E-fwletin 23 Medi, 2018

Perygl athrawiaethau yw cyfyngu a gwahanu. Gogoniant addoli yw ehangu a chyfannu. Daeth hynny’n amlwg yn yr Encil yng Nghlynnog Fawr. Roedd y thema ’Duw’r Creawdwr’ yn fwriadol eang, a’r dewis o leoliad yn fwriadol hynafol. Bywyd o addoli oedd bywyd pererinion, fel Beuno.

Fe ddechreuwyd yr encil  dan arweiniad Anna Jane, trwy osod hen wn AK47 o Mozambique wedi ei  ail-greu yn aderyn yn ein canol, ynghyd â lluniau o’n byd cyfoes yn gefndir i ni fyfyrio. Ymunwyd i ddarllen yr wythfed salm a chanwyd (yn yr hen Ladin) “Canmolwch enw’r Arglwydd.”

Fe ddaeth yr encil i ben dan arweiniad Mererid Mair, gyda cherddoriaeth Shostakovich, lluniau trawiadol o eglwys Llanfaglan a’r lleuad wedi ei gynnwys yn llawn o fewn clochdy bychan yr eglwys a geiriau cofiadwy fel ‘Fe hoffwn adael ôl fy niolch ar y lle yma’. A chyn ymadael, “Canmolwch enw’r Arglwydd” eto.

Ond yn ein byd gwyddonol mae i addoli Creawdwr ei oblygiadau. Fe ddechreuodd Dr Hefin Jones ei sgwrs drwy sôn am y ‘cread yn ceisio tynnu ein sylw ’ er mwyn ein  cyfeirio tuag at Greawdwr. Y cread, meddai , yw ein profiad cyntaf o Dduw. Nid oes gofod i fanylu ar ei  sylwadau goleuedig am y berthynas rhwng  crefydd a gwyddoniaeth/gwyddonwyr; rhwng addoli a dadansoddi, rhwng y ‘beth a’r pam y digwyddodd’, am y creu drwy hap a’r creu i bwrpas, am ystyr ‘bara’ y gair Hebraeg, am ystyr ‘creu’, ac am y perygl o weld y creu yn ddyn-ganolog a gweld cyfanrwydd y cread. Rhodd yw’r cread, meddai Bonhoeffer, ond ni allwn dderbyn y rhodd heb ddeall beth yw dymuniad y Rhoddwr. Cred Hefin, y Cristion o wyddonydd a’r gwyddonydd o Gristion (yn wahanol i’r rhai sydd yn gweld eu gwyddoniaeth a’u crefydd fel dau faes gwahanol) fod Duw yn Greawdwr ‘er nad wyf yn gwbl siŵr beth mae hynny yn ei olygu’. Dyma’r Duw y mae Hefin yn ei addoli. (Fe fydd ei arweiniad – a’r sgyrsiau eraill, gobeithio – yn ymddangos ar wefan C21 yn fuan.)

Daeth y Tad Deiniol atom i’n helpu i fyfyrio ar brydferthwch addoliad a soniodd am yr Esgob Tryphon yn Rwsia yn gweld harddwch ynghanol dinistr a dychryn y 1930au. “Arglwydd, mor dda yw bod yn westeion i Ti… gwyn fyd y Fam ddaear a’i harddwch brau… gogoniant i Ti am Ŵyl Bywyd.” Mae’r ffin rhwng nef a daer, yr ysbrydol a’r materol, yn diflannu mewn addoliad. Ffenestr yw’r eiconau a’u harddwch syml yn datguddio gorwelion ehangach. “Pam,” gofynnodd un o seintiau’r Eglwys Uniongred, “mae  holl fyd natur yn gwenu ar ddyddiau gŵyl?”  I’n denu yn ôl i fwynhau rhodd y Creawdwr.

Soniodd Gwawr Maelor am y plentyn oedd ynddi hi  o hyd. Aeth rhyfeddod ffosiliau, majig a syrcas ymlaen i ryfeddodau technoleg gyfoes. Mae plant yn  cwestiynu (“Ydi Duw yn Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd?”) Ond mewn gwirionedd, nid sut y mae’r byd wedi ei greu yw’r cwestiwn pwysig, ond i ble mae’r byd wedi cyrraedd. Yng ngeiriau’r  plant, “Dw i’n deall Adda ac Efa. Ond rwyt ti wedi rhoi Sudocu andros o anodd i ni.” Rwyt Ti’n gwneud i ni feddwl a dewis – eto. Mae ysbryd ymchwilgar eu hoes ynddynt, ond mae ysbryd addolgar yr oesoedd ynddynt/ynom ni hefyd.

Un peth yw ein dewis o ffurfiau addoli, peth arall yw gadael i’n hathrawiaethau ein rhwystro rhag cyd-addoli Duw’r Creawdwr – a’r Gwaredwr. Wedi’r cyfan, adnoddau  Llyfrgell Addoli yw’r Beibl. Dyna pam fod pobl gydag amrywiaeth mawr o safbwyntiau yn medru treulio diwrnod mewn encil yn eglwys hynafol Sant Beuno.