E-fwletin 17 Hydref, 2021

Airey Neave, Robert Bradford, Syr Anthony Berry, Ian Gow, Jo Cox, Syr David Amess.

Mae’n syfrdanol meddwl bod chwech o Aelodau Seneddol San Steffan wedi’u llofruddio yn ystod yr hanner can mlynedd ddiwethaf a thristwch o’r mwyaf oedd clywed brynhawn dydd Gwener am lofruddiaeth erchyll y diweddaraf ohonynt, sef Syr David Amess. Ychydig wedi hanner dydd y trywanwyd Aelod Seneddol Southend wrth iddo gyfarfod â’i etholwyr yn Eglwys Fethodistaidd Belfairs, Leigh-on-Sea, Swydd Essex.

Disgrifiwyd Syr David Amess gan aelodau o bob un o’r pleidiau gwleidyddol fel person caredig a chyfeillgar a oedd bob amser yn barod i gynorthwyo eraill. Roedd hefyd yn Gristion o argyhoeddiad. Cydymdeimlwn yn ddwys iawn â’i deulu a’i gydweithwyr yn y golled lem a boed i’r Duw byw gynnal eu breichiau yn eu hiraeth a’u galar. 

Yn sgil y llofruddiaeth sbardunwyd trafodaeth am ddiogelwch Aelodau Seneddol ynghyd â’r staff sydd yn eu cynorthwyo wrth iddynt gyfarfod wyneb yn wyneb â’r cyhoedd.  Yn y flwyddyn 2000 llofruddiwyd Andrew Pennington, cynorthwyydd yr Aelod Seneddol Nigel Jones. At hynny, mae gofid mawr am y modd y mae Aelodau Seneddol yn derbyn negeseuon bygythiol a budr dros y cyfryngau cymdeithasol, yn bennaf gan unigolion dienw sy’n cuddio y tu ôl i enwau ffug. Yn ystod yr ymgyrch ar gyfer etholiad 2017 cyfeiriodd Amess at y modd yr oedd pobl o bob oed yn defnyddio iaith anweddus wrth siarad ag ef ac fel yr oeddent yn barod i roi’r bai ar y gwleidyddion am bob dim oedd yn mynd o’i le yn eu bywydau. Ym mis Mawrth eleni adroddwyd bod Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris, wedi derbyn negeseuon bygythiol dros y cyfryngau cymdeithasol am ei bod fel petai’n cysgu yn ystod sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn San Steffan. Ac ym mis Gorffennaf ymgasglodd cannoedd o brotestwyr oedd yn gwrthwynebu mesurau Covid-19 y tu allan i gartref Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yng Nghaerdydd. Yn sicr mae’r llofruddiaethau, y casineb a’r diffyg parch yn annerbyniol.

O ganlyniad i lofruddiaeth David Amess mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi gofyn am adolygiad llawn o’r trefniadau diogelwch ar gyfer Aelodau Seneddol ac awgrymodd un Aelod y dylid gwahardd cyfarfodydd wyneb yn wyneb am y tro.  Yn ddi-os mae’r cyfle i gyfarfod gyda’n cynrychiolwyr mewn syrjeri, garddwest, neu ar fws neu drên, wedi bod yn rhan bwysig a gwerthfawr o’r drefn ddemocrataidd a go brin y byddai unrhyw un ohonom yn awyddus i ildio’r cyfleoedd hyn a derbyn trefn fwy cyfyngedig.   

Ym marwolaeth drasig a chynamserol David Amess cawn ein hatgoffa eto o’r gwaith sydd angen ei wneud er mwyn adeiladu a chreu cymdeithas wâr a chyfiawn a fydd yn parchu democratiaeth: cymdeithas lle gall Aelodau Seneddol gyfarfod â’u hetholwyr heb ofni ymosodiadau ffiaidd a negeseuon bygythiol a budr dros y cyfryngau cymdeithasol. Ie, cymdeithas sydd yn cynnal rhinweddau o gwrteisi, caredigrwydd a goddefgarwch er lles pob yr un ohonom.

Deled dy Deyrnas.