E-fwletin 5 Medi 2021

Yr Ardd

“O”, meddai’r gweinidog pryfoclyd wrth y tyddynwr a oedd wedi bod wrthi yn cerdded drwy’r ardd a cheisio profi gystal garddwr ydoedd. “Mae’r ‘Bod Mawr’ wedi bod wrthi yn galed eleni eto”. ”Bod Mawr, yn wir”, atebodd y garddwr, “bob tro ‘wy wedi gadael yr ardd yn ei ofal E’ does ynddi ddim byd ond anialwch”.

Ond, onid oedd y gweinidog a’r garddwr wedi camddeall ystyr gardd? Nid gwaith Duw na dyn yw gardd, eithr gwaith Duw a dyn gyda’i gilydd. Ewch am dro ar hyd ffyrdd y wlad ac fe welwch rosynnau gwyllt hyfryd ar y cloddiau; dyna waith Duw. Ewch i’r siop fe alwch brynu rhosynnau prydferth o bapur neu blastig – dyna waith dyn. Ond pwy all guro rhosyn gardd lle mae Duw a dyn wedi cydweithio? Beth am i ni fynd am dro gyda’n gilydd wrth fynd drwy’r ardd.

Dyma’r pâm tato: fydd neb yn edmygu fawr o rhain. A dweud y gwir mi fyddai’n annoeth i geisio mesur llwyddiant y tato wrth edrych ar faint y dail a’r gwrysg. Mae’r ffrwyth ei hun o’r golwg ac yn rhan o’r gwreiddiau. Oni ddysgir i ni egwyddor fawr bywyd yn nameg y tato? Beth yw gwareiddiad ond rhywbeth a drosglwyddwyd o’r gorffennol; mae llawer o ddyfeisiadau sydd yn ei byd modern wedi dechrau ymhell yn ôl gyda’n cyn-deidiau, a phellach o’n golwg. O’r golwg hefyd mae gwreiddiau ein gwerthoedd crefyddol; ni fyddai gennym gapeli ac eglwysi na hyd yn oed grefydd oni bai bod eraill wedi llafurio a pharatoi’r ffordd. Maent o’r golwg bellach, o leiaf yn gorfforol, eto yn rhan hanfodol o wreiddiau ein traddodiad. Dywed dameg y tato, felly, fod rhaid wrth ddyfnder traddodiad ac wrth yr hyn sydd yn anweledig mewn bywyd.

Awn ymlaen drwy’r ardd; dyma wely o letys, betys, pannas a swêds. Mae rhain wedi eu hau yn dew ac, o ganlyniad, wedi tyfu yn glos; eithr cyn gallent dyfu’n llwyddiannus rhaid eu tynnu a’u gwahanu wrth ei gilydd. 

Mor debyg yw dynoliaeth i’r pethau hyn! Ar y naill law gellid dweud ein bod yn fodau cymdeithasol, yn caru byw yng nghysgod ac yng nghwmni ein gilydd. A dweud y gwir ni allwn fyw a thyfu ar wahân i’n gilydd. Ond ar y llaw arall, rhaid cofio taw unigolion sy’n gwneud cymdeithas, ac nid i’r gwrthwyneb. Nid oes gan gymdeithas gydwybod na meddwl na theimlad; galluoedd a berthyn i’r unigolyn yw’r rhain. Ar enaid yr unigolyn y mae llun a delw Duw ac fel unigolion y mae’n rhaid i ni dyfu mewn cymeriad a phersonoliaeth. Dyma ddameg arall o bâm yr ardd – o blith pethau hynny a fyn sylw unigol.

Mae yna rhagor eto ar ôl yn yr ardd; ‘cyna-bins’, swît-pys, y pys a’r ffa. Ffrwythau wedi ei gwneud i dyfu lan yw rhain. Does dim yn fwy torcalonnus i arddwr na gweld y ‘cyna-bins’ wedi tyfu lawr heb ddarnau o bren i ddringo arnynt; fel mae’r tato yn tyfu am i lawr y mae rhain yn tyfu am i lan, ac os na chant dyfu felly, pydru fydd eu tynged.  Un o’r pethau sy’n gwahaniaethu dynoliaeth oddi wrth rhan fwyaf o greaduriaid a greodd Duw yw fod gyda ni y gallu i dyfu am i lan. Wrth gwrs, fel pob creadur arall mae’n inni wrth y pridd ond mae gyda ni y gallu i dyfu allan ohono. Fe ellir dweud os na wnawn ymdrech i dyfu allan o lefel y pridd, yna fel yn hanes y ‘cyna-bins’ mae pydru fydd ein tynged ninnau.

Anogodd Iesu Grist inni fod yn berffaith, fel mae ein Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith; dyma sut mae tyfu tuag at i fyny. Mae’r grefydd Cristnogol nid yn unig yn ein gorchymyn i dyfu at i fyny fe rydd i ni hefyd gyfarwyddyd. Mae gan y ‘cyna-bins’ eu coed  i’w clymu a’i ddilyn wrth dringo mae gennym ninnau ein ffyn a’n canllawiau. Wrth feddwl am y ‘cyna-bins’ a’u brigau ni allaf lai na gwenu wrth gofio i’r Salmydd edrych i gyfeiriad ei Dduw a dweud “Dy wialen a’th ffon . . .”

Byddwn ofalus rhag credu am fod Duw yn agos i ddynoliaeth yn yr ardd nas gall y diafol gael mynediad yno hefyd. Beth bynnag yw ein syniadau am gardd cofiwn taw yn nghanol harddwch  hon y twyllwyd Adda ac yng ngorffwysfa dawel a heddychlon yr ardd daeth y bradychwyr a’r milwyr i ddal Iesu Grist. 

(Y diweddar Dr. D Elwyn Davies)