E-fwletin 9 Medi, 2018

Ymweliad y Pab

Delwedd arhosol  rymusaf ymweliad y Pab ag Iwerddon i mi yw honno â’i deil yng nghwmni’r Taoiseach yng Nghastell Dulyn yn ystod y cyfarfod croeso iddo. Leo Varadkar, dalsyth, hyderus  yn annerch gydag angerdd un ymwybodol o’i nod a’i ddymuniad a’r Pab, blinedig a beichus ei drem,  fel un wedi ei gornelu, yn gwrando heb ganddo ’run dewis arall.

Digwyddodd hynny heb greu unrhyw argraff o  ddrwgdeimlad ac atgasedd rhyngddynt. Yn wir, bu’r  ‘céad mile fáilte’ , y canmil croeso nodweddiadol o’r Gwyddel, yn ddidwyll a chynnes a pharch serchog y Pab, wedyn,  at un, ar sail ei rywioldeb yn unig, allasai fod yn embaras llwyr i gyn fugeiliaid y Fatican.   Mewn cwmni o’r natur hwnnw cyll y ffuantus ei rym, a geilw’r sefyllfa am ddidwylledd a gonestrwydd. Bu cipolwg Varadkar  ar hanes y berthynas rhwng yr eglwys Gatholig Rufeinig a’r Ynys Werdd, yn gytbwys a theg.   Ni bu’n ôl, ar y naill law, o’i chanmol a’i mawrhau yn ei hymdrechion i rannu newyddion da Iesu  ac yn ei hymroddiad i lenwi’r bwlch hwnnw adawyd gan y wladwriaeth ar un adeg mewn darpariaethau meddygol ac addysgiadol, er enghraifft, ac ar y llaw arall, i’w beirniadu’n hallt  am yr ‘agweddau tywyll’  hynny’n ei hanes fu, ac sy’n dal yn gymaint dylanwad ar gynifer o arweinwyr eglwysig, ac o ganlyniad, gwaetha’r modd, ar fywydau’r rhai a ymddiriedwyd i’w gofal.

Er perthyn i’r teulu cynyddol hwnnw  nad yw’n ymarfer ffydd  mae’n anodd gweld Leo Varadkar yn  nhermau’i gelyn a’i gwrthwynebydd. Mater arall, fe ymddengys, yw ei ragdybiaethau ynghylch yr eglwys ac mae’n ddigon tebygol i hynny ddeillio o’i hunaniaeth Wyddelig. Cyfeiriodd yn ei anerchiad at 1916, pryd y lluniwyd y Datganiad o Annibyniaeth, a’r Gwyddelod, ‘ yn enw Duw’, chwedl y frawddeg agoriadol, yn mynegi eu dymuniad i fyw bywyd yn rhydd o grafangau gormesol yr ymerodraeth.  Bydd Cristnogion yn siŵr o weld rhyw arwyddocâd yn y ffaith i hynny ddigwydd dros adeg y Pasg y flwyddyn arbennig honno.

Tra  llaciodd gafael  Prydain, nid felly Rhufain. Yn wir, camu i’r gwacter  ymerodraethol a’i lenwi wnaeth yr eglwys,  gan brysur ddatblygu’n sefydliad,  nad oedd i bob golwg, yn cynnig bywyd amgen i’r hyn a brofwyd dros y cenedlaethau cynt, yn nhermau manteisio ar dlodi a gormes, grym ac awdurdod, mwy nodweddiadol o deyrnasiad Cesar na Christ.

Byddai’n braf meddwl bod yn ein plith fel Cristnogion, a hynny mewn dyddiau a wêl y math uchod o eglwys yn darfod, awydd i gydio’n her Leo Varadkar a’i debyg, a chynnal trafodaeth â phobl o ochrau gwahanol pob math o ffiniau, er lles ac iechyd bywyd y byd a’r rhai sy’n byw ynddo.