Beth yw ystyr darlleniadau’r Nadolig?

Enid Morgan yn gofyn

BETH YW YSTYR DARLLENIADAU’R NADOLIG?

Helpu cynulleidfaoedd i ddeall

Â’r Nadolig yn agosáu a mwy o bobl nag arfer yn debygol o droi at wasanaeth carolau neu ‘Gyngerdd Nadolig’, mae nhw’n debyg o gael  detholiad o ddarlleniadau traddodiadol byrion heb unrhyw eglurhad ar eu cefndir na’u hystyr.  Mae llawer iawn ohonyn nhw wedi eu gosod gan Handel yn y Meseia, ac wedi bod ar hyd y canrifoedd yn destunau priodol i’r tymor. Sut y mae modd cyflwyno’r darlleniadau traddodiadol mewn ffordd sy’n dangos eu bod yn codi o angen pobl trwy draddodiad Israel am ffordd amgenach o fyw? Nid ffeithiau sydd yma, ond mynegiant o angen a dyhead y ddynoliaeth a’r ffordd ryfeddol, ond dynol, yr oedd y ‘proffwydi’ yn meddwl am Dduw. Sut mae cyfleu bod ystyr i’r hyn a ystyrir gan lawer yn ‘ddim ond’ chwedlau tlws? Oes modd dweud, heb darfu’n ormodol ar y ffyddloniaid, ein bod yn credu bod Iesu wedi cael ei eni fel ni, ond nad ydyn ni’n gwybod yn fanwl pryd na ble y ganed ef? Ydi ‘ofn tarfu’ yn beth teilwng? Onid agor llygaid sydd ei angen?

Mae gennym ni ddwy stori yn efengylau Luc a Mathew sy’n wahanol iawn i’w gilydd. Ddylen ni ddim ceisio’u cysoni, dim ond dechrau ar y dasg enbyd o anodd o gyfleu beth oedd bwriad a dealltwriaeth Luc a beth oedd bwriad a dealltwriaeth Mathew. Heb i ni fentro, er yn betrus, ar y dasg, fe fydd pobl yn dal i gael eu maglu gan feddwl nad oes dewis ond llyncu’r gwbl neu wrthod y cwbl.

handel

Handel

Sut felly mae gwneud i’r defodau Nadolig sy’n llawn potensial gyfathrebu gwirioneddau mawr y ffydd? Braf iawn yw canu cerddoriaeth odidog Handel a derbyn y testunau fel mynegiant traddodiadol yr eglwys o ystyr bywyd Iesu, y Meseia. Ond heb y gerddoriaeth i helpu i gyfleu (ac weithiau’n camddehongli) ystyr, beth wnawn ni i geisio gwneud y darlleniadau hyn o werth eneidiol yn ogystal â bod o werth mewn harddwch diwylliannol? A sut mae rhoi’r gorau i fabïo’r ffydd mewn dramâu i blant? Heblaw ysgogi dagrau teimladwy gan rieni o weld plant bach yn gwneud beth wnaeth eu rheini slawer dydd, pa gynnwys sy’n cael ei gyfleu i’r oedolion?

Byddai dweud stori Luc a Mathew ar wahân yn gam i’r cyfeiriad iawn. (Roedd yr hen flwyddyn eglwysig yn gwneud hynny drwy gofio stori’r doethion ar Ŵyl y Seren, yr Ystwyll.)

Amcan ymarferol a chyfyngedig ddigon sydd i’r cyfraniad ysgrythurol yn y rhifyn hwn drwy awgrymu cyflwyniadau cynnil i ddetholiad o ddarlleniadau sy’n cael eu defnyddio’n aml adeg y Nadolig. Tybed, cyn drama’r plant, na fyddai gair esboniadol i’r oedolion am natur stori symbolaidd a midrash yn help i ddileu’r tlysni all lygru stori’r Nadolig? Gall fod clustiau bach yn gwrando’n ddigon deallus hefyd!

christmas-crib-figures-1080132_960_720Mae’n arbennig o bwysig gwneud synnwyr o’r darlleniadau o’r Hen Destament sy’n cael eu darllen fel pe baent rywsut yn rhag-weld y dyfodol. Ac mae’n rhaid bod mor gryno a bachog ag sy’n bosibl. Does dim lle (na chlust) i draethawd manwl. Dim ond awgrymiadau sydd yma, nid fformiwlau wedi eu cerfio ar garreg. Fel hyn, neu mewn ffordd debyg i hon, mae modd helpu pobl i feddwl yn gadarnhaol am ystyr y dalleniadau cyfarwydd.

‘Cysurwch, cysurwch fy mhobl’ (Eseia 40:1–5)

Nid rhag-weld y dyfodol yw proffwydo yn yr Hen Destament, ond dweud rhywbeth am sut un yw Duw. Dyma Eseia yn siarad dros Dduw wrth bobl Israel sydd wedi cael amser caled, ac yn mynnu bod pethau’n mynd i wella.

Haggai 2:6–7; Micha 3:1–3

Neges gyson gan y rhai oedd yn mentro siarad dros Dduw oedd dweud mor ffôl a drwg oedd pobl a sut y byddai’r canlyniadau’n enbyd iawn. Maen nhw’n disgrifio canlyniadau arswydus y drygioni ac yn cymryd yn ganiataol fod Duw yn digio wrth bobl. Doedd y bygythion cas a’r addewidion cariadus ddim yn cael fawr o effaith ar bobl.

Eseia 7:14 (Mathew 1:23)

Mewn amser o enbydrwydd ar Israel mae Eseia’n gweld bod gobaith mewn merch ifanc yn rhoi enw arbennig i’w phlentyn, sef Emaniwel. Ystyr y gair yw ‘Duw gyda ni’ – ar ein hochr ni. Yn Nuw mae’n gobaith ni o hyd.

eseia

Fe gymerodd y ddau Efengylwr Mathew a Luc y geiriau hyn a helaethu arnyn nhw gan gam-gyfieithu’r gair geneth fel morwyn. Arweiniodd hynny at gambwyslais wrth ddeall lle Mair yn y stori. Y neges yw fod Duw ar waith drwy gydweithrediad merch ifanc, a honno’n cynrychioli’r ddynoliaeth i gyd.

Eseia 53:3–8

Roedd Iesu’n dyfynnu’n gyson o’r Hen Destament, yn enwedig o lyfrau Eseia a Jeremeia.  Mewn set o ganeuon hynod mae Eseia’n disgrifio rhyw ŵr ‘cynefin â dolur’ a fyddai, wrth ddioddef cam heb ddymuno dial, rywsut yn dangos i ni natur Duw mewn cnawd dynol. Dyma un o ganeuon y gwas dioddefus.

Matthew 1:18–25

Mae’r Mathew’r Efengylydd yn gyson yn hawlio bod pobl yn yr Hen Destament yn gwybod ymlaen llaw beth fyddai Duw yn ei wneud. Wrth ddisgrifio bywyd Iesu mae’n gyson yn edrych yn yr Hen Destament ac yn dweud ‘Dyna fe!’ Mae wrthi’n dweud wrth bobl Israel mor bwysig fu eu hanes yn amcanion Duw yr holl genhedloedd.

Luc 1:26–38

merry-christmas-590226_960_720Dyma stori’r negesydd, yr ‘Angel’ Gabriel yn dweud wrth Mair am fwriad Duw iddi eni plentyn fyddai’n cyflawni holl fwriadau Duw i’r ddynoliaeth. Dyma ‘gyfarchiad Mair’. Ac un neges i ni yw fod Duw yn gofyn i ninnau hefyd gydweithio ag Ef er lles pawb – a gallwn ninnau, fel Mair, ddewis dweud ‘Ie’, ac nid ‘Na’.

Luc 2:1–8

Dyma Luc yn cysylltu geni Iesu â byd hanes yr ymerodraeth Rufeinig a disgwyliadau pobl  Israel. Ac mae’n dangos taw i dlodi, nid i gyfoeth, y ganed y plentyn Iesu.

Luc 2:8–20

Dyma ffordd Luc o ddweud mai tlodion y ddaear oedd y cyntaf i ymateb i Iesu. Yn stori’r bugeiliaid, clywn am bobl heb barch iddyn nhw yn ymateb i neges o ryfeddod, a neb o’r pwysigion yn sylwi.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.