E-fwletin Tachwedd 13eg, 2016

Clywch sŵn y gwynt sy’n chwythu

Wel wir! Er iddo gael llai o bleidleisiau na Hillary Clinton – ac, yn wir, llai o bleidleisiau na’r hyn gafodd Mitt Romney yn erbyn Barak Obama bedair blynedd yn ôl – fe ŵyr y byd a’r betws erbyn hyn mai’r biliwnydd  Donald Trump a enillodd y ras i’r Tŷ Gwyn. Bu’n ymgyrch nodedig o filain a brwnt. Ni chafwyd fawr ddim trafodaeth ynghylch manylion polisi ond cafwyd digonedd o ymosodiadau personol a datganiadau cyffredinol ymfflamychol.

trumpErs i’r daeargryn annisgwyl yma ein taro bu’r sylwebyddion wrthi fel melinau pupur yn dadansoddi a darogan, gan geisio dirnad sut fydd pethau arnon ni ar y blaned hon â Trump yn llywio’r ‘byd rhydd’. Yn eu plith clywyd ambell lais o blith gwleidyddion dwyreiniol yn datgan yn go bendant, os mai dyma ganlyniad y ‘ddemocratiaeth’ ‘ych chi orllewinwyr yn ei hwrjo arnon ni – cadwch e! Mae gwyntoedd newid yn chwythu’n go arw drwy’r byd y dwthwn hwn.

Un o’r sylwebyddion a glywais yn cyfrannu i’r post mortem oedd y cyflwynydd teledu Jerry Springer. Delfryd yw sylfaen America, meddai, delfryd a dyhead i geisio creu gwlad rydd a rhyddfrydol sy’n groesawus i bawb ac sy’n rhoi cyfle i bawb, beth bynnag fo eu crefydd, hil, rhyw neu dras. (Mae’n siŵr bod gan y brodorion cynhenid sy’n protestio yn Standing Rock farn ar hynny). Ond yr eironi o ethol Trump, meddai Springer, yw ei bod hi’n amlwg fod ei gefnogwyr, waeth pa mor wladgarol eu sentiment, wedi cael llond bol ar y ddelfryd amlddiwylliannol honno. Cael eu gwlad yn ôl a’i chael yn wych eto oedd eu deisyfiad – a honno’n wlad wen, unffurf a cheidwadol ei moes a’i chred.

Tebyg iawn fu dadansoddiad rhai sylwebyddion Prydeinig o’r hyn a achosodd Brexit – gyda’r bleidlais honno’r un mor dynn a rhanedig, wrth gwrs. Dwy wlad wedi eu rhannu’n ddwy. Dwy wlad sy’n mudferwi mewn cawl o ddrwgdybiaeth, rhwystredigaeth, cenfigen, gelyniaeth, diffyg ymddiriedaeth a chasineb. Tybed a ddaw’r etholiad nesaf yn Ffrainc â Marine le Pen i’r un amlygrwydd a Trump? Wrth daro sylw ar bennawd diweddar yn y Daily Mail a alwodd y tri barnwr uchel lys a gyfeiriodd Brexit at awdurdod y Senedd yn ‘elynion y bobl’, tynnodd y dychanwr Ian Hislop ein sylw bod traddodiad hanesyddol i’r fath ddatganiad, traddodiad sy’n cynnwys Robespierre, Lenin, Hitler a Pol Pot. Mae gwyntoedd Tachwedd yn filain.

Ond ble bu llais yr Eglwys yn hyn i gyd? Ble mae llais yr Eglwys yn hyn i gyd? Iawn, rhown yr efengylwyr Americanaidd o’r naill du am y tro – ond ble mae llais ein henwadau Cymreig? Mae nifer o fudiadau rhyddfrydol yn fywiog iawn ar y cyfryngau cymdeithasol yn ceisio codi llais dros amrywiaeth a goddefgarwch. Mae Hope not Hate yn un – elusen a gefnogwyd gan y diweddar Jo Cox AS. Mae AVAAZ, y lobïwyr rhyddfrydol rhyngwladol, yn un arall. Lansiwyd y mudiad Cymreig cynhwysol ‘Cymru i Bawb’ yn ddiweddar yn Aberystwyth. Mae ambell i wleidydd fel Nicola Sturgeon wedi bod yn fwy plaen ei thafod nag eraill. “I am not prepared to be a politician that maintains a diplomatic silence in the face of attitudes of racism, sexism, misogyny or intolerance of any kind.”

Ble mae’r lleisiau Cristnogol sy’n datgan yn groch a chroyw dros y weledigaeth o fyd sy’n trysori ffrwythau’r Ysbryd: cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanddisgyblaeth? Clywch sŵn y gwynt sy’n chwythu.

O.N. Fe welwch erthygl am Joanna Penberthy, darpar Esgob Tyddewi, ar y botwm Newyddion.