E-fwletin 10 Hydref 2021

Er fy mod yn dablan (fedra i ddim meddwl am air gwell, ac mae hwn yn cael sêl bendith Geiriadur Gomer) ar “Twitter” o bryd i’w gilydd, does gen i fawr o amynedd gyda’i frawd mawr “Facebook”. Rhan o’r rheswm mae’n siwr yw nad wyf erioed wedi deall y cyfrwng yn iawn, ond rhan arall yw’r amheuaeth fod y creadur wedi tyfu i fod yn fwystfil allan o reolaeth. Neu, a bod yn fwy manwl, wedi tyfu i fod yn fwystfil sy’n rheoli bywydau biliynau (ie, nid miliynau) o bobol ar draws y byd – gan gynnwys y chi a fi wrth gwrs.

Daeth hyn yn fwy clir yn ddiweddar pan fu Facebook (a’i blant niferus Whatsapp, Instagram ac ati) ar stop am oriau. Roedd yr esboniad am y digwyddiad yn ymylu ar ffars – sef bod Facebook yn rheoli cymaint o agweddau ar y rhithfyd digidol nes ei fod wedi cau ei hun allan o’i gartref ei hun! A’r ateb yn y pen draw oedd i rywun orfod teithio cannoedd o filltiroedd efo goriad i agor drws oedd yn caniatau mynediad i’r peiriannau oedd wedi cael eu diffodd gan Facebook ei hun, ond am nad oedd eu hebyst yn gweithio, doedd y neges ddim wedi ei derbyn. Mae’n siwr nad yw’r esboniad hwn yn hollol gywir gen i, ond siawns fod yma destun pregeth i rywun yn rhywle!

Ers y gyflafan hon (a gostiodd £6 biliwn i Mark Zuckerberg mae’n debyg, ond na phoenwch, mae ganddo £117 biliwn yn weddill), mae pethau go hallt wedi eu dweud am y modd y mae Facebook yn rheoli bywydau, ac yn enwedig bywydau pobol ifanc, a merched ifanc yn fwya penodol. Un o’r pethau mwyaf damniol a ddywedwyd – a hynny gan bobol hyddysg iawn yn y maes – oedd fod y cwmni yn ymwybodol iawn o’r peryglon hyn, ond am fod holl ethos y cwmni yn cael ei arwain gan algorithm sy’n gosod gwneud elw uwchben pob ystyriaeth arall, doedd dim modd – neu’n sicr ddim ewyllys nac awydd – i newid pethau. Gwneud elw, a mwy o elw yw’r duw sy’n rheoli.

Ond sut y mae’r cwmni anferthol hwn yn rheoli bywydau? Dyna yw’r cwestiwn y dylem bawb fod yn ei ofyn, er mwyn ceisio deall y grymoedd sydd ar waith yn well. Mae pob peth a ysgrifenniwn ar ddalennau Facebook , ac yn fwy brawychus fyth – pob peth a ddwedwn ar ein ffonau clyfar (neu hyd yn oed o fewn cyrraedd y ffonau hyn pan fyddan nhw ynghwsg!), a phob “like” a gliciwn, a phob nwydd a archebwn, yn mynd i mewn i fol y cyfrifiadur mawr canolog fel ei fod yn gwybod am ein cudd feddyliau a’n dyheadau oll. Ac o ganlyniad, mae negeseuon  – personol, masnachol a gwleidyddol – yn cael eu hanfon atom yn ddigymell, a hynny, yn ddiarwybod inni, yn penderfynu sut y byddwn yn siopa, sut y byddwn yn ymateb i ddigwyddiadau a syniadau, a sut y byddwn yn pleidleisio. Ond efallai mai’r gofid mwyaf yw fod y grymoedd cudd holl-bresennol hyn yn dylanwadu ar bobol ifanc a phobol unig a phobol ddiymgeledd nes achosi poen meddwl a cham-drin emosiynol.

Mae’n hawdd gorymateb i’r pethau hyn wrth gwrs, ac y mae’n hawdd i’r cyfan droi yn baranoia peryglus. Ond os yden ni o ddifri am geisio deall pam y daeth Donald Trump i rym, a sut y mae Boris Johnson yn dal mewn grym, efallai y dylem feddwl eto am ein cyfaill Facebook.