Archif Tag: Bore Cothi

Dim lle, dim amser, dim gwerth

Dim lle, dim amser, dim gwerth

Pori drwy gyfrol gyfoethog y diweddar Elfed ap Nefydd Roberts, Gwerth y Funud Dawel (Cyhoeddiadau’r Gair £12.99) wnaeth dynnu fy sylw ar newid arall yng nghyfraniad y meddwl a’r bywyd Cristnogol i fywyd cyhoeddus Cymru. Ac nid yw’n ymddangos (o’r hyn a welais ac a glywais) fod neb wedi sylwi hyd yn oed, ar wahân i erthygl yn Y Tyst. Fe ddigwyddodd mor dawel â chau capel. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae lleisiau wedi codi ynglŷn â chau a gwerthu capeli, ond o gyfeiriad gwahanol i’r ffaith fod man cyhoeddus o addoli wedi diflannu yn y gymuned.

Mae’r gyfrol Gwerth y Funud Dawel yn cynnwys 150 o gyfraniadau ‘Munud i Feddwl’ a ddarlledwyd ar Radio Cymru dros 30 mlynedd. Mae’n rhyfeddod fod y gyfrol hon wedi ei chyhoeddi o fewn llai na dwy flynedd i farwolaeth yr awdur. Mae’n dweud llawer am ddisgyblaeth a threfnusrwydd yr awdur ei hun, ei fod wedi cyflwyno’r cyfan i’r wasg, ac mae’n dweud llawer iawn fod Cyhoeddiadau’r Gair a golygyddion (Olaf a Helen Davies) y gyfrol hon wedi llwyddo i gyhoeddi mewn ychydig fisoedd. Nid yn unig y gyfrol hon, ond cyhoeddwyd hefyd gan yr un wasg y gyfrol â’r teitl Cymer fy Munudau (golygwyd gan Trefor Lewis ac Aled Davies), cyfrol o weddïau Elfed dros gyfnod o 50 mlynedd – cyfoeth yn wir – yr un pryd â Gwerth y Funud Dawel. A ddaeth cymaint o gyfoeth o dristwch marwolaeth Elfed ap Nefydd Roberts ac o argyfwng y pandemig?

Mae Gwerth y Funud Dawel yn cynnwys y dystiolaeth orau posibl i werth a phwrpas ‘Munud i Feddwl’ dros y blynyddoedd. Roedd Elfed yn feistr ar gyfathrebu â chynulleidfa gymysg sy’n gwrando neu’n hanner gwrando ym mhrysurdeb dechrau’r dydd yn y tŷ, yn y car, yn y gwaith ac yn y gwely. Nid oes yma bregethu na doethinebu, ond mae yma sylwadau a chwestiynau lliwgar a diddorol, llawn hiwmor a ffraethineb yn cael eu codi ynglŷn â digwyddiadau a newyddion y dydd. Dyma’r union ddeunydd y mae Radio Cymru wedi gofyn amdano gan gyfranwyr ‘Munud i Feddwl’. A hyn mewn llai na dau funud! Ond dros y blynyddoedd bu rhywfaint o lacio ar y canllawiau ac aeth nifer o gyfranwyr i gyffredinoli gan osgoi ymateb i newyddion y dydd. Ar un cyfnod hefyd fe newidiwyd y teitl i ‘Dweud ei ddweud’, a oedd mewn perygl o fod yn focs sebon i unrhyw bwnc dan haul.

Nid yw cyfrol gyfoethog Elfed yn gyfrol i’w darllen o glawr i glawr, wrth gwrs, ond i’w darllen fesul tudalen neu ddwy fel cyfrol bwrdd coffi heb luniau. Mae rhywbeth i’n goleuo a’n herio ar bob tudalen, ond gyda hyder tawel argyhoeddiad Cristnogol yr awdur. Ar yr un pryd mae’n llwyddo i ganu cloch neu ddeffro meddyliau yn yr amheus, y sinig a’r di-gred. Ond mae’r ddau funud yn gwneud mwy na hynny.

Yn sydyn, ddechrau Medi 2020, penderfynodd y rhai sy’n gyfrifol am Dros Frecwast (y teitl bellach) nad oedd lle nac angen ‘Munud i Feddwl’ mewn rhaglen ddwyawr, brysur o newyddion – dim i arafu’r ‘bwrlwm boreol’. Mae’n rhaglen ardderchog ac mae’n rhan naturiol o’r bore (er bod adnoddau Radio 4 yn demtiad weithiau) ac mae amserlen ddyddiol ein cartref ni’n troi o gwmpas Radio Cymru (er ein bod yn araf iawn yn cyfarwyddo â’r rhaglenni am 9 o’r gloch yr hwyr !).

Ddiwrnod neu ddau cyn patrwm arferol ‘Munud i Feddwl’, rhoddwyd gwybod i gyfranwyr ddechrau Medi mai ar rhaglen Shân Cothi, Bore Cothi, y byddai ‘Munud i Feddwl’ o hyn ymlaen, a hynny, yn ôl yr ymchwilydd ar y pryd, oherwydd y byddai ‘Munud i Feddwl’ yn cael mwy o chwarae teg a sylw ar raglen arall. Nid oedd unrhyw gwestiwn o ddileu ‘Munud i Feddwl’ oherwydd mae’n rhy bwysig i Radio Cymru ac mae gan Radio Cymru ymrwymiad i ddarlledu crefyddol. Mae Oedfa’r Bore o safon uchel ac amrywiol ac mae Bwrw Golwg i’w chymharu ag unrhyw raglen newyddion – ond gyda llai o adnoddau – sy’n trafod pynciau cyfoes yn ddeallus a chytbwys. Wrth gwrs, cwmni annibynnol sy’n cynhyrchu’r ddwy raglen erbyn hyn. Mae hynny hefyd yn wir am Caniadaeth y Cysegr, sy’n cael ei darlledu ddwywaith y Sul ac, fel Dechrau Canu, Dechrau Canmol ar S4C, yn rhaglen na fyddai Radio Cymru yn meidddio ei dileu heb fonllefau o brotest.

Ond dilëwyd ‘Munud i Feddwl’ o raglen newyddion. Wedi cysylltu â BBC Radio 4, Radio Scotland, a Radio Ulster, mae’n amlwg na fyddant yn ystyried dileu ‘Thought for the Day’ o’u rhaglen newyddion foreol. Pam, tybed? Am fod sylwadau moesol/crefyddol/ysbrydol a golwg ehangach ar y newyddion na’r newyddion ei hun yn gynyddol bwysig drwy’r byd. Bu ymdrech i ddileu ‘Thought for the Day’ yn y gorffennol, ond roedd barn y bobl yn wahanol. Yn rhyfedd iawn, oherwydd bod cymaint wedi colli ymddiriedaeth yn y cyfundrefnau crefyddol (ac yn arbennig eu harweinwyr), mae diddordeb mewn agweddau moesol ac ysbrydol, yn bersonol, yn gymunedol ac yn fyd-eang, ar gynnydd. Methiant yw anwybyddu hynny heb sôn am geisio’i ddileu.

Ond nid y gynulleidfa a’r cyflwynwyr yw’r unig wahaniaeth rhwng ‘Munud i Feddwl’ ar raglen Shân Cothi a ‘Munud i Feddwl’ ar Dros Frecwast – na’r cynnwys chwaith, o angenrhreidrwydd. Mae Shân Cothi wrth ei bodd gydag emynau a thonau a dychmygu merched yn gwisgo het yn y Gymanfa Ganu. Mae crefydd a chrefydda yn rhan o’i chefndir a’i diwylliant Cymraeg. Mae’n ddarlledwraig boblogaidd ac mae’n rhaglen ysgafn a hwyliog. Ond rhaglen newyddion yw Dros Frecwast, rhaglen – a defnyddio’r jargon darlledu – ‘newyddion caled’, ond yn cynnwys pob math o bynciau y mae gan ddarlledu cyhoeddus gyfrifoldeb i’w cynnwys.

Erbyn hyn, y gred gyffredinol yw mai mater personol yw crefydd, a rhodder ‘slot crefyddol’ i’r rhai sydd â diddordeb.

O bori yn y gyfrol hon, mae Cymru ar ei cholled, nid yn unig o golli Elfed, ond fod y rhaglen Dros Frecwast ar ei cholled o golli ‘Munud i Feddwl’ ar ei orau.

Pryderi Llwyd Jones