Rhodd Duw i

Rhodd Duw i’r 20fed Ganrif

 Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AA (Alcoholigion Anhybys) (AA)

Wynford

       Wynford Ellis Owen,
Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd

 Wrth dderbyn gwahoddiad y golygydd i ysgrifennu am 12 Cam Alcoholigion Anhysbys dros y deuddeg mis nesaf i Agora, tybiais y byddai’n well, cyn dechrau, egluro peth o athroniaeth ac ethos y Stafell Fyw – fel y gallwch ddeall yn well beth sydd wrth wraidd llwyddiant y ganolfan honno a sut, yn y man, mae 12 Cam AA wedi cyfrannu at y llwyddiant hwnnw. Yn gyffredin rhyngom, er enghraifft, mae’r gred fod dibyniaeth ar alcohol, cyffuriau neu ymddygiadau niweidiol eraill, yn broblem ysbrydol sy’n mynnu datrysiad ysbrydol. Yn fwy na hynny, credwn na all un pŵer meidrol ein rhyddhau o’i grafangau – ond y gall Duw (fel yr ydym yn ei ddeall Ef), ac fe wna hynny ond i ni ei geisio.

Logo Stafell FywY broblem gyntaf, wrth gwrs, yw cael pobl i sylweddoli eu hangen am help. Oherwydd mae dibyniaeth yn un o’r cyflyrau hynny sy’n mynnu dweud wrthych nad oes dim byd yn bod arnoch (un arall yw sgitsoffrenia). Yn y fan yna mae’r broses o adferiad yn dechrau – a dyna pam fod dioddefaint yn rhan allweddol o’r broses. Dioddefaint, o bosib, yw un o’r grymoedd mwyaf creadigol sy’n bod ym myd natur; dioddefaint yn aml iawn yw’r unig beth wnaiff berswadio rhai pobol i newid eu ffyrdd. Ond mwy am hynny’r mis nesaf. Dyma athroniaeth ac ethos Stafell Fyw Caerdydd i ddechrau’n hastudiaeth o’r 12 Cam – camau a fydd, o’u byw i orau eich gallu, yn sicrhau i chi brofiad ysbrydol a chysylltiad ymwybodol parhaus a thrawsnewidiol â’r Dwyfol.

Cefndir

Mae’n anochel y bydd unrhyw driniaeth sy’n ymwneud â chyffuriau neu alcohol yn cael ei seilio ar syniadau traddodiadol am beth yw dibyniaeth a pam mae’n digwydd. Mae’n fater cymhleth sy’n aml yn cael ei gamddeall, ac yn un na ellir ei esbonio yn nhermau meddygaeth yn unig, er bod ei effaith ar y corff yn debyg iawn i effaith clefyd. Anhwylder ysbrydol yw dibyniaeth, un sy’n ymwneud ag ystyr bywyd ac adnabyddiaeth dyn ohono’i hun. Does gan yr adictiaid sy’n dod atom i gael adferiad ddim rhyw lawer o syniad ynghylch pwy ydyn nhw na beth yw pwrpas bywyd.

Yn y Stafell Fyw, ein dehongliad ni o ddibyniaeth, yn gryno, yw hyn: bod dibyniaeth yn ymgais i ddianc rhag yr hunan – a hynny oherwydd baich unigrwydd. alcoholMae hyn yn tarddu, fel arfer, o blentyndod yr adict gan fod plant sy’n cael eu hamddifadu o gariad, neu sy’n cael eu cosbi am ymddwyn yn ôl eu greddf, yn tyfu i fod yn oedolion ag awydd eithafol i lanw rhyw wagle emosiynol y tu fewn iddyn nhw – a’r angen hwnnw’n cael ei ateb gan gyffuriau, alcohol neu ymddygiadau niweidiol eraill.

Pam rydyn ni’n teimlo’r angen i ddianc rhagom ni ein hunain?

Yn aml iawn, mae’r adictiaid sy’n newydd i adferiad yn gwrthod y syniad eu bod yn troi at gyffuriau neu alcohol er mwyn dianc rhagddyn nhw eu hunain. Yn hytrach, maen nhw’n mynnu mai dyma eu ffordd nhw o ymlacio, cael amser da neu deimlo’n hapus.DrugsMae dibyniaeth yn twyllo’r adict i feddwl bod cyffuriau neu alcohol yn gymorth i ddelio â throeon bywyd. Ar ôl wythnos galed o waith bydd yn teimlo ei fod yn ‘haeddu’ diod fach er mwyn ymlacio – yn gywir fel petai hynny’n amhosib heb gymorth cemegyn! Y gwir yw bod yr adict, ar ôl straen wythnos brysur, i raddau yn trio ‘dianc’ rhag teimladau annifyr nad yw’n gallu eu rheoli. Efallai y bydd yn gofyn iddo’i hun: “Pam ydw i’n gorfod mynd drwy hyn bob wythnos?” neu “Beth ydw i’n ei wneud â ’mywyd?” Ac yn lle ceisio ateb y cwestiynau, mae’n tawelu ei feddyliau gydag alcohol neu gyffuriau.

Mae’r ymddygiad hwn yn beth anymwybodol ac awtomatig; mae’n beth sy’n cael ei dderbyn a’i gymell yn ein diwylliant ac, oherwydd hynny, mae’n beth anodd iawn rhoi bys arno a’i herio. Mae yfed a chymryd cyffuriau, boed yn broblem neu beidio, wedi mynd yn rhan ‘naturiol’ o brofiad byw. Yr hyn sydd wrth wraidd dibyniaeth yw’r penderfyniad i ddefnyddio cyffuriau neu alcohol er mwyn newid sut rydyn ni’n teimlo ac, mewn ffordd, does dim ots pa gyffur a ddewisir; gwir achos y salwch yw’r awydd i ddianc rhag ein gwir deimladau. Efallai y bydd rhywun sy’n teimlo’n swil neu’n lletchwith mewn achlysur cymdeithasol yn penderfynu meddwi er mwyn ymdopi â’r straen o ymwneud â phobl dyw e ddim yn eu hadnabod. Dyw ein cymdeithas ddim yn barod iawn i dderbyn bod teimlo’n swil nawr ac yn y man yn beth normal, ac er ei fod yn beth anghyfforddus, ei fod yn ddigon derbyniol. Felly mae’r yfwr yn ceisio newid yr hyn ydyw drwy feddwi, gan roi’r argraff i bawb ei fod yn berson gwahanol iawn i’r hyn ydyw mewn gwirionedd.

Mae llawer o’r gwaith a wnawn yn y Stafell Fyw yn canolbwyntio ar gael y defnyddwyr cyffuriau i anghofio am yr actio a bod yn nhw eu hunain – heb fynd allan o’u ffordd i drio plesio pobol eraill. Mae bod yn ni ein hunain yn golygu bod yn amherffaith a derbyn gwendidau dynol, boed yn swildod neu dristwch neu ddicter.

Y cyffuriau na allwn eu gweld

Erich Fromm

Erich Fromm

Ym 1955 ysgrifennodd y seicdreiddiwr Erich Fromm un o lyfrau pwysicaf yr 20ed ganrif, sef The Sane Society. Sylwodd fod gan America, gwlad y digonedd, raddfa uchel o hunanladdiad a phroblem enfawr gyda chyffuriau. O geisio deall pam, fe welodd fod UDA yn dda iawn am ofalu am ofynion materol y rhan fwyaf o’i phobol, ond yn wael iawn am ofalu am eu hanghenion ysbrydol. Ei ddadl ef oedd bod cymdeithas oedd wedi’i sylfaenu ar brynwriaeth (marchnad oedd yn targedu’r prynwyr) yn gwneud niwed i’w dinasyddion yn emosiynol ac yn ysbrydol.

 

Rydyn ni yn y Stafell Fyw yn teimlo bod dadl Fromm yn hollol ddilys ym Mhrydain yn yr 21ain ganrif. Mae ein cymdeithas yn rhoi bri mawr ar lwyddiant, enwogrwydd, bod yn ddeniadol, meddu ar bŵer. Trwy gyfrwng y rhaglenni ‘reality TV’ cawn ein cyflyru i feddwl bod cystadlu’n ddidrugaredd a hunanol yn beth i’w edmygu. Mae hyn yn gallu porthi dibyniaeth oherwydd mae’n rhoi pwysau ar bobl i ymddwyn yn wahanol i’w greddf naturiol. Maen nhw’n teimlo rhyw angen i roi’r argraff eu bod yn llwyddiannus, eu bod yn boblogaidd, ac i’w haddurno eu hunain â phethau sy’n rhoi’r argraff eu bod yn gyfoethog. Mae’r rhith hwn o lwyddiant a phŵer yn gallu bod llawn mor feddwol ag alcohol, ac fe all ddieithrio pobl rhag eu gwir hunaniaeth am gyfnodau maith o’u bywyd.

Mae ein taith drwy fywyd yn gyfres o gerrig milltir sy’n dynodi diwedd un cyfnod a dechrau cyfnod newydd – a bydd pob cam newydd yn dod â’i amheuon a’i bryderon. Meddai Paul yn ei lythyr at y Corinthiaid, ‘Pan oeddwn yn blentyn, fel plentyn yr oeddwn yn llefaru, fel plentyn yr oeddwn yn meddwl, fel plentyn yr oeddwn yn rhesymu. Ond wedi dod yn ddyn, yr wyf wedi rhoi heibio bethau’r plentyn.’ Ond mae adictiaid yn aml yn ei chael yn anodd derbyn y newid o un cam i’r llall, a’r un mwyaf anodd yw ymwrthod â’r materol a derbyn yr ysbrydol.

Mae ein byd ni heddiw, fel yr un a ddisgrifiodd Fromm yn 1955, mor ddibynnol ar gyfoeth materol, ac ar ‘ego’. I filiynau o bobl, arian, cyfoeth materol, enwogrwydd, pŵer a phrynwriaeth yw popeth; dyma’r unig bethau ‘real’ yn eu bywyd. Mae adictiaid yn cael eu cyflyru i chwilio am atebion y tu allan iddyn nhw eu hunain, tra bod yr ateb oddi fewn. Yn y Stafell Fyw ceisiwn helpu adictiaid i weld y tu hwnt i’r cyflwr materol ac i afael yn eu gwir gymeriad nhw eu hunain ac elfen ysbrydol eu bywyd. O wneud hyn, gallant weld pwy ydyn nhw mewn gwirionedd a sylweddoli beth yw eu pwrpas yn y byd hwn.

Maddeuant a dynoliaeth

Mae adictiaid, mewn adferiad, yn ei chael hi’n anodd maddau i bobl eraill ac iddyn nhw eu hunain. Mae maddau i rywun yn golygu derbyn bod gan y person yna wendidau, ond mae llawer ohonom yn methu gweld hynny o gwbl. Mae’n beth cyffredin, er enghraifft, i adictiaid osod eu rhieni neu rywun agos ar bedestal, gan edrych arnynt fel rhyw fath o dduwiau bach perffaith. ‘Heb ei fai, heb ei eni,’ medd yr hen ddywediad, ond os na welir bai, does dim angen maddau! Trwy dderbyn bod y bobl o’n cwmpas yn amherffaith, bod ganddyn nhwythau hefyd eu beiau a’u gwendidau, mae’n haws maddau. Rydyn ni fel arfer yn disgwyl llawer gormod gan gariad diamod, ac mae sylweddoli hyn yn galluogi’r adict i gael gwared ar unrhyw ddicter – ac i faddau.

Mewn cân a sgrifennodd Loudon Wainwright i’w blant yn esbonio iddynt pam yr oedd ef a’u mam wedi gwahanu, mae e’n dweud hyn: ‘Rhyw ddydd, pan fyddwch chi wedi tyfu, rwy’n gobeithio y byddwch chi’n gweld eich rhieni fel pobl, dyna’r cyfan allwn ni fod …’ Mae derbyn pobl – yn rhieni, ffrindiau, cariadon a chyd-weithwyr – fel pobl, pobl gyffredin, a dim byd mwy na hynny, yn rhan bwysig o adferiad.

Beth sy mor ddrwg am yr ochr dywyll?

Mae’r rhan fwyaf o bobl, rywbryd yn ystod eu bywyd, wedi cael y teimlad nad yw’n iawn i fod yn ddim byd ond perffaith. Mae ceisio cyrraedd y nod hwnnw, sy’n dasg amhosibl, yn rhwystro pawb (nid yn unig adictiaid mewn adferiad) rhag mynegi eu gwir hunain yn llawn. Mae gyda ni i gyd ein gwendidau, yn genfigen ac yn chwantau ac yn atgasedd, ond yn ogystal â hynny mae gyda ni i gyd ochr dywyll i’n natur – ochr yr ydym fel arfer yn ofni ei chydnabod. Mae hyn yn aml yn ymwneud â rhywioldeb a chwantau y mae’r unigolyn yn rhy ofnus i’w dangos.

Stafell Fyw QuoteCanlyniad hyn yw bod llawer o bobl yn treulio rhan helaeth o’u bywyd mewn ras i ddianc rhagddyn nhw eu hunain. Mae pobl yn cael eu gorfodi i actio bod yn bobl ‘neis’, anhunanol, er bod gyda ni i gyd, mewn gwirionedd, elfen ddigon hunanol yn ein natur. Bodau cymhleth ydyn ni i gyd, wastad yn trio cadw’r cydbwysedd rhwng yr awydd i fod yn garedig a chymwynasgar a’r dynfa tuag at hunan-foddhad a hunan-les. Fel y dywedwyd uchod, rydyn ni’n byw mewn cymdeithas sy’n llawn materoliaeth a thrachwant, lle mae ariangarwch yn rhinwedd. Ond yr un pryd, disgwylir i bobl esgus eu bod yn anhunanol, yn ‘bobl dda’, a chadw’r elfen dywyll dan glo er mwyn ennill parch a chariad.

Yn y Stafell Fyw, fel gyda 12 Cam Alcoholigion Anhysbys, ry’n ni’n ceisio helpu pobl i dderbyn yr hyn ydyn nhw yn ei gyfanrwydd, yn cynnwys yr ochr dywyll, ac i fod yn gyfforddus gyda hynny. Nid yw hynny’n golygu ein bod yn annog pobl i ddilyn y reddf hunanol neu ddinistriol, ond yn hytrach i dderbyn a chydnabod bod amherffeithrwydd yn rhan o’r natur ddynol.

Cywilydd

Salwch yw dibyniaeth, a hwnnw’n cael ei atgyfnerthu gan gywilydd. Mae’n cadw’r adictiaid yn gaeth am flynyddoedd gan nad oes ganddynt fodd i fod yn agored ynghylch eu problemau heb ofni cael eu gwrthod a’u beirniadu gan y rhai sy’n honni eu bod yn eu caru, a chan gymdeithas yn gyffredinol.

stafell fywYn y Stafell Fyw mae adferiad yn cael ei weld fel rhywbeth positif. Anogwn adictiaid i wrthsefyll cywilydd ac i roi mynegiant agored i hanes eu hadferiad a’u gobaith. Mae grym cywilydd wedi cadw’r adictiaid yn gaeth i’w dibyniaeth a’u hatal rhag mynegi eu gwir hunaniaeth a’u dymuniad mewn bywyd. Trwy fod yn agored ac yn onest, gan fentro cael eu brifo, mae adictiaid yn gallu ymladd yn erbyn grym cywilydd a siarad yn uniongyrchol â’r rhai sy’n dal i ddioddef. O allu cyfleu’r profiad gwerthfawr a sanctaidd hwn, mae’r gylchdaith o ddibyniaeth i adferiad yn dod i’w llawn dro. Mae’n rhoi i’r adictiaid sydd mewn adferiad, ac i’r rhai sy’n dal i ddioddef, y cyfle i fod yn gyflawn – a dyna’r cyflwr y maen nhw wedi bod yn dyheu amdano ar hyd eu hoes.

***************************************************************************

Y mis nesaf byddwn yn edrych ar Cam 1: Cyfaddef ein bod yn ddi-bŵer dros alcohol (neu unrhyw ddibyniaeth neu ymddygiad niweidiol arall) a bod ein bywyd allan o reolaeth. A bydd raid inni dderbyn rhai gwirioneddau anghyfforddus amdanom ni ein hunain.