E-fwletin 20 Mawrth 2022

Argyfwng dyn, cyfle Duw.

 Hanes sefydlu Ty Croeso, Bethlehem Newydd, San Clêr yw testun ein neges y tro hwn.

Daeth nifer fawr o erthyglau i’n sylw yn trafod yr argyfwng sydd yn wynebu ein heglwysi bellach – a hynny’n bennaf oherwydd dyfodiad aflwydd y pandemig. Cafwyd trafodaethau ac awgrymiadau ar sut i oroesi. Ond mae gwneud hynny nid yn unig yn nwylo ein Harglwydd ond yn fater i’r eglwys leol benderfynu ar y ffordd orau ymlaen. Ai mentro i newid ac arloesi neu aros yn yr unfan a gobeithio’r gorau?

Yn ein gofalaeth ni, mi benderfynwyd arloesi drwy ganfod ffordd i gryfhau’r weinidogaeth leol gan sicrhau dyfodol a sicrwydd i’r eglwys yn ogystal â gwneud cyfraniad i wasanaethu’r gymuned leol a bod o gymorth.

Yn dilyn trafodaeth fanwl, gwelwyd bod angen addasu ffurf yr addoli i ateb gofynion ein cynulleidfa gyfoes drwy osod technoleg fodern yn yr adeilad. Roedd y capel mewn sefyllfa i ariannu hynny. Teimlwyd bod angen mynd ymhellach er mwyn cynyddu presenoldeb y capel yn y gymuned leol a pherthnasedd yr eglwys i’r gymdogaeth, gan gynnig cymorth dyngarol yn ogystal. Dylai’r capel fod yn ganolfan weithgar a chroesawgar lle mae’r gymuned yn teimlo’n gyffyrddus. Canolfan aml-bwrpas yw’r nod – nid lle i gynnal oedfaon ar y Sul yn unig.

I wireddu hynny byddwn yn trawsnewid y llawr isaf o’r capel a chreu lle addas i fudiadau’r gymuned ddod ynghyd. Bydd yn le i gynnig noddfa i’r unig a phawb arall a hoffai gyfarfod a chymdeithasu yno. Wrth wneud hyn rhaid inni fod yn ymwybodol o anghenion pobl anabl a phobl sy’n byw gyda dementia.

Sylweddolwyd bod yna gyfle ardderchog nawr i wireddu’r weledigaeth. Roedd yn bwysig bod rhywun wrth y llyw i gydlynu hyn i gyd ac i hyrwyddo’r prosiect, gan dynnu sylw’r enwadau eraill a gwneud y gymuned yn ymwybodol o’r hyn oedd yn digwydd. Weithiau, mae popeth yn cwympo i’w le ar yr union amser cywir!

Daeth lawnsiad Rhaglen Arloesi a Buddsoddi gan Undeb yr Annibynwyr ac o wneud cais llwyddiannus, sicrhawyd arian am y bum mlynedd nesaf er mwyn cyflogi Swyddog Cymunedol i gydlynu’r cyfan a chydweithio gyda’r gweinidog yn y gwaith cenhadol. Mawr yw ein gwerthfawrogiad i’r Undeb am gefnogi ein gweledigaeth gan roi cyfle i’w wireddu. Ie, argyfwng dyn yw cyfle Duw.

Enwyd y prosiect yn Tŷ Croeso a dyna’n union fydd ein hamcan. Erbyn nawr, mae’r technoleg fodern yn ei le a chais cynllunio wedi ei gyflwyno er mwyn trawsnewid yr adeilad. Mae’r Swyddog Cymunedol wedi ei apwyntio ac yn gweithio’n ddyfal yn lledaenu’r wybodaeth am y prosiect drwy lythyru, ysgrifennu erthyglau, cyfarfod â mudiadau lleol a gwneud partneriaethau er lles y gymuned gan sicrhau nawdd pellach er mwyn cefnogi’r gwaith. Mae pob apêl am gymorth, er enghraifft, i’r Banc Bwyd a Lloches y Menywod, wedi cael ymateb syfrdanol gan y gymuned yn ogystal â’r aelodau.

Ry’n ni’n cymryd camau bychain gyda’r nod o gyflawni pethau llawer mwy. Braf gweld bod hyn wedi ennyn bywyd a brwdfrydedd newydd ymhlith aelodau ein heglwys.

“A gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni.” Hebreaid 10:24.