Dyfodol y Weinidogaeth

Cynhadledd Rithiol Cristnogaeth 21

Dyfodol y Weinidogaeth

Nos Fawrth, 28 Medi

Cafwyd arweiniad gan dri yn y Gynhadledd ac yr oedd y nifer yn bresennol yn awgrymu’r diddordeb ym mhob rhan o Gymru ac o fewn pob traddodiad yn y maes a’r sefyllfa sydd yn ein hwynebu.

Fe gyhoeddwn yma arweiniad y Parchedig ALED DAVIES, Chwilog, a’r wythnos nesaf fe fydd crynodeb o arweiniad y Parchedig Eileen Davies, Archddiacon Abertieifi, a Karen Owen Pen-y-groes.

Mae’n debyg ein bod ni’n trafod hyn yn bennaf yn sgil effaith Cofid-19 a 18 mis o geisio ymdopi ac addasu. Ond yr un mor berthnasol, efallai, yw trafod hyn yn sgil y pandemig ysbrydol ’dan ni wedi’i ddioddef ers hanner canrif a mwy.

Pan o’n i’n cychwyn yn y weinidogaeth dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, a hynny ym Mhontrhydfendigaid, roedd ’na lawer o sôn am y Parch. T. R. Morgan a fu yno’n weinidog am 56 mlynedd. Ond roedd T.R. hefyd yn dyddynnwr ac yn ffermio er mwyn helpu i’w gynnal ei hun a’i deulu. Wrth edrych tua’r dyfodol does gen i ddim amheuaeth na fydd llawer iawn mwy o gyfuno swyddi, cyfuno gofalaethau ac enwadau, a mwy o le i weinidogaeth leyg. Beryg mai prin iawn fydd y sefyllfa o un gweinidog yn cael ei gynnal yn gyfan gwbl gan un eglwys. Sawl gofalaeth erbyn hyn sy’n byw ar gyllid y gorffennol fel y gwna’n henwadau ni?

Falle hefyd fod angen gwahanu’r ‘gweinidog’ oddi wrth ‘y weinidogaeth’. Mae gweinidogaeth yn gymaint mwy na’r gweinidog wrth gwrs, a hawdd iawn i weinidogaeth fethu os ’dan ni’n dal i gredu y gall y gweinidog wneud pob dim. Dwi’n cofio clywed am flaenor yn deud un tro, wrth drafod pwy ddylai wneud rhyw dasg arbennig, ‘Pam cadw ci a chyfarth ein hunain?’ Ac yn yr un ffordd, mae sawl gweinidog wedi credu mai dim ond fe neu hi sy’n ddigon atebol i neud y gwaith, ac yn cadw rheolaeth dynn iawn ar bob dim, heb roi cyfle i eraill gyfrannu. Oes ’na ddisgwyliad bod y gweinidog yn feistr ar bob dim? ’Dan ni’n cofio hanes y ‘Jack of all trades’, yn tydan! Mae’r colegau diwinyddol yn dda iawn am ddysgu diwinyddiaeth ac athrawiaeth, am roi arweiniad ar sut i bregethu a bugeilio, ond fawr yn cael ei ddweud am sut i feithrin a rheoli tîm, ac annog a hyfforddi eraill. Falle fod angen ailddiffinio beth yw gweinidog hefyd. ’Dan ni’n dal i sôn am ‘weithiwr’ plant neu deuluoedd yn hytrach na ‘gweinidog’ – fel petai’r gwaith hwnnw’n eilradd. Oes ’na elfen hefyd o gredu mai gwaith y gweinidog yw ‘edrych ar ein holau ni’r aelodau’, ac efallai amharodrwydd i’w ryddhau i waith nad yw’n dod â budd uniongyrchol i’r capel?

Lle ’dan ni’n gweld dyfodol y weinidogaeth? Be ’di’r flaenoriaeth? Ai gweinidogaethu i’r 5% (ein pobol ni) neu gyrraedd y 95% nad oes gynnon ni bellach unrhyw gysylltiad â nhw? Her anferth y weinidogaeth yn y cyfnod yma yw dod o hyd i ffordd o arfogi holl bobl Dduw (y 5%) i ddod o hyd i’w lle yn y weinidogaeth, er mwyn cyrraedd a gweinidogaethu i’r 95% mewn ffordd sy’n berthnasol. Mae ’na lawer o sôn am ‘peer ministry’ – gweinidogaeth i’r bobl sy ’run oed â ni neu yn yr un cylch o fywyd, yn yr un gweithle, yn yr un gymdogaeth, yn gwylio’r un gêm bêl-droed neu’n yfed yn yr un dafarn â ni. Plant yn gweinidogaethu i blant; pobl ifanc yn gweinidogaethu i bobl ifanc. A phawb yn defnyddio’u doniau naturiol.

Gadewch i ni wrando ar eiriau Effesiaid 4: ‘Ond mae’r Meseia wedi rhannu ei roddion i bob un ohonon ni – a fe sydd wedi dewis beth i’w roi i bawb’. Ie, pob un ohonon ni wedi derbyn rhoddion ysbrydol, a hynny’n rhodd gan Grist. Nid gwaith i un person, wedi ei neilltuo i’r swydd a’i gynnal. Gwrandewch eto, ‘A dyma’i roddion: mae wedi penodi rhai i fod yn gynrychiolwyr personol iddo, eraill i fod yn broffwydi, eraill yn rhai sy’n rhannu’r newyddion da, ac eraill yn fugeiliaid ac athrawon. Maen nhw i alluogi pobl Dduw i gyd i’w wasanaethu mewn gwahanol ffyrdd, er mwyn gweld corff y Meseia, sef yr eglwys, yn tyfu’n gryf’.

Gweinidogaeth sy’n perthyn i bawb. Gweinidogaeth yr holl saint, holl gorff Crist, sy’n mynd i arwain at dwf a ffyniant yn y pen draw. Eto, gwrandewch ar y geiriau, ‘Y pen sy’n gwneud i’r corff weithio a thyfu. Fel mae pob rhan o’r corff wedi’i weu i’w gilydd, a’r gewynnau’n dal y cwbl gyda’i gilydd, mae’r eglwys yn tyfu ac yn cryfhau mewn cariad wrth i bob rhan wneud ei gwaith’.

Dwi am rannu’r sylwadau nesaf yn ddwy ran. Yn gyntaf, ein hymateb yn sgil Cofid-19 (am y ‘normal newydd’ a’r ‘eglwys hybrid’), ac yn ail ein hymateb i bandemig ysbrydol dros ddegawdau yng Nghymru.

Dwi’n cofio pan ddaeth y cyfnod clo cyntaf hwnnw ym mis Mawrth, 18 mis yn ôl, rhyw siarad rhwng gweinidogion, ‘Pryd wyt ti’n meddwl bydd pethe “back to normal”?’ ‘O, dwi’n amau yr aiff hi’n fis Mai/Mehefin – wel, falle bydd hi’n fis Medi cyn bydd popeth ’nôl i fel roedden nhw’! A dyma ni ym mis Medi, 12 mis yn ddiweddarach, ac yn bell iawn o fod ’nôl i fel roedd pethe ers talwm!

Tan 18 mis yn ôl, faint wyddai am Facebook Live? Lolipop oedd Zoom, a rhywbeth i bobl ifanc oedd YouTube! OND, fe gofleidiodd y saint y dechnoleg, ac o fewn dim roedd cynulleidfaoedd yn ymuno ag oedfaon ym mhob rhan o’r wlad. Dwi’n cofio fy hun, pan ddaeth y clo 6-wythnos, yn dweud ar y dechrau, ‘Wel dwi’n dallt dim am ffilmio a ballu – mae ’na ddigon o bobl allan yna sy’n llawer mwy abl na fi, ac fe wnawn ni annog pawb i ymuno gyda nhw’. Ond o fewn rhai wythnosau fe ddois i sylweddoli bod popeth yn newid – nad cyfnod o chwe wythnos roedden ni’n son amdano bellach, a bod gwir angen cael ein heglwysi yma at ei gilydd, i addoli ac i gynnal ein gilydd mewn cymdeithas a gweddi. Ers Ebrill y llynedd cafwyd oedfa bob Sul yn ddi-dor, ysgol Sul i’r plant, y Gymdeithas bron bob nos Iau, cyfarfod am banad, cinio Nadolig, steddfod capeli’r cylch a sawl digwyddiad arall – i gyd dros Zoom.

Y cwestiwn beunyddiol fydda i’n ei gael erbyn hyn ydi, ‘Wyt ti am barhau gyda’r busnes Zoom ’ma?’ Mae’r ateb yn un hawdd – sgen i ddim dewis yn y mater, mae’n rheidrwydd, a hynny am bum rheswm:

  1. Mae ’na gymaint o aelodau sydd wedi llwyddo i ymuno nad oedden nhw mewn ffordd i ddod i’r capel cyn y pandemig oherwydd eu bod nhw’n gaeth i’w haelwydydd (am eu bod yn fregus neu’n oedrannus, neu’n gorfod bod adref i ofalu am aelodau hŷn o’r teulu sy’n fregus) – pobl yr oedden ni cynt wedi derbyn na fydden ni’n eu gweld nhw eto mewn oedfa, ond sy bellach ‘yno’ bob dydd Sul.
  2. 2. Mae ’na aelodau hefyd sy’n byw oddi cartre neu wedi symud i ffwrdd, a bellach tydi’r pellter o filltiroedd ddim yn rhwystr.
  3. I rai aelodau, mae cyfleuster 40 munud Zoom yn caniatáu iddyn nhw fod yn yr oedfa – ffermwyr prysur yn dod i’r tŷ am banad, rhieni ynghanol rhedeg plant o un lle i’r llall.
  4. Y categori mwyaf diddorol efallai yw’r rhai sy wedi dweud eu bod nhw’n teimlo’n llawer iawn mwy cyffyrddus a chartrefol mewn oedfa Zoom na bod yn y capel. Mae nifer wedi dweud bod awyrgylch Zoom yn llawer mwy cyfeillgar ac anffurfiol. Dyma her i ni!
  5. Rheswm arall dros gadw’r dechnoleg yw bod modd gwahodd pregethwyr a siaradwyr o bob rhan o’r wlad atom heb fod angen iddyn nhw deithio. Yn y cyfnod clo cawsom oedfaon gan bregethwyr o Gaerdydd a chyn belled ag Ynys Bute yn yr Alban – a’r gweinidog fel petai yn yr ystafell gyda ni.

I fi, wrth edrych tua’r dyfodol, yr hyn oedd yn bwysig oedd bod cynifer o bobl â phosib yn cael eu cynnwys – boed wyneb yn wyneb neu trwy gyfrwng y we. Ein hymrwymiad ni yma ar y foment yw y bydd oedfa bob Sul o un o gapeli’r ofalaeth, a hynny am 10.00 y bore, a’r oedfa honno hefyd yn cael ei rhannu dros Zoom. Yn ychwanegol at hyn mae ’na dri o’r capeli wedi’u sefydlu fel canolfannau Zoom, lle mae sgrin fawr wedi’i gosod er mwyn i aelodau sy heb y dechnoleg adre fedru troi mewn i oedfa yn eu heglwys leol. Mae hyn yn rhoi tri dewis i bobl felly, sef teithio i’r capel lle mae’r oedfa ar y Sul hwnnw, neu fynd i’r capel lleol ac ymuno ar y sgrin, neu aros adre ac ymuno’n rhithiol oddi yno.

Mae defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i rannu gwybodaeth a ‘linc’ hefyd wedi trawsnewid y ffordd rydan ni’n cadw mewn cysylltiad â’n gilydd. Un cyngor, serch hynny – os ydych chi’n defnyddio’r cyfryngau hynny, ewch ati i greu tudalen ar gyfer yr eglwys/gofalaeth yn hytrach na defnyddio’ch tudalen bersonol. Da o beth yw gwahanu’r ‘personol’ a’r ‘weinidogaeth’.

Os ga’ i wisgo fy het arall am eiliad, sef Cyngor Ysgolion Sul, bu’n her enfawr i ni hefyd 18 mis yn ôl i addasu i fyd rhithiol, a ninnau wedi arfer efo cynhyrchu adnoddau print ar gyfer eu defnyddio mewn capel ac ysgol Sul. Gyda’r adeiladau hynny ar gau, bu’n rhaid addasu’n gyflym iawn. Creu deunyddiau i’w lawrlwytho ar y we, yn wersi ysgol Sul ar gyfer y cartref, clipiau o ffilm, a chaneuon i’w darlledu. Fe ddaru ni sylwi hefyd bod ’na beth wmbreth o ddeunydd yn cael ei gyhoeddi yn wythnosol ar YouTube – yn oedfaon, gwersi ysgol Sul i blant ac oedolion, darlleniadau, gweddïau, caneuon newydd sbon, myfyrdodau di-ri. Bu hyn yn sbardun i ni fynd ati i greu cartref ar eu cyfer, ac fe sefydlwyd sianel deledu ar y we, sef Teledu Cristnogol Cymru. Petaem ni wedi trio gwneud hynny ddwy flynedd ynghynt, prin iawn fyddai’r cynnwys oedd ar gael ond bellach mae dros 4,000 o raglenni yno.

Ond beth am weinidogaeth y dyfodol? Sut ’dan ni’n cynllunio wrth ymateb i hanner canrif a mwy o ymbellhau a gwacáu ar ein heglwysi?

Dyma ambell sylw i’w ystyried a’i drafod, o dan chwe phennawd – Cydenwadol, Cynhwysol, Cenhadol, Cymunedol, Cyfoes a Christ-sentrig.

  1. Cydenwadol – dwi’n cael y fraint o fugeilio chwe eglwys sy’n perthyn i dri enwad gwahanol, o fewn cylch o lai na phum milltir. Bellach, dros Gymru, fe aeth enwadaeth yn amherthnasol i’r rhelyw. Ond tydan ni ddim yn anenwadol! Mae’r strwythurau enwadol yn dal yn rhan o’n gwead ni, ond efallai ein bod ni’n fwy ôl-enwadol, a mater fydd hi o ddysgu byw gyda’r strwythurau heb i hynny lesteirio’r weinidogaeth. Mae angen canolbwyntio ar yr hyn sy’n bosib yn hytrach na chodi bwganod am yr hyn nad yw’n bosib. A dwi’n credu bod hon yn neges sy angen i’r enwadau ei chlywed hefyd – beryg o hyd ein bod ni’n dal i feddwl yn rhy enwadol gyda’n cynlluniau gweinidogaethol a chenhadol. Does bosib na allwn ni wneud llawer iawn mwy o gydweithio ar gynlluniau gyda’n gilydd?
  2. Cynhwysol – ai meddwl o hyd ydan ni am ‘ein pobol ni’? Oes ’na ‘bobol’ nad oes gennym ni fawr o ddiddordeb ynddyn nhw mewn gwirionedd? Oes ’na ragfarnau lle ’dan ni’n dweud o hyd y bydd raid i chi gydymffurfio efo ni cyn cewch chi le a chroeso yma?
  3. Cenhadol – mae 95% o blant Cymru heb unrhyw gysylltiad â chapel nac ysgol Sul, ac mae 95% o oedolion Cymru nad ydan nhw’n gweld yr eglwys yn berthnasol i’w bywydau nhw bellach. Mae sawl darpariaeth wedi dod i ben dros y 18 mis diwethaf. Falle fod ambell beth wedi dod i ben yn naturiol, ond mae ’na her wirioneddol yn ein hwynebu – sut ’dan ni am ailgodi ac ailsefydlu sawl gweithgarwch er mwyn eu gwneud yn fwy perthnasol i gynulleidfa ehangach? Dwi’n cofio un cenhadwr yn ymweld â Chymru un tro ac yn dweud, ‘I can only see maintenance – where’s your ministry, where’s your mission?’ Dyna her i bob un ohonom!
  4. Cymunedol – bu’r capel yn ganolog i fywyd pentrefol/trefol yn y gorffennol. Pob math o fynd a dod, drysau agored i gymaint o bethe gwahanol. Bellach mae sawl un yn gweld y capel yn sefyll yno, drysau ar gau, a bron ddim yn digwydd yno. Mae ’na beryg hefyd mewn creu gofalaethau rhy fawr – mor fawr weithie fel eu bod ymestyn dros 20 milltir a mwy gan groesi nifer o gymunedau – yn hytrach na chydweithio’n lleol. Pawb ar ei domen ei hun, boed yn domen enwadol neu’n domen ofalaethol, lle ’dan ni’n pasio’n gilydd wrth fynd i’n amryfal gyfarfodydd. Bydd llawer ardal heb ysgol Sul. Falle nad oes modd i bedwar achos mewn tre neu bentre gynnal eu hysgolion Sul unigol, ond siawns na fydde cydweithio i gynnal un yn bosib?
  5. Cyfoes – mae’r gair ei hun falle’n deud y cyfan! Do, heb os, ’dan ni wedi bod yn araf i newid ein ffyrdd, newid patrwm ac arddull oedfa, newid diwyg y capel, yn dal efo’n meinciau pren, gan fod yn araf i gofleidio technoleg a ffurfiau newydd o addoli a dysgu.
  6. Crist-sentrig – be mae hynny’n ei olygu? Falle llai o ‘grefydda’, llai o ‘chwarae capal’ a mwy o sylw i ddilyn Iesu, dilyn ei esiampl a dilyn ei ddysgeidiaeth o groesawu’r dieithryn, rhoi lle i’r bregus a’r gwan, a rhoi eraill yn gyntaf.

Oes ’na ddyfodol i’r weinidogaeth? Wel, wrth gwrs fod ’na – wedi’r cyfan, nid ein gwaith ni mohono fe ond gwaith Duw. Ein cyfrifoldeb ni ydi ceisio dilyn ei ewyllys ef, er mwyn cyflawni’r weinidogaeth orau posib gyda’n gilydd, er lles teyrnas Dduw. Parhaed y drafodaeth …

Aled Davies