Does neb yn poeni am Seion

Ymaflyd â’r Testunau: Jeremeia 30:12-17; Luc 13:31-5 a 19:41-4

 “Does neb yn poeni am Seion,”

Ydi Ewrop ar fin chwalu? Ydi’r drefn economaidd ar fin dymchwel? Ydi symud pobloedd yn mynd i ddadsefydlogi teyrnasoedd y ddaear? Ydi trais yn mynd i sgubo ymaith ein gwerthoedd a’n traddodiad? Ydi hi ar ben arnom ni?

Wrth edrych ar enbydrwydd ‘cyflwr y byd’ drwy sbectol y cyfryngau, y demtasiwn yw mynd i guddio, cysuro’n hunain y daw popeth yn iawn rywsut neu’i gilydd, mygu ofn a dicter a threio bwrw ’mlaen fel arfer. Sut arall mae dod i ben? 

Wrth geisio ymateb sy’n fwy na mynegiant o ofid personol, ble yn y Beibl mae ’na batrwm all roi tipyn o asgwrn cefn i ni?

‘Does neb yn poeni am Seion,’ (Jeremeia 30:17 beibl.net) ‘Dyma Seion, yr hon nid oes neb yn ei cheisio (William Morgan) ‘Seion, yr un nad yw neb yn ymofyn amdani (BCN)

Os ydyn ni’n chwilio am ffordd i fynegi galar, mae ’na ddigonedd o help yn y Beibl, a gallem ddechrau yn Llyfr y Salmau. Ond mae Galarnad a Phroffwydoliaeth Jeremeia’n fan cyfoethog, os anghysurus, i ddechrau. Galar yw’r thema, galar dros dwpdra, diffyg gweledigaeth, styfnigrwydd, diffyg egwyddor, a mwy na dim, galaru dros y golled. Colli traddodiad, colli diwylliant, colli hen arfer, colli’r ‘pethau’. Mae digon o resymau am y galar: grym ymerodraeth (Babilon), diffygion y drefn grefyddol (y Deml), polisi gwleidyddol gwan (y Brenin). Ac argyhoeddiad Jeremeia yw bod methiant a phechod y bobl wedi peri i Dduw ei hun droi’n elyn iddyn nhw. A heb Dduw, heb ddim.

Mae penodau 29–33 yn awgrymu bod gobaith (mae rhai ysgolheigion yn dueddol o dybio mai ychwanegiad diweddarach ydyn nhw). Ym mhennod 30 mae ’na gerdd, adnodau 12–17, sy’n arwyddo cam o dywyllwch i oleuni, yn awgrymu’r gwrthddywediad amlwg bod modd i alarwr obeithio. Mae fel petai Duw yn newid ei feddwl; yn sicr, mae’r awdur yn newid ei feddwl. Ar y dechrau ‘fel hyn’, dyma sydd gan Dduw i’w ddweud. Mae pethau’n gwbl anobeithiol:

            Y mae dy glwy’n anwelladwy a’th archoll yn ddwfn.

Mae pawb wedi anobeithio am Jeriwsalem:

Nid oes neb i ddadlau dy achos,
nid oes na moddion na iachâd i’th ddolur
.

Mae Jeremeia’r bardd broffwyd yn gwbl bendant yn ei anobaith, a’r peth gwaethaf oll yw bod ‘ffrindiau’ Jeriwsalem yn ymddwyn fel pe bai popeth yn iawn. Maen nhw’n cau eu llygaid i realiti pethau.

Walter Brueggemann

Walter Brueggemann

Mewn pennod ar y gerdd hon, mae Walter Brueggemann, un o ysgolheigion mwyaf deifiol a dwys yr Hen Destament yn ein cyfnod ni, yn ein gwahodd i rannu ym mhrofiad Jeremeia a gweld bod yna angau yn digwydd yn ein plith. Mae’n honni mai’r demtasiwn i ni yw amddiffyn ein hunain rhag yr anobaith a’r golled a’r galar. Cau i lawr ar y gwir sy’n ein hwynebu, cau ein llygaid a byw fel petai gobaith yn y drefn bresennol. Mae ’na glefyd, ac mae anffyddlondeb, chwit-chwatrwydd, euogrwydd am bechod, ond y pechod mwyaf yw’r troi cefn, y gwadu gwreiddiau ac etifeddiaeth, bod pobl Seion wedi anghofio pwy ydyn nhw. Dim ond yn eu galwedigaeth y mae ystyr i’w bodolaeth – ac mae Yhwh wedi cael digon. Erbyn diwedd adnod 15 mae’r diwedd wedi dod:

Y mae dy ddolur yn anwelladwy; 
oherwydd maint dy ddrygioni 
ac amlder dy bechodau yr wyf wedi gwneud hyn i ti.

 Ac mae’r darn nesaf yn dechrau gyda’r geiriau arwyddocaol ‘Am hynny’, ac fe dybiech fod bygwth pellach yn dod. Ond mae fel petai’r drol wedi’i throi. Bellach mae Duw yn bygwth, nid Jeriwsalem, ond y rhai sy wedi’i bradychu, ei hysu, ei gormesu. Bydd yr anrheithwyr yn anrhaith a’r ysbeilwyr yn ysbail. Pam? ‘Am iddynt dy alw yn ysgymun’, Seion, yr un nad yw neb yn ymofyn amdani: ‘Am nad oes neb yn poeni am Seion’, fel y dywed cyfieithiad cwta a bachog beibl.net. Mae’n od oherwydd y mae Duw wedi llefaru’n llym am Seion ei hunan, ond mae clywed y cenhedloedd eraill yn ei galw’n ysgymun yn ormod iddo! Ac mae e fel petai wedi newid ei feddwl.

Mae ein hymresymu ni am Dduw yn ymhonni dweud bod yn rhaid iddo fod yn gyson, yn deg, yn ymateb yn ddoeth a diduedd. Ond ym meddwl a phrofiad Jeremeia, partner mewn cyfamod yw Yhwh, a’i ymateb i wendidau’r genedl yn hynod o ddynol. Mae e bron fel petai’r proffwyd yn priodoli i Dduw yr un chwit-chwatrwydd ag sydd mewn pobl. Mwy cysurus i griw o ryddfrydwyr yw mynnu bod Duw yn drugarog o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb. Ond i Jeremeia y mae dolur a galar Duw ei hunan yn drech nag anffyddlondeb Seion. Ac mae gweld Seion yn ysgymun yn ormod iddo. Bellach mae Duw ar ochr y gorthrymedig, y gwan, yr ysgymun; mae e o blaid y rhai sy’n galaru. Ac mae hynny am fod Duw ei hun yn galaru.

Cerdd ydi hon, dim ond cerdd, ond gall barddoniaeth fod yn beth peryglus iawn. Yn erbyn pwy y mae’r gerdd? Awgrym Brueggemann yw bod y gerdd yn erbyn y rhai sydd o blaid pethau fel y maen nhw, y rhai sy’n twyllo’u hunain nad oes yna fawr ddim o’i le, nad oes clwyf nac afiechyd i’w iacháu. Maen nhw’n glyfar mewn cynadleddau i’r wasg ac yn trin ystadegau’n gyfrwys, ac yn credu eu propaganda eu hunain. Iddyn nhw mae galar yn frad, a Duw yn cynnig cariad diamod, ac nid barn. Amhosibl tybio bod barn yn gyfystyr â chariad. Pwy sydd ar fai felly? Dyma nhw: y brenhinoedd, y tywysoagion, yr offeiriaid a’u proffwydi. (Ei harlywyddion, prif weinidogion, economegwyr, sylwebyddion, ayyb) Dyna’r rhai sy’n gwrthod wynebu Duw (sut bynnag y syniwch amdano) ond yn troi cefn arno. Ni fydd y deml, na mynnu heddwch yn tycio am fod pobl wedi suddo i ddiflastod a siniciaeth. Ac yn erbyn y rhain, yn wyneb yr ystrydebau ni ellir ond galaru.

Yn y gerdd hon, adnodau 12–18, gwelwn batrwm, strwythur hyd yn oed, a welir yn y Testament ac sy’n nodwedd o’r Efengyl ei hun. Fe’i gwelir ar ei amlycaf yn Iesu, yn y traddodiad proffwydol, ac yntau’n wylo dros Jeriwsalem (Luc 13:31–5; 19:41–4). Mae Jeriwsalem yn cynrychioli’r hen drefn, y gwerthoedd tragwyddol sydd wedi’i chynnal, ond mae’r pethau hyn yn mynd heibio, yn marw. Mae cweryl Iesu gyda’r rhai sy’n rhedeg pethau heb sylweddoli eu bod wedi methu. Gellir dal i gynnal y gweladwy, ond heb y galaru fydd neb yn sylweddoli mai gwagedd yw’r gwbl ac nad oes lle i’r newydd. Heb ddwylo gwag does dim modd gafael mewn dim byd newydd.

Ceir yr un pwyslais yn Luc 6:21, 25 pan ddywed Iesu:

Gwyn eich byd chwi sydd yn awr yn newynog, oherwydd cewch eich digoni.
Gwyn eich byd chwi sydd yn awr yn wylo, oherwydd cewch chwerthin.

Mae’r Gwynfydau yn sôn am ddwy oes, yr un bresennol a’r un sydd i ddod, ac yn myfyrio ynghylch sut mae derbyn rhoddion yr oes sydd i ddod nawr. Os cyngor sydd yma, mae’n gyngor od! – Rhaid galaru dros y nawr sy’n marw. (Efallai fod angen pwysleisio bod galar yn fwy na chwyno, a dal i oddef y pethau sy’n pydru.) Mewn galar bydd modd croesawu’r newydd sy’n rhodd Duw. Mae chwerthin nawr a meddwl y daw popeth yn iawn yn y man yn arwain at wylo nes ymlaen. Mae wylo nawr yn golygu gweld a derbyn bod pethau heddiw dros dro. Mae’n rhaid dewis: allwch chi ddim dal gafael yn yr hen a chroesawu’r newydd. Disgyblion Iesu yw’r rhai sy’n gallu gollwng y trefniadau presennol er mwyn gallu bod yn agored i roddion a grasusau, i drefn newydd. Ceir yr un pwynt yn Ioan 16:20–21:

Yn wir yn wir rwy’n dweud wrthych, y byddwch chwi’n wylo ac yn galaru, a bydd y byd yn llawenhau. Byddwch chwi’n drist ond fe droir eich tristwch yn llawenydd.

Y mae gwraig mewn poen wrth esgor, gan fod ei hamser wedi dod. Ond pan fydd y baban wedi ei eni, nid yw hi’n cofio’r gwewyr ddim mwy gan gymaint ei llawenydd fod plentyn wedi ei eni i’r byd.

Beth mae hyn i gyd yn ei ddweud am bethau heddi? Ydyn ni hefyd yn gweld dymchwel y byd yr ydyn ni wedi’i adnabod? Mewn amser pan yw’r peryglon yn amlwg, mae perygl ychwanegol mewn chwilio am atebion hawdd. Dyna a welwn yn y pegynnu plesio’r dorf gan y dde a’r chwith. Ymbalfalu am gadw pethau fel ag yr oedden nhw, neu fel yr oedden ni wedi breuddwydio y bydden nhw. Cadw pethau ynghyd er mwyn i ni allu cadw’n hurddas, ein gwerth, a’n mantais hefyd. Fe’u gwelir ymhlith ceidwadwyr y dde, y rhyddfrydwyr, a phobl y chwith sydd wedi dod i ben yn weddol hyd yn hyn. Rydyn ni’n credu yn ideolegau ein plaid, ein grŵp, ein cenedl, ein dosbarth am ein bod yn cael ein hamddiffyn rhag dadansoddi go iawn. Dim ond barddoniaeth all fynegi’r boen. A galaru personol a chyhoeddus am ein bod wedi dewis pydewau toredig na all ddal dŵr. Y newyddion da yw bod Duw yn mentro i mewn i’r llanast gyda ni, ond rhaid bod y galar yn real. Rydyn ni, fel y bardd, yn gorfod disgwyl i weld beth fydd yn dilyn y geiriau ‘Am hynny … fel hyn y dywed yr Arglwydd’.

Mae’r uchod yn seiliedig ar un o draethodau Walter Brueggemann. Mae ei waith yn hysbys i lawer o ddarllenwyr C21. Os hoffech ddarllen yn ehangach a dyfnach yn y gwreiddiol, chwiliwch am  Hopeful Imagination – Prophetic Voices in Exile (Fortress Press, 1985) 1-1925.  Hefyd, The Prophetic Imagination (Fortress Press, 1978) 1-3337.