Archifau Categori: Agora 47

Dim lle, dim amser, dim gwerth

Dim lle, dim amser, dim gwerth

Pori drwy gyfrol gyfoethog y diweddar Elfed ap Nefydd Roberts, Gwerth y Funud Dawel (Cyhoeddiadau’r Gair £12.99) wnaeth dynnu fy sylw ar newid arall yng nghyfraniad y meddwl a’r bywyd Cristnogol i fywyd cyhoeddus Cymru. Ac nid yw’n ymddangos (o’r hyn a welais ac a glywais) fod neb wedi sylwi hyd yn oed, ar wahân i erthygl yn Y Tyst. Fe ddigwyddodd mor dawel â chau capel. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae lleisiau wedi codi ynglŷn â chau a gwerthu capeli, ond o gyfeiriad gwahanol i’r ffaith fod man cyhoeddus o addoli wedi diflannu yn y gymuned.

Mae’r gyfrol Gwerth y Funud Dawel yn cynnwys 150 o gyfraniadau ‘Munud i Feddwl’ a ddarlledwyd ar Radio Cymru dros 30 mlynedd. Mae’n rhyfeddod fod y gyfrol hon wedi ei chyhoeddi o fewn llai na dwy flynedd i farwolaeth yr awdur. Mae’n dweud llawer am ddisgyblaeth a threfnusrwydd yr awdur ei hun, ei fod wedi cyflwyno’r cyfan i’r wasg, ac mae’n dweud llawer iawn fod Cyhoeddiadau’r Gair a golygyddion (Olaf a Helen Davies) y gyfrol hon wedi llwyddo i gyhoeddi mewn ychydig fisoedd. Nid yn unig y gyfrol hon, ond cyhoeddwyd hefyd gan yr un wasg y gyfrol â’r teitl Cymer fy Munudau (golygwyd gan Trefor Lewis ac Aled Davies), cyfrol o weddïau Elfed dros gyfnod o 50 mlynedd – cyfoeth yn wir – yr un pryd â Gwerth y Funud Dawel. A ddaeth cymaint o gyfoeth o dristwch marwolaeth Elfed ap Nefydd Roberts ac o argyfwng y pandemig?

Mae Gwerth y Funud Dawel yn cynnwys y dystiolaeth orau posibl i werth a phwrpas ‘Munud i Feddwl’ dros y blynyddoedd. Roedd Elfed yn feistr ar gyfathrebu â chynulleidfa gymysg sy’n gwrando neu’n hanner gwrando ym mhrysurdeb dechrau’r dydd yn y tŷ, yn y car, yn y gwaith ac yn y gwely. Nid oes yma bregethu na doethinebu, ond mae yma sylwadau a chwestiynau lliwgar a diddorol, llawn hiwmor a ffraethineb yn cael eu codi ynglŷn â digwyddiadau a newyddion y dydd. Dyma’r union ddeunydd y mae Radio Cymru wedi gofyn amdano gan gyfranwyr ‘Munud i Feddwl’. A hyn mewn llai na dau funud! Ond dros y blynyddoedd bu rhywfaint o lacio ar y canllawiau ac aeth nifer o gyfranwyr i gyffredinoli gan osgoi ymateb i newyddion y dydd. Ar un cyfnod hefyd fe newidiwyd y teitl i ‘Dweud ei ddweud’, a oedd mewn perygl o fod yn focs sebon i unrhyw bwnc dan haul.

Nid yw cyfrol gyfoethog Elfed yn gyfrol i’w darllen o glawr i glawr, wrth gwrs, ond i’w darllen fesul tudalen neu ddwy fel cyfrol bwrdd coffi heb luniau. Mae rhywbeth i’n goleuo a’n herio ar bob tudalen, ond gyda hyder tawel argyhoeddiad Cristnogol yr awdur. Ar yr un pryd mae’n llwyddo i ganu cloch neu ddeffro meddyliau yn yr amheus, y sinig a’r di-gred. Ond mae’r ddau funud yn gwneud mwy na hynny.

Yn sydyn, ddechrau Medi 2020, penderfynodd y rhai sy’n gyfrifol am Dros Frecwast (y teitl bellach) nad oedd lle nac angen ‘Munud i Feddwl’ mewn rhaglen ddwyawr, brysur o newyddion – dim i arafu’r ‘bwrlwm boreol’. Mae’n rhaglen ardderchog ac mae’n rhan naturiol o’r bore (er bod adnoddau Radio 4 yn demtiad weithiau) ac mae amserlen ddyddiol ein cartref ni’n troi o gwmpas Radio Cymru (er ein bod yn araf iawn yn cyfarwyddo â’r rhaglenni am 9 o’r gloch yr hwyr !).

Ddiwrnod neu ddau cyn patrwm arferol ‘Munud i Feddwl’, rhoddwyd gwybod i gyfranwyr ddechrau Medi mai ar rhaglen Shân Cothi, Bore Cothi, y byddai ‘Munud i Feddwl’ o hyn ymlaen, a hynny, yn ôl yr ymchwilydd ar y pryd, oherwydd y byddai ‘Munud i Feddwl’ yn cael mwy o chwarae teg a sylw ar raglen arall. Nid oedd unrhyw gwestiwn o ddileu ‘Munud i Feddwl’ oherwydd mae’n rhy bwysig i Radio Cymru ac mae gan Radio Cymru ymrwymiad i ddarlledu crefyddol. Mae Oedfa’r Bore o safon uchel ac amrywiol ac mae Bwrw Golwg i’w chymharu ag unrhyw raglen newyddion – ond gyda llai o adnoddau – sy’n trafod pynciau cyfoes yn ddeallus a chytbwys. Wrth gwrs, cwmni annibynnol sy’n cynhyrchu’r ddwy raglen erbyn hyn. Mae hynny hefyd yn wir am Caniadaeth y Cysegr, sy’n cael ei darlledu ddwywaith y Sul ac, fel Dechrau Canu, Dechrau Canmol ar S4C, yn rhaglen na fyddai Radio Cymru yn meidddio ei dileu heb fonllefau o brotest.

Ond dilëwyd ‘Munud i Feddwl’ o raglen newyddion. Wedi cysylltu â BBC Radio 4, Radio Scotland, a Radio Ulster, mae’n amlwg na fyddant yn ystyried dileu ‘Thought for the Day’ o’u rhaglen newyddion foreol. Pam, tybed? Am fod sylwadau moesol/crefyddol/ysbrydol a golwg ehangach ar y newyddion na’r newyddion ei hun yn gynyddol bwysig drwy’r byd. Bu ymdrech i ddileu ‘Thought for the Day’ yn y gorffennol, ond roedd barn y bobl yn wahanol. Yn rhyfedd iawn, oherwydd bod cymaint wedi colli ymddiriedaeth yn y cyfundrefnau crefyddol (ac yn arbennig eu harweinwyr), mae diddordeb mewn agweddau moesol ac ysbrydol, yn bersonol, yn gymunedol ac yn fyd-eang, ar gynnydd. Methiant yw anwybyddu hynny heb sôn am geisio’i ddileu.

Ond nid y gynulleidfa a’r cyflwynwyr yw’r unig wahaniaeth rhwng ‘Munud i Feddwl’ ar raglen Shân Cothi a ‘Munud i Feddwl’ ar Dros Frecwast – na’r cynnwys chwaith, o angenrhreidrwydd. Mae Shân Cothi wrth ei bodd gydag emynau a thonau a dychmygu merched yn gwisgo het yn y Gymanfa Ganu. Mae crefydd a chrefydda yn rhan o’i chefndir a’i diwylliant Cymraeg. Mae’n ddarlledwraig boblogaidd ac mae’n rhaglen ysgafn a hwyliog. Ond rhaglen newyddion yw Dros Frecwast, rhaglen – a defnyddio’r jargon darlledu – ‘newyddion caled’, ond yn cynnwys pob math o bynciau y mae gan ddarlledu cyhoeddus gyfrifoldeb i’w cynnwys.

Erbyn hyn, y gred gyffredinol yw mai mater personol yw crefydd, a rhodder ‘slot crefyddol’ i’r rhai sydd â diddordeb.

O bori yn y gyfrol hon, mae Cymru ar ei cholled, nid yn unig o golli Elfed, ond fod y rhaglen Dros Frecwast ar ei cholled o golli ‘Munud i Feddwl’ ar ei orau.

Pryderi Llwyd Jones

Dyfodol y Weiniogaeth ii

Cynhadledd Rhithiol Cristnogaeth 21

Dyfodol y Weiniogaeth

Nos Fawrth, 28 Medi

Cafwyd arweiniad gan dri yn y gynhadledd ac yma cyflwynwn grynodeb o arweiniad Eileen Davies a Karen Owen. Cyhoeddwyd arweiniad Aled Davies eisoes.

Mae’r Parchedig Eileen Davies yn Archddiacon Aberteifi ac, ynghyd â’r Esgob Wyn Evans (sydd bellach wedi ymddeol) yn gyfrifol am sefydlu Tir Dewi fel llinell gymorth a gwasanaeth cefnogi i ffermwyr a’u teuluoedd yn wyneb anghenion a phroblemau’r gymuned wledig ac ym mywydau ffermwyr. Mewn pum mlynedd mae Tir Dewi (sydd bellach wedi ymestyn tu hwnt i Esgobaeth Tyddewi) wedi cynnig arweiniad chefnogaeth i o leiaf 200 o ffermwyr.

Yn ystod y deunaw mis diwethaf rwy’n teimlo fod yr Arglwydd Dduw wedi rhoi cyfle i’n heglwysi ddihuno er mwyn cyrraedd pobl gyda’r Newyddion Da, a hynny mewn dull a modd na fyddem wedi eu cyrraedd o fod yn ein hadeiladau. Felly, rydym wedi cael amser i aros ac i adlewyrchu ar beth yw ein prif wasanaeth ni fel eglwysi. Ai’r bobl sydd yn mynychu ein hadeiladau o Sul i Sul yw’r unig bobl yr ydym am rannu’r Efengyl gyda hwy? Neu a ydym yn mynd i gyrraedd – drwy dechnoleg – bawb sydd yn barod i wrando ar Ei Air. I mi, dyna yw Newyddion Da.

Boed i ni fod yn agored i wrando ar arweiniad yr Ysbryd Glân i gydwasanaethu a datgan yr Efengyl a cheisio cyrraedd pawb, lle bynnag y maent yn teimlo’n gyfforddus a chartrefol. Fe hoffwn feddwl fod Dyfodol y Weinidogaeth yn rhoi cip i ni ar ran o’r dyfodol hwnnw yn Nhir Dewi a datblygiadau tebyg ym mhob rhan o’n gwlad a’n byd. Dyna yw – a dyna fydd – gweinidogaeth.

Eileen Davies

…………………………………………….

Mae Karen Owen yn weithgar yn Nyffryn Nantlle (a thu hwnt fel bardd ac ym myd y celfyddydau gyda’i chyfraniadau cyson ar y cyfryngau) ac yn arbennig erbyn hyn gyda rhai o eglwysi Pen-y-groes a’r ffordd ymlaen i’r dyfodol. Dyma grynodeb o’i chyflwyniad.

Ym Mawrth 2020, roedd pobol yn dweud, “W, fydd pethau fyth yr un fath wedi’r pandemig yma.” Gadewch i ni obeithio y bydd hynny’n wir, wrth i bobol a sefydliadau ffydd gael eu gorfodi i newid eu ffyrdd. Ond mae’n rhaid i hynny olygu meddwl yn wahanol, y tu allan i adeiladau’n unig, a beth ydi gweinidogaeth.

Mae’r mwyafrif o adeiladau yn rhai na fydd yn ailagor wedi i’r pandemig basio … ond dydi hynny ddim yn golygu fod y neges, y gweithgaredd na’r gwasanaeth i eraill yn dod i ben. Yn rhy hir, mae sefydliadau a threfniadaeth wedi disgwyl y bydd yr an-fynychwyr, rywbryd, yn gweld y golau ac yn “dod yn ôl” i wasanaeth ar y Sul. Yn groes i’r gred ddemocrataidd mai’r mwyafrif sy’n lleisio gwirionedd y sefyllfa, mae’r crefyddwyr yn dweud mai’r lleiafrif, y rheiny sy’n mynd i gapel, sy’n “iawn”, ac y daw’r gweddill i’w dilyn. Y gwir cymdeithasegol plaen yw fod y gweddill eisoes wedi pleidleisio efo’u traed, i beidio troi allan, am resymau ffydd, o brofiad personol ac o ganlyniad i lesgedd a chreulondeb y drefn. A bendith ar eu pennau, y nhw sydd yn iawn, gan nad rhwng pedair wal y mae Duw neb yn byw.

Mae’r 18 mis diwethaf wedi gweld y byd crefyddol yn gwneud mwy o ddefnydd o’r we ar gyfer cynnal cyfarfodydd – a da o beth ydi gweld tystiolaeth a chwmnïaeth ar y we, yn Gymraeg. Ond gwae ni rhag i ni syrthio i’r fagl o ailadrodd yr un hen bethau, a hynny ar sgrin. Mae angen cenadwri a cherbyd newydd er mwyn estyn allan a chyrrraedd pobol sydd wedi’u heithrio gan dlodi digidol, ac sy’n ysu am ateb 21ain ganrif, nid am ein mopio ni â’n clyfrwch ein hunain. Mae yma gyfle am chwyldro cymdeithasol, wrth ddefnyddio adeiladau gwag i fod yn bresenoldeb yng nghanol pobol go iawn. Mae’n golygu torchi llewys, gweinidogaeth, gwir weini wrth fyrddau fel diaconos yr Eglwys Fore.

Mae’n rhaid i’r hen drefn farw: y goler gron, y ffug barchusrwydd, y goslefu lleddf a’r pen ar dro … ac mae dirfawr angen gweithredu ymarferol, dewr, llawn cariad, at bobol y milflwydd sy’n wynebu byd ansicr. Mae eu hamgylchedd nhw’n marw; mae eu byd nhw’n lle creulon; mae eu cytundebau gwaith nhw’n methu cynnig sadrwydd iddyn nhw. Mae popeth fel petai dros dro ac yn annibynadwy … ac mae angen i weinidogaeth lenwi bylchau. Pan gawson nhw eu codi, roedd capeli yn aml yn fannau llawer gwell na chartrefi’r aelodau, ac yn llefydd cynnes ac i’r pwrpas yr oedd yn bleser eu mynychu bob nos o’r wythnos. Yn wyneb creulondeb cyni a chyfyngiadau materol, mae angen hynny eto ar gyfer cymunedau sy’n cael eu gwasgu.

Beth all capeli fod? Llochesau, canolfannau cyngor a helô; mannau cyfarfod; banciau bwyd, hybiau ar gyfer fflyd o fysiau mini i gario pobol i weld perthnasau mewn carchardai, ysbytai ac unedau iechyd meddwl. Mannau tawel mewn byd o ruthr. Lle diogel rhag camdriniaeth o bob math. A chanolfannau dysgu darllen a hyfforddiant ailgyfle o bob math. Ar ôl cyfnod o golli ei lle fel darparwr gwasanaethau cymdeithasol i wladwriaeth a dyfodd i fod yn ddarparwr swyddogol, mae angen ysgwyddo’r baich unwaith yn rhagor. Mae’n golygu torchi llewys. Mae’n golygu torri chwys. Ac mae’n gofyn i Drefn sydd wedi bod yn hunan-dwyllo wrth ddal i rygnu ar ei gliniau i fynd ar ei gliniau. Nid er mwyn rhwydo aelodau. Nid er mwyn cyfri pennau. Nid er mwyn brolio “capel Ni”. Ond er mwyn y gwaith sydd yn fwy na phob un ohonom ni.

Karen Owen

 

 

 

Dyfodol y Weinidogaeth

Cynhadledd Rithiol Cristnogaeth 21

Dyfodol y Weinidogaeth

Nos Fawrth, 28 Medi

Cafwyd arweiniad gan dri yn y Gynhadledd ac yr oedd y nifer yn bresennol yn awgrymu’r diddordeb ym mhob rhan o Gymru ac o fewn pob traddodiad yn y maes a’r sefyllfa sydd yn ein hwynebu.

Fe gyhoeddwn yma arweiniad y Parchedig ALED DAVIES, Chwilog, a’r wythnos nesaf fe fydd crynodeb o arweiniad y Parchedig Eileen Davies, Archddiacon Abertieifi, a Karen Owen Pen-y-groes.

Mae’n debyg ein bod ni’n trafod hyn yn bennaf yn sgil effaith Cofid-19 a 18 mis o geisio ymdopi ac addasu. Ond yr un mor berthnasol, efallai, yw trafod hyn yn sgil y pandemig ysbrydol ’dan ni wedi’i ddioddef ers hanner canrif a mwy.

Pan o’n i’n cychwyn yn y weinidogaeth dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, a hynny ym Mhontrhydfendigaid, roedd ’na lawer o sôn am y Parch. T. R. Morgan a fu yno’n weinidog am 56 mlynedd. Ond roedd T.R. hefyd yn dyddynnwr ac yn ffermio er mwyn helpu i’w gynnal ei hun a’i deulu. Wrth edrych tua’r dyfodol does gen i ddim amheuaeth na fydd llawer iawn mwy o gyfuno swyddi, cyfuno gofalaethau ac enwadau, a mwy o le i weinidogaeth leyg. Beryg mai prin iawn fydd y sefyllfa o un gweinidog yn cael ei gynnal yn gyfan gwbl gan un eglwys. Sawl gofalaeth erbyn hyn sy’n byw ar gyllid y gorffennol fel y gwna’n henwadau ni?

Falle hefyd fod angen gwahanu’r ‘gweinidog’ oddi wrth ‘y weinidogaeth’. Mae gweinidogaeth yn gymaint mwy na’r gweinidog wrth gwrs, a hawdd iawn i weinidogaeth fethu os ’dan ni’n dal i gredu y gall y gweinidog wneud pob dim. Dwi’n cofio clywed am flaenor yn deud un tro, wrth drafod pwy ddylai wneud rhyw dasg arbennig, ‘Pam cadw ci a chyfarth ein hunain?’ Ac yn yr un ffordd, mae sawl gweinidog wedi credu mai dim ond fe neu hi sy’n ddigon atebol i neud y gwaith, ac yn cadw rheolaeth dynn iawn ar bob dim, heb roi cyfle i eraill gyfrannu. Oes ’na ddisgwyliad bod y gweinidog yn feistr ar bob dim? ’Dan ni’n cofio hanes y ‘Jack of all trades’, yn tydan! Mae’r colegau diwinyddol yn dda iawn am ddysgu diwinyddiaeth ac athrawiaeth, am roi arweiniad ar sut i bregethu a bugeilio, ond fawr yn cael ei ddweud am sut i feithrin a rheoli tîm, ac annog a hyfforddi eraill. Falle fod angen ailddiffinio beth yw gweinidog hefyd. ’Dan ni’n dal i sôn am ‘weithiwr’ plant neu deuluoedd yn hytrach na ‘gweinidog’ – fel petai’r gwaith hwnnw’n eilradd. Oes ’na elfen hefyd o gredu mai gwaith y gweinidog yw ‘edrych ar ein holau ni’r aelodau’, ac efallai amharodrwydd i’w ryddhau i waith nad yw’n dod â budd uniongyrchol i’r capel?

Lle ’dan ni’n gweld dyfodol y weinidogaeth? Be ’di’r flaenoriaeth? Ai gweinidogaethu i’r 5% (ein pobol ni) neu gyrraedd y 95% nad oes gynnon ni bellach unrhyw gysylltiad â nhw? Her anferth y weinidogaeth yn y cyfnod yma yw dod o hyd i ffordd o arfogi holl bobl Dduw (y 5%) i ddod o hyd i’w lle yn y weinidogaeth, er mwyn cyrraedd a gweinidogaethu i’r 95% mewn ffordd sy’n berthnasol. Mae ’na lawer o sôn am ‘peer ministry’ – gweinidogaeth i’r bobl sy ’run oed â ni neu yn yr un cylch o fywyd, yn yr un gweithle, yn yr un gymdogaeth, yn gwylio’r un gêm bêl-droed neu’n yfed yn yr un dafarn â ni. Plant yn gweinidogaethu i blant; pobl ifanc yn gweinidogaethu i bobl ifanc. A phawb yn defnyddio’u doniau naturiol.

Gadewch i ni wrando ar eiriau Effesiaid 4: ‘Ond mae’r Meseia wedi rhannu ei roddion i bob un ohonon ni – a fe sydd wedi dewis beth i’w roi i bawb’. Ie, pob un ohonon ni wedi derbyn rhoddion ysbrydol, a hynny’n rhodd gan Grist. Nid gwaith i un person, wedi ei neilltuo i’r swydd a’i gynnal. Gwrandewch eto, ‘A dyma’i roddion: mae wedi penodi rhai i fod yn gynrychiolwyr personol iddo, eraill i fod yn broffwydi, eraill yn rhai sy’n rhannu’r newyddion da, ac eraill yn fugeiliaid ac athrawon. Maen nhw i alluogi pobl Dduw i gyd i’w wasanaethu mewn gwahanol ffyrdd, er mwyn gweld corff y Meseia, sef yr eglwys, yn tyfu’n gryf’.

Gweinidogaeth sy’n perthyn i bawb. Gweinidogaeth yr holl saint, holl gorff Crist, sy’n mynd i arwain at dwf a ffyniant yn y pen draw. Eto, gwrandewch ar y geiriau, ‘Y pen sy’n gwneud i’r corff weithio a thyfu. Fel mae pob rhan o’r corff wedi’i weu i’w gilydd, a’r gewynnau’n dal y cwbl gyda’i gilydd, mae’r eglwys yn tyfu ac yn cryfhau mewn cariad wrth i bob rhan wneud ei gwaith’.

Dwi am rannu’r sylwadau nesaf yn ddwy ran. Yn gyntaf, ein hymateb yn sgil Cofid-19 (am y ‘normal newydd’ a’r ‘eglwys hybrid’), ac yn ail ein hymateb i bandemig ysbrydol dros ddegawdau yng Nghymru.

Dwi’n cofio pan ddaeth y cyfnod clo cyntaf hwnnw ym mis Mawrth, 18 mis yn ôl, rhyw siarad rhwng gweinidogion, ‘Pryd wyt ti’n meddwl bydd pethe “back to normal”?’ ‘O, dwi’n amau yr aiff hi’n fis Mai/Mehefin – wel, falle bydd hi’n fis Medi cyn bydd popeth ’nôl i fel roedden nhw’! A dyma ni ym mis Medi, 12 mis yn ddiweddarach, ac yn bell iawn o fod ’nôl i fel roedd pethe ers talwm!

Tan 18 mis yn ôl, faint wyddai am Facebook Live? Lolipop oedd Zoom, a rhywbeth i bobl ifanc oedd YouTube! OND, fe gofleidiodd y saint y dechnoleg, ac o fewn dim roedd cynulleidfaoedd yn ymuno ag oedfaon ym mhob rhan o’r wlad. Dwi’n cofio fy hun, pan ddaeth y clo 6-wythnos, yn dweud ar y dechrau, ‘Wel dwi’n dallt dim am ffilmio a ballu – mae ’na ddigon o bobl allan yna sy’n llawer mwy abl na fi, ac fe wnawn ni annog pawb i ymuno gyda nhw’. Ond o fewn rhai wythnosau fe ddois i sylweddoli bod popeth yn newid – nad cyfnod o chwe wythnos roedden ni’n son amdano bellach, a bod gwir angen cael ein heglwysi yma at ei gilydd, i addoli ac i gynnal ein gilydd mewn cymdeithas a gweddi. Ers Ebrill y llynedd cafwyd oedfa bob Sul yn ddi-dor, ysgol Sul i’r plant, y Gymdeithas bron bob nos Iau, cyfarfod am banad, cinio Nadolig, steddfod capeli’r cylch a sawl digwyddiad arall – i gyd dros Zoom.

Y cwestiwn beunyddiol fydda i’n ei gael erbyn hyn ydi, ‘Wyt ti am barhau gyda’r busnes Zoom ’ma?’ Mae’r ateb yn un hawdd – sgen i ddim dewis yn y mater, mae’n rheidrwydd, a hynny am bum rheswm:

  1. Mae ’na gymaint o aelodau sydd wedi llwyddo i ymuno nad oedden nhw mewn ffordd i ddod i’r capel cyn y pandemig oherwydd eu bod nhw’n gaeth i’w haelwydydd (am eu bod yn fregus neu’n oedrannus, neu’n gorfod bod adref i ofalu am aelodau hŷn o’r teulu sy’n fregus) – pobl yr oedden ni cynt wedi derbyn na fydden ni’n eu gweld nhw eto mewn oedfa, ond sy bellach ‘yno’ bob dydd Sul.
  2. 2. Mae ’na aelodau hefyd sy’n byw oddi cartre neu wedi symud i ffwrdd, a bellach tydi’r pellter o filltiroedd ddim yn rhwystr.
  3. I rai aelodau, mae cyfleuster 40 munud Zoom yn caniatáu iddyn nhw fod yn yr oedfa – ffermwyr prysur yn dod i’r tŷ am banad, rhieni ynghanol rhedeg plant o un lle i’r llall.
  4. Y categori mwyaf diddorol efallai yw’r rhai sy wedi dweud eu bod nhw’n teimlo’n llawer iawn mwy cyffyrddus a chartrefol mewn oedfa Zoom na bod yn y capel. Mae nifer wedi dweud bod awyrgylch Zoom yn llawer mwy cyfeillgar ac anffurfiol. Dyma her i ni!
  5. Rheswm arall dros gadw’r dechnoleg yw bod modd gwahodd pregethwyr a siaradwyr o bob rhan o’r wlad atom heb fod angen iddyn nhw deithio. Yn y cyfnod clo cawsom oedfaon gan bregethwyr o Gaerdydd a chyn belled ag Ynys Bute yn yr Alban – a’r gweinidog fel petai yn yr ystafell gyda ni.

I fi, wrth edrych tua’r dyfodol, yr hyn oedd yn bwysig oedd bod cynifer o bobl â phosib yn cael eu cynnwys – boed wyneb yn wyneb neu trwy gyfrwng y we. Ein hymrwymiad ni yma ar y foment yw y bydd oedfa bob Sul o un o gapeli’r ofalaeth, a hynny am 10.00 y bore, a’r oedfa honno hefyd yn cael ei rhannu dros Zoom. Yn ychwanegol at hyn mae ’na dri o’r capeli wedi’u sefydlu fel canolfannau Zoom, lle mae sgrin fawr wedi’i gosod er mwyn i aelodau sy heb y dechnoleg adre fedru troi mewn i oedfa yn eu heglwys leol. Mae hyn yn rhoi tri dewis i bobl felly, sef teithio i’r capel lle mae’r oedfa ar y Sul hwnnw, neu fynd i’r capel lleol ac ymuno ar y sgrin, neu aros adre ac ymuno’n rhithiol oddi yno.

Mae defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i rannu gwybodaeth a ‘linc’ hefyd wedi trawsnewid y ffordd rydan ni’n cadw mewn cysylltiad â’n gilydd. Un cyngor, serch hynny – os ydych chi’n defnyddio’r cyfryngau hynny, ewch ati i greu tudalen ar gyfer yr eglwys/gofalaeth yn hytrach na defnyddio’ch tudalen bersonol. Da o beth yw gwahanu’r ‘personol’ a’r ‘weinidogaeth’.

Os ga’ i wisgo fy het arall am eiliad, sef Cyngor Ysgolion Sul, bu’n her enfawr i ni hefyd 18 mis yn ôl i addasu i fyd rhithiol, a ninnau wedi arfer efo cynhyrchu adnoddau print ar gyfer eu defnyddio mewn capel ac ysgol Sul. Gyda’r adeiladau hynny ar gau, bu’n rhaid addasu’n gyflym iawn. Creu deunyddiau i’w lawrlwytho ar y we, yn wersi ysgol Sul ar gyfer y cartref, clipiau o ffilm, a chaneuon i’w darlledu. Fe ddaru ni sylwi hefyd bod ’na beth wmbreth o ddeunydd yn cael ei gyhoeddi yn wythnosol ar YouTube – yn oedfaon, gwersi ysgol Sul i blant ac oedolion, darlleniadau, gweddïau, caneuon newydd sbon, myfyrdodau di-ri. Bu hyn yn sbardun i ni fynd ati i greu cartref ar eu cyfer, ac fe sefydlwyd sianel deledu ar y we, sef Teledu Cristnogol Cymru. Petaem ni wedi trio gwneud hynny ddwy flynedd ynghynt, prin iawn fyddai’r cynnwys oedd ar gael ond bellach mae dros 4,000 o raglenni yno.

Ond beth am weinidogaeth y dyfodol? Sut ’dan ni’n cynllunio wrth ymateb i hanner canrif a mwy o ymbellhau a gwacáu ar ein heglwysi?

Dyma ambell sylw i’w ystyried a’i drafod, o dan chwe phennawd – Cydenwadol, Cynhwysol, Cenhadol, Cymunedol, Cyfoes a Christ-sentrig.

  1. Cydenwadol – dwi’n cael y fraint o fugeilio chwe eglwys sy’n perthyn i dri enwad gwahanol, o fewn cylch o lai na phum milltir. Bellach, dros Gymru, fe aeth enwadaeth yn amherthnasol i’r rhelyw. Ond tydan ni ddim yn anenwadol! Mae’r strwythurau enwadol yn dal yn rhan o’n gwead ni, ond efallai ein bod ni’n fwy ôl-enwadol, a mater fydd hi o ddysgu byw gyda’r strwythurau heb i hynny lesteirio’r weinidogaeth. Mae angen canolbwyntio ar yr hyn sy’n bosib yn hytrach na chodi bwganod am yr hyn nad yw’n bosib. A dwi’n credu bod hon yn neges sy angen i’r enwadau ei chlywed hefyd – beryg o hyd ein bod ni’n dal i feddwl yn rhy enwadol gyda’n cynlluniau gweinidogaethol a chenhadol. Does bosib na allwn ni wneud llawer iawn mwy o gydweithio ar gynlluniau gyda’n gilydd?
  2. Cynhwysol – ai meddwl o hyd ydan ni am ‘ein pobol ni’? Oes ’na ‘bobol’ nad oes gennym ni fawr o ddiddordeb ynddyn nhw mewn gwirionedd? Oes ’na ragfarnau lle ’dan ni’n dweud o hyd y bydd raid i chi gydymffurfio efo ni cyn cewch chi le a chroeso yma?
  3. Cenhadol – mae 95% o blant Cymru heb unrhyw gysylltiad â chapel nac ysgol Sul, ac mae 95% o oedolion Cymru nad ydan nhw’n gweld yr eglwys yn berthnasol i’w bywydau nhw bellach. Mae sawl darpariaeth wedi dod i ben dros y 18 mis diwethaf. Falle fod ambell beth wedi dod i ben yn naturiol, ond mae ’na her wirioneddol yn ein hwynebu – sut ’dan ni am ailgodi ac ailsefydlu sawl gweithgarwch er mwyn eu gwneud yn fwy perthnasol i gynulleidfa ehangach? Dwi’n cofio un cenhadwr yn ymweld â Chymru un tro ac yn dweud, ‘I can only see maintenance – where’s your ministry, where’s your mission?’ Dyna her i bob un ohonom!
  4. Cymunedol – bu’r capel yn ganolog i fywyd pentrefol/trefol yn y gorffennol. Pob math o fynd a dod, drysau agored i gymaint o bethe gwahanol. Bellach mae sawl un yn gweld y capel yn sefyll yno, drysau ar gau, a bron ddim yn digwydd yno. Mae ’na beryg hefyd mewn creu gofalaethau rhy fawr – mor fawr weithie fel eu bod ymestyn dros 20 milltir a mwy gan groesi nifer o gymunedau – yn hytrach na chydweithio’n lleol. Pawb ar ei domen ei hun, boed yn domen enwadol neu’n domen ofalaethol, lle ’dan ni’n pasio’n gilydd wrth fynd i’n amryfal gyfarfodydd. Bydd llawer ardal heb ysgol Sul. Falle nad oes modd i bedwar achos mewn tre neu bentre gynnal eu hysgolion Sul unigol, ond siawns na fydde cydweithio i gynnal un yn bosib?
  5. Cyfoes – mae’r gair ei hun falle’n deud y cyfan! Do, heb os, ’dan ni wedi bod yn araf i newid ein ffyrdd, newid patrwm ac arddull oedfa, newid diwyg y capel, yn dal efo’n meinciau pren, gan fod yn araf i gofleidio technoleg a ffurfiau newydd o addoli a dysgu.
  6. Crist-sentrig – be mae hynny’n ei olygu? Falle llai o ‘grefydda’, llai o ‘chwarae capal’ a mwy o sylw i ddilyn Iesu, dilyn ei esiampl a dilyn ei ddysgeidiaeth o groesawu’r dieithryn, rhoi lle i’r bregus a’r gwan, a rhoi eraill yn gyntaf.

Oes ’na ddyfodol i’r weinidogaeth? Wel, wrth gwrs fod ’na – wedi’r cyfan, nid ein gwaith ni mohono fe ond gwaith Duw. Ein cyfrifoldeb ni ydi ceisio dilyn ei ewyllys ef, er mwyn cyflawni’r weinidogaeth orau posib gyda’n gilydd, er lles teyrnas Dduw. Parhaed y drafodaeth …

Aled Davies

Myfyrio ar gyflwr y greadigaeth dros Ŵyl y Diolchgarwch   

Myfyrio ar gyflwr y greadigaeth dros Ŵyl y Diolchgarwch    

Yn ddiweddar aeth criw o gefnogwyr Cymorth Cristnogol ar daith gerdded er mwyn myfyrio ar gyflwr y greadigaeth mewn cyfnod allweddol yn hanes y byd a’n hymateb i’r argyfwng hinsawdd. Isod, mae Llinos Roberts, Swyddog Ysgogi Eglwysi a Chodi Arian Cymorth Cristnogol yn y gogledd, yn dweud yr hanes ac yn ei osod yn ei gyd-destun. Mae hefyd yn cynnwys y myfyrdod byr a ddefnyddiwyd ar y diwrnod.

Mae cyfnod y Diolchgarwch yn aml iawn yn amser pan fyddwn ni’n dod â’r tu allan i mewn i’n haddoldai gan eu llenwi ag arogl ffrwythau, llysiau a blodau. Eleni, fodd bynnag, rwyf wedi mwynhau cael bod allan, a pha ffordd well o dathlu a diolch am y greadigaeth na bod yn ei chanol. Dyma’n union wnaethom ar lethrau’r Carneddau yn ddiweddar. Ers inni rannu hynny, mae ambell ardal arall wedi penderfynu gwneud yr un peth. Felly, dyma rannu’r hanes gyda chi er mwyn i chithau hefyd fentro allan i harddwch eich ardaloedd i foli a diolch i Dduw yn ystod yr nydref. Nid oes rhaid mynd yn bell wrth gwrs – ewch i ardd eich addoldy; i’r parc; y warchodfa natur leol neu i unrhyw lecyn o harddwch sydd yn lleol i’ch cynulleidfa, ac ewch â phicnic efo chi!

Y rheswm gwreiddiol dros benderfynu gwneud y daith yma oedd i gefnogi’r Cristnogion ifanc (YCCN – Young Christian Climate Network) sydd yn cerdded o Gernyw yn dilyn y G7 ym mis Mehefin i Glasgow ar gyfer COP26 ym mis Tachwedd. Mewn amseroedd ‘normal’ fe fyddwn wedi trefnu llond bws mini i ymuno efo nhw am ddiwrnod yng nghyffiniau gogledd Lloegr, ond oherwydd amgylchiadau Cofid fe wnaethpwyd taith leol gan gysylltu â nhw yn ddigidol gyda lluniau a neges o anogaeth. Roeddent wedi gwirioni a gwerthfawrogi hyn yn fawr iawn.

Mae’r argyfwng hinsawdd yn storm sy’n wynebu pawb dros y byd, ond tydi pawb ddim yn yr un cwch! Bob dydd, mae cymunedau tlotaf y byd yn brwydro i oroesi yn erbyn yr argyfwng hinsawdd, a’r cymunedau yma sydd wedi cyfrannu leiaf i’r argyfwng. Dyma neges bwysig YCCN a Cymorth Cristnogol i COP26.

Ym mis Tachwedd eleni bydd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn llywyddu trafodaethau Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow, sef COP26. Mae Cymorth Cristnogol yn credu bod yna ffordd well, ac yn galw am Gyfiawnder Hinsawdd, yn galw am ddyfodol gwyrddach, heb adael neb ar ôl. Dyma oedd ffocws ein taith gerdded wrth i ni ddathlu a diolch am y greadigaeth a myfyrio ac ymgyrchu dros ddyfodol gwyrddach i bawb. Mae pecyn Rise to the Moment ar gael gan Gymorth Cristnogol ac YCCN yn cynnwys cyfarwyddiadau sut i wneud cwch origami. Bwriad y gweithgaredd yma yw myfyrio a gweddïo ar Gyfiawnder Hinsawdd, tynnu llun eich gweithgaredd a’i anfon ymlaen i Gymorth Cristnogol: droberts@cymorth-cristnogol.org. Hefyd, anfonwch eich cychod gweddi i PO Box 100, London SE1 7RT, erbyn 15fed Hydref er mwyn gwneud darn o waith ymgyrchu enfawr yn COP26. Ar wefan Cymorth Cristnogol gofynnwn i chi arwyddo ein deiseb am Gyfiawnder Hinsawdd ac mae engraifft o ebost i chi ei anfon i’ch Aelod Seneddol ar gael hefyd www.christianaid.org.uk/campaigns

Roedd y daith i Fwlch y Ddeufaen yn ddiwrnod arbennig iawn. Er i ni gychwyn yn y niwl a’r glaw mân, fe giliodd y niwl erbyn i ni gyrraedd y bwlch. Llecyn hyfryd oedd hwn i gael ein cinio ac i fyfyrio ymhellach drwy gynnal myfyrdod. Dyma’r myfyrdod a ddefnyddiwyd gennym ym Mwlch y Ddeufaen, gyda rhan ar gyfer arweinydd a darnau eraill wedi eu rhannu gyda’r cerddwyr. Mae croeso i chi ei ddefnyddio a’i addasu, wrth gwrs, i’ch anghenion lleol.

Myfyrdod awyr agored

Gweddi

Dduw’r Creawdwr, o’r goeden yng ngardd Eden, i’r goeden yn y ddinas yn y Datguddiad, diolch i ti am dy weledigaeth o greadigaeth wedi ei hiacháu. Helpa ni i fod yn asiant yr adferiad, yn gofalu am brydferthwch y ddaear, a galluogi dy gynllun i iacháu’r cenhedloedd. Amen.

Arweinydd

Wrth i ni fyfyrio a gweddïo tu allan, pa ffordd well sydd i ddathlu a diolch am y greadigaeth, i fyfyrio ar obaith a chyfiawder hinsawdd yn ein byd? Diolch am y cyfle i gefnogi o bell y bobl ifanc sydd yn cerdded i Glasgow gyda’r neges enfawr i’n gwleidyddion rhyngwladol – ein bod yn yr un storm, y storm o newid yn yr hinsawdd, ond nad ydym ni yn yr un cwch. Gweddïwn am ddyfodol gwyrddach heb adael neb ar ôl.

Darlleniad Salm 104: 10–18

Arweinydd

Myfyriwch ar ble rydych yn cynnal eich myfyrdod, ar y ffordd mae’r ddaear yn ein cynnal fel cenedl. Mae’r darlleniad yn ein hatgoffa o’r sefyllfa heddiw yn Affganistan, lle ddylai fod harmoni rhwng y ddaear a’r genedl. Gweddïwn fod cymorth yn cyrraedd pawb sydd mewn angen yn Affganistan oherwydd y gwrthdaro, cyfiawnder hinsawdd a Chofid-19. Mae miloedd wedi eu dadleoli o’u cartrefi ac yn wynebu newyn. Gweddïwn am heddwch ac y caiff hawliau dynol pobl Affganistan eu gwarchod.

Yn Haiti mae storm Grace, ddilynodd y daeargryn ym mis Awst eleni, wedi dinistrio’r cynhaeaf ffa, india-corn a ymas, sef y bwydydd mwyaf pwysig mewn cymunedau tlawd. Golyga hyn y bydd llai o fwyd ar gael, gan arwain at brisiau uwch am fwyd. Rydym yn gresynu deall hefyd fod pobl fregus Les Cayes, sef y merched a’r plant, yr henoed a’r anabl, wedi gorfod eistedd allan yn yr awyr agored with i storm Grace fynd heibio. Gweddïwn dros waith partneriaid Cymorth Cristnogol yn Haiti.

Yn Malawi mae Etiness yn brwydro drwy lifogydd i achub rhywfaint o’r cnydau, tra mae sychder difrifol mewn ardaloedd eraill o Malawi. Mae Etiness yn ffyddiog y bydd cymorth ychwanegol drwy ein partneriaid yn Malawi yn helpu rhoi gobaith a gweledigaeth i Etiness oroesi ac adeiladu i’r dyfodol yn wyneb newid hinsawdd.

Darlleniad Eseia 24: 4–5

Arweinydd

Ystyriwch y darlleniad ochr yn ochr â thrafodaethau COP26 ym mis Tachwedd a’r rheswm dros gynnal eich myfyrdod heddiw. Gweddïwch y bydd trafodaethau COP26 yn codi i foesau uwch o gariad, egwyddorion, heddwch, urddas, cyfartaledd a chyfiawnder i bawb.

Gweddïwn (gyda saib ar gyfer gweddi bersonol)

Ein Tad, diolchwn i Ti am y byd anhygoel rwyt ti wedi ei greu, y byd wnest Ti ofyn i ni ofalu amdano. Maddau i ni, o Dduw, fod yr ymrwymiad hwn oedd i fod am byth, wedi torri. Wrth i ni gerdded heddiw, Arglwydd, rydym wedi ein syfrdanu gan harddwch y cread. Rhyfeddwn wrth weld planhigion a choed sydd yn gartre i greaduriaid gwyllt. Rydym wedi synnu ar y ffordd mae’r golau heddiw yn codi’r harddwch o’n cwmpas. Diolch i ti, o Dduw, am harddwch y greadigaeth.

Saib

Rhannwn ein pryder â Thi, o Dduw, am y tristwch sydd yn y byd heddiw. Gweddïwn dros ein brodyr a’n chwiorydd sydd yn byw bywyd o ofn mewn rhyfel a gwrthdaro, sy’n wynebu newyn ac sydd heb ddŵr glân – teuluoedd yn brwydro drwy lifogydd a stormydd garw. Maddau i ni, o Arglwydd, am ein gweithredoedd sy’n achosi niwed yn y byd. Rydym yn dyheu am newid ac yn gweddïo am heddwch ac iachâd ar y ddaear.

Saib

Arglwydd, agor ein calonnau a’n meddyliau wrth i ni weddïo. Gofynnwn y bydd trafodaethau COP26 yn arwain at y gobaith y bydd lleisiau cymunedau mwyaf bregus yn ein byd yn cael eu clywed.

Saib

Ein Tad, diolch i Ti am dy gariad, y cariad sydd yn adfer, y cariad sy’n adnewyddu, y cariad sy’n adeiladu gobaith. Helpa ni bob dydd i adnabod cyfleoedd ymarferol i roi dy gariad ar waith yn enw Iesu Grist, ein Harglwydd. Amen.

Llinos Roberts (Cymorth Cristnogol)

Meddai’r diweddar Esgob John Selby Spong

Meddai’r diweddar Esgob John Selby Spong…

Bu farw John Spong ar 12 Medi yn 90 oed (gw. e-fwletin, 19 Medi). Rhwng 1973 a 2018 cyhoeddodd 26 o gyfrolau, gan ysgrifennu’n helaeth ar y Beibl a sut i gyflwyno Cristnogaeth i oes (yn y gorllewin) sydd wedi hen droi cefn ar grefydd draddodiadol o safbwynt cred a sefydliadau cyfundrefnol. Efallai mai’r gyfrol Jesus for the non-religious (2007) sy’n cyfleu orau nod ei waith a’i weinidogaeth fel esgob, ysgolhaig a Christion radical. Mae’n waith ac yn weinidogaeth i ni i gyd. Os bu esgob ac ysgolhaig dadleuol yn America erioed, Spong oedd hwnnw.

 

>>>>>>>>>>>>>><<<<<<<<<<<<<<

Nid Cristion yw Duw, nac Iddew, nid Mwslim, Hindw na Bwdydd chwaith. Crefyddau o greadigaeth feidrol ydynt i’n galluogi i gerdded yn nirgelwch Duw. Rwy’n anrhydeddu fy nhraddodiad, rwy’n cerdded yn fy nhraddodiad a thrwyddo. Nid yw fy nhraddodiad yn diffinio Duw, ond yn hytrach yn fy nghyfeirio tuag at Dduw.

Nid hawlio’r gwirionedd y mae gwir grefydd. Ni all yr un grefydd wneud hynny. Yn hytrach, gwahoddiad i fynd ar daith sy’n arwain at ddirgelwch Duw ydyw. Eilunaddoliaeth yw crefydd sy’n credu bod yr holl atebion ganddi.

Mae’r eglwys fel pwll nofio. Daw’r sŵn mwyaf o’r pen bas.

Mae’r darlun o’r groes fel Duw yn aberthu ei fab dros bechodau’r byd yn ddarlun cyntefig wedi ei sylfaenu ar ddarlun cyntefig o Dduw.

Mae’r Beibl wedi colli sawl brwydr. Dyfynnwyd y Beibl i amddiffyn caethwasiaeth. Ond collodd y frwydr. Fe’i dyfynnwyd i gadw merched yn dawel yn eu lle. Collodd honno hefyd. Ac mae’n cael ei ddyfynnu i geisio atal hoywon rhag cael eu hawliau sylfaenol – ac mae’n colli’r frwydr honno eto.

Mae pob bod meidrol yn cario delw Duw a rhaid parchu pob person oherwydd yr hyn ydyw. Felly, nid oes diffiniad allanol, boed wedi ei sylfaenu ar hil, cenedl neu rywioldeb y gellir ei ddefnyddio i wrthod neb neu i wahardd neb.

Ein problem yw nid yn gymaint ein bod wedi ‘syrthio’ ond nad ydym yn gwybod beth yw bod yn feidrol. Y cwestiwn yw: beth all ein gwneud yn feidrol fel y gallwn rannu bywyd a rhannu cariad yn hytrach na gwarchod ac amddiffyn ein bywyd ein hunain yn barhaus. Felly yr wyf fi’n gweld y stori am Iesu ac mae’n stori fawr a grymus.

Mae pob crefydd yn awyddus i brofi mai ganddi hi mae’r gwir. Dyna pryd mae’n troi’n ddieflig. Dyna pryd y mae rhyfeloedd crefyddol, erledigaeth o bob math a llosgi hereticiad wedi digwydd, ac yn parhau i ddigwydd.

Duw yw’r presenoldeb na allwn byth ei ddiffinio, ond ni allwn chwaith ei wadu.

Os na allwn gredu yn atgyfodiad Iesu heb dderbyn yn llawn yr adroddiadau am yr atgyfodiad yn yr Efengylau, yna mae ar ben arnom. Mae’r credu hwnnw’n amhosibl ac os dyna’r cyfan sydd gennym, yna mae dyddiau Cristnogaeth, sy’n dibynnu ar wirionedd a dilysrwydd Iesu, ar ben.

Yn ei brolog o fyfyrdod tair tudalen, fel hyn y mae Spong yn gorffen ei brolog i’r gyfrol Jesus for the non religious:

Yr wyf yn parhau, Iesu, i geisio meddiannu’r hyn a gredaf wyt ti:
y ffordd
i ffynhonnell bywyd,
i ffynhonnell cariad,
i wreiddyn bod
a’r drws i ddirgelwch y sanctaidd.

Trwy’r drws hwnnw yr wyf yn dyheu am gerdded.
A wnei di fy nghyfarfod yno?
A wnei di fy herio yno?
A wnei di fy arwain yno
a datguddio dy wirionedd i mi ac ynof fi?

Ac ar ddiwedd y daith hon, Iesu,
a wnei di fy nghofleidio
yn y gwirionedd eithaf
a alwaf yn Dduw,
yn yr hwn yr wyf yn byw
ac yn symud,
ac yn awr yn bod?
Dyna, Iesu, fy nod yn y gyfrol hon.

 

Gwyddau gwyllt

Gwyddau Gwyllt

Rhannodd ffrind i mi y gerdd isod gan Mary Oliver ar dudalen gweplyfr i goffáu 9/11. 

Fy ymateb cyntaf oedd meddwl am logo Gwasg Gyhoeddi Cymuned Iona – Wild Goose Publications – sy’n ein hatgoffa bod yr ŵydd wyllt yn hen symbol Celtaidd o’r Ysbryd Glân.

Mae fy ail ymateb yn tarddu o’n camddealltwriaeth ddiwinyddol dros ddegawdau am le’r ddynoliaeth yn y greadigaeth. Fy nheimlad ydi ein bod wedi camddefnyddio Salm 8 i gyfiawnhau ein gormes a’n rhaib o adnoddau’r byd wrth i ni arglwyddiaethu’n drahaus ar dir y lord.

Efallai mod i’n gorymateb ond dyma rydd-gyfieithiad o’r gerdd efo rhywfaint o addasu i dirwedd a chyd-destun Cymreig.

Gwyddau Gwylltion

Does dim raid i ti fod yn dda
does dim raid i ti gerdded can milltir ar dy liniau
drwy’r anialwch mewn edifeirwch

Dim ond gadael i anifail meddal dy gorff garu’r hyn y mae’n ei garu

Dywed wrthyf am anobaith, dy anobaith di – ac fe gei glywed f’un innau.

Yn y cyfamser mae’r byd yn mynd yn ei flaen
mae’r haul a defnynnau clir y glaw
yn symud ar draws y tirweddau
dros y dolydd a’r coedwigoedd dyfnion,
y mynyddoedd a’r afonydd.

Yn y cyfamser mae’r gwyddau gwylltion, yn uchel yn yr awyr las
yn hedfan yn ôl tuag adref.

Waeth pwy wyt ti, waeth pa mor unig wyt ti
mae’r byd yn cynnig ei hun i’th ddychymyg,
yn galw arnat fel y gwyddau gwylltion – yn gras ac yn llawn cyffro
drosodd a throsodd, yn cyhoeddi dy le
yn nheulu’r creaduriaid.

Dyma recordiad o Mary Oliver yn darllen ei cherdd.

AJE

Gwahoddiad – Cyfarfod Blynyddol

CYFARFOD BLYNYDDOL CRISTNOGAETH 21

Wrth i ni gamu’n betrus allan o’r cyfnod clo, mae’r drafodaeth eisoes wedi dechrau bywiogi ynghylch natur y weinidogaeth fydd yn ein hwynebu yn y blynyddoedd sydd i ddod. Nid bod hynny’n beth newydd mewn gwirionedd, gan bod ‘Dyfodol y Weinidogaeth’ wedi bod yn bwnc trafod mewn rhai cylchoedd ers degawdau. Ond efallai fod mwy o reswm dros wyntyllu’r mater eleni nag erioed o’r blaen.

Dros y misoedd diwethaf, bu pwyllgor Cristnogaeth 21 yn trafod pa ffurf y gallai gweinidogaeth amgen ei chymryd, a chlywsom am wahanol fodelau llwyddiannus a chyffrous o bob cwr o Gymru. Derbyniwyd adroddiadau i’r gwrthwyneb hefyd, wrth i hanesion ein cyrraedd am gapeli’n colli hyder ac yn ofni ailagor am wahanol resymau. Yn wyneb hyn i gyd, buom yn pwysleisio wrth ein gilydd pa mor werthfawr yw rhannu gwybodaeth am arferion da, a gyda hynny mewn golwg roedd thema ein Cyfarfod Blynyddol eleni yn cynnig ei hun yn rhwydd.

Ar Zoom y cynhelir y sesiwn, sydd i ddechrau am 7:00pm nos Fawrth, Medi 28ain. Neilltuir y rhan gyntaf i drafodaeth gyda thri o siaradwyr cymeradwy iawn yn agor y mater. Cawn glywed gan Aled Davies, Cyngor yr Ysgolion Sul a Chyhoeddiadau’r Gair, Eileen Davies, Archddiacon Ceredigion ac un o sylfaenwyr yr elusen Tir Dewi, a’r bardd Karen Owen sy’n arloesi gyda chynllun cyffrous iawn yn Nyffryn Nantlle. Wedi iddyn nhw rannu eu profiadau a’u gweledigaeth am tua 10 munud yr un, bydd Anna Jane Evans yn agor y drafodaeth i‘r rhai sy’n bresennol.

Mae croeso i bawb ymuno â ni ar gyfer y cyfarfod, ond bydd angen cofrestru ymlaen llaw, a gellir gwneud hynny drwy anfon cais ar e-bost i cristnogaeth21@gmail.com cyn Medi 22ain er mwyn derbyn y ddolen Zoom.

Disgwylir i ran gyntaf y cyfarfod ddod i ben tua 8:15 o’r gloch.

Bydd ail ran y cyfarfod yn para tua 20 munud ac yn ymwneud â materion busnes Cristnogaeth 21, gan ddilyn yr agenda ganlynol:

(i)              Cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd Nos Fercher, Gorffennaf 15fed 2020.
(ii)            Adroddiad y Cadeirydd, Anna Jane Evans
(iii)           Adroddiad y Trysorydd, Gareth Ff. Roberts
(iv)           Ailethol Ymddiriedolwyr
(v)             Unrhyw Fater Arall

Yn gyfansoddiadol, rhaid i unrhyw gynnig o dan Eitem (v) gyrraedd yr Ysgrifennydd erbyn 5:00p.m. nos Wener, 24ain o Fedi.

Gan obeithio y cawn eich gweld bryd hynny!

Cristnogaeth 21

Diwrnod Cofleidio’r Dwyrain Canol

Gwahoddiad

Gwahoddiad gan Anna Georgina Chitty o Morfa Nefyn i ymuno yn Niwrnod Cofleidio’r Dwyrain Canol, 25 Medi 2021

 Dydd Sadwrn, 25 Medi

Ar-lein, 11–2 (yn cynnwys toriad i ginio)

Nid elusen newydd yw Cofleidio’r Dwyrain Canol (Embrace the Middle East). Mae wedi bod yn helpu pobl dan anfantais yn y Dwyrain Canol er pan gafodd ei sefydlu fel Turkish Missions’ Aid Society yn 1854, bryd hwnnw i gefnogi’r Armeniaid yn Nhwrci oedd yn byw dan ormes yr Ymerodraeth Otomanaidd.

Y dyddiau hyn, mae ‘Cofleidio’ yn gweithio gyda phartneriaid Cristnogol o bob enwad yn Libanus, Syria, Irac, Palesteina/Israel, ac yn yr Aifft. Mae gofalu am y mwyaf bregus mewn cymdeithas – plant, yr anabl, menywod a chleifion – wrth galon pob un o’r sefydliadau sy’n bartneriaid, ond ar ben hynny bellach rhaid meddwl am her a bygythiad Covid.

Ym Mhalesteina mae’r trawma y mae pobl yn ei ddioddef beunydd yn cynnwys cyrchoedd awyr yn Gaza – ymosodiadau ymsefydlwyr ar y Lan Orllewinol – a phlant yn cael eu harestio ar gam a’u cam-drin.

Yn Libanus, flwyddyn ar ôl y ffrwydrad erchyll yn Beirut, lle nad oes llywodraeth weithredol a lle mae gwerth arian wedi plymio, mae’r sefyllfa’n amhosib. Gwlad fach iawn ydi Libanus, ac mae wedi croesawu llu o ffoaduriaid o Syria yn ychwanegol at y Palestiniaid oedd yno ynghynt.

Ond er gwaetha’r holl rwystrau a’r amgylchiadau anodd, mae partneriaid Cofleidio yn dal i ddangos cariad Crist, ac yn cynnal golau gobaith mewn tywyllwch. Er nad yw’r gobaith i’w weld yn amlwg ar raddfa eang, mae gweithredoedd bychain da yn ddigon gyda’i gilydd i newid sawl bywyd.

Bob blwyddyn, mae’n arferiad gan Cofleidio i wahodd cynrychiolydd un o’r partneriaid i siarad â’r cefnogwyr am eu gwaith, a hyd at 2019 byddent yn cynnal dau Embrace Days, un yn yr Alban ac un yn Llundain.

Ond o’r diwedd, yn 2019, cawsom ddiwrnod Cofleidio yng Nghymru, yng Nghadeirlan Llandaf – digwyddiad gyda’r nos, yn dechrau gyda Gosber ac yn cynnwys lluniaeth (pwysig!) cyn anerchiadau gan Brif Weithredwr Cofleidio, a’r Archesgob Paul Sayah o Libanus. I gloi’r noson (ffordd dda o ymlacio’r meddwl), fe wnaeth Elin Fouladi a Dafydd Dabson lenwi’r gadeirlan â swyn llais a gitâr. Roedd yn llwyddiant mawr!

Roedd gennym ni gynlluniau mawr ar gyfer “Embrace Day Cardiff 2020”, ond, wrth gwrs, cyrhaeddodd Cofid a difetha pethau. Eleni bydd yr “Embrace Day” rhithiol cyntaf – dros y Deyrnas Unedig i gyd ar 25 Medi. Bydd yna siaradwyr, wrth gwrs – yn cynnwys Dr Alia Abboud a Dr Nabil Costa o Libanus. Ac yn ystod oedfa’r prynhawn byddwn ni’n medru cydio llaw mewn gweddi gyda’n brodyr a’n chwiorydd yn y Dwyrain Canol, ac ar draws ffiniau agosach, gyda ffrindiau o’r Alban ac o Loegr.

Comisiynwyd Sioned Webb i gyfansoddi darn o gerddoriaeth ar gyfer y defosiwn a’r gweddïau fydd yn cael eu cyhoeddi ar-lein fel rhan o’r diwrnod. Mae’n gymysgfa o arddulliau a cherddoriaeth ddwyreiniol a Chymreig.

‘Dwi wedi bod yn gweithio gyda Salih Hassan o Gaerdydd (Palesteina yn wreiddiol),’ meddai Sioned, ‘Mae o’n chwarae offeryn yr oud a dwi wedi’i gynnwys yn y gwaith. Dwi hefyd wedi cynnwys yr emyn-dôn “Aberystwyth”. Arfon Gwilym sy’n canu ac mae’r geiriau wedi’u hysbrydoli gan Esyllt Maelor wedi iddi hi glywed sgwrs y pensaer Naseer Arafat o Nablus ym Mhlas Tan-y-bwlch rai blynyddoedd yn ôl. Dyma’r geiriau:

Gwrando’n gweddïau, ailgodi’n tai,
ailafael ynddi, dyfalbarhau;
gweddi am obaith y daw hyn i ben
a choflaid fach dyner heddwch, Amen.

Felly, ymunwch â ni, os medrwch chi, i ddysgu ac i weddïo dros bobl y Dwyrain Canol. Gallwch gofrestru drwy’r ddolen hon:

Embrace Day 2021