E-fwletin 10 Ebrill 2022

“Nid oes rhagor…”

Mae Cristnogaeth perthnasol yn Gristnogaeth sydd yn gyfrwng a all newid cymdeithas er gwell. Ac er mwyn newid cymdeithas er gwell, mae’n rhaid mynd i’r afael â’r holl anghyfartaledd sy’n rhoi mantais i rhai grwpiau a charfannau ar draul rhai eraill.

Gellid trafod yr her fawr hon yng nghyd-destun hil, cefndir diwylliannol, crefydd a nifer o ffactorau eraill. Ond canolbwyntir ar un peth yma, sef yr anghyfartaledd amlwg rhwng dynion a merched. Mae lefelau tâl yn anghyfartal ac mae presenoldeb merched mewn gwleidyddiaeth, busnes a chwaraeon yn dal yn isel. Caiff llai o ferched fynediad at addysg ac at wasanaethau iechyd drwy’r byd. Ac mae trais yn erbyn merched yn parhau’n broblem fawr.

Sut ydym ni fel Cristnogion yn ymateb i’r anghyfiawnderau amlwg hyn? Gellid dechrau gyda Galatiaid 3:28: ‘Nid oes rhagor rhwng Iddew a Groegwr, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw, oherwydd un person ydych chwi oll yng Nghrist Iesu.’ Cyfartaledd yw’r egwyddor sylfaenol.

Eto, nid mater hawdd yw dibynnu ar dystiolaeth ysgrythurol bob amser. Mae rhai cyfeiriadau cadarnhaol at ferched yn y Beibl wedi’u dileu neu’u glastwreiddio gan gyfieithwyr. Cymerwch Rhufeiniaid 16:1 – ‘Yr wyf yn gorchymyn i chwi Phoebe ein chwaer, yr hon sydd weinidog i eglwys Cenchrea‘, dyna a geir yng nghyfieithiad William Morgan (1588). Erbyn fersiwn 1620 mae’r gair ‘[g]weinidog’ wedi’i newid i ‘[g]weinidoges’. Ond o fynd o’r cyfieithiadau cynnar hyn i Feibl Cymraeg 1988, gwelwn fod yr adnod yn wahanol iawn: ‘Yr wyf yn cyflwyno i chwi Phebe, ein chwaer, sydd yn gwasanaethu’r eglwys yn Cenchreae.’

Y gair Groeg diakonos yw’r pwynt dan sylw. Gall olygu nifer o bethau, yn amrywio yn ei ystyr o ‘weinidog’ neu ‘swyddog eglwysig’ i rywun sy’n gwasanaethu mewn modd mwy materol, gan gynnwys rhywun o statws gwas neu forwyn.

Fe ymddengys fod cyfieithwyr Beibl Cymraeg 1988 wedi dewis yr ystyr fwyaf ‘saff’, gan fod ‘sydd yn gwasanaethu’r eglwys’ yn gallu golygu gwasanaethu fel gweinidog neu swyddog yn ogystal â ‘gwasanaethu (fel gwas/morwyn)’. Yr hyn sy’n taro rhywun yw bod William Morgan wedi trosi’r adnod mewn ffordd sy’n dangos bod merch yn cael ei hystyried fel arweinydd crefyddol gan rai Cristnogion cynnar a bod cyfieithiad o’r Beibl sy’n fwy modern o lawer wedi cefnu ar y posibiliad hwnnw.

Mae Rhufeiniaid 16:7 yn enghraifft ddiddorol hefyd. Yn gyntaf, William Morgan ym 1588: ‘Anerchwch Andronicus, ac Junia fy ngheraint a’m cydgarcharorion, y rhai sy hynod yn mhlith yr Apostolion…’. Ac ym Meibl Cymraeg 1988: ‘Cyfarchion i Andronicus a Jwnias, sydd o’r un genedl â mi, ac a fu’n gydgarcharorion â mi, gwŷr amlwg ymhlith yr apostolion…’.  Mae tystiolaeth gref o wahanol ffynonellau yn dweud mai enw merch oedd Junia. Ond, yn debyg i nifer o gyfieithiadau Saesneg sy’n troi’r enw yn enw gwrywaidd drwy ychwanegu ‘s’ a’i wneud yn Jwnias, mae cyfieithwyr Beibl 1988 wedi cefnu ar benderfyniad a wnaethpwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg gan William Morgan a throi’r arweinydd Cristnogol benywaidd yma yn ddyn.

Fel Cristnogion gadewch inni gefnogi ymgyrchoedd cyfredol am gyfartaledd rhwng dynion a merched, brwydrau sydd yn gwbl gyson â neges greiddiol ein ffydd Gristnogol.