E-fwletin 2 Medi, 2018

Dyma’r e-fwletin wythnosol yn ei ôl wedi saib yn ystod mis Awst. Mae rhai cannoedd ohonoch yn ei dderbyn a mwy yn ei ddarllen, a’n gobaith yw y bydd, nid yn unig yn eich ysgogi, ond hefyd yn ennyn ymateb a thrafodaeth yn ein plith. Wedi’r cyfan, does dim pwysicach i’w drafod. Soniwch wrth rai eraill am yr e-fwletin, yn ogystal â’r deunydd diddorol ac amrywiol sydd i’w weld ar ein gwefan. Beth bynnag, rydym yn dechrau tymor newydd gyda bwletin am y nofel sydd wedi gwerthu mwy na’r un nofel arall ers blynyddoedd.
 
Dyma Manon Steffan Ros wedi taro deuddeg eto gyda’i chyfrol, Llyfr Glas Nebo. Hanes teulu bach wedi eu hynysu gan drychineb. Mae eu cyd-bentrefwyr wedi ffoi, wedi marw, neu wedi eu gorfodi o’u cartrefi, gan adael y lle yn wag. Mae’r teulu bach, Rowenna’r fam, ei mab, Siôn, a’r baban bach, Dwynwen, yn ymlafnio byw. Maent yn ymgynnal drwy dyfu llysiau yn eu gardd a dal ambell greadur ar gyfer ei gig. Bydd y fam ar dro yn torri i mewn i d cymdogion er mwyn “cael” rhywbeth defnyddiol. Maent yn byw bywyd swreal. Ar un olwg maent yn eu cynefin. Eu pentre hwy yw Nebo, ac mae’r amgylchfyd yn anghyfarwydd o gyfarwydd. Medrant weld Caernarfon yn y pellter, a thraethau Môn. Mae’r haul yn codi’n y bore a daw’r glaw yn ei dro fel erioed. Ond does yma ddim cymdeithas ers i’r ddau gymydog olaf benderfynu ffoi. A hyd yn oed y rheini’n ffoi drwy anelu eu car i gyfeiriad Wylfa. Mewn geiriau eraill, ffoi drwy hunanladdiad.

Portreadu bywyd hollol amrwd sydd yma. Bywyd wedi ei naddu i’r asgwrn. Does ganddynt ddim o’r hyn y buasem ni yn eu hystyried yn hanfodion. Dim cyswllt â’r byd, dim trafnidiaeth. Does yna ddim trydan, heb sôn am y mân offer sy’n dibynnu ar drydan. Mae Rowenna’n sôn am ei mab wedi’r drychineb: “Ar ôl tridiau heb drydan, roedd o’n rhydd o gaethiwed ei sgriniau.” Ac mae gennym oll syniad beth yw arwyddocâd y geiriau yna.
 
Y cwestiynau y mae’r gyfrol yn eu gofyn yw beth mewn gwirionedd yw hanfod bywyd, ac yna beth yw pwrpas byw. Daw’r cwestiynau yna yn wasgfa pan sonnir am Dwynwen y ferch fach yn marw a Siôn yn gorfod taenu’r pridd drosti yn ei bedd bach o dan y goeden afalau.
 
Daw’n gynyddol amlwg fod Siôn wedi trwytho’i hun yn ei Feibl, ac mewn gwrtheb annisgwyl, o ystyried y modd y mae cenhedlaeth ifanc Cymru wedi dieithrio oddi wrth Gristnogaeth, Siôn y mab yw’r un â ffydd, nid Rowenna’r fam. Mewn un sgwrs am nofelau a llyfrau’r Beibl mae Siôn yn gofyn i’w fam, “Pam mae pobol yn coelio rhai llyfra, ond ddim coelio rhai eraill?” A dyna’r sgwrs mewn ffordd naturiol a chynnil yn peri inni wynebu cwestiwn sylfaenol arall: beth yw gwirionedd? Cwestiwn dirdynnol yn oes “y newyddion ffug”, oes gwleidyddiaeth bwdr nad yw’n parchu na chyfraith nac egwyddor.
 
Wedi’r claddu yn y berllan daw tro chwyrn arall yn yr hanes pan geir Rowenna’r fam yn surni i gyd yn herio’i mab: “A lle ma dy Dduw di rŵan?” Bu cyfnod o ddieithrwch wedyn rhwng y ddau. Ond yna ryw noson fe ail-gyfannwyd y berthynas rhwng y fam a’r mab. Yn y cyfannu hwnnw fe welir mai un ateb sydd i’r cwestiynau i gyd: beth yw pwrpas bywyd, beth yw hanfod bywyd, beth yw gwirionedd. Yr ateb bob tro yw cariad.