e-fwletin 20 Chwefror 2022

e-fwletin 20ed  Chwefror,2022.

Annwyl gyfeillion,

Gyda’n gilydd

Yn ystod cyfnod Cofid gwelsom sawl oedfa ar y teledu. Maent i gyd wedi bod yn ystyrlon ac yn gymorth mewn amser anodd ond buont yn anodd i’w gwylio gan eu bod mor wahanol i ddarpariaeth arferol y teledu. Yn lle pobl yn sgwrsio, gyda’r camera yn neidio o un wyneb i’r llall, neu lluniau yn symud yn barhaol, buont yn sioe un dyn/ddynes. Ceisiodd ambell bregethwr amrywio’r drefn trwy ofyn i rhywun arall ddarllen, sefyll o flaen baneri, neu osod gwrthrych i dynnu sylw’r camera, ond rhywsut nid oedd yr oedfaon yn esmwyth  ar y bocs. Datblygodd y “frechdan emynau” Anghydffurfiol mewn oes wahanol iawn ac nid yw’n addas mewn oes ble mae cyfathrebu yn weledol  a thrwy  bytiau bychain.

Efallai bod yr ateb yn amlwg. Mae oedfaon Anglicanaidd yn gasgliad o ddarnau byrion a’r adeiladau yn fwy lliwgar, ond maent wedi caethiwo i ddilyn un llyfr (neu fersiynau ohono) – trefniant oedd yn ddealladwy bum’ canrif yn ôl pan oedd llawer llai o bobl yn medru darllen a phan nad oedd ddulliau cyfoes o gopïo deunydd ar gael. Ond nid ydynt yn caniatau amrywiaethau mewn addoliad i ymateb i sefyllfaoedd sy’n newid yn sydyn, neu i gwrdd ag anghenion lleol. Mae darlleniadau Ysgrythurol a ddewiswyd yn ganolog ar gyfer un Sul penodol, yn anaddas pan mae pregethwyr yn paratoi un oedfa a ddefnyddir, efallai, sawl gwaith ar Suliau gwahanol.

Pam mae cydweithio mor anodd? Mae yna wahaniaethau diwinyddol ond nid ydynt yn ddigon i rwystro cynulleidfaoedd rhag cydaddoli.  Y prif anhawster i gydweithio rhwng Anghydffurfwyr ac Anglicaniaid Cymraeg yw’r diffyg cyfleon i gydaddoli. Mae oedfaon Anglicanaidd (gydag eithriadau prin) yn Saesneg (efo pwt o Gymraeg).  Os oedd hyn yn dderbyniol yn Oes Fictoria, nid yw’n dderbyniol heddiw. Mae anghenion y Cymry Cymraeg yn ymylol, os ystyrir hwy o gwbl. Mae Cytûn yn dilyn yr un drefn. Trefnir yn y Saesneg, gan gyfieithu weithiau i’r Gymraeg. Os cynhelir oedfa ddwyieithog (hanner Cymraeg a hanner Saesneg) mae cwynion fod gormod o Gymraeg yn amharu ar yr awyrgylch.  Defnyddir y ddadl fod “ffydd yn bwysicach na iaith” i orfodi’r Cymry i gydymffurfio gyda thueddiadau ymerodraethol  yr iaith Saesneg. Prin yw’r cyfleon i Anghydffurfwyr ac Anglicaniaid Cymraeg gydaddoli yn eu iaith eu hunain. Prinnach yw’r cyfleon cyfarfod a thrafod. Ar lefel leol mae bron yn amhosibl trefnu ar y cyd.

Fe fydd nifer yn anghytuno efo rhai o’r sylwadau uchod ond mae’r nifer o Gristnogion sy’n addoli yn rheolaidd wedi gostwng i’r fath raddau  nes peri ei bod hi’n anodd, mewn rhai ardaloedd, i drefnu unrhyw fath o dystiolaeth (heb sôn am genhadaeth) Cristnogol Cymraeg. Mae mwy o eglwysi  yn gorfod ceisio addoli heb arweinyddion profiadol neu  gyflogedig ( neu wedi ymddeol) a phobl lleyg yn ceisio llenwi’r bylchau a sicrhau bod rhyw fath o gyfarfodydd Cristnogol Cymraeg yn digwydd yn eu tref neu eu bro.Mae angen datblygu deunydd a threfnu addoliad sy’n berthnasol yn cael cefnogaeth a chymorth C21, ac yn addas i’n  gwlad ac yn ein hiaith. A yw’n bosibl gwneud hyn heb gyd addoli?

Gyda’n cofion cynnes atoch a diolch am eich cefnogaeth.

www.cristnogaeth21.cymru