E-fwletin 27 Mawrth 2022

Diben a phwrpas

Codwyd fy nghalon wrth ddarllen e-fwletin wythnos diwethaf am sefydlu Tŷ Croeso, Bethlehem Newydd, San Clêr, gan gydnabod bod hefyd rhywfaint o siom wrth sylweddoli ei fod yn fater nid yn unig o lawenydd ond hefyd o ryfeddod. Ac o ryfeddu sylweddoli, er bod ambell i enghraifft wych ar hyd a lled y wlad o gynulleidfaoedd sy’n barod i newid er mwyn cwrdd ag anghenion cymdeithas heddiw, mai prin iawn yw’r achosion yma. Onid fel hyn ddylai pob capel ac eglwys fod?

Mae’n sicr bod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi dod â sefyllfa fregus llawer iawn o gapeli ac eglwysi i’r amlwg. Ond ni fedrwn roi’r bai ar COVID am y dirywiad cyson a fu dros y deugain mlynedd diwethaf. Yr hyn rwy’n ei glywed ers amser maith yw pobol yn mynegi geiriau fel, “Ni’n cadw’r drws ar agor”. Ac yna mi fyddaf yn cnoi tafod yn lle gofyn, “I ba bwrpas?”

Pwy sy’n mynd  i fod yn ddigon dewr i ddod mewn trwy’r drws? Beth sydd yn cael ei gynnig o fewn yr adeilad unwaith mae rhywun wedi croesi’r trothwy? Yn anffodus, rydym wedi cwympo mewn i’r arfer o edrych ar yr hyn sydd gan y person hwn i gynnig i ni. Fyddan nhw’n ddefnyddiol fel trysorydd, organydd, athrawes ysgol Sul neu efallai i arwain addoliad? Ac wrth gwrs, mae pob aelod a’i gyfraniad ariannol yn gymorth i dalu am rywun i gadw’r fynwent yn ddestlus. Beth os bydden ni’n troi’r cwestiwn ar ei ben a gofyn beth yw eu hanghenion hwy? A beth allwn ni ei gynnig? Ai awr o lonyddwch a thawelwch maent yn chwilio amdano? Cefnogaeth trwy awr dywyll? Cyfleoedd i ymgysylltu a’r ysbrydol? Cyfle i wneud daioni? Cwmni? Sut medrwn ni eu gwasanaethu nhw?

Rydym yn ymwybodol iawn o’r problemau a’r heriau ac yn eu trafod yn ddiddiwedd, gan wneud rhyw fân newidiadau weithiau gyda’r bwriad o geisio denu aelodau newydd. Ond mae’r amser i wneud newidiadau bychain wedi hen fynd heibio, ers o leiaf deugain mlynedd. Y cwestiwn sylfaenol i’w ofyn yw ai’n pwrpas ni yw chwilio am aelodau i’n cryfhau ni fel y medrwn lynu at yr hen ffyrdd ac ymwrthod a phob newid? Neu ai’n gwir bwrpas yw dilladu’r noeth, bwydo’r newynog a chroesawu’r dieithryn?

Efallai daw ambell i gynulleidfa i’r casgliad mai’r pwrpas yw cynnal  gwasanaeth misol ar ddydd Sul wedi ei arwain gan bregethwr gwadd, cynnal noson goffi blynyddol i chwyddo’r coffrau,  chwilio am griw o blant ufudd i’n diddanu mewn ambell wasanaeth arbennig a threfnu cinio i Urdd y Merched, er nad ydynt wedi cwrdd ers blynyddoedd, gan efallai roi un casgliad y flwyddyn i Gymorth Cristnogol er mwyn teimlo’n hael. Os dyna’r pwrpas, rhaid hefyd derbyn y bydd y drws yn cau yn fuan iawn. Efallai bod angen cymorth ar y cynulleidfaoedd hyn i sylweddoli nad oes unrhyw gywilydd yn hyn. Gwell cau’r drws, a chefnogi’r rhai sy’n barod i gwrdd ag anghenion y cymunedau rydym yn rhan ohonyn nhw heddiw. Heb bwrpas eglur, nid oes dyfodol.