Awelon newid
“Mae’r byd wedi newid. Rwy’n ei deimlo yn y dyfroedd. Rwy’n ei deimlo yn y pridd. Mae sawr newid ar yr awel”. Dyna eiriau rhoddodd JRR Tolkein yng ngenau Galadriel, brenhines y Tylwyth Teg, yn ei nofel ‘Brawdoliaeth y Fodrwy’. Rhyw ddyddiau tebyg yw hi ar hyn o bryd. Mae awelon newid (os nad corwyntoedd newid) yn chwythu’n gryf. Neu felly mae’n ymddangos i ni sy’n byw o fewn amlen y diwylliant Eingl-Americanaidd, beth bynnag.
Un o broffwydi newid ein hoes yw’r sylwebydd economaidd Paul Mason. Bu ei lyfr ‘PostCapitalism: a guide to our future’ ar frig y siartiau llyfrau llynedd. Dadl sylfaenol Mason yw ein bod yn byw trwy gyfnod o drawsnewidiad sylfaenol yn natur y gymdeithas gyfalafol orllewinol. Mae cynhyrchu, caffael a defnyddio gwybodaeth yn disodli cynhyrchu a phrynu nwyddau o fewn yr economi, meddai, gan newid natur gwaith a newid natur y cysylltiadau rhwng llafur a chyfalaf. At hynny, mae’r chwyldro technolegol yn newid y modd ry’n ni’n rhyngweithio’n gymdeithasol ac yn cyfathrebu a chyfryngu â’n gilydd. Gwêl hadau dirywiad anorfod cyfalafiaeth yn y ddeubeth hyn. Mae’n cyfeirio at nifer o wrthdystiadau a chwyldroadau diweddar i awgrymu bod y patrymau grym hierarchaidd yn cael eu herio a’u hysgwyd gan y newidiadau hyn – o’r Gwanwyn Arabaidd i wrthryfel ymbarél Hong Kong a’r mudiad Occupy. Yn wahanol i Marx, nid y proletariat fydd y cyfrwng i’r newid hwn, meddai Mason, ond yr unigolyn addysgedig rhwydweithiol – cenhedlaeth y clustffonau gwynion, y genhedlaeth sydd wedi ei wifrio’n barhaus i’r Oes Wybodaeth.
Ar hyn o bryd, yn y byd Eingl-Americanaidd, mae’n ymddangos mai lladmeryddion y dde geidwadol sydd wedi cymryd mantais ar yr awydd yma i herio’r dref hierarchaidd draddodiadol. Bu ‘Herio’r Sefydliad’ yn rhyfelgri ar ddwy ochr Yr Iwerydd yn ddiweddar – er, mae’n gwbl eironig mai cynrychiolwyr y Sefydliad a’r hen drefn gyfalafol fu’n arwain y gad yn hynny o beth (a hynny heb ddangos fawr o barch at addysg, gwybodaeth na ffeithiau chwaith). Mae’n ymddangos eu bod nhw wedi sawru’r awel yn fwy cywir na lladmeryddion y chwith rhyddfrydol hyd yn hyn.
Ond nid proffwydoliaeth dywyll sydd gan Paul Mason. Mae’n gweld cyfleoedd pellgyrhaeddol yn y trawsnewid mawr yma i gyfnod Ôl-gyfalafol. Gwêl gyfleoedd i adeiladu byd ar seiliau mwy cydradd ac unol. Mae yna gyfleoedd euraid i ail-greu perthnasau cymdeithasol trwy ymdrechion anghydffurfiol cydweithredol adeiladol sy’n rhoi bri ar werthoedd amgenach na’r hyn a hyrwyddir gan gyfalafiaeth hierarchaidd bresennol. Mae’n amlinellu sut y gallai’r prosesau economaidd newydd ail-ddosbarthu cyfoeth, lliniaru tlodi byd-eang ac osgoi cynhesu hinsawdd. O wireddu’r dyheadau hyn, meddai Mason (gan ddyfynnu J M Keynes) bydd un her oesol yn sefyll. “Am y tro cyntaf ers ei greu mi fydd yn rhaid i ddyn wynebu ei broblem sylfaenol barhaus – sut i ddefnyddio ei ryddid o ofalon economaidd dybryd… i fyw yn ddoeth yn gytûn ac yn dda”.
Os yw darogan Paul Mason ynghylch newidiadau cymdeithasol sylfaenol yn gywir, onid oes angen i ni ofyn i ni’n hunain yn go glou: sut mae sicrhau bod efengyl Iesu – ei werthoedd, ei weledigaeth a’i wirionedd – yn rhan o wead sylfaenol ein cymdeithas a’n cymdogaethau wrth i ni wynebu’r oes Ôl-gyfalafol, Ôl-Gysteninaidd, Ôl-wirionedd hon? Heb i Gristnogion hwylio’r gwyntoedd newid yma yn go ddeheuig mae yna berygl y bydd credu mewn Tylwyth Teg yn fwy deniadol a pherthnasol i lawer.