E-fwletin 3 Hydref 2021

TROI PROBLEM YN GYFLE

Nos Fawrth, cytunodd Cyfarfod Blynyddol Cristnogaeth 21 i gyfrannu i’r drafodaeth mewn sawl man o Gymru am ddyfodol capeli ac adeiladau eglwysig gweigion a sut i ddiogelu nad yw eu gwerthu yn ychwanegu at broblem ail gartrefi a chodi prisiau cartrefi parhaol yn ein cymunedau.

Hawdd bod yn sinicaidd – fe drowyd capel Tresaith i fod yn ganolfan ieuenctid gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a llawer ohonom wedi cael budd ohoni, ond nid ataliodd hynny troi gweddill y pentref yn gartrefi gwyliau. Methodd yr Eglwys â pharhau i’w chynnal a bellach mae’r ganolfan mewn dwylo preifat.

Ond mae yna atebion ar gael – a dyma sôn am ddau ohonynt. Cyfeiriwyd yn y cyfarfod at Housing Justice Cymru. Hyd yn ddiweddar, delwedd Saesneg ei hiaith fu iddi, ond mae hynny yn newid, a mae ganddynt staff yng Nghymru sydd yn llywio rhaglen Ffydd mewn Tai Fforddiadwy, sy’n defnyddio safleoedd eglwysig di-angen i godi tai fforddiadwy i’r gymuned leol. Hyd yma, yng Nghaerdydd a’r Cymoedd y cyflawnwyd rhan fwyaf y prosiectau, gan ddarparu bron i 100 o gartrefi newydd. Mae’r mudiad bellach wedi trefnu partneriaethau gyda chymdeithasau tai ymhob rhan o Gymru – megis Grŵp Cynefin yn y gorllewin.

Nid oes raid cau’r achos er mwyn i’r gymuned fanteisio. Er enghraifft, mae cynllun yn Grangetown yng Nghaerdydd yn cadw gofod i gynulleidfa Eglwys S. Paul ac yn darparu cartrefi i’r gymuned. Er y gall Grangetown ymddangos yn dra gwahanol i bentrefi gwyliau’r Gorllewin, maent yn dioddef rhai o’r un problemau – fel y nododd Leena Farhat mewn erthygl ddeifiol yn The National yn ddiweddar.

Beth bynnag eich barn am ddadl Leena, mae’r ofn y gwelir cymunedau yn cael eu boddi gan ail gartrefi yn ofn a rennir rhwng y Fro Gymraeg ac ardaloedd megis Bae Caerdydd, lle mae llawer o’r fflatiau ar hyd Rhodfa Lloyd George ac yn y Marina yn gartrefi gwyliau neu’n gartrefi gwaith yn unig, gyda’r perchnogion yn byw gweddill yr amser mewn man arall ac yn cyfrannu fawr ddim i’r gymuned gynhenid. Mae cynllun Grangetown yn darlunio sut y gall eglwysi gynnig rhywbeth (llythrennol) adeiladol i’r sefyllfa.

Nid pob capel segur sy’n addas ar gyfer cartrefi fforddiadwy. Mae rhai mewn mannau sydd wedi diboblogi am nad oes economi leol all gynnal pobl bellach. Mae eraill mewn man sy’n fregus o ran llifogydd neu lle nad yw’r tir yn addas i godi tai. Ond os yw’r safle mwy neu lai yn ddiwerth yn economaidd, oni ellid ystyried cyfrannu at ddatrys argyfwng arall, yr argyfwng natur? Gall rhai o’r safleoedd hyn fod yn ddelfrydol ar gyfer creu hafan i fywyd gwyllt, ac yn aml gall hynny fod yn gydnaws â chadw’r hen fynwent ar agor i’r cyhoedd hefyd, gan helpu disgynyddion y boblogaeth ddynol a byd natur yr un pryd. Mae mudiadau cadwriaethol megis ymddiriedolaethau natur o dro i dro yn chwilio am safleoedd o’r fath.

Felly mae penderfyniad Cristnogaeth 21 yn agor posibiliadau cyffrous i helpu llunio defnydd Cristnogol ar gyfer yr 21ain ganrif ar gyfer hen adeiladau a safleoedd, a throi problem yn gyfle.