Blwyddyn Madagasgar

Blwyddyn Madagasgar 1818/1968

Bu’r dathliadau 200 mlynedd ers i’r cenhadon o Gymru gyrraedd Madagasgar yn ysbrydoliaeth i bawb ac yn deilwng iawn o’r hanes. Diolch i’r Annibynwyr am bob agwedd o’r dathlu: o gyhoeddi dyddiadur David Griffiths yn dairieithog i’r apêl arbennig i gyrraedd yr 80% o boblogaeth Madagasgar sydd yn ei gwneud yn ddegfed wlad tlotaf y byd; o’r deunydd sydd wedi ei baratoi ar gyfer y dathlu i’r cyflwyniad/pasiant a gyflwynwyd gan eglwysi Ceredigon yn Theatr Felin-fach pan oedd yr Undeb yr Annibynwyr yn Aberaeron ym mis Mehefin; o’r cyfan sydd wedi ymddangos yn y wasg brint ac ar wefannau – crefyddol a seciwlar – i raglenni teledu a radio fel rhaglen Bwrw Golwg ar Sul, 19 Awst; ac, wrth gwrs, yr ymweliadau – i Fadagasgar o Gymru ac i Gymru o Fadagascar – ar gyfer y dathlu.

Aberth
Fe ddylai’r hanes fod yn gyfarwydd i ni erbyn hyn – o’r dechrau yn Neuadd-lwyd a’r athro a fu’n ysbrydoliaeth i’r ddau ifanc glywed galwad i wasanaethu yn Madagasgar drwy’r London Missionary Sociey (LMS) a brwdfrydedd y pum mil a mwy oedd yn ffarwelio â hwy ar eu taith chwe mis. Mae meddwl am y trychinebau teuluol i Thomas Bevan a David Jones tu hwnt i amgyffred, ac mae ymroddiad a ffydd David Jones i ddyfalbarhau yn dweud llawer am ddyfnder ei alwad. Gyda dyfodiad David Griffiths a’r gwaith o gyfeithu’r Beibl i’r Falagaseg, mae’r genhadaeth o hau’r had ym mywydau pobl Madagasgar yn dyfnhau. Yn yr un ffordd mae’r dioddefaint a ddilynodd yr erledigaeth gan y Frenhines Ranavalona yn gwneud pobl gyffredin fel Rasalama, y ferch 27ain oed a ystyrir y merthyr cyntaf, ymhlith tystion dewr yr oesoedd. Ac er bod Prydain Fawr a Ffrainc Fawr, yn eu tro, wedi ymestyn eu ymerodraethau mewn masnach a grym, mae wedi bod yn rhyddhad clywed fod y cenhadon a ddaeth o Gymru yn cael eu gweld mewn goleuni gwahanol i amryw o’r cenhadon eraill. Wrth gyfieithu’r Beibl i’r Falagaseg, fe barchwyd ac fe gyfoethogwyd y Malagasi, gan eu gwneud yn falch o’u diwylliant a’u gwlad. Roedd y dylanwad cadarnhaol hwn i’w weld yn y frwydr a arweiniodd at annibyniaeth o Ffrainc yn 1960.

 

Arweinwyr newydd
Gan gydnabod nad wyf wedi darllen na chlywed popeth sydd wedi ei ddweud yn ystod y dathliadau (ac ni welais y pasiant) mae un peth allweddol i’r dathlu sydd angen ei bwysleisio, ac ni fydd y dathlu yn gyflawn heb dynnu sylw at hynny. Wrth ganolbwyntio ar y dyddiau cynnar, mae’n hawdd anghofio’r cyfnod mwy diweddar. Ni chafodd ei grybwyll ar Bwrw Golwg, nid oherwydd esgeulustod,ond oherwydd mai hanner awr yn unig oedd ar gael.

Bu cyfnodau eraill a gwell ar ôl yr erlid. Daeth dylanwad yr eglwys yn fwy amlwg ym maes addysg, iechyd a gofal cymdeithasol. Bu cyfnod pan oedd perygl i’r eglwys gael ei huniaethu â’r dosbarth a gafodd rywfaint o addysg a manteision y ‘breintiedig’. Adeiladwyd un capel drws nesaf i balas y brenin! Ond daeth hefyd lif o genhadon o bob traddodiad, ac nid oedd Madagasgar yn rhydd o gystadleuaeth enwadol a’r ras imperialaidd. Yn eu plith yr oedd yr MPF (Protestaniaid efengylaidd Ffrainc), yr FFMA (Mudiad y Cyfeillion) ac, wrth gwrs, yr LMS ei hun.

Ond daeth to newydd o arweinwyr hefyd a oedd dod yn fwyfwy ymwybodol o’u hunaniaeth, eu Cristnogaeth ac o’r rhaniadau oedd yn datblygu yn eu gwlad. Aeth nifer o’r arweinwyr newydd hyn i Gynhadledd Genhadol Fawr Caeredin yn 1910. Hon oedd y gynhadledd fwyaf erioed – 1,200 o gynrychiolwyr yr eglwys fyd-eang – a nifer fawr o Affrica, yn cyfarfod i drafod eu galwad i genhadu. ‘Y byd i Grist’ oedd y thema. Roedd yna ymdeimlad o gyffro a gobaith yn eu mysg, gan gynnwys arweinwyr yr eglwysi yn Madagasgar. Daethant i sylweddoli mai eu galwad oedd cyhoeddi’r efengyl i’w cenedl a’u gwlad yn gyntaf, a hynny’n eu gwneud yn rhan o’r genhadaeth fawr fyd-eang.

Daethant yn ôl i Fadagasgar yn argyhoeddedig mai’r un oedd eu cenhadaeth oherwydd mai’r un oedd eu nod – tystio i’w gwlad, eu cenedl a’u pobl. Bu’r gynhadledd yn yr Alban yn gam pwysig ymlaen i’r eglwysi a’r enwadau edrych yn fwy manwl ar eu perthyas â’i gilydd ac i sylweddoli, yng nghysylltiadau cenhadaeth, fod eu rhaniadau wedi eu rhwystro rhag sylweddoli eu bod yn un yn eu galwad i genhadu. Ymhen amser, arweiniodd galwad Caeredin at sefydlu Cyngor Eglwysi’r Byd yn 1948; yn bwysicach, yn 1968 – 150 o flynyddoedd wedi i David Jones a Thomas Bevan gyrraedd – sefydlwyd Eglwys Unedig Brotestannaidd Madagasgar, sef Eglwys Crist ym Madagasgar (sy’n cael ei hadnabod fel FJKM). Roedd yr awydd gan aelodau’r eglwysi eu hunain i wneud hynny yn elfen ganolog yn y dylanwad ar eu harweinwyr. Roedd llais a gweddi’r bobl yn hollbwysig. Yn y paratoi a’r trafodaethau a’r gweddïo, diflannodd y ‘London’ a ‘Ffrainc’ o’r mudiadau cenhadol, a rhoddwyd y gair Madagasgar, Malagasi neu Malagseg yn eu lle. Rhyddhawyd yr eglwysi i wneud eu gwaith.

Mae haneswyr yr eglwys yn Madagasgar yn ystyried mai’r blynyddoedd ar ôl hynny sy’n bennaf wedi dwyn bendith o aberth a dioddefaint y Cristnogion cynnar. Rhaid i’r eglwys, meddent, fod yn un os yw am arwain y genedl i dystio ac i ryddid Eglwys Crist. Ar ôl llawer o waith, cynllunio ac anawsterau, fe honnir bod yr eglwys, ers y 1990au, wedi sefydlu ar gyfartaledd 60 o achosion/eglwysi/cylchoedd gweddi bob blwyddyn. Mae aelodaeth yr eglwys bellach yn fwy na phoblogaeth Cymru. Er mai yng ngogledd yr ynys y mae’r datblygiad mwyaf, maent wedi nodi fod yna o leiaf 400 o ardaloedd heb eglwys ond, iddynt hwy, cyfle i barhau’r gwaith yw hynny, nid i ddigalonni. Er bod cynnal ysgolion yn anoddach nag y bu, mae 400 o ysgolion yn parhau yn eiddo’r eglwys, â’r addysg yn eang a chynhwysol. Ac er mai 50% o boblogaeth Madagasgar sy’n Gristnogion, cyfle, nid bygythiad, yw hynny hefyd.

Madagasgar a mwy
Fe groesawodd un o’r cynrychiolwyr o Madagasgar fwy o Gymry i ymweld â’r eglwys yno, oherwydd, meddai, yn wahanol i eglwysi Cymru, yr ydym yn llwyddo yn ein gwaith. Mae’r eglwys yn parhau i dyfu, nid yn unig mewn rhif, ond mewn ymrwymiad i’r Efengyl ac i bobl Madagasgar.

Nid oes angen proffwyd i ddehongli’r hyn sydd wedi digwydd. Mae Duw wedi eu harwain i rannu’n llawn yn yr un genhadaeth, trwy’r un Ysbryd ac yn enw yr un Arglwydd. Rydym ninnau wedi methu yn ein cenhadaeth i’n cyd-Gymry a’n gwlad oherwydd ein bod wedi cael ein camarwain i fynnu, deued a ddêl, gwarchod traddodiad ac enwadaeth ac, erbyn hyn, i ymwrthod ag unrhyw sôn am ‘undod’. Eto, ac yn fwy na neb, mae enwadau Anghydffurfiol Cymru yn honni mai ‘pobl’ yw eglwys! Ond, yn gwbwl gyfeiliornus, rydym yn gweld ‘undod’ mewn termau ‘uno enwadau’ er mwyn cael dweud fod hynny wedi methu (yn 2000). Ond diffyg gweledigaeth genhadol ydyw. Dyna her fwyaf cofio’r FJKM ym Madagasgar. Diolch i genhadon Neuadd-lwyd a diolch i weledigaeth arweinwyr yr ugeinfed ganrif hefyd fod gennym gymaint i’w ddysgu a’i ddathlu.

P.Ll.J.