E-fwletin 3 Ebrill 2022

Y Wasg yn gwegian?

Pa faint bynnag o ymrwymiad sydd gennym i Gristnogaeth, mae’n deg dweud nad oes neb ohonom am weld y wasg Gymraeg yn rhoi gogwydd crefyddol ar bopeth dan haul. Wrth ‘Y Wasg’ golygaf yr holl bapurau dyddiol ac wythnosol, y cylchgronau a phopeth digidol yn gyfan. Ond mae’n rhesymol i ddisgwyl i werthoedd Cristnogol lywio ac i fod yn sylfaen i bopeth a ddarllenwn mewn gwasg gyfrifol. Wrth drafod gwleidyddiaeth, er enghraifft, pa werthoedd ac egwyddorion sydd i lywio’r drafodaeth ond yr angen i drin pawb yn gyfartal, i sicrhau fod pawb o fewn cymdeithas yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd, a sicrhau nad oes rhagfarnu yn erbyn neb oherwydd lliw croen, iaith a diwylliant, crefydd, rhywedd neu rywioldeb?

Does dim angen i’r cyd-destun Cristnogol fod yn amlwg drwy’r amser, gan fod yr egwyddorion hyn yn gyffredin i sawl crefydd ac i bobl ddigrefydd. Mater o degwch cymdeithasol ac o hawliau dynol ydyn nhw. Ond wrth gwrs, i’r credinwyr, mae yna ddimensiwn ysbrydol hefyd; a’r cwestiwn diddorol yw i ba raddau y dylen ni ddod â hynny i’n trafodaethau a’n trafodion beunyddiol? Ai rhan o’r rheswm pam nad ydyn ni’n llwyddo i gadw’r ifanc yn ein haddoliadau yw nad yw’r dimensiwn ysbrydol yn cael ei gydnabod gennym fel cymdeithas. Ai rhyw ‘add-on’ mympwyol yw’r ysbrydol bellach, lle dylai fod yn greiddiol i’n bywydau? Neu a ddylen ni sylweddoli fod yna ffyrdd eraill o amlygu’r ysbrydol mewn bywyd?

I ddod yn ôl at y wasg a’r cyfryngau, mae sawl datblygiad wedi bod yn ddiweddar, yn enwedig yn y maes digidol. Does dim llawer ers i ‘Cymru Fyw’ ddod yn rhan o’n geirfa, sef gwasanaeth newyddion ar-lein y BBC, a Golwg360 yr un modd. Ond bellach mae trydydd yn y ras, sef Corgi Cymru. (Pam bod Cyngor Llyfrau Cymru mor awyddus i weld gwasanaeth arall eto fyth sy’n ddirgelwch i mi). Ac mae hynny heb sôn am wasanaeth newyddion ar-lein S4C. Ychwanegwch at y rhain Nation.cymru a The National, mae sefyllfa o brinder yn dechrau ymddangos fel syrffed. Ac yn y byd hen-ffasiwn, dwi’n derbyn Golwg, Barn, Barddas a’r Faner Newydd drwy’r post – a’r Gwyliedydd drwy garedigrwydd rhywun dienw – a dw i’n prynu’r Cymro pan ddaw allan, yn Tesco. A hyn heb sôn am sawl papur bro sy’n dod i’r tŷ bob mis, a chymryd cip ar Y Tyst a Cennad bob yn ail a pheidio. Prinder meddech chi? Gormodedd efallai.

Sut argraff mae’r holl gyfryngau yma’n ei roi o gyflwr crefyddol Cymru heddiw? Gwantan iawn ddwedwn i. Dyw’r mwyafrif llethol o’r cyfryngau a nodwyd prin yn crybwyll y mater. A digon tenau, ar y cyfan, yw cyfraniadau’r papurau enwadol. Mae Golwg, er yn ddigon difyr ar un ystyr, yn gosod ei olygon dipyn yn is na’r angylion. Ceir ambell gyfraniad meddylgar yn Y Cymro. Ond rhaid troi at y cylchgronau swmpus i gael trafodaeth fwy sylweddol, er mai prin yw’r cynnwys crefyddol yng nghylchgrawn ardderchog Barn hefyd.

Ond credaf mai ar dudalennau Y Faner Newydd yn aml y ceir yr erthyglau mwyaf gwerthfawr ar egwyddorion a gwerthoedd crefyddol ac ysbrydol ein diwylliant fel Cymry. Ac o gofio mai hwn yw’r unig gyhoeddiad sy’n gwbl annibynnol ar nawdd cyhoeddus, efallai nad yw’n syndod mai’r Faner Newydd sy’n siarad gyda’r llais mwyaf croyw ar lawer o faterion mwyaf pwysfawr ein cyfnod.

Trafoder!