Joanna Penberthy darpar Esgob Tyddewi

Joanna Penberthy darpar Esgob Tyddewi

 

Nid yw Coleg Ethol yr Eglwys yng Nghymru yn enwog am weithredu’n sydyn yn ei benderfyniadau – corff gofalus ydyw. Ond yr oedd enw Joanna Penberthy yn codi’n gyson ymhlith y rhai oedd wrthi’n trafod yn yr wythnosau diwethaf cyn y penderfyniad.  “Mae hi hefyd,” meddai cyfaill bachog ei ymadrodd “yn caru Duw”.

Doedd dim amheuaeth chwaith am ei gallu, ei phersonoliaeth, ei chynhesrwydd a’i chryfder. Mae hi’n ddiwinydd praff ac yn offeiriad profiadol, ac mae hi wedi gweithio yn y dalaith ac ar bwyllgor y corff sy’n rheoli’r eglwys gadeiriol yn Nhyddewi (Y Chapter – Cabidwl) Y mae hi’n ferch sydd wedi cael profiad personol o’r anhawsterau a fu’n gymaint tramgwydd ac annhegwch i ferched drwy’r degawdau diweddar. Mae hi wedi magu teulu o bedwar o blant, wedi dal i weithio (yn aml heb gyflog – onid dyna ddyletswydd pob gwraig i offeiriad?) a gweithiodd mewn tîm o swyddogion datblygu yn y Bwrdd Cenhadu – ac mae Tyddewi’n llawen i’w chroesawu nôl. Mae ganddi, fel dysgwraig, sylfaen o Gymraeg graenus, a nawr bod rhaid iddi ei ddefnyddio, dïau y gwnaiff hi dyfu’n llawer iawn mwy rhugl.

Bydd hi’n gyfreithiol yn esgob ar ôl cyfarfod o’r Synod ar Dachwedd 30. Fe’i hordeinir gan yr Archesgob Barry yn eglwys gadeiriol Llandaf ar Ionawr 21 ac fe gymer feddiant o’i chadair, ei cathedra yn  Nhyddewi ar Chwefror 11. (Dyma a elwir yn wasanaeth gorseddu, os gwelwch yn dda.)

Mae gwreiddiau ffydd Joanna Penberthy yn y maes efengylaidd, ond mae hi’n arddel dylanwad y traddodiad Catholig – ac ar hyn o bryd yn ymddiddori’n fawr mewn  ffiseg quantum a’r dylanwad posibl ar iaith diwinyddiaeth.  Dydi hi ddim yn dehongli’r Ysgrythur yn llythrennol nac yn arddel Iawn Dirprwyol. Dyna’r pethau pennaf sy’n poeni cristnogaeth21!

Mae hi’n dod yn Esgob ar gyfnod tyngedfennol i’r eglwys, pan yw pob esgobaeth yn newid ei phatrwm hanesyddol o ofal offeiriad i bob plwyf. Mae hwnnw wedi dadfeilio ers degawdau ond bellach y mae’r plwyfi’n datblygu i weithio gyda’i gilydd mewn ardaloedd gweinidogaeth. Mae’r rhain yn ardaloedd lle y cysylltir sawl plwyf, lle y ceir un offeiriad llawn-amser yn llywio ac arolygu’r gwaith. Gan ddibynnu ar faint yr ardal anelir at gael offeiriaid eraill hefyd, yn cynorthwyo, ac offeiriaid rhan amser di-gyflog, a darllenwyr lleyg i sicrhau cysondeb gwasanaethau, gofal bugeiliol, a chydweithio cenhadol. Un elfen y mae pobl yn gofidio amdano yw’r bwriad i gael gweinidog ‘ffocws” ym mhob un cynulleidfa; lle bo rhywun sy’n barod i ymgymryd â hyfforddiant gallai weithio’n iawn; ond mater tra sensitif yw rhoi awdurdod i unigolion mewn grwpiau bach.

Bishop elect Jo & Canon Enid

Enid Morgan, Golygydd Agora, gyda Joanna Penberthy, darpar esgob Tyddewi

 

Dydd Sadwrn Tachwedd 5ed yr oedd MAECymru (Merched a’r Eglwys – Ministry and Equality) yn cynnal ei gyfarfod blynyddol cyntaf yn y Drenewydd. Cadeirydd MAECymru yw Golygydd AGORA, Enid Morgan, wnaeth gyflwyno tusw o flodau a charden llongyfarch i’w hen gyfaill Jo, cyd-weithiwr yn y Bwrdd Cenhadu  yn y 90au.