Ond

Morlun stormus Iestyn Hughes

Llun: Iestyn Hughes

OND

Rocet Arwel Jones

Aberystwyth: Haf 2016

Mae gen i ofn yr haf a’i gymylau fel dyrnau duon yn poeri sen i gannwyll ein llygad.

Mae gen i ofn gweld ein plant yn gwreiddio mewn cynefin crin ac yn chwarae â thân, tra bod awel o hen fegin front yn siglo’r crud a chyfeilio i hwiangerddi’n hunllef.

Mae gen i ofn bod y storm yn chwythu ein llong i ynys estron yn llawn nadroedd a chanibaliaeth, y llwythau’n eu hogofâu a’r tân yn bwrw dim ond cysgodion ar lysnafedd y parwydydd.

OND …

 Mae gen i ofn nad wyf am adael i’r awyr gymylu, a thra bo Bae Ceredigion yn wên ar fap y byd, a’i ddannedd o ewyn gwyn yn sgleinio, rwyf am wasgu’r haul trwy fy nagrau, yn enfys o faneri hyd y Prom.

Mae gen i ofn bod gwreiddiau’r hen dderwen yn rhy ddwfn a’n bod ni, yn Gymry hen a newydd, o bedwar ban, o bob lliw a llun, am gysgodi dan ei changhennau praff yn gwtj, yn gymuned, yn gwlwm, yn wefr o waed; o wead.

Mae gen i ofn ein bod ni am fwrw gwên i’r tywyllwch i’w yrru dros y gorwel. Ein llaw ni sy’n llywio’r llong, sy’n siglo’r crud. Gyda’n gilydd fyddwn ni ddim ofn y byd, fyddwn ni ofn dim byd.