Dau Hanner Bywyd

Dau Hanner Bywyd

Enghraifft yw’r isod o waith Richard Rohr – awdur toreithiog a Ffransisiad yn America sy’n gyfrifol am y Centre for Action and Contemplation

Datblygiad Dynol yn yr Ysgrythurau

rainbow-1205807_960_720Mae’n help gwybod am y ffurf bwa enfys cyfan sydd i’n hoes, i ble mae’n anelu ac yn arwain. Bu i Walter Brueggemann, un o’m hoff ysgolheigion ysgrythurol, wneud cysylltiad disglair iawn rhwng  datblygiad yr ysgrythurau Hebraeg a datblygiad ein hymwybyddiaeth dynol ni, fel profiad unigol.

 

Dywed Brueggemann fod tair rhan i’r Ysgrythurau Hebraeg: y Torah, y Proffwydi, a Llên Doethineb. Mae’r Torah, y pum llyfr cyntaf, yn cyfateb i hanner cyntaf ein hoes. Dyma’r cyfnod pryd y rhoddwyd i bobl Israel eu hunaniaeth drwy gyfraith, traddodiad, strwythur, sicrwydd, defodaeth i’r grŵp, eglurder a’r ymdeimlad o etholedigaeth. Fel unigolion, rhaid i ni i gyd ddechrau gyda rhyw strwythur clir ac amcan o ddatblygiad tebygol ar gyfer twf normal, iach (fel yng ngwaith Maria Montessori). Dyna beth y mae rhieni yn ei roi i’w rhai bach drwy gofleidio, diogelu, rhoi sicrwydd a theimlad o fod yn arbennig. Yn ddelfrydol, ry’ch chi’n dysgu’ch bod yn wrthrych cariad drwy weld adlewyrchiad ohonoch eich hunan yng ngolwg cariadus eich rhieni a’r bobl o’ch cwmpas. Rydych chi’n sylweddoli eich bod yn arbennig, a bod bywyd yn dda – ac felly rydych chi’n teimlo’n ddiogel.

Fr-Richard-FH-porch-300x205

Richard Rohr

Ail ran sylweddol yr ysgrythurau Hebreig yw’r Proffwydi. Dyma gyflwyno inni elfen angenrheidiol o ddioddefaint, meini tramgwydd, a methiannau, sy’n ein cyflwyno i ail hanner ein hoes. Mae meddwl yn broffwydol yn gynneddf i hunanfeirniadu iach, y gallu i gydnabod ochr dywyll chi’ch hunan, fel y gwnaeth y proffwydi dros Israel.

 

 

Heb y methiant, y dioddefaint, a’r esgus-paffio, nid yw’r rhan fwyaf ohonom (na’r rhan helaethaf o grefydda) byth yn tyfu tu hwnt i hunanaddoli a meddwl y llwyth (hunanaddoli wedi’i estyn i’r grŵp). Dyna fu’n wir am y rhan helaethaf o hanes dynol hyd yn hyn, a dyna paham y bu rhyfel yn beth mor arferol. Ond mae hunanfeirniadaeth iach yn eich helpu i sylweddoli nad ydych chi cystal â hynny, na’r grŵp yr ydych chi’n perthyn iddo chwaith. Mae’n dechrau chwalu’r meddwl deuol, hwn neu’r llall, wrth i chi sylweddoli bod pethau’n ddrwg ac yn dda. Dyna wneud pob delw-addoli a’r holl rithiau sy’n mynd gydag e’n amhosibl.

Rhoddodd fy mam i mi feirniadaeth a disgyblaeth broffwydol, ac ni wnaeth hynny ddrwg i mi o gwbl, oherwydd rhoddodd i mi’n gyntaf yr holl garu, a chusanu a chwtsio. Roedd yna sylwedd i ddygymod â’r beirniadu. Gwyddwn yn gyntaf oll mod i’n wrthrych cariad, ac oherwydd hynny gallwn dderbyn y feirniadaeth a chael clywed nad y fi oedd canol y byd. Os yw ein psyche yn symud yn y drefn arferol, bydd burum hunanfeirniadaeth yn ychwanegu at y sicrwydd o fod yn arbennig, yn caniatáu i ni symud i drydedd adran yr ysgrythurau Hebraeg: Llên Doethineb (llawer o’r Salmau, Ecclesiasticus, Cân y Caniadau a Llyfr Job). Yma, fe ddarganfyddwch iaith dirgeledd a pharadocs. Dyma ail ran ein hoes. Rydych chi’n ddigon cryf erbyn hyn i gynnal gwrthddywediadau hyd yn oed ynoch eich hunan, a hyd yn oed mewn pobl eraill. A gallwch wneud hynny gyda thrugaredd, maddeuant, amynedd a goddefgarwch. Cewch sylweddoli bod eich etholedigaeth chi er mwyn gadael i eraill wybod eu bod hwy hefyd wedi’u dewis. Rydych chi wedi symud o ddethol-edigaeth y Torah, ‘bod ar wahân i fod yn sanctaidd’, i fod yn gynhwysol, a chaniatáu i bopeth berthyn. Wnawn ni ddim symud tuag at ail hanner ein hoes nes i ni fynd drwy’r rhan gyntaf a’r cyfnod o drawsnewid. Y drefn orau felly yw trefn–anhrefn–aildrefnu. Ac mae’n rhaid i chi fynd drwy’r anhrefn neu chewch chi ddim aildrefnu. Does dim eithriadau! Dyma beth mae Paul yn ei alw’n ‘ffolineb y groes’ (Corinthiaid 1.18–25).Centre for contemplation

(Addaswyd o Falling Upward: a Spirituality for the Two Halves of Life (2011). Cofrestrwch gyda’r Centre for Action and Contemplation, drwy bwyso ar https://cac.org/2016-daily-meditations-overview/