Dyfodol y Weiniogaeth ii

Cynhadledd Rhithiol Cristnogaeth 21

Dyfodol y Weiniogaeth

Nos Fawrth, 28 Medi

Cafwyd arweiniad gan dri yn y gynhadledd ac yma cyflwynwn grynodeb o arweiniad Eileen Davies a Karen Owen. Cyhoeddwyd arweiniad Aled Davies eisoes.

Mae’r Parchedig Eileen Davies yn Archddiacon Aberteifi ac, ynghyd â’r Esgob Wyn Evans (sydd bellach wedi ymddeol) yn gyfrifol am sefydlu Tir Dewi fel llinell gymorth a gwasanaeth cefnogi i ffermwyr a’u teuluoedd yn wyneb anghenion a phroblemau’r gymuned wledig ac ym mywydau ffermwyr. Mewn pum mlynedd mae Tir Dewi (sydd bellach wedi ymestyn tu hwnt i Esgobaeth Tyddewi) wedi cynnig arweiniad chefnogaeth i o leiaf 200 o ffermwyr.

Yn ystod y deunaw mis diwethaf rwy’n teimlo fod yr Arglwydd Dduw wedi rhoi cyfle i’n heglwysi ddihuno er mwyn cyrraedd pobl gyda’r Newyddion Da, a hynny mewn dull a modd na fyddem wedi eu cyrraedd o fod yn ein hadeiladau. Felly, rydym wedi cael amser i aros ac i adlewyrchu ar beth yw ein prif wasanaeth ni fel eglwysi. Ai’r bobl sydd yn mynychu ein hadeiladau o Sul i Sul yw’r unig bobl yr ydym am rannu’r Efengyl gyda hwy? Neu a ydym yn mynd i gyrraedd – drwy dechnoleg – bawb sydd yn barod i wrando ar Ei Air. I mi, dyna yw Newyddion Da.

Boed i ni fod yn agored i wrando ar arweiniad yr Ysbryd Glân i gydwasanaethu a datgan yr Efengyl a cheisio cyrraedd pawb, lle bynnag y maent yn teimlo’n gyfforddus a chartrefol. Fe hoffwn feddwl fod Dyfodol y Weinidogaeth yn rhoi cip i ni ar ran o’r dyfodol hwnnw yn Nhir Dewi a datblygiadau tebyg ym mhob rhan o’n gwlad a’n byd. Dyna yw – a dyna fydd – gweinidogaeth.

Eileen Davies

…………………………………………….

Mae Karen Owen yn weithgar yn Nyffryn Nantlle (a thu hwnt fel bardd ac ym myd y celfyddydau gyda’i chyfraniadau cyson ar y cyfryngau) ac yn arbennig erbyn hyn gyda rhai o eglwysi Pen-y-groes a’r ffordd ymlaen i’r dyfodol. Dyma grynodeb o’i chyflwyniad.

Ym Mawrth 2020, roedd pobol yn dweud, “W, fydd pethau fyth yr un fath wedi’r pandemig yma.” Gadewch i ni obeithio y bydd hynny’n wir, wrth i bobol a sefydliadau ffydd gael eu gorfodi i newid eu ffyrdd. Ond mae’n rhaid i hynny olygu meddwl yn wahanol, y tu allan i adeiladau’n unig, a beth ydi gweinidogaeth.

Mae’r mwyafrif o adeiladau yn rhai na fydd yn ailagor wedi i’r pandemig basio … ond dydi hynny ddim yn golygu fod y neges, y gweithgaredd na’r gwasanaeth i eraill yn dod i ben. Yn rhy hir, mae sefydliadau a threfniadaeth wedi disgwyl y bydd yr an-fynychwyr, rywbryd, yn gweld y golau ac yn “dod yn ôl” i wasanaeth ar y Sul. Yn groes i’r gred ddemocrataidd mai’r mwyafrif sy’n lleisio gwirionedd y sefyllfa, mae’r crefyddwyr yn dweud mai’r lleiafrif, y rheiny sy’n mynd i gapel, sy’n “iawn”, ac y daw’r gweddill i’w dilyn. Y gwir cymdeithasegol plaen yw fod y gweddill eisoes wedi pleidleisio efo’u traed, i beidio troi allan, am resymau ffydd, o brofiad personol ac o ganlyniad i lesgedd a chreulondeb y drefn. A bendith ar eu pennau, y nhw sydd yn iawn, gan nad rhwng pedair wal y mae Duw neb yn byw.

Mae’r 18 mis diwethaf wedi gweld y byd crefyddol yn gwneud mwy o ddefnydd o’r we ar gyfer cynnal cyfarfodydd – a da o beth ydi gweld tystiolaeth a chwmnïaeth ar y we, yn Gymraeg. Ond gwae ni rhag i ni syrthio i’r fagl o ailadrodd yr un hen bethau, a hynny ar sgrin. Mae angen cenadwri a cherbyd newydd er mwyn estyn allan a chyrrraedd pobol sydd wedi’u heithrio gan dlodi digidol, ac sy’n ysu am ateb 21ain ganrif, nid am ein mopio ni â’n clyfrwch ein hunain. Mae yma gyfle am chwyldro cymdeithasol, wrth ddefnyddio adeiladau gwag i fod yn bresenoldeb yng nghanol pobol go iawn. Mae’n golygu torchi llewys, gweinidogaeth, gwir weini wrth fyrddau fel diaconos yr Eglwys Fore.

Mae’n rhaid i’r hen drefn farw: y goler gron, y ffug barchusrwydd, y goslefu lleddf a’r pen ar dro … ac mae dirfawr angen gweithredu ymarferol, dewr, llawn cariad, at bobol y milflwydd sy’n wynebu byd ansicr. Mae eu hamgylchedd nhw’n marw; mae eu byd nhw’n lle creulon; mae eu cytundebau gwaith nhw’n methu cynnig sadrwydd iddyn nhw. Mae popeth fel petai dros dro ac yn annibynadwy … ac mae angen i weinidogaeth lenwi bylchau. Pan gawson nhw eu codi, roedd capeli yn aml yn fannau llawer gwell na chartrefi’r aelodau, ac yn llefydd cynnes ac i’r pwrpas yr oedd yn bleser eu mynychu bob nos o’r wythnos. Yn wyneb creulondeb cyni a chyfyngiadau materol, mae angen hynny eto ar gyfer cymunedau sy’n cael eu gwasgu.

Beth all capeli fod? Llochesau, canolfannau cyngor a helô; mannau cyfarfod; banciau bwyd, hybiau ar gyfer fflyd o fysiau mini i gario pobol i weld perthnasau mewn carchardai, ysbytai ac unedau iechyd meddwl. Mannau tawel mewn byd o ruthr. Lle diogel rhag camdriniaeth o bob math. A chanolfannau dysgu darllen a hyfforddiant ailgyfle o bob math. Ar ôl cyfnod o golli ei lle fel darparwr gwasanaethau cymdeithasol i wladwriaeth a dyfodd i fod yn ddarparwr swyddogol, mae angen ysgwyddo’r baich unwaith yn rhagor. Mae’n golygu torchi llewys. Mae’n golygu torri chwys. Ac mae’n gofyn i Drefn sydd wedi bod yn hunan-dwyllo wrth ddal i rygnu ar ei gliniau i fynd ar ei gliniau. Nid er mwyn rhwydo aelodau. Nid er mwyn cyfri pennau. Nid er mwyn brolio “capel Ni”. Ond er mwyn y gwaith sydd yn fwy na phob un ohonom ni.

Karen Owen