Yr Ymneilltuwyr

Dyma’r ail erthygl mewn cyfres am gyflwr yr eglwysi yng Nghymru. Mae’r gyntaf, am yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yn Agora 4.

Yr Ymneilltuwyr

Nia Higginbotham

Personol iawn yw fy myfyrdod ar sefyllfa Anghydffurfiaeth yng Nghymru. Personol a chymysglyd. Does dim dechrau pendant na diweddglo clir. Does gen i ddim atebion. Sgwrs dros baned fel petai, nid erthygl gyflawn. Gan wybod hefyd fod yna eithriadau disglair.

Wrth nesu at oed yr addewid, synnaf at y newidiadau aruthrol mewn cymdeithas. Edrych ar fy nghegin a’r taclau sydd ynddi a’i chymharu efo cegin fy mhlentyndod! Cymharu bwydlen fy mebyd efo’r amrywiaeth bwyd o bedwar ban byd a fwytawn heddiw. Cymharu’r ffordd y’m haddysgwyd yn yr ysgol gyda phrofiad addysg fy wyrion. Trafnidiaeth a theithio wedi ehangu tu hwnt i ddychymyg; arbenigedd meddygon wedi ffrwydro a’n disgwyliadau o iechyd gymaint mwy. Patrymau bywyd teuluol wedi’u trawsnewid. Effaith y We (nad oedd yn bod!) wedi dylanwadu ar bob agwedd o fywyd.

Mi fyddai Nain ar goll petai’n dychwelyd heddiw – byddai hi angen esbonwraig wrth ei hochr i’w thywys. Ond credaf y byddai Nain yn hollol gyfforddus petai’n dychwelyd i fynychu’r capel heddiw. Prin bod ffurf y gwasanaeth wedi newid, ac ychydig gyfeiriadau fyddai yn y bregeth na ddeallai Nain yn syth. Sut wnaethom ni ynysu ein capeli oddi wrth gymdeithas i’r graddau yma? Gwahanu ein ffydd oddi wrth ein bywyd bob dydd?

Pulpud a Quote

Fe wnaethom ynysu ein hunain drwy geisio cadw llecyn digyfnewid. Drwy ofni’r newydd a thrwy ddal gafael pan ddylem fod wedi gollwng gafael. Drwy geisio cadw’n hunain yn ‘bur’. Troi lle paratoi pererinion yn lloches gysurlon. Anghofio’r ffaith, er bod llong yn saff mewn harbwr, mai i forio y’i gwnaed. A heb y morio, mi wnaiff bydru.

Mewn oes lle mae gwyddoniaeth yn cynnig llwybrau cwestiynau, dal i lynu at feddylfryd atebion syml, pendant ‘Rhodd Mam’ wnaethom. Methu darganfod ffyrdd i feithrin aelodau i drafod, darganfod a bod yn bererinion gonest … Credu fod yn rhaid i arweinyddion gynnig ateb i bob cwestiwn a godir mewn cwrdd gweddi neu astudiaeth Feiblaidd. Yn rhyfedd, fel enwadau sy’n aml yn gweld bai ar eglwysi offeiriadol, fe wnaethom orbwysleisio lle gweinidogion a’r angen iddynt gynnig atebion pendant. Roeddem yn disgwyl iddynt gael yr atebion, yn lle eu paratoi i fod yn gyd-gerddwyr heriol a gwybodus ar y daith.

Anghydffurfiaeth

Mae ein hiaith a’n diwylliant yn rhoddion, a gwyddom fod bodolaeth ein hiaith yn ddibynnol ar Feibl Cymraeg ac ysgolion Sul. Ond rywsut toddodd y ddau yn un, ac roeddem yn hwyr cyn deall fod achub ein hiaith mewn perygl o wneud y Beibl yn annealladwy i’n plant. Drwy ofni colli ein hiaith, credaf i ni fod yn ymarhous i ollwng gafael ar draddodiadau fu’n bwysig yn eu hamser, ond nad ydynt bellach yn ymateb i anghenion ein hoes. Cael ein dirymu gan Gyfarfodydd Pregethu, adrodd hanes yr achos, emynau Pantycelyn, ffurfiau caeth ein pwyllgora a hyd yn oed gan ein Cymanfaoedd Canu! Cadw at yr hen ffyrdd gan anghofio fod pob un o’r pethau hyn yn ymateb i’w hoes. Ac mae oes newydd bellach wedi hen geisio mynnu ein sylw …

DSCF6106Ymbalfalu rydym am ateb i’r cwestiwn sut i ddal ein gafael ar bethau sy’n bwysig i ni heb gael ein llyncu gan eraill? Sut i ddal gafael mewn ffordd sydd ddim yn arwain at farwolaeth iaith, traddodiad, enwad, cred …

Y ffordd gywiraf o ddeall beth yw ein blaenoriaethau ydy nodi sut y gwariwn ein harian a’n hamser. Mae hyn yn wir am ein heglwysi yn ogystal ag unigolion, yn fy marn i. Rydym yn dal i wario cannoedd o filoedd ar adeiladau nad ydynt bellach yn fuddiol i’n gwaith, wrth gwyno’n ddi-ben-draw fod y gofyn ariannol arnom yn rhy drwm. Rydym yn ceisio llenwi swyddogaethau oedd yn bodoli ddegawdau yn ôl heb ailfeddwl beth ydy’r anghenion (a’r posibiliadau) heddiw.

Yn ein hymdrech i geisio cadw’r ddysgl yn wastad a chadw pethau i fynd, rydym wedi pentyrru nifer y capeli dan ofal un gweinidog. A thrwy hynny ei gwneud yn amhosibl i weinidog weithredu fel addysgwr ac ysgogydd. Anghofio pwysigrwydd dilyniant arweinyddiaeth o’r pulpud. Anghofio pwysigrwydd ymweld cyson ag aelodau: pob aelod – nid yn unig yr hen a’r methedig. Pawb. A thrwy ffugio fod yna weinidog yn gyfrifol, methu datblygu ein haelodau yn ddigonol. A bellach mae gennym weinidogion o sawl enwad yn teithio o le i le dros yr un dirwedd – am wastraff adnoddau!

Ar ein gorau rydym fel capeli wedi canolbwyntio ar ‘helpu’ pobl, casglu arian at achosion da, ymateb i unigolion anghenus. Ond rywsut collasom bwyslais aruthrol Iesu ar gyfiawnder. Credaf nad yw ein pregethu, ein gweddïo na’n gweithredu wedi adlewyrchu’r neges rymus hon yn ddigonol. Heb weithredu dros gyfiawnder, awn yn ymylol. Nid ydym yn tyfu yn yr adwaith, yn y cwffio sy’n rhan annatod o weithredu cyfiawnder. Fel enwadau, ni lwyddasom i ddarganfod rôl newydd pan enillwyd y wladwriaeth les.

Mae cenhadaeth yn her enfawr – a ydym fel Cymry Cymraeg yn cyfyngu ein cenhadaeth at y Cymry Cymraeg yn unig? Cofiaf un capel lle gweithiwn yn gresynu nad oedd ganddynt blant yn yr ysgol Sul. Gofyn iddynt faint o blant oedd yn siarad Cymraeg yn ardal y capel; roeddynt wedi darganfod nad oedd un plentyn yn yr ardal! Roeddynt wedi treulio blynyddoedd yn gresynu at eu methiant i ddenu plant i’r ysgol Sul. Doedd dim arall wedi digwydd chwaith. Yn wyneb her anferthol ffoaduriaid a dieithriaid i’n cymunedau, beth ydy ein cenhadaeth ni yn y Gymry gyfoes?

A pam, o pam, nad ydym wedi uno ers blynyddoedd? Daliwn i lynu wrth wahaniaethau nad yw’r mwyafrif ohonom bellach yn ymwybodol ohonynt, heb sôn am eu deall! Gwanhau ein cenhadaeth wrth geisio cadw hen systemau i fynd, yn hytrach nag uno i gryfhau cenhadaeth a grymuso cyfiawnder. Bellach uno mewn gwendid a wnawn, am na allwn gadw i fynd. Gymaint gwell fyddai uno mewn cryfder a gobaith.

Yma yn Llandudno rwy’n falch fod pedwar enwad anghydffurfiol Cymraeg wedi dod ynghyd mewn un adeilad, a dywedir yn aml ein bod yn teimlo fel ‘un teulu’. Ond y gwir plaen yw nad ydym wedi symud ymlaen at unrhyw undeb pellach yn y deg mlynedd diwethaf. Parhawn i gasglu arian fel pedwar enwad, i bresenoli ein hunain mewn pedair cyfundrefn enwadol wahanol, i rannu adeilad, nid ei gyd-berchnogi. Nid oes gennym fodd i dderbyn aelodau i’r eglwys unedig! Ni lwyddasom i gael un strwythur – a does dim arwydd fod gan yr enwadau canolog unrhyw ddiddordeb mewn cefnogi hynny. Rydym wedi ein parlysu, ac mewn perygl o fodloni ar hyn fel trefniant parhaol (trefniant sydd yn cadw enwadaeth!) yn hytrach na theithio ynghyd at undeb.

Darllenais gyfres o lyfrau am hanes gweinidog (*) ar daith bywyd, a gwnaeth argraff fawr arnaf. Wrth wynebu cwestiynau bywyd gydag eraill yn ei eglwys a’i gynefin, mae’n dod i ddealltwriaeth newydd o ffydd a bywyd. Dywed na all Duw wneud hebom a bod pwrpas Duw yn cael ei greu ar y daith, gyda ni. Dyna her aruthrol, dyna gyfrifoldeb anhygoel. Efallai ein bod wedi credu nad oes ein hangen ar Dduw, fod popeth wedi ei ragordeinio, bod ein hymateb yn ddiangen. Crefydd nad oes ond ein hangen ar fore Sul ydy hwnnw, i’m tyb i. Nid crefydd taith bywyd Iesu gyda’i ddisgyblion.

Roedd Iesu yn ymateb i’w oes ac i grefydd oedd wedi ei pharlysu. Roedd Anghydffurfiaeth hefyd yn ymateb i oes ac i grefydd oedd wedi ei pharlysu. Sut gwnaethom ni anghofio fod y perygl yno i ninnau? Does dim dewis ond newid. Yr unig gwestiwn ydy ceisio gwneud y dewisiadau sy’n adlewyrchu llwybr Duw, sef llwybr cariad cynhwysfawr. Mae dilyn y fath lwybr yn risg ym mhob oes, gan mai ‘o ran’ y gwyddom …

(*) The Story We Find Ourselves In gan Brian D McLaren