E-fwletin 19 Ebrill 2022

Cristnogaeth y Pasg

“Dwi’n hoffi’ch Crist chi”, meddai Mahatma Gandhi unwaith, “ond dwi ddim yn hoffi’ch Cristnogion”.

Daeth y sylw hwnnw i’m meddwl wrth ddarllen Trydariad Jacob Rees-Mogg ar Sul y Pasg yn ein hatgoffa fod Crist wedi atgyfodi, gan ychwanegu ‘Alleluia’, wrth gwrs. Gandhi ddwedodd hefyd, pan ofynnwyd iddo beth oedd o’n meddwl o ddemocratiaeth Brydeinig, “Ie, byddai’n syniad da”. Ond diolch byth bod Archesgob Caergaint yn ddigon o Gristion, ac yn ddigon dewr,  i gondemnio cynllun hurt y Llywodraeth Dorïaidd i anfon ffoaduriaid i Rwanda i’w ‘prosesu’ fel un sy’n ‘groes i natur Duw’.

Mae condemnio arweinwyr Cristnogol am ddatgan barn ar faterion gwleidyddol yn codi ei ben yn gyson. Ond diddorol yn yr achosion cyfredol hyn yw nodi nad yw’r rhai sy’n gwrthwynebu hawl yr Archesgob i ddatgan barn ar faterion gwleidyddol yn gweld unrhyw fai ar Rees-Mogg am ddatgan barn ar faterion crefyddol. Y ffaith amdani yw ein bod wedi cyrraedd lle peryglus iawn yn ein bywyd cyhoeddus yng ngwledydd Prydain; ac mae nifer cynyddol ohonom yn credu fod y ddadl dros annibyniaeth i Gymru a’r Alban a thros Iwerddon Unedig yn cryfhau’n feunyddiol wrth i ddiwylliant llygredig Llywodraeth Llundain a’r Wasg asgell-dde fynd yn rhemp.

Meddyliwn am y peth am funud. Y Prif Weinidog yn creu cyfreithiau i wahardd pobol rhag ymweld â’i gilydd – hyd yn oed os yw perthynas agos ar wely angau – yn mynd i bartïon ym mhrif swyddfa’r Llywodraeth, yn gwadu ei fod wedi torri unrhyw reolau, yn gwadu nad oedd yna bartïon o gwbl, yn cydnabod (wedi i dystiolaeth ddod i’r amlwg) ei fod yn bresennol, ond nad oedd yn ymwybodol fod parti yn groes i’r rheolau, ac yn rhyw led-ymddiheuro wedi i’r heddlu ei ddirwyo. Yn y cyfamser, gan fod unben o Rwsia wedi penderfynu chwalu gwlad arall gan achosi miloedd o farwolaethau a dinistr di-ben-draw, wele’r Prif Weinidog dan sylw yn defnyddio’r rhyfel fel ffordd i dynnu’r sylw oddi wrth ei gelwyddau a’i dor-cyfraith ei hun. Pa fath o arweiniad yw hyn?

I ni Gristnogion, dyw’r ffaith fod rhywun fel Boris Johnson yn galw’i hyn yn Gristion ddim yn rheswm dros anwybyddu ei ffaeleddau dybryd. Yn wir, ein dyletswydd ni yw tynnu sylw at ei ffaeleddau a chyhoeddi’n groch nad yw ymddygiad o’r fath yn deilwng o arweinydd gwladwriaeth; ac ymhellach na hynny bod y tanseilio presennol ar safonau bywyd cyhoeddus yn fygythiad gwirioneddol i’n democratiaeth.

Roedd y Rhufeiniaid a reolai yng nghyfnod Iesu yn bobl athrylithgar. Ond roedd eu grym a’u cyfoeth wedi eu llygru; ac roedd eu hymerodraeth yn rhwym o ddadfeilio, fel pob ymerodraeth ddaearol yn ei thro. Serch hynny, ymhlith y Rhufeiniaid roedd rhai canwriaid a sylweddolodd fawredd yr Iesu. Roedd un ohonyn nhw wrth droed y Groes ar y Pasg tyngedfennol hwnnw – yr un a ddywedodd, “Yn wir, Mab Duw oedd y dyn hwn”. Diolchwn ninnau am yr unigolion hynny, megis Justin Welby, sy’n barod i sefyll a dinoethi gweithredoedd gwrth-Gristnogol Llywodraeth lwgr Boris Johnson.