E-fwletin 30 Medi, 2018

 

“Os ydy rhywun ddim yn ein herbyn ni, mae o’n plaid ni.” (Marc 9:40. Beibl. net)

Nid cyfeiriad at elynion, gwrthwynebwyr, na rhai sy’n anghytuno sydd yma ond cyfeirio at rai sy’n gweithredu fel dilynwyr Iesu ond ddim o anghenraid o’r un feddylfryd â hwy. Pan ystyriwn elyn yna y mae casineb yn elfen annatod ohono, a gall casáu daliadau person arall yn rhy aml arwain at gasineb at y person ei hun sydd yn arddel y syniadau hynny. Pan ystyriwn ein gwrthwynebwyr, nid oes gasineb o anghenraid ymhlyg yn hynny dim ond gwrthwynebiad dilys a diffuant i’w syniadau. Pan ystyriwn wedyn y rhai sy’n anghytuno â ni, nid ydym hyd yn oed yn gwrthwynebu, dim ond yn unig yn anghytuno. A dyfynnu’r hen ddywediad Cymreig: Cytuno i anghytuno! Ond pan sonnir am elyn, nid oes awgrym o oddefgarwch, ond mae gwrthwynebiad ac anghytundeb yn safbwyntiau goddefgar.

A dyna sydd i’w groesawu o gyfeiriad awduron atheistiaidd fel John Gray sydd yn feirniadol iawn o rai o’i gyd-atheistiaid. Mae atheistiaeth, fe ymddengys, yn derm llawer mwy cywir nac anffyddiaeth, ac y mae cyfrol ddiweddaraf John Gray. Seven Types of Atheism yn cadarnhau hynny. Mae ei oddefgarwch yn seiliedig ar fod yn sgeptig.

Fel y mae teitl ei lyfr yn awgrymu y mae sawl math o atheistiaeth fel y mae sawl math o grefydd. Y mae’r pum math cyntaf yn fathau y mae John Gray yn ymwrthod â nhw, oherwydd mai gwrthod “Duw” y crefyddwyr y maen nhw a chofleidio “duw” arall yn ei le. Ymwrthyd ag “Atheistiaeth Newydd” (Dawkins a’i gyfeillion ymosodol ac anrhyddfrydol), dyneiddiaeth seciwlar sydd yn dwyfoli dynoliaeth (Cristnogaeth wedi ei diberfeddu nôl Gray!), y rhai sy’n gwneud gwyddoniaeth yn grefydd, y rhai sy’n gwneud  crefydd o ideolegau gwleidyddol, ac yn olaf y rhai sy’n casáu Duw (The God-haters” fel y geilw ef hwy). Yr hyn sy’n chwithig ynghylch y dosbarth olaf hwn yw ei fod wedi cynnwys Dostoevski yn eu plith. Yr oedd hwnnw yn ymgodymu hefo’i ffydd mae’n wir, ond ni feddyliais amdano erioed fel un yn casáu Duw. Ymwrthyd â’r rhain oll am eu bod wrth ymwrthod â monotheistiaeth wedi creu monotheistiaeth newydd!

Fodd bynnag y  mae’r awdur yn arddel y ddau ddosbarth sydd yn weddill; atheistiaeth heb “gynnydd” ac “Atheistiaeth distawrwydd”. Gallwn anghytuno hefo’i safbwynt pesimistaidd, ond efallai y gallwn uniaethu rhyw gymaint hefo’i gyfriniaeth gan ei fod yn cydnabod fod i’n bodolaeth ei ddirgelwch.

Na nid yw pob atheist yn elyn nac yn wrthwynebwr, ond gallwn wrth gwrs anghytuno neu gytuno i anghytuno!