Gwyn ei byd y gwleidydd…
Wrth fynd am dro un nos Sadwrn yn ddiweddar, fe gerddon ni heibio’r dafarn leol. Roedd dau fachgen, tua 10 ac 8 oed, allan ar eu pennau eu hunain yn y maes chwarae bach sy’n cynnwys castell dringo, llithren ac offer tebyg, yn ogystal â chadeiriau metel i bobl gael eistedd allan yn yr ardd. Doedd gan y ddau yma ddim diddordeb yn yr offer chwarae. Eu gêm nhw yn hytrach oedd taflu’r cadeiriau o gwmpas y lle, cyn eu cicio a’u sathru’n filain gan floeddio’n fuddugoliaethus.
Dyma ddechrau meddwl tybed beth oedd wedi sbarduno’r ymddygiad treisgar yma gan rai mor ifanc. A theimlo wedyn ein bod wedi colli cyfle i sgwrsio â nhw. Oedden nhw’n smalio chwarae gêm gyfrifiadur neu raglen deledu – neu ai ceisio efelychu ymddygiad plant hŷn neu aelodau o’r teulu oedden nhw?
Fe wnaeth hyn f’arwain i ystyried pwysigrwydd arweinwyr a gosod esiampl dda i’r genhedlaeth iau, yn enwedig yng nghyd-destun yr etholiadau sydd wedi’u cynnal yn ystod yr wythnos.
Mae angen tipyn o ddewrder a stamina i fod yn ymgeisydd etholiadol y dyddiau hyn. Un peth sydd wedi dod yn amlwg iawn yw’r diffyg ‘ffydd’ mewn arweinwyr cyhoeddus, a’r teimlad gan bobl gyffredin eu bod ‘wedi cael eu gadael i lawr’ gan rai roedden nhw’n tybio oedd yn gweithredu er eu budd. Yr awgrym oedd fod nifer o’r rhai sydd wedi cael eu hethol i wasanaethu yn defnyddio’r cyfle i droi’r dŵr i’w melin eu hunain yn hytrach na gwasanaethu’r rhai roedden nhw wedi eu hethol i’w cynrychioli.
Wrth ddymuno’n dda i’r rhai sydd wedi eu hethol i gynrychioli eu cymunedau – a chydymdeimlo hefyd â’r rhai na lwyddodd i wireddu eu huchelgais y tro hwn, ble gwell i ddechrau na gyda ‘maniffesto’ teyrnas amgen, fel a geir yn ‘Y Gwynfydau’ (Mathew 5:3–12). Mae’r pwyslais yma ar addfwynder, gweithio dros gyfiawnder, dangos trugaredd, bod â chalon bur ac yn dangnefeddwyr yn arbennig o berthnasol i’r amgylchiadau rydyn ni’n byw ynddynt ar hyn o bryd.
Aeth y Cardinal François-Xavier Nguyễn Vãn Thuận o Fietnam ati i lunio ‘Gwynfydau’r Gwleidydd’ a dyma gynnig addasiad ohonynt:
Gwyn ei fyd y gwleidydd sydd ag uchelgais anrhydeddus a gwir ddealltwriaeth o’i rôl.
Gwyn ei fyd y gwleidydd sy’n dangos y gellir credu ynddo / ynddi drwy ei (h)esiampl.
Gwyn ei fyd y gwleidydd sy’n gweithio er lles pawb ac nid er ei fudd / ei budd ei hun.
Gwyn ei fyd y gwleidydd sy’n dangos cysondeb.
Gwyn ei fyd y gwleidydd sy’n gweithio dros undod.
Gwyn ei fyd y gwleidydd sy’n gweithio er mwyn cyflawni newid blaengar.
Gwyn ei fyd y gwleidydd sy’n gallu gwrando.
Gwyn ei fyd y gwleidydd sydd heb ofn.
Er nad yw’r rhain i’w cymharu â’r Gwynfydau ‘go iawn’, yn fy marn i, gobeithio y bydd y cynghorwyr newydd a’n gwleidyddion profiadol yn anrhydeddu’r gwaith y maent wedi’i ethol i’w gyflawni. Nhw fydd yr arwyr a’r esiampl i genedlaethau’r dyfodol – a gobeithio wedyn y bydd bechgyn y maes chwarae yn dewis gemau o gymod a brawdgarwch.