E-fwletin 16 Medi, 2018

PRIODAS… NEU/A… PHARTNERIAETH?

Dros yr haf datganodd llys fod hawliau dynol cwpl (gwryw a menyw) wedi eu diystyru gan nad oedd ganddynt hawl i gael eu huno mewn partneriaeth sifil, dim ond mewn priodas. Dadl y ddau oedd fod priodas yn cael ei dehongli yn aml fel dyn yn meddiannu gwraig ac yr oeddent yn dymuno partneriaeth gyfartal.

Yn mis Mai bu panig yn y cyfryngau Prydeinig pan glywyd bod tad priodferch, a elwid Mehgan, yn rhy wael i’w hebrwng hi o ddrws yr eglwys i’r allor. Gwelwyd y weithred hon yn rhan hanfodol o’r achlysur. Rhywsut llwyddodd i gerdded dros hanner y ffordd gyda dim ond ei morwynion a’i gweision ond penderfynwyd nad oedd yn addas iddi gwblhau’r weithred ar ei phen ei hun. Daeth tad y priodfab i’r adwy.

Etifeddwyd yr arferiad o gyfnod pan ystyriwyd dynes naill yn eiddo i’w thad neu yn eiddo i’w gŵr. Mae’r cwestiwn “Pwy sydd yn rhoi y ferch hon….?.” wedi diflannu o ambell Lyfr Gwasanaeth (dylai fod wedi diflannu’n llwyr) ond mae cynulleidfa yn dal i WELD dynes yn cael ei THROSGLWYDDO o un dyn i ddyn arall. Mae llawer yn parhau i ystyried y weithred hon fel rhan hanfodol o’r gwasanaeth. Does ryfedd bod rhai yn dal i gysylltu priodas Gristnogol gyda‘meddiant neu feddiannu’.

Ond beth yw’r ddysgeidiaeth Gristnogol am briodas? Mae’r ateb yn dibynnu yn aml ar yr un sy’n ateb y cwestiwn. Mae’r eglwysi yn dadlau yn groch ynglŷn â phwy ddylai gael cyfathrach rywiol, ac ym mha amgylchiadau. Ond mae tawelwch llethol am y ddwy dynes sy’n cael eu lladd bob wythnos gan gymar neu gyn-gymar. Mae cyd-destun priodas wedi newid llawer yn yr hanner canrif diwethaf. Nid yw’n anorfod fod wraig yn ddibynnol yn ariannol. Mae gennym ddulliau o reoli ffrwythlondeb. Mae gwahaniaethau ar sail rhyw yn anghyfreithlon. Gall y ddau/ddwy gymar ddilyn gyrfa. Gall y naill riant neu’r llall gymryd y prif gyfrifoldeb am ofal plant. Yn y cyd-destun hwn ni ddylid dibynnu ar ddisgwyliadau hanesyddol o rôl gwr a gwraig ac mae angen sylfaen llawer ehangach na ffyddlondeb rhywiol yn unig i gynnal priodas a all bara dros hanner canrif.

Mae’r Efengylau yn dysgu llawer am sut y dylem ofalu am ein gilydd. Mae’r ddysgeidiaeth nid yn unig yn berthnasol mewn priodas, ond dylai gael ei dangos ar ei gorau mewn priodas, mewn modd sy’n galluogi’r ddau gymar i ofalu am deulu, cyfeillion a’r rhai mewn amgylchiadau anodd yn ogystal ag am ei gilydd. Mae gwasanaeth priodas yn un o’r ychydig achlysuron pan ddisgwylir presenoldeb rhai sydd ddim yn arfer addoli ac y mae’n gyfle ardderchog iddynt dysgu rhywbeth am Gristnogaeth ac am berthynas lle mae’r naill yn parchu a gofalu am y llall. Ond mae’r gwasanaeth priodasol yn parhau i drosglwyddo neges gymysglyd am rywioldeb a pherchnogaeth ac yn colli’r cyfle i ddysgu sut y dylem drin ein gilydd. Tybed a yw hi’n amser newid hyn?

Onid y cam cyntaf fyddai dileu’r arferiad o drosglwyddo dynes fel eiddo rhwng dynion?