e-fwletin 13 Mawrth

Y Penllywydd

Yng nghanol y delweddau erchyll diweddar o ymgais lluoedd milwrol Rwsia i oresgyn Wcrain gwelais lun a oedd yn ymddangos i mi yn wrthbwynt syfrdanol. Llun ydoedd o’r Arlywydd Putin mewn Eglwys Uniongred yng nghwmni uchel-offeiriadaeth yr eglwys honno. Roedden nhw’n dal icon Cristnogol yn eu dwylo mewn modd defodol; a hynny er mwyn i’r gwladweinydd fedru dalu ei wrogaeth gyhoeddus iddo. Delwedd anghydnaws â’i weithredoedd rhyfelgar, gellid dadlau.
 
Mae perthynas gynyddol Putin ag Eglwys Uniongred Rwsia yn hysbys ddigon. Mae’n berthynas sydd wedi ei meithrin a’i hamlygu yn ystod y degawdau diweddar. (Gweler ‘The Mighty and the Almighty’, Ben Ryan (2017)). I’r rhai sy’n gyfarwydd â hanes a diwylliant Rwsia dydy hynny ddim yn syndod. Mae’r eglwys honno wedi bod yn rhan annatod o strwythurau grym a dylanwad yn Rwsia erioed – er iddi gael ei gwthio i’r cyrion yng nghyfnod yr Undeb Sofietaidd. Ers Sgism Fawr 1054 bu perthynas symbiotig rhyngddi a’r drefn wleidyddol yn yr ymerodraethau Moscofaidd a Rwsiaidd. Un o amcanion strategol diweddar Putin fu adfer y berthynas honno a thrwy hynny cyfreithloni ei statws a’i ddylanwad.
 
Gellir olrhain y berthynas anniddig rhwng eglwys a gwladwriaeth yn ôl i ddyddiau Cystennin Fawr, wrth gwrs. Ac nid yn y dwyrain yn unig bu’r berthynas honno’n un amheus. Dros y canrifoedd bu Pabau lu o fewn Eglwys Rhufain hefyd yn cymylu’r dyfroedd ac yn arfer dylanwad gwleidyddol a rhoi grym milwrol ar waith.
 
Codwyd cwestiynau sylfaenol am berthynas yr Eglwys a gwladwriaethau seciwlar yn sgil y Diwygiad Protestannaidd a bu’n thema barhaus yn nhrafodaethau anghydffurfwyr y 16eg a’r 17eg ganrif. Roedd gweithiau Thomas Locke (1632-1704) yn ddylanwad radicalaidd ac fe ymgorfforwyd ymraniad eglwys a gwladwriaeth yng nghyfansoddiad Unol Daleithiau’r America yn 1788 dan ddylanwad Thomas Jefferson (1743-1826) ac eraill. Creu ‘mur o wahanrwydd’ yw’r union eiriad.
 
Nid oes gennym eglwys wladol yng Nghymru ers canrif bellach. Ond nid yw hynny wedi golygu ein bod yn medru osgoi wynebu’r tensiwn parhaus rhwng bod yn ddinasyddion teyrngar ar yr unllaw a gwasanaethu Crist ar y llall. Mae geiriau cân Tecwyn Ifan a heriodd safbwynt Archesgob Runcie yn ystod Rhyfel y Malvinas yn dal i atsain yn fy nghof.
 
Wrth fyfyrio ar lun Putin a’r offeiriaid daeth hanes Paul a Silas yn Thesalonica i’r meddwl (Actau 17:1-9). Roedd eu pregethu a’u cenhadu wedi creu cynnwrf a therfysg yn y lle a bu’n rhaid i Jason a chredinwyr eraill ateb gerbron awdurdodau’r ddinas. A’r cyhuddiad? “Y mae aflonyddwyr yr Ymerodraeth wedi dod yma hefyd…y mae’r bobl hyn i gyd yn troseddu yn erbyn ordeiniadau Cesar trwy ddweud bod brenin arall, sef Iesu”.
 
Doedd dim yn sefydliadol am yr Eglwys Fore ac mae breichiau trugaredd Crist yn parhau i ymestyn dros ffiniau a muriau dynol. Mae pob tystiolaeth fod y breichiau cariadus hynny ar waith heddiw yn Wcrain – breichiau sy’n estyn cydymdeimlad, cymod, heddwch a chyfiawnder i’r dioddefus. Mae’r breichiau hynny’n creu gwyrthiau’n ddyddiol – gwyrthiau a fydd ymhen amser yn drech nag unrhyw gyfundrefn, yn drech nag unrhyw ystryw a chyfleustra gwleidyddol, yn drech nag unrhyw deyrn.
 
Fel y gwyddai Paul a Silas – Crist yw’r Penllywydd.
 
 
Tangnefedd
Cristnogaeth 21