Ofnau

OFNAU’N CODI AR ÔL BREXIT

Rocet Arwel Jones

Mae gen i ofn. Am y tro cyntaf yn fy mywyd mae gen i ofn gwirioneddol ynglŷn â natur a chyfeiriad gwleidyddol a chymdeithasol Cymru.

Dyw canlyniad y refferendwm ar Ewrop ddim ond yn un darn o hynny. Fe fydd yn garreg filltir o bwys yn nhreigl y blynyddoedd hyn, ond yn ei hanfod, nid dyna’r broblem.

Dwi ddim yn awgrymu am eiliad bod pawb bleidleisiodd i adael Ewrop yn hiliol nac yn anwybodus nac yn wirion. Dwi’n digwydd anghytuno’n sylfaenol â’r penderfyniad. Ond dwi hefyd yn credu bod yna rai sydd wedi ystyried y ffeithiau (cywir) a gwrando ar bob dadl resymol ac yn dal wedi penderfynu gadael. Yn hynny o beth, dyw fy mhryder ddim yn wleidyddol, fel y cyfryw, ond yn gymdeithasol.

EU-referendum-539380Dwi hefyd yn credu bod yna lawer o bobl wedi eu camarwain a’u twyllo gan elfennau ffasgaidd o fewn ein cymdeithas. A thra bod angen chwilio am yr ateb gwleidyddol i weithredu’r penderfyniad ar Ewrop neu hyd yn oed i’w wyrdroi o, fy mhryder i ydy y bydd pethau dyfnach o lawer yn ffynnu heb i ni sylwi bron. Mae gen i ofn y bydd hiliaeth a rhagfarn yn erbyn pob mathau o garfanau ‘ymylol’ yn mynd yn waeth ac yn waeth tra mae’r agenda wleidyddol a newyddiadurol yn cael ei dominyddu gan gystadlaethau am arweinyddiaeth gwahanol bleidiau, gan etholiadau cyffredinol, refferenda a blynyddoedd o gecru am y setliad Ewropeaidd.

Defnyddiais y gair ffasgaeth. Dwi ddim yn arbenigwr ond dydw i ddim yn defnyddio’r gair yn ysgafn. Hyd y gwn i, mae ffasgaeth yn hanesyddol wedi bwydo ar dlodi ac ofn, amheuaeth o’r drefn, ar hiliaeth a senoffobia, o feio’r ‘arall’ am bopeth. Mae’n fudiad poblogaidd sy’n bwydo’n ddiwahân oddi ar dlodion yr asgell dde a’r asgell chwith. Ond fe fydd bob amser yn cael ei arwain gan rai sy’n well ganddyn nhw (ac sy’n gallu fforddio) siampên a chafiâr.

Mae’r rhai bleidleisiodd i adael wedi cael eu bradychu gan Brexit a arweiniwyd gan Wleidyddion y Sefydliad o’r ddwy brif blaid. Mae gennym ni i gyd lawer i’w golli, ond wrth gwrs y rhai oedd yn meddwl fod ganddyn nhw leiaf i’w golli yw’r rhai sy’n mynd i weld fod ganddyn nhw mewn gwirionedd fwy fyth i’w golli. Nid ar y gwaelod gwael, lle nad oes dim modd mynd dim is, y maen nhw ond ar ymyl y dibyn. A hawdd yw disgyn. Ac o weld brad Brexit a’r Prif Bleidiau Prydeinig, ble mae’r bobl yma’n debyg o droi ond at UKIP?

Dyw UKIP yn ddim ond wyneb mwyaf (ac rwy’n defnyddio’r gair yn ofalus) derbyniol yr asgell dde. Yn union yn eu cysgod tywyll nhw daw Britain First, Loyalty GB, English Defence League a llawer o fudiadau erchyll eraill sydd ddim yn ceisio cuddio’u ffieidd-dra. A pheidiwn â chymryd ein twyllo bod Farage wedi diflannu, wedi cilio mae o am y tro, ac os yw gwleidyddiaeth ‘prif ffrwd’ UKIP ddim at ei ddant o, hoffwn i ddim dychmygu lle bydd o’n ymddangos nesaf.Brexit poster

Benthycodd UKIP eu poster erchyll o fewnfudwyr o Syria gan Loyalty GB. Soniodd Farage yn gwbl fwriadol fod y refferendwm yn ‘chwyldro a ddigwyddodd heb danio’r un ergyd’. Heb danio’r un ergyd? A mam ifanc a chynrychiolydd democratiaeth etholedig yn gorwedd yn gelain? Ai ceisio ein perswadio ni neu fo ei hun oedd o nad oedd gan y misoedd o chwipio ofn ac amheuaeth, o hiliaeth, o wawdio tlodi ac anabledd ym mhapurau asgell dde Murdoch ac ar gyfresi di-rif ar Channel 5?, nad oedd hyn wedi creu’r llwyfan i’r terfysgwr yma, oedd wedi bod yn arfer ei farn a’i ragfarn ers blynyddoedd, gamu allan arno gyda gwn a chyllell, a lladd?

Wrth i’r rhai a siomwyd droi at UKIP ac i’r blaid Dorïaidd chwalu a rhai aelodau seneddol o ran ‘egwyddor’ neu i gynnal eu gyrfa nythu yn rhengoedd UKIP byddant yn mynd yn fwy prif-ffrwd, ac wrth iddyn nhw fynd yn fwy derbyniol bydd hynny’n llusgo’r mudiadau mwy ffiaidd i brif-ffrwd gwleidyddiaeth Prydain a Chymru, Ceredigion ac Aberystwyth.

Y cyntaf yn y byd y rhown ni enw ar hyn, y gorau yn y byd a haws fydd hi i drefnu i frwydro yn ei erbyn. A ffasgaeth yw’r enw hwnnw.

brexit-1478084_960_720Llwyddodd UKIP a’u tebyg drwy wneud y drafodaeth am bethau hiliol a rhagfarnllyd yn dderbyniol. Er enghraifft, ym mha gyd-destun arall y byddai’n dderbyniol, a hynny ddyddiau ar ôl lladd mam ifanc ac Aelod Seneddol, i awgrymu llacio’r deddfau rheoli gynnau ym Mhrydain? Ym mha hinsawdd arall y byddai pobl yn ymosod ar eu cyd-ddyn yn eiriol am fod o hil wahanol yng Ngheredigion, yn Aberystwyth?

Mae’n hanfodol ein bod ni rŵan yn ei gwneud hi’n dderbyniol ac yn ddiogel i bobl drafod goddefgarwch, cyd-ddealltwriaeth a chariad. Mae’n rhaid creu’r gofod i hyn ddigwydd.

Does gen i ddim ateb. Ond dwi angen siarad am y peth. Oherwydd dwi ofn, dros fy nheulu, fy nghymdeithas a ngwlad. Dwi hefyd yn euog hyd yma o wneud y nesa peth i ddim am y peth. Dwi am drio rhwystro hyn. Ac os metha i, dwi am i fy mhlant a’m hwyrion wybod fy mod wedi trio. Wn i ddim sut. Ond yn y lle cyntaf fe leciwn i siarad am y peth.

 

Mae hwn yn ddyfyniad nad ydw i byth yn blino ar ei ddyfynnu a dwi’n meddwl ei fod o’n addas yn y cyd-destun hwn:

Na ddywed neb fod y delfryd hwn yn rhy uchel. Cadwed Duw ni rhag y diffyg ffydd a ddywaid fod ein delfrydau uchel yn ‘rhy dda i fod yn wir’. Nid oes dim yn rhy dda i fod yn wir … pob gweledigaeth aruchel a roddir i ni, addewid ydyw fod posibilrwydd ei sylweddoliad eisoes yn y golwg. Bob yn gam y cyrhaeddir yno, y mae’n wir; ond nid oes gan Eglwys Dduw hawl i ddal i fyny yng ngwydd y byd yr un ddelfryd is na’r uchaf a ddatguddiwyd iddi. Boed i ni fod yn ffyddlon i’r weledigaeth a gawsom, ac fe ddenwn y byd ar ein holau i geisio ei sylweddoli. Trwy hynny, byddwn yn prysuro’r dydd y bydd Teyrnas ein Harglwydd Iesu Grist wedi ei sefydlu ar y ddaear, megis yn y nefoedd.

David Thomas