ewyllys rhydd ar ôl ei oleuni mewnol’.

Yn ogystal ag agweddau dyneiddiol cyfundrefn feddyliol Llwyd, mae hefyd yn bwysig ystyried fframwaith ehangach y gyfundrefn honno – yn arbennig natur Duw a’i berthynas â’r unigolyn. Disgrifir yr hyn sydd yn faterol yn ‘ddiddim’, mewn cyferbyniad gyda’r ‘Dim’, sef ffynhonnell a gwreiddyn popeth a’r hyn mae pob dim materol yn deisyfu dychwelyd iddo. Ar wahân iddo nid oes sylwedd arall: ‘pan chwenycho, geilw hwynt yn ôl iddo’i hun, a hwy a ddarfyddant. Y pryd hwnnw derfydd amser, fel pe llyncid afon ym môr tragwyddoldeb’.

Yn wahanol i fodau meidrol, materol eraill, mae’r Dim yn gorwedd yn enaid dyn, ‘hedyn yn naear naturiaeth’, sydd mewn perthynas â lledrith y creadigaethau gweledig. Mae’r hyn sy’n faterol felly yn ‘ddiddim’ yn yr ystyr nad ydy’r ‘Dim’ ynddynt. Mynegir y Dim yn y Gair – dyma’r Dim yn ei ddiriaethu ei hun. A thrwy’r Gair y tyfodd y Dim i fod yn rhan o ddynoliaeth: mae ysbryd a chydwybod dyn yn fynegiant uniongyrchol o’r Gair; hyn sydd yn golygu bod enaid dyn – yn wahanol i’r anifeiliaid – yn ‘dyfod allan o’r anfarwoldeb’. Y mae rheswm hefyd yn agwedd ar yr enaid, a dyma’r agwedd yn benodol sy’n gorfod ymgodymu â naturiaeth, cartref yr agwedd ymgorfforedig, materol o ddynoliaeth sydd y tu hwnt i’r ysbrydol.

Y Dim, wrth gwrs, yw Duw – ac yng Nghristnogaeth Morgan Llwyd ei natur anghyraeddadwy, gyfrin, sydd mor drawiadol i’r sawl sydd yn byw mewn oes lle mae ei gymeriadu fel y Bod Mawr yn gyfarwydd. ‘Nid hyn nac arall ydyw, eithr saif ymhell tu hwnt i bob disgrifiad ohono, ac yn gwbl wahanol i wybodaeth dyn amdano’ (ac yn awgrymu’r modd I’w achub unwaith eto yn yr oes empeiraidd sy’n mynnu tystiolaeth weledol o bob dim). Y mae’r Dim y tu hwnt i derfynau gofod ac amser – yr hyn sydd tu allan, na ellir mo’i weled, megis gwaelod bod J. R. Jones. Mae’r Duw personol Iddewig yn cael ei fynegi, ond megis datguddiad o’r Dim, y Duwdod sydd yn gefn ac yn waelod iddo. Trwy ddeall Duw megis ‘meddwl gweithgar y Duwdod yn ei fynegi ei hun’ cawn gyfuniad o ‘hanfod pur-digyfnewid athroniaeth Groeg a’r syniad Iddewig am Dduw personol.’

Yn olaf, mae stori’r ‘creu’ yng ngweledigaeth Morgan Llwyd yn bwysig nid yn unig o safbwynt deall natur y Duwdod. Pan ddisgrifia’r awdur y dechreuad, byddai modd eich esgusodi pe byddech chi’n deall taw dyma ddisgrifiad o’r Glec Fawr: ‘Allan o’r dyfnder llonydd daw’r hyn a elwir y ‘cynhyrfiad tragwyddol’, sef ‘ewyllys gweithgar’, a honno yn bwrw drych fel enfys o’r tu allan iddi.” Fe’i disgrifir fel dyhead y Dim am hunan-wybyddiaeth, gan greu’r byd ‘i weled ei gysgod ef ynddo,’ mynegiant o ‘Chwant yr ewyllys dragwyddol am ddifyrrwch a chwaraeyddiaeth.’ Mater yw pen draw a phen eithaf y broses hon, a’r creadwriaethau yma yn rhai sydd wedi ‘mynd allan o’u gwreiddyn, ac o’r herwydd aethant yn ddeunydd caled, tywyll, gweladwy’. Mae dyn yn ddelw arbennig oherwydd ynddo ef yn unig y mae ysbryd yn yr enaid. Mewn termau Hegelaidd, dyma’r Dim yn cyrraedd y cyflwr o hunan-wybyddiaeth trwy ddynoliaeth. Dyma natur dragwyddol y ddynoliaeth sy’n ei eithrio o’r creadigaethau eraill sydd yn adlewyrchu natur dros-dro mater: ‘Gweithdy Duw dros gyfnod yr edfryd’ tan iddo gael ei lyncu mewn goleuni diddarfod.

Dealla Richard Aaron y weledigaeth hon o’r Duwdod fel un sydd yn deillio o’r henfyd clasurol a syniadau Plotinus, Platonydd o’r Aifft, a’i ddylanwad ar Llwyd yn hysbys trwy astudiaeth hwnnw o’r cyfrinydd Almaeneg Jakob Boehme o’r 15ed ganrif. Meddai’r awdur ‘drwy’r sianel hon, llifodd meddyliau’r athronydd cyfrin Plotinus i mewn i feddwl ac i galon y genedl Gymreig… ar yr athroniaeth hon y’n codwyd ac y’n magwyd ni fel cenedl yn ystod y tair canrif ddiwethaf. Lle bynnag yr oedd tywyllwch – yn enwedig ynghylch pynciau byd a bod – daliwyd ar esboniad yr athroniaeth Neo-Platonaidd a ddysgwyd gan Morgan Llwyd, er goleuo’r tywyllwch. O ddigwydd i Gymro geisio athronyddu yn y pulpud neu yn yr Ysgol Sabothol, neu eto mewn ymgom ar aelwyd glyd, ni fydd y meddyliau hynny a geir am y tro cyntaf fel cyfangorff yn athroniaeth Plotinus yn llwyr absennol’. Dyma’r un athrawiaeth sy’n trwytho’r Storm, gwaith y bardd-athronydd amlycaf arall yn ein hanes – Islwyn.

Beth yn gryno sy’n nodweddu’r athroniaeth hon? Gwêl hanfod gweledigaeth Morgan Llwyd yn nealltwriaeth Plotinus: un tarddiad i bob bodolaeth sydd, sef Duw, a hwn yn unig sydd yn dragwyddol. Duw yw pob bodolaeth ond ‘nid fel mae pethau’n arwynebol ar wahân, ond fel maent mewn gwirionedd’. Bu gwahanu ohono gan greu dau fyd, yr ysbrydol a’r ‘hanner-sylweddol’. ‘Mater yw’r lefel iselaf o fodolaeth,’ yn gysgod, a ‘rhyw ddyhead am fod’. Ond trwy barhad y dwyfol ynddo, cymrai mater ffurf uwch oddi fewn i Ddyn: ffurf rheswm sydd fwyaf naturiol iddo, a thrwy hynny daw i feddu ar wybodaeth sy’n mynd â ni i’r Gwirionedd. Meddwl ar ei orau sydd fwyaf tebyg i natur y Gwir Sylwedd. Y mae dyn yn y byd materol hwn, ond y mae’r goleuni ynom ni am gyfnod byr wedi’i gyplysu gyda’r cnawd a’r materol. Yn wir, y mae’r goleuni yma sydd yn yr enaid yn ein tywys yn ôl i’r byd nefol. Perthynas hanfodol sydd fan hyn o safbwynt yr atyniad rhwng y goleuni a’r Dim: ‘Sylwn fod popeth a wahanwyd yn ceisio’r hyn y gwahanwyd ef oddiwrtho …Ymhob llai perffaith plannwyd dyhead nefol am y mwy perffaith.’

Trwy ddylanwad Morgan Llwyd ar y meddwl Cymreig, mae’n bosib honni y daeth yr hen ddylanwad dyneiddiol eto’n amlwg ym mywyd Cristnogol y genedl, ac y mae hanes Anghydffurfiaeth yng Nghymru ar y cyfan yn awgrymu atyniad y dylanwad hwn – oblegid er gafael Calfiniaeth ar y genedl yn nyddiau cynnar y diwygiad Methodistiaid ac yn wir ddiwinyddiaeth yr hen enwadau, yr elfennau efengylaidd, ymdrechgar, achubyddol oedd yn tanio’r mudiad. Yn wir, digon buan wedi tanchwa’r diwygiad, wedi troad y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth yr ymdrechion i ddiwygio conglfeini’r ddysgeidiaeth honno, er mwyn ei gwaredu o’r elfen geidwadol hynny oedd yn tynnu’n groes i’r neges achubol a’r addewid o iachawdwriaeth. Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd credoau nifer helaeth o fewn y mudiad anghydffurfiol yn adlewyrchu’r math o resymoliaeth a fu’n nodweddiadol o Arminiaeth Richard Price, ac yn nes ymlaen, Henry Richard. Byddai’r fath syniadau’n sail i’r efengyl gymdeithasol a ledodd ar draws Cymru erbyn yr 20fed ganrif, oedd yn ymdrechu at gynnig yr amodau gorau i’r lliaws yn y gobaith o’u helpu i achub eu heneidiau. Ceir yn ymdrechion y mudiad heddwch rhwng y rhyfeloedd mynegiant o’r meddylfryd yma ar ei wedd ryngwladol. Gwerth nodi yn ogystal nad bygythiad mo gwyddoniaeth yn y cyfnod hwn, ond yn hytrach y sylfaen ddeallusol er mwyn gwerthfawrogi a sylweddoli gwychder creadigaeth Dduw.

A dyma atgoffa ein hunain o’r prosiect cyfredol sydd ar droed, sydd yn ei hanfod yn awgrymu safbwynt lled-debyg, lle mae gwyddoniaeth ac amgyffred o ryfeddodau’r creu yn ein harwain i gredu o’r newydd. Y gwahaniaeth sylfaenol gyda’r Gristnogaeth gynt, wrth gwrs, yw bod y safbwynt dan sylw yn hawlio bod safonau’r dulliau gwyddonol o wybodaeth yn gofyn ein bod ni’n rhoi’r gorau i gredu mewn Duw gwrthrychol, ac yn ein hannog yn lle hynny i feddwl am ffurfiau’r traddodiad hwn fel y mythos. I gloi, hoffwn fyfyrio ar botensial y mythos hwn o safbwynt y dyneiddiwr seciwlar cyfoes.  

Ffydd Seciwlar

O dreulio dim ond ychydig amser yn myfyrio ar agweddau o’r traddodiad Cristnogol Cymreig, pa gyfraniad sydd, neu ba adnoddau sydd, i’r dyneiddiwr cyfoes? A oes cynhaliaeth i fythos yr anffyddiwr? Yn gyntaf peth mae gwerth nodi bod y dyneiddiwr hwnnw yn gallu olrhain yn weddol ddidrafferth un traddodiad o fewn hanes Cristnogaeth Cymru sydd yn ymgysylltu’n lled agos â’r weledigaeth fodern. Yn sicr y mae pwyslais ar yr ewyllys rhydd a hunanreolaeth yr unigolyn a’r gymdeithas yn amlwg o fewn y traddodiad, y parch at addysg a gwyddoniaeth hefyd o bwys mawr. Meddyliwn am weithredoedd ymarferol megis ysgolion teithiol Griffith Jones, yr efengyl gymdeithasol a’r ffrwd amlwg o heddychiaeth fydd yn cyd-fynd gyda’r meddylfryd dyneiddiol. Byddai trafodaeth o athroniaeth foesol Richard Price hyd yn oed yn caniatáu adnabod un ffrwd a wahanodd moeseg oddi wrth y dwyfol ac ewyllys Duw, gan osod anghenion a rhinweddau dynol wrth galon y ffydd.

 Fodd bynnag, y cwestiwn penodol fan yma yw’r hyn y gall y traddodiad ei gynnig o ran creu’r mythos addas. Ceir gwerth mewn atgoffa’n hunain ar y pwynt yma o union ddadl Cynog. Rwyf am ei ddyfynnu’n helaeth:

“ ‘Parchedig-aeth’ (fy mathiad i i gyfateb, mwy neu lai, i’r gair Saesneg ‘awe’) yw hanfod y mater. Rhyw gyfuniad o fraw, syndod, rhyfeddod a dirgelwch sy’n cael ei ysgogi gan e.e., fawredd di-ben-draw, prydferthwch, llunieidd-dra, dewrder anhunanol, daioni dilychwin, athrylith greadigol, yw parchedig-aeth. Gall drygioni eithafol a hysteria torfol godi aeth ar ddyn, ond sôn am barchedig-aeth ydw i. Gall digwydd yn ddigymell – mi welwch bobl ar brom Aberystwyth yn syllu fel pe mewn perlesmair ar y machlud. Ond mae defodaeth grefyddol yn gwneud ati yn fwriadol i’w ennyn-e…

“Dyna ni nawr wedi cyrraedd y cydiad rhwng Crefydd a Moeseg. Rhywbeth tebyg i hyn: parchedig-aeth yn ennyn gostyngeiddrwydd mawr, hwnnw yn ei dro yn meithrin diolchgarwch am y fraint o gael bod a’r gallu i empatheisio ag eraill. A dyna ni’n cyrraedd cydymdeimlad, craidd y foeseg grefyddol…

  “Ond beth, yn ein cymdeithas ni, all feithrin y parchedig-aeth sy wrth wraidd y gwerthoedd yna? Fe ysbrydolwyd Williams Pantycelyn gan ddarganfyddiadau gwyddonol ei ddydd. Gymaint yn fwy o sgôp sydd i ninnau i ryfeddu erbyn hyn. Rhyfeddod gofod ac amser a’r bydysawd yn cychwyn yn ffrwydrad eirias y Glec Fawr. Yr helaethiad syfrdan a chreu’r atomau wedyn. Pellteroedd annirnad y bydysawd hwnnw, sy’n ymhelaethu’n wastadol…. Neu myfyriwch ar y ffaith mai llwch ar ffo o ffrwydrad heuliau, swpernofau, ym mhellafoedd y bydysawd, yw 93% o fàs ein cyrff ni. Ryn ni’n un â’r bydysawd. A’r peth ryfedda’n y byd yw’n bod ni, homo sapiens, y llychyn di-sôn-amdani ag ÿn-ni yn un o gilfachau pellennig bychain y bydysawd hwnnw wedi darganfod hyn oll – gallech-chi ddweud, wedi gwneud y bydysawd y tarddon-ni ohono, yn ymwybodol o’i fodolaeth ei hunan…

“Gwyddoniaeth, byd logos sy wedi rhoi’r wybodaeth i ni, drwy arsylwi, dyfalu, profi a chalciwlesion mathemategol – proses ymenyddol, wrthrychol, ofalus, ddi-emosiwn. Ond dim ond i’r sythwelediad dychmyglawn afael yn y wybodaeth, ac rÿn-ni’n croesi’r trothwy rywsut, drwy gymorth parchedig-aeth, i fyd mythos, lle mae Crefydd yn preswylio. Crefydd, a’i chynhwysyn anochel, annatod, Moeseg.”

Tra bod gennyf gryn gydymdeimlad gyda hanfodion y ddadl hon, yr un bwlch sydd yn amlygu ei hun i’r dyneiddiwr seciwlar yw’r ffaith bod y cam o barchedig-aeth i fyd mythos yn un sy’n weddol o amlwg a hawdd i’r sawl sydd eisioes yn meddu ar y mythos mewn modd trwyadl; mae’r grefydd sydd ynddynt yn cynnig yn ogystal foeseg gyflawn, ddi-gwestiwn bron. I’r dyneiddiwr, yn enwedig y sawl sydd heb fyfyrio ar ei syniadau, mae’r bwlch i’w weld yn un sylweddol. Pa greadigaeth, pa chwedlau, pa symbolau a straeon sydd yn mynd i gynnig yr alegorïau perthnasol er mwyn ennyn ffydd a chadernid moesol? Gymaint yn anos, fel rwyf eisoes wedi awgrymu, yw gafael yn y mythos hwn mewn cymdeithas sydd wedi’i warafun. Ceir clem go dda, yn fy marn i, ym myfyrdodau pellach Cynog ar sylwebaeth J. R. Jones ar Ann Griffiths, lle mae’n nodi peryg mewn cymysgu’r logos a’r mythos. Dywed,

“Mae’n hawdd iawn i ddyn gael ei ddenu gan ryw ramanso annelwig ond mae rhyw debygrwydd yn fy nharo i rhwng dyhead Ann Griffiths i fod yn un â Dyfnder Bod a’r ffaith wyddonol ein bod ni, blant dynion, yn un â’r Bydysawd, mai o lwch y sêr yn tarddu ym mhellafoedd y Bydysawd y’n ffurfiwyd-ni ac mai llwch y sêr fyddwn-ni eto ddydd a ddaw. A thybed nad o’i fyfyrdodau am natur y bydysawd ffisegol y daeth rhai o ddelweddau syfrdanol Pantycelyn:

O nefol addfwyn Oen
Sy’n llawer gwell na’r byd
A lluoedd maith y nef
Yn rhedeg arno’u bryd
Mae’th ddawn a’th ras a’th gariad drud
Yn llanw’r nef, yn llanw’r byd.

 

Ond mae perygl nawr i finnau ddrysu rhwng mythos a logos, a chwedyn gwell i fi’i gadael-hi fanna.”

O’m rhan i, dyma’r union bwynt y mae gofyn i’r dyneiddiwr gydio ynddo, oblegid heb fod y mythos eisioes yn hysbys iddo mewn rhyw ffurf o gyflawnder, mae angen arno saernïo’r alegorïau all ganiatáu iddo feddwl yn nhermau ffydd, moeseg a’r ysbryd. A dyma lle mae ieithwedd o’r fath yn emynau Griffiths a Pantycelyn yn gam cyntaf anhepgorol – ac o’m safbwynt i, syniadaeth Morgan Llwyd. I’r meddwl seciwlar, sydd yn lled gyfarwydd gyda’r cysyniad o’r Glec Fawr – ac sy’n ymwybodol mai damcaniaeth o’r cread yw’r cysyniad yma – mae ‘stori’ neu ‘chwedl’ Llwyd yn un sydd yn cynnig ei hun fel alegori crefyddol deniadol a hygyrch, lle mae’r cysyniad o Dduw fel y ‘Dim’ (neu waelod bod, yn nhermau J. R. Jones) sydd yn ei fynegi ei hun trwy’r greadigaeth ac yn ceisio hunanymwybyddiaeth yn taro tant. Ceir yn y cysyniad yma yn ogystal elfen o gyfriniaeth nad sydd yn perthyn i’r ddamcaniaeth wyddonol ond sydd yn gydnaws iawn â’r meddwl seciwlar sydd o reidrwydd am ofyn gan y ddamcaniaeth honno, o ble y daeth y grym anhraethol a achosodd y Glec Fawr. Yn gysylltiedig, mae’r cysyniad o’r Dim yn ffeindio lle a mynegiant yn y natur ddynol, a’r ddynoliaeth yn gweithredu fel yr hyn sydd yn caniatáu hunanymwybyddiaeth i’r Dim yn stori ddeniadol o safbwynt mynegi statws dyrchafedig dynoliaeth sydd yn ganolog i’r gred ddyneiddiol. At ei gilydd, dyma fythos sydd yn ymgysylltu’n uniongyrchol gyda’n gwybodaeth o’r logos, ac yn caniatáu i’r dyneiddiwr seciwlar ail-ddychmygu’r cread mewn cywair all ennyn parchedig-aeth pellach. Yn wir, y mae modd awgrymu mai dim ond trwy’r cywair yma y mae’n bosib ceisio gafael ar fawredd y wyrth, sydd mewn gwirionedd ymhell tu hwnt i gyfyngiadau’r meddwl empeiraidd.

         A dyma gyrraedd y pwynt olaf, tyngedfennol – sef ffiniau ein dealltwriaeth ac ymwybod. Gwendid y dull gwyddonol yw’r tuedd i warafun unrhyw beth sydd tu hwnt i’r synhwyrau, o’r categori o ‘wybodaeth’. Os nad oes modd ei brofi, nid oes modd ei ystyried. Dyma ladd y dychymyg, ond yn fwy penodol dyma gyfyngu’n gwybodaeth a’n dealltwriaeth o’r bydysawd a’i holl wyrthiau i’r hyn y mae modd ei fynegi trwy ystadegau a damcaniaethau y mae modd cynnig tystiolaeth drostynt. Ni cheir lle ar gyfer yr hyn sydd y tu hwnt, y cyfrin, yn arbennig ystyriaeth o’r hyn sydd yn gorwedd y tu ôl i’r Glec Fawr. Beth yw natur y grym hwnnw? A oes modd i’w ddeall neu ei ganfod? A oes sylwedd moesol i’r cread? I’r meddwl Cristnogol, crefyddol, y mae yna ymateb parod i’r cwestiynau yma yn y mythos, ac er bod y logos bellach yn herio, os nad tanseilio, rhagdybiaethau ynghylch ewyllys Duw, pwrpas y bydysawd a bywyd, mae’r straeon yna yn ddigonol er mwyn sicrhau canfyddiad cadarnhaol, moesol, o’r cyfan. Parchedig-aeth, gostyngeiddrwydd, diolchgarwch, cydymdeimlad, moeseg; dyma lwybr amlwg sy’n ei gyflwyno’i hun i’r credadun. I’r dyneiddiwr seciwlar, mae yna waith i’w wneud er mwyn troedio’r bwlch o barchedig-aeth i foeseg. Dyma, am wn i, lle mae’r gwaith i wneud, a lle gall y traddodiad Cristnogol gynnig cymorth – ond yn y pen draw mae’r her yr un fath i’r person seciwlar a’r person crefyddol fel ei gilydd, sef wynebu’r bwlch gyda ffydd. Wela’i ddim sut y mae creu sylfaen foesol gref i fywyd dynol, heb y gred bod grym a sylwedd y cread ohono’i hun yn ‘dda’. Rwy’n amau a yw credu hynny yn fy ngwneud yn Gristion, ond os felly, buaswn yn ddigon bodlon ar hynny.

Llyfryddiaeth

  1. I. Aaron, ‘Dylanwad Plotinus ar Feddwl Cymru’ Y Llenor, Cyf. 7, Rh. 2 (1928) p. 115-126.

Cynog Dafis, ‘Dyneiddiaeth Grefyddol’ – Ysgrif a draddodwyd yng Nghynhadledd Flynyddol Adran Athronyddol Urdd y Graddedigion Prifysgol Cymru, Medi 2017

  1. Lewis Evans ‘Cyfundrefn Feddyliol Morgan Llwyd’, Efrydiau Athronyddol V, 1942, 31-45,

Goronwy Wyn Owen, Rhwng Calfin a Boehme: Golwg ar Syniadaeth Morgan Llwyd, (Gwasg Prifysgol Cymru, 2001)

Dafydd Huw Rees, The Postsecular Political Philosophy of Jurgen Habermas, (Gwasg Prifysgol Cymru, 2018)

  1. Wynn Thomas, Morgan Llwyd, Writers of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 1984)

Huw L. Williams, Credoau’r Cymry (Gwasg Prifysgol Cymru, 2016)