e-fwletin 27 Chwefror 2022

Annwyl gyfeillion,

Ar ddechrau’r Grawys, ar drothwy Gŵyl Ddewi ac anhrefn a dychryn yn Wcrain, mae cwestiynau mawr i’w gofyn.

Cwestiynu

Euthum ar goll unwaith yn anialwch Sinai. Fel hyn y bu.

Yr oedd criw ohonom yn gwersylla mewn hen gamp a oedd ar un adeg yn perthyn i fyddin Israel adeg rhyfel 1967. Nid oeddem ymhell o fynachlog hynafol Sant Catherine wrth odre’r hyn a dybir yw mynydd Sinai. Un pnawn crwydrais ar fy mhen fy hun i’r anialwch. Gwyddwn nad oeddwn ymhell o’r gwersyll, neu felly y tybiwn. A synau annelwig yn fy nghyrraedd o bellterau, fel sy’n digwydd mewn anialwch. Ond, yn sydyn, newidiodd y goleuni ac roeddwn mewn lle gwahanol hollol. Yr oedd y creigiau wedi newid eu siapiau, y tywod yn lliwiau gwahanol, cysgodion yn dangos dyffrynnoedd nad oeddent yna o’r blaen. Ni wyddwn ymhle yr oeddwn. Yn waeth na hynny, dechreuais amau pwy oeddwn. Mi gredaf mai hanner awr barodd hyn, ond teimlai fel diwrnod cyfan o haearn. Newidiodd y goleuni yn ôl i roddi i mi ddigon o wybodaeth fel y medrwn gyrraedd y gwersyll.

Byth ers hynny yr wyf wedi dirnad yr hyn a elwir gennym yn demtasiynau’r Iesu yn y diffeithwch ag ofnadwyaeth fawr.

Digwyddodd rhywbeth erchyll iddo. Rhy rwydd o lawer deuwn at storiau’r ysgrythurau ag ysgafnder. Roedd fy mhrofiad byr i’n ddigon i  roi gwybod i mi y byddwn mewn anialwch yn gweld a chyfarfod diafoliaid, y byddwn toc yn bwyta cerrig oherwydd fy mod yn sicr mai torthau oeddynt. Y medrwn ddringo i ben craig a hedfan i lawr yn ddianaf. Daeth Iesu ar draws yr elfennol ynddo ef ei hun.

Yr elfennol sy’n dod ar ein traws mewn momentau o greisis ac yn cwestiynu ein holl fywyd.

Ar raddfa lai, dyna yw tymor y Grawys: cyfle i gwestiynu’n weddol ddiogel yng nghwmni ein gilydd, gyd-bererinion fel ag yr ydym, seiliau a thrywydd ein bywydau. Beth yw fy nghymhellion? Pan newidia’r goleuni cyfarwydd, beth sydd yna sy’n cyfrif ac yn parhau?

Ein cofion atoch.

 

www.cristnogaeth21.cymru