Ymlaen yr Awn

Ymlaen yr Awn

Ymlaen yr awn yn llawn o’r Atgyfodiad,
ymlaen yr awn, o nerth i nerth bob dydd,
ymlaen yr awn mewn ffydd yn dweud yr hanes
am gariad Duw a’n deil yn dynn a rhydd;
fe ganwn gân i newid byd sy’n wylo,
breuddwydio wnawn am glwyfau na fydd mwy,
cawn lunio brodwaith o’r holl fyd mewn undod
yng ngolau Crist a’i weledigaeth fythol fwy.


Fe roddwn lais i’r rhai na cheir eu clywed,
fe roddwn air ar wefus sydd yn fud,
fe roddwn alaw i’r rhai na all ganu
i’r cariad sydd yng nghalon pawb drwy’r byd.
Fe ganwn gyda’r rhai sydd heddiw’n wylo,
fe seiniwn salm i godi’r enaid briw,
fe ddawnsiwn ddawns y Pasg yn llawn gorfoledd
yng nghylchoedd di-derfynau cariad Duw.

(Cyf. o gân Joyce Boyce Tillman ar yr alaw ‘Londonderry Air’; Cyhoeddir trwy ganiatâd.  Hawlfraint Stainer & Bell)