E-fwletin Tachwedd 27ain, 2016

Yr Ail Ddyfodiad

Dyma ni wedi cyrraedd tymor yr Adfent unwaith eto a dechrau blwyddyn eglwysig newydd. Thema Sul cynta’r Adfent yn draddodiadol yw yr Ail Ddyfodiad, ac mae darlleniadau’r Sul hwn bob blwyddyn yn cynnwys o leiaf un cyfeiriad at Iesu Grist yn dod ar gymylau’r nef.

Ond faint mor gredadwy yw’r ddysgeidiaeth am yr ail ddyfodiad erbyn hyn? Mae’n wir mai geiriau a briodolir i Iesu Grist yw’r proffwydolaethau yn yr efengylau ynghylch yr ail ddyfodiad. Mae Paul yn 1 Thesaloniaid 1:10 hefyd yn dweud bod y Cristnogion yn ‘disgwyl Mab Duw o’r nefoedd, … yr un sy’n ein gwaredu oddi wrth y digofaint sydd i ddod’.

Mae’n amlwg hefyd bod awduron yr efengylau, a/neu Iesu Grist, yr Apostol Paul, ac ysgrifenwyr eraill yn y Testament newydd, o’r farn bod yr ail ddyfodiad yn mynd i ddigwydd yn fuan. “Nid â’r genhedlaeth hon heibio nes i’r holl bethau hyn ddigwydd” medd Iesu Grist yng ngyd-destun dyfodiad Mab y Dyn yn ôl efengyl Mathew, Marc a Luc, ac mae awdur Llyfr Datguddiad yn honni ‘y mae’r hwn sy’n tystiolaethu i’r pethau hyn yn dweud, “Yn wir yr wyf yn dod yn fuan.”’

Y casgliad rhesymol i ni ddod iddo yw eu bod wedi tybied yn anghywir. Ac eto mae’r syniad am Iesu Grist yn dod yn ôl i’r byd ar gymylau’r nef yn dal i gael ei bedlera yn ein plith. Yn hyn o beth ry’ ni’n camarwain pobl yn ddybryd – onid yn eu twyllo’n deg.

Un ffordd o ddehongli delwedd ail ddyfodiad Iesu Grist i’r byd yw trwy ystyried fod ei genadwri am fyd o degwch a chyfiawnder yn cael ei hyrwyddo gennym, ac wrth i’r hyn yr oedd Iesu’n ei gynrychioli neu yn ei ymgtorffori yn cael ei fabwysiadu gan mwy a mwy o bobl, y gellir dweud bod ei ddydd yn dod.  

Ar ddechrau’r flwyddyn eglwysig beth am i ni fel cefnogwyr C21 wneud adduned i fod yn fwy gonest gyda ni’n hunain a gyda’n gilydd yn ein dadansoddiad a’n dealltwriaeth o ddarlleniadau wythnosol yr eglwys y flwyddyn hon – gan ddechrau gyda’r darlleniadau am yr ail-ddyfodiad? Breuddwyd ffôl yw disgwyl am waredigaeth oddi allan i’n hachub ni rhag y trafferthion sy’n ein bygwth fel dynoliaeth. Mae ein dyfodol yn dibynnu ar ein parodrwydd ni ein hunain i gymryd cyfrifoldeb i wireddi’r dyfodol hwnnw.

Ac fel y mae’r agweddau hiliol a’r diffyg parch a goddefgarwch ry’ ni wedi ei weld yn ddiweddar yn sgil Brexit a’r etholiad arlywyddol yn yr Unol Daleithiau wedi dangos, ry’ ni’n bell iawn o weld y dydd hwnnw’n “dod yn fuan”.

(Cafwyd ymateb i’r e-fwletin hwn ar y Bwrdd Clebran. Gweler YMA  – Gol.)