Myfyrio ar gyflwr y greadigaeth dros Ŵyl y Diolchgarwch   

Myfyrio ar gyflwr y greadigaeth dros Ŵyl y Diolchgarwch    

Yn ddiweddar aeth criw o gefnogwyr Cymorth Cristnogol ar daith gerdded er mwyn myfyrio ar gyflwr y greadigaeth mewn cyfnod allweddol yn hanes y byd a’n hymateb i’r argyfwng hinsawdd. Isod, mae Llinos Roberts, Swyddog Ysgogi Eglwysi a Chodi Arian Cymorth Cristnogol yn y gogledd, yn dweud yr hanes ac yn ei osod yn ei gyd-destun. Mae hefyd yn cynnwys y myfyrdod byr a ddefnyddiwyd ar y diwrnod.

Mae cyfnod y Diolchgarwch yn aml iawn yn amser pan fyddwn ni’n dod â’r tu allan i mewn i’n haddoldai gan eu llenwi ag arogl ffrwythau, llysiau a blodau. Eleni, fodd bynnag, rwyf wedi mwynhau cael bod allan, a pha ffordd well o dathlu a diolch am y greadigaeth na bod yn ei chanol. Dyma’n union wnaethom ar lethrau’r Carneddau yn ddiweddar. Ers inni rannu hynny, mae ambell ardal arall wedi penderfynu gwneud yr un peth. Felly, dyma rannu’r hanes gyda chi er mwyn i chithau hefyd fentro allan i harddwch eich ardaloedd i foli a diolch i Dduw yn ystod yr nydref. Nid oes rhaid mynd yn bell wrth gwrs – ewch i ardd eich addoldy; i’r parc; y warchodfa natur leol neu i unrhyw lecyn o harddwch sydd yn lleol i’ch cynulleidfa, ac ewch â phicnic efo chi!

Y rheswm gwreiddiol dros benderfynu gwneud y daith yma oedd i gefnogi’r Cristnogion ifanc (YCCN – Young Christian Climate Network) sydd yn cerdded o Gernyw yn dilyn y G7 ym mis Mehefin i Glasgow ar gyfer COP26 ym mis Tachwedd. Mewn amseroedd ‘normal’ fe fyddwn wedi trefnu llond bws mini i ymuno efo nhw am ddiwrnod yng nghyffiniau gogledd Lloegr, ond oherwydd amgylchiadau Cofid fe wnaethpwyd taith leol gan gysylltu â nhw yn ddigidol gyda lluniau a neges o anogaeth. Roeddent wedi gwirioni a gwerthfawrogi hyn yn fawr iawn.

Mae’r argyfwng hinsawdd yn storm sy’n wynebu pawb dros y byd, ond tydi pawb ddim yn yr un cwch! Bob dydd, mae cymunedau tlotaf y byd yn brwydro i oroesi yn erbyn yr argyfwng hinsawdd, a’r cymunedau yma sydd wedi cyfrannu leiaf i’r argyfwng. Dyma neges bwysig YCCN a Cymorth Cristnogol i COP26.

Ym mis Tachwedd eleni bydd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn llywyddu trafodaethau Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow, sef COP26. Mae Cymorth Cristnogol yn credu bod yna ffordd well, ac yn galw am Gyfiawnder Hinsawdd, yn galw am ddyfodol gwyrddach, heb adael neb ar ôl. Dyma oedd ffocws ein taith gerdded wrth i ni ddathlu a diolch am y greadigaeth a myfyrio ac ymgyrchu dros ddyfodol gwyrddach i bawb. Mae pecyn Rise to the Moment ar gael gan Gymorth Cristnogol ac YCCN yn cynnwys cyfarwyddiadau sut i wneud cwch origami. Bwriad y gweithgaredd yma yw myfyrio a gweddïo ar Gyfiawnder Hinsawdd, tynnu llun eich gweithgaredd a’i anfon ymlaen i Gymorth Cristnogol: droberts@cymorth-cristnogol.org. Hefyd, anfonwch eich cychod gweddi i PO Box 100, London SE1 7RT, erbyn 15fed Hydref er mwyn gwneud darn o waith ymgyrchu enfawr yn COP26. Ar wefan Cymorth Cristnogol gofynnwn i chi arwyddo ein deiseb am Gyfiawnder Hinsawdd ac mae engraifft o ebost i chi ei anfon i’ch Aelod Seneddol ar gael hefyd www.christianaid.org.uk/campaigns

Roedd y daith i Fwlch y Ddeufaen yn ddiwrnod arbennig iawn. Er i ni gychwyn yn y niwl a’r glaw mân, fe giliodd y niwl erbyn i ni gyrraedd y bwlch. Llecyn hyfryd oedd hwn i gael ein cinio ac i fyfyrio ymhellach drwy gynnal myfyrdod. Dyma’r myfyrdod a ddefnyddiwyd gennym ym Mwlch y Ddeufaen, gyda rhan ar gyfer arweinydd a darnau eraill wedi eu rhannu gyda’r cerddwyr. Mae croeso i chi ei ddefnyddio a’i addasu, wrth gwrs, i’ch anghenion lleol.

Myfyrdod awyr agored

Gweddi

Dduw’r Creawdwr, o’r goeden yng ngardd Eden, i’r goeden yn y ddinas yn y Datguddiad, diolch i ti am dy weledigaeth o greadigaeth wedi ei hiacháu. Helpa ni i fod yn asiant yr adferiad, yn gofalu am brydferthwch y ddaear, a galluogi dy gynllun i iacháu’r cenhedloedd. Amen.

Arweinydd

Wrth i ni fyfyrio a gweddïo tu allan, pa ffordd well sydd i ddathlu a diolch am y greadigaeth, i fyfyrio ar obaith a chyfiawder hinsawdd yn ein byd? Diolch am y cyfle i gefnogi o bell y bobl ifanc sydd yn cerdded i Glasgow gyda’r neges enfawr i’n gwleidyddion rhyngwladol – ein bod yn yr un storm, y storm o newid yn yr hinsawdd, ond nad ydym ni yn yr un cwch. Gweddïwn am ddyfodol gwyrddach heb adael neb ar ôl.

Darlleniad Salm 104: 10–18

Arweinydd

Myfyriwch ar ble rydych yn cynnal eich myfyrdod, ar y ffordd mae’r ddaear yn ein cynnal fel cenedl. Mae’r darlleniad yn ein hatgoffa o’r sefyllfa heddiw yn Affganistan, lle ddylai fod harmoni rhwng y ddaear a’r genedl. Gweddïwn fod cymorth yn cyrraedd pawb sydd mewn angen yn Affganistan oherwydd y gwrthdaro, cyfiawnder hinsawdd a Chofid-19. Mae miloedd wedi eu dadleoli o’u cartrefi ac yn wynebu newyn. Gweddïwn am heddwch ac y caiff hawliau dynol pobl Affganistan eu gwarchod.

Yn Haiti mae storm Grace, ddilynodd y daeargryn ym mis Awst eleni, wedi dinistrio’r cynhaeaf ffa, india-corn a ymas, sef y bwydydd mwyaf pwysig mewn cymunedau tlawd. Golyga hyn y bydd llai o fwyd ar gael, gan arwain at brisiau uwch am fwyd. Rydym yn gresynu deall hefyd fod pobl fregus Les Cayes, sef y merched a’r plant, yr henoed a’r anabl, wedi gorfod eistedd allan yn yr awyr agored with i storm Grace fynd heibio. Gweddïwn dros waith partneriaid Cymorth Cristnogol yn Haiti.

Yn Malawi mae Etiness yn brwydro drwy lifogydd i achub rhywfaint o’r cnydau, tra mae sychder difrifol mewn ardaloedd eraill o Malawi. Mae Etiness yn ffyddiog y bydd cymorth ychwanegol drwy ein partneriaid yn Malawi yn helpu rhoi gobaith a gweledigaeth i Etiness oroesi ac adeiladu i’r dyfodol yn wyneb newid hinsawdd.

Darlleniad Eseia 24: 4–5

Arweinydd

Ystyriwch y darlleniad ochr yn ochr â thrafodaethau COP26 ym mis Tachwedd a’r rheswm dros gynnal eich myfyrdod heddiw. Gweddïwch y bydd trafodaethau COP26 yn codi i foesau uwch o gariad, egwyddorion, heddwch, urddas, cyfartaledd a chyfiawnder i bawb.

Gweddïwn (gyda saib ar gyfer gweddi bersonol)

Ein Tad, diolchwn i Ti am y byd anhygoel rwyt ti wedi ei greu, y byd wnest Ti ofyn i ni ofalu amdano. Maddau i ni, o Dduw, fod yr ymrwymiad hwn oedd i fod am byth, wedi torri. Wrth i ni gerdded heddiw, Arglwydd, rydym wedi ein syfrdanu gan harddwch y cread. Rhyfeddwn wrth weld planhigion a choed sydd yn gartre i greaduriaid gwyllt. Rydym wedi synnu ar y ffordd mae’r golau heddiw yn codi’r harddwch o’n cwmpas. Diolch i ti, o Dduw, am harddwch y greadigaeth.

Saib

Rhannwn ein pryder â Thi, o Dduw, am y tristwch sydd yn y byd heddiw. Gweddïwn dros ein brodyr a’n chwiorydd sydd yn byw bywyd o ofn mewn rhyfel a gwrthdaro, sy’n wynebu newyn ac sydd heb ddŵr glân – teuluoedd yn brwydro drwy lifogydd a stormydd garw. Maddau i ni, o Arglwydd, am ein gweithredoedd sy’n achosi niwed yn y byd. Rydym yn dyheu am newid ac yn gweddïo am heddwch ac iachâd ar y ddaear.

Saib

Arglwydd, agor ein calonnau a’n meddyliau wrth i ni weddïo. Gofynnwn y bydd trafodaethau COP26 yn arwain at y gobaith y bydd lleisiau cymunedau mwyaf bregus yn ein byd yn cael eu clywed.

Saib

Ein Tad, diolch i Ti am dy gariad, y cariad sydd yn adfer, y cariad sy’n adnewyddu, y cariad sy’n adeiladu gobaith. Helpa ni bob dydd i adnabod cyfleoedd ymarferol i roi dy gariad ar waith yn enw Iesu Grist, ein Harglwydd. Amen.

Llinos Roberts (Cymorth Cristnogol)