efwletin 6 Mawrth 2020

Dringo

Pan ddaw’r bychan o hyd i’w draed ni fydd yn hir cyn ceisio dringo i ben cadair neu soffa. Mae’r ymdrech yn fawr ac yn ddi-ildio. Hwyrach y rhy gipolwg ar riant i ddangos beth mae’n ceisio ei gyflawni. Dylid rhoi anogaeth ond nid cymorth.
 
Gwerthfawroga cael ei gymell. Bydd yn chwennych cymeradwyaeth. Bydd ei falchder ar ôl llwyddo yn pefrio. Fe gyflawna’r dasg dro ar ôl tro gan ei gwneud yn rhwyddach bob tro. Bydd wedi cychwyn ar daith bywyd ar ei liwt ei hun ond gydag anogaeth o hirbell.
 
Yn nyddiau glaslencyndod yn y cyfnod cyn-gyfrifiadurol byddai yna goed i’w dringo. Byddai’n gyfnod o ddechrau dyrchafu golygon. Roedd greddf unwaith eto’n arwain yr ymdrechion. Rhaid oedi i bwyso a mesur pa gangen y gellir ymestyn ati nesa yn bwyllog a pha mor uchel y gellir mentro cyn i’r elfen o berygl brofi’n drech.
 
Rhaid eu dringo am eu bod yno i’w dringo. Dysgir sut i gwympo hefyd wrth golli troed, llithro a disgyn i’r ddaear yn ddiseremoni garlibwns. Bydd ambell un yn fwy mentrus na’i gilydd.
 
Gellir addasu’r delweddau uchod o ddringo i faes gyrfaoedd yn ddiweddarach. Mater o ddringo ac ymestyn yw hi er mwyn cyflawni. Ni thâl aros yn llonydd. Ond cyflawni er mwyn pwy? Er mwyn ein hunain neu er mwyn eraill?
 
Dringodd Moses i ben Mynydd Sinai pan oedd yn 80 oed i roi trefn ar y Deg Gorchymyn. O gyrraedd y copaon medrai edrych i lawr i’r gwaelodion a gweld anghenion ei bobl. Lluniodd gyfres o reolau cyfreithiol ar gyfer ei bobl fel cenedl etholedig.
 
Dringodd Iesu i ben Mynydd yr Olewydd yn ei ugeiniau hwyr i roi trefn ar y Gwynfydau. O gyrraedd y copaon medrai edrych i lawr i’r gwaelodion a gweld anghenion ei bobl. Lluniodd gyfres o reolau moesol ar gyfer pobloedd yr holl fyd.
 
Diau fod Moses yn yr Aifft wrth roi’r gorau i gripian wedi straffaglu i ben rhyw ddodrefnyn. A’r un modd Iesu yng ngweithdy’r saer yn Nasareth. Diau fod y naill wedi dringo ambell balmwydden a’r llall ambell olewydden yn eu llencyndod. Fe fydden nhw’n ymestyn eu cyhyrau corfforol.
 
Yn ddiweddarach fe fydden nhw’n ymestyn eu cyhyrau ymenyddol gyda’r un dyfalbarhad ac ymroddiad.
 
Mae’n rhaid i ninnau, wedi dysgu dringo’n gorfforol, ddysgu dringo’n ysbrydol. Wedi cyrraedd y brig rhaid edrych i lawr i weld anghenion y rhai sydd oddi tanom a cheisio eu diwallu.
 
Mae yna laweroedd sydd mewn grym ac mewn swyddi o ddylanwad heb lwyddo i wneud hynny. Maent yn ennyn dirmyg a sen y rhai sydd oddi tanyn nhw. Rhaid i selebs, unbeniaid a gormeswyr ddringo’n uwch os am gyflawni’r hyn sy’n uwch na’r cyffredin.
 
Mae yna eraill sydd wedi dringo’n dalog i gopa’r mynydd ac wedi gweld yn eglur beth yw anghenion pobloedd obry. Maent yn ennyn parch ac edmygedd y rhai sydd oddi tanyn nhw.
Glynwn ninnau at y gwerthoedd a gyflwynir ganddyn nhw a cheisio ymuno â nhw ar y copa. Dyrchafwn ein llygaid i’r mynyddoedd . . .

Pob bendith
Cristnogaeth 21