E-fwletin 1 Mai 2022

Addasu iaith?

Yn ddiweddar ddes i ar draws podlediad Nomad, ddylai fod o ddiddordeb i ddilynwyr C21. Mae’r cyflwynwyr ar daith debyg i ni ac yn trin ac yn trafod gydag unigolion sydd â rhywbeth difyr a diddorol i’w gyfrannu at y drafodaeth.

Un o’r rhifynnau nes i wrando arnyn nhw’n ddiweddar oedd sgwrs gyda Terry Wildman sydd wedi addasu’r Beibl Saesneg i ieithwedd cenhedloedd cynhenid Gogledd America. Gallwch wrando ar y rhaglen yma: Nomad: Terry Wildman .

Mae hi’n sgwrs ddiddorol ond mae’n sgwrs anodd ar adegau hefyd. Sgwrs sy’n canu cloch i ni fel Cymry Cymraeg oherwydd pwysigrwydd cael y Beibl yn ein hiaith ein hunain, ac yn larwm boenus i’n cydwybod ni fel Cymry a Christnogion am ein rhan ni yn y coloneiddio a ddigwyddodd.

Yn achos llawer o’r cenhedloedd cynhenid doedd ganddyn nhw ddim traddodiad ysgrifenedig. Roedd ganddyn nhw draddodiadau llafar cyfoethog mewn nifer fawr o ieithoedd a iaith arwyddo gyffredin i gyfieithu rhwng diwylliannau. Er bod ymdrech wedi bod i gyfieithu’r Beibl i rai o’r ieithoedd, ychydig o ymdrech a wnaed i ddysgu pobl i’w darllen nhw. Wedi’r cyfan mae anllythrennedd ac anwybodaeth wedi bod, ac yn parhau i fod, yn arf pwysig i goloneiddwyr. Erbyn hynny hefyd, ysywaeth, roedd Saesneg, fel Cristnogaeth, yn prysur ddatblygu’n lingua franca.

Dilema Terry ac eraill oedd y tyndra rhwng eu hawydd i gynnal a dathlu eu diwylliant a’u hymrwymiad i’w ffydd fel Cristnogion. A oedd rhaid cefnu ar y naill er mwyn anwesu’r llall? Rhan o’r ddilema yma oedd iaith neu’n hytrach ieithwedd yr ysgrythurau. O dderbyn mai Saesneg fyddai’r iaith gyffredin, roedd yr ieithwedd, y delweddau a’r ymadroddion yn parhau yn ddieithr.

Felly dyna oedd wrth wraidd yr addasu a fu ar y testunau. Maen nhw’n parhau yn Saesneg ond yn defnyddio iaith, ymadroddion a delweddau sy’n codi o draddodiadau llafar y cenhedloedd cynhenid.

Bron nad yw’n sefyllfa ni o chwith. Sut bynnag y bu hi pan oedd yr hen ‘Gymry’ yn cael eu hudo oddi wrth eu crefyddau cynhenid at Gristnogaeth mae hynny a chyfieithu’r Beibl wedi digwydd ers cymaint nes bod blas y Beibl yn drwm ar ein hiaith a’n traddodiad llenyddol ni.

Dwi’n rhyfeddu’n aml wrth ddarllen Beibl.net at waith y tîm sydd rhywsut, rhywfodd wedi creu testun ysgrifenedig y mae modd ei ddarllen yn uchel yn rhwydd mewn unrhyw acen.

Ond dwi ddim mor siŵr bod yr iaith a ddefnyddir o gwmpas ein haddoliad wedi datblygu llawn cymaint. Rydym yn barod iawn i lithro i ddefnyddio hen ymadroddion ac yn gyndyn o newid trefn addoliad. Mae gweinidogaeth Terry Wildman yn mynd gam ymhellach nag addasu’r ysgrythur ac yn cynnwys defnyddio rhai o arferion addoliad a diwylliant y cenhedloedd cynhenid i gyfathrebu a dyfnhau profiadau ysbrydol ei braidd.

Nid ffordd unffordd mo’r profiad hwn gan bod yr addasiad yn Saesneg mae’n dal i fod yn ddarllenadwy i ni, a thra bydd elfennau’n siŵr o fod yn ddieithr fe fyddan nhw hefyd yn siŵr o daflu goleuni a chynnig dehongliadau newydd o’r testunau i ni yn Gymraeg.