E-fwletin 24 Ebrill 2022

DCDC yn ysbrydoli

Pan gefais gynnig i gyflwyno Dechrau Canu Dechrau Canmol, doedd e ddim yn rhywbeth yr oeddwn yn ei ddisgwyl. Dw i ddim yn berson uniongred ac eto mae fy nghefndir fel rhan fwyaf o Gymry Cymraeg ynghlwm â thraddodiad Cristnogol sy’n rhan annatod ohonom. Hyd yn oed i’r rheiny sy’n anghredinwyr, mae canu Calon Lân neu emyn poblogaidd arall yn debygol o fod yn rhan o’ch repertoire personol neu gymdeithasol, boed hynny yn y capel, yr aelwyd, ar faes chwarae, ysgol, neuadd bentref neu hyd yn oed mewn tŷ tafarn. Mae bron yn amhosib osgoi ei ddylanwad arnom. Ond beth mae hynny’n ei olygu?

I mi’n bersonol, mae’n rhaid i mi ddychwelyd i’m plentyndod ac aelwyd Mam-gu a Tad-cu yn Y Felin, Llechryd, i geisio deall hyn. Roedd Tad-cu, y diweddar Jac Davies, yn Gristnogol ac yn wleidyddol iawn a’r hyn rwy’n ei gofio yw bod y ddau beth yn un. Roedd ei eiriau fel petai’n plethu elfennau Cristnogol gydag anghenion pobl – y gwan, y gorthrymedig, y tlawd a’r anghenus. Roedd e’n wybodus iawn yn ei Feibl ac wedi ei ddarllen o glawr i glawr droeon. Ond roedd ei straeon i fachgen pum mlwydd oed yn syml. Hyn rwy’n cofio ynghyd a chlywed trac sain Mam-gu yn canu geiriau fel Iesu, Iesu rwyt ti’n ddigon neu Mi glywaf dyner lais. Fel y soniais yn gynt, elfennau anorfod yn y ffwrnes o ffurfio personoliaeth Cymro! Ond beth mae hynny’n golygu heddiw?

Wrth dyfu’n hyn, roedd dysgu mwy am hanes, gwleidyddiaeth, gwyddoniaeth a chrefydd yn llywio myfyrdodau gwahanol ac yn anochel, yn codi cwestiynau. I fod yn onest, mae’r elfennau hyn mewn brwydr barhaol â’i gilydd ac am wn i, mae hynny’n beth iach. Rwy’n credu fod hi’n bosib i grediniwr, anghrediniwr, gwyddonydd a diwinydd greu consensws cadarn yn eu nod o greu byd gwell. Y cwestiynu a’r gwthio hynny sy’n hanfodol i siapio dynoliaeth. Rwyf hefyd yn credu na all rhai o’r elfennau hyn fyw’n annibynnol ar ei gilydd. Mae angen yr athronwyr, diwinyddion a’r gwyddonwyr i wthio ei gilydd i sicrhau fod afon syniadau yn llifo tuag at aber gwell.

Cafodd rhai o fy rhagfarnau ei chwalu yn ystod y 4-5 mlynedd diwethaf fel cyflwynydd DCDC. O’r cychwyn, roeddwn yn gweld fy hun fel heliwr straeon cwbl niwtral, a dyma rwy’n credu dylai unrhyw un fod wrth drafod bywydau unigolion. Serch hynny, ar gychwyn fy nhaith, roeddwn yn tueddu i feddwl bod traddodiad y capel yn erydu yng Nghymru a bod yna geidwadaeth yno a oedd yn gyfrifol am i’r traddodiad beidio symud gyda’r oes. Serch hynny, deuthum yn ymwybodol fod yna ddiwygiad tawel ar droed nad oeddwn yn ymwybodol ohono tan i mi ymlwybro ar hyd lawr gwlad a’i ddarganfod.

Yr hyn wnes i ddarganfod oedd bod yna lu o enwadau, capeli a phobl erbyn hyn sy’n ail-ddiffinio eu ffydd a’u ffyrdd o’i weithredu. Rwyf wedi cael fy syfrdanu gan y symudiad newydd sydd ar droed lle mae capeli a chanolfannau yn cysylltu â’r gymuned yn y ffordd fwyaf ymarferol. Mae yna ormod o enghreifftiau i’w henwi’n unigol. Ond yn fras maent yn fudiadau sy’n defnyddio eu canolfannau fel mannau i helpu eraill ac i estyn allan at yr anghenus; canolfannau sy’n gefn i ffoaduriaid, plant, y digartref, y difreintiedig, y gorthrymedig. Mae’r rhestr yn parhau. Swnio’n gyfarwydd? Mae’n adlais o eiriau fy nhad-cu.

Rwy’n ymwybodol fod sefydliadau crefyddol wedi gwneud hyn erioed ond yn fy mhrofiad diweddar, rwy’n credu bod capeli erbyn hyn yn newid o fod yn fannau addoli yn unig i fod yn ganolfannau i symud allan a dangos beth mae ffydd yn eci olygu. Y weithred  sy’n dod i’r adwy. Erbyn hyn, rwy’n gyfarwydd â gweld bagiau bwyd a dillad ar loriau capel yn fwy nag erioed ac mae hynny’n codi’r galon gymaint. Yn wir mae’n fraint ac yn ysbrydoliaeth i brofi’r arwriaeth dawel sy’n bodoli ymhlith trigolion Cymru. Does dim ots beth yw eich dadleuon deallusol neu eich credoau personol. Mae esiampl un person yn ddigon. Pob tro rwy’n gweld rhywun yn gwneud daioni, mae’n ysgogiad i mi geisio gwneud rhywbeth hefyd.