Ffasgaeth ar gerdded

Rhag ofn nad ydych yn gyfarwydd ag erthyglau rhyngweithiol, fe welwch ambell i gymal isod wedi ei danlinellu mewn glas. O glicio arno, cewch ragor o wybodaeth am yr agwedd honno.

Mae Ffasgaeth ar gerdded:
mae’n amser i Gristnogion ddewis eu hochr
gan Gethin Rhys

gethin-yn-agora

Gethin Rhys, yn addas iawn, yn Agora.

Rwy’n ymddiddori’n fawr mewn hanes gwleidyddol, a’r degawd fu’n fy niddori mwyaf efallai yw’r 1930au. Sut y bu i’r byd gerdded mor rhwydd, mor ddall, i gyflafan erchyll? Sut y bu i gymaint o wledydd gwâr syrthio i Ffasgaeth? Pam y bu’r eglwysi Cristnogol, at ei gilydd, mor fud, ac yn wir rhai’n gefnogol i’r Ffasgwyr?

Go brin i mi ddisgwyl y byddwn yn dysgu’r atebion i’r holl gwestiynau hyn wrth fyw drwy 2016. Ond dyna ddigwyddodd. Ar Dachwedd 8 fe syrthiodd gwlad fwyaf pwerus y byd i Ffasgaeth – gydag 81% o Gristnogion efengylaidd croenwyn yn pleidleisio o’i phlaid.

Mae’r tebygrwydd i fuddugoliaeth 1933 yn yr Almaen yn hynod:

  • Chwerthin am ben Hitler a’i dwpdra fu deallusion yr Almaen tan y funud olaf. Felly hefyd gyda Trump.
  • Roedd rhai o arweinyddion democrataidd yr Almaen wedi manteisio ar gyfleoedd i ymelwa wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf, ac roedd y dosbarth deallusol yn gyffredinol wedi ymbellhau oddi wrth y werin, a oedd yn dioddef yn ofnadwy wedi argyfwng bancio 1929. Felly hefyd yn UDA a ledled y byd gorllewinol heddiw ar ôl argyfwng bancio 2008.

etholiad-america

  • Yn dawel fach yn y cefndir, roedd lladmeryddion Ffasgaeth yr Almaen wedi cipio dylanwad mewn rhannau o’r wasg a’r cyfryngau torfol. Trwy Breitbart News (ei bennaeth bellach yn un o gynghorwyr agosaf Trump), Fox News a’r ffug newyddion ar Facebook fe wnaeth lladmeryddion Trump hyd yn oed yn well. Byddai Goebbels yn eu hedmygu’n fawr.
  • Roedd yna ddigon o blith dosbarth gwleidyddol yr Almaen a chanddynt ddigon o hyder i gredu y gallent ddofi Hitler – Hindenburg oedd yr amlycaf, yn ei benodi yn Ganghellor. Roedd llawer o blith sefydliad y Blaid Weriniaethol yn UDA yn credu’r un peth am Trump.
  • Methodd Hitler ag ennill etholiad Tachwedd 1932, ond cafodd ei benodi’n Ganghellor beth bynnag. Methodd Trump ag ennill mwyafrif y pleidleisiau yn Nhachwedd 2016, ond mae pob arwydd y bydd y Coleg Etholiadol yn ei wneud yn Arlywydd p’un bynnag.
  • Serch yr hyn a ddywedwyd wedyn, nid oedd Hitler erioed wedi cuddio ei fwriadau. Fe gyhoeddwyd Mein Kampf ym 1925–6. Mae Trump wedi ei gwneud hi’n glir y bydd yn targedu pobl o Dde America a Mwslimiaid, a’i fod yn dilorni merched. Mae wedi galw am gadw ei wrthwynebwyr gwleidyddol dan glo (“Lock her up!”). Fedr neb ddweud na chawsant eu rhybuddio.
  • Fe arhosodd rhelyw’r eglwysi Cristnogol yn yr Almaen yn dawel, dan ddylanwad y ddiwinyddiaeth Lutheraidd a gredai mewn “dwy deyrnas” – teyrnas Dduw a theyrnas y byd, a’r eglwys yn ymwneud â’r gyntaf yn unig. Yn UDA, diwinyddiaeth “Left Behind” – dyletswydd Cristnogion yw paratoi at ddiwedd y byd, a hyd yn oed efallai ei gyflymu – sydd wedi dylanwadu ar gymaint o Gristnogion yno i lawenhau wrth weld o bell y dydd yn dod.
  • Fe gadwodd yr eglwysi yn dawel am ffaeleddau moesol personol Hitler. Felly hefyd yr eglwysi yn achos y datgeliadau am Trump.

Mae’n arwyddocaol i hyn ddigwydd pan fo’r olaf o’r genhedlaeth oedd yn oedolion ym 1933 wedi darfod o’r tir. Cenedl heb gof, cenedl heb amddiffyniad yn erbyn Ffasgaeth.

Nid yw hanes byth yn ailadrodd ei hun yn slafaidd, ond os bydd pethau’n parhau ar hyd linellau 1933, mae gennym syniad go lew beth ddaw nesaf.

ty-gwyn

Y Tŷ Gwyn

Yn gyntaf, fe fydd seremoni sefydlu’r Arlywydd newydd ar Ionawr 20 yn troi yn rali fawreddog, tebyg i Ralïau Nürnberg. Fe dynnir y lluoedd arfog a’r heddlu i mewn i ufudd-dod llwyr gydag addewidion o gefnogaeth ddiamod gan y wladwriaeth. Eisoes mae Trump wedi penodi Twrnai Cyffredinol sy’n annhebyg iawn o fynd ar ôl camweddau’r heddlu, ac mae Trump a’i Gynghorydd Diogelwch wedi dweud na fyddant yn gwrthwynebu poenydio gan y lluoedd arfog.

Yn fuan wedyn, bydd Trump yn cychwyn gweithredu ei addewidion. Fe fydd yn dechrau ar y broses o alltudio 2–3 miliwn o bobl o dras De America. Mae’n anochel y bydd rhai yn gwrthwynebu eu ffawd, y bydd teuluoedd a chyfeillion y bobl hyn yn ceisio atal yr heddlu rhag cyflawni eu gorchwyl, ac fe rydd hynny esgus i Trump gyflwyno Stad o Argyfwng pan ddaw hi’n anghyfreithlon i brotestio’n gyhoeddus. Yn wir, mae galwadau am hynny eisoes.

Dan gochl y gweithredu hwn fe fydd yn gallu troi ar Fwslimiaid. Fe fydd yn aros am esgus o ryw fath – gweithred derfysgol, efallai, neu arestio rhywrai am gynllunio terfysgaeth. Bydd y cyfryngau yn llawn hanesion am beryglon y grefydd, a bydd y cyfryngau cymdeithasol yn annog ymosodiadau ar Fwslimiaid gan unigolion eithafol – Kristallnacht Americanaidd (Fe gyhoeddwyd buddugoliaeth Trump union 78 mlynedd ar ôl Kristallnacht). Fe fydd wedyn yn gallu gorchymyn i Fwslimiaid gofrestru, ac “er eu diogelwch” fe gânt eu symud i ardaloedd penodol lle gellir eu “gwarchod” y tu hwnt i lygaid y cyhoedd. Go brin fod angen ymhelaethu ar natur y gwersylloedd hyn na thynged y sawl fydd ynddynt.

Fe fydd raid i Gristnogion yr Unol Daleithiau ddewis eu hochr o fewn y misoedd nesaf. Fe wyddom eisoes y bydd y mwyafrif yn cefnogi Trump, fel y bu i fwyafrif y “Cristnogion Almenaidd” gefnogi Hitler. Ond fe fydd yna Eglwys Gyffesol hefyd. Mae Jim Wallis eisoes wedi sefydlu Called to Resist gyda nifer dda o arweinyddion eraill, yn enwedig eglwysi croenddu. Diolch amdanynt.

bashir-naderi

Bashir Naderi Llun: Wales Online

Fel y bu i Iddewon geisio ffoi o’r Almaen, ond cael eu troi’n ôl o Balesteina gan filwyr Prydeinig ac o lawer o wledydd eraill Ewrop, fe fydd Mwslimiaid America hefyd yn ceisio ffoi. Ond fe welsom eisoes faint o groeso sy’n debyg o fod iddynt yng ngweddill y Gorllewin. Yn wir, wrth i mi sgrifennu’r erthygl hon yn ninas Caerdydd mae gŵr ifanc 19 mlwydd oed, Bashir Naderi, yn wynebu cael ei gludo i Afghanistan am y drosedd o gael ei eni yno; ac mae Faruk Yavuzel, sydd wedi sefydlu bwyty llwyddiannus iawn yn y ddinas, wedi methu adnewyddu ei fisa ac yn cael ei ddanfon yn ôl i Dwrci. Mwslimiaid yw’r ddau, wrth gwrs.

donald-trump

Donald Trump

Am resymau economaidd, fydd llywodraethau’r Gorllewin ddim am gythruddo Trump, ac fe fydd rhai yn cyfeillachu ag ef. Mae Theresa May a Boris Johnson eisoes yn dilyn camrau Neville Chamberlain a Lloyd George yn hyn o beth.

(Gyda llaw, nid wyf trwy hyn am feirniadu diplomyddion ac eraill fydd yn parhau â’u gwaith drwy’r cyfnod anodd nesaf hwn. Fe fu i ddiplomyddion, drwy eu gwaith gofalus, amyneddgar, achub nifer o Iddewon ac eraill rhag erledigaeth yn y 1930au a’r 1940au. Dylem weddïo dros ddiplomyddion ein hoes ni.) Fe fydd ambell wlad yn dilyn esiampl UDA – mae llywodraethau lled-Ffasgaidd eisoes yng Ngwlad Pwyl a Hwngaria (heb sôn am Rwsia), ac mae Ffasgaeth yn cynyddu’n gyflym yn Ffrainc.

Ac felly, fe fydd angen i Gristnogion y gwledydd hyn hefyd ddewis eu hochr, a hynny ar fyrder. Os dilynwn hanes Almaen y 1930au, fe welwn ddewisiadau annisgwyl. Roedd yr Eglwys Gyffesol yn cynnwys cyfuniad o Galfinwyr a Lutheriaid tra gwahanol i’w gilydd – a llawer o’u ffrindiau wedi aros yn yr eglwys swyddogol. Yn 2017, fe fydd rhai Cristnogion rhyddfrydol eangfrydig yn teimlo na ddylent beryglu eu heglwysi drwy fod yn rhy ymosodol, a’i bod yn well peidio beirniadu’n gyhoeddus. Fe fydd llawer o unigolion yn ofni colli eu swyddi yn y gwasanaethau cyhoeddus os ydynt ynghlwm wrth feirniadaeth ar Ffasgaeth, a byddant yn cadw’n dawel. Fe fydd enwadau traddodiadol yn ei chael hi’n anodd ochri ar goedd. Ar y llaw arall, fe fydd nifer o Gristnogion ceidwadol, efengylaidd eu diwinyddiaeth – y math o Gristnogion y mae llawer o ddilynwyr Cristnogaeth 21 yn ei chael hi’n anodd dygymod â nhw – yn gweld arwyddion eilun-addoliaeth ac anffyddlondeb i’r Efengyl yn nilynwyr Trump a’i debyg, ac yn sefyll yn ei erbyn.

marine-le-pen

Marine Le Pen

Fe droes y 1930au yn 1940au ac yn rhyfel byd. Mae’n eironig mai Sul y Cofio oedd y Sul cyntaf ar ôl buddugoliaeth Trump – ac i’r BBC ddarlledu cyfweliad â Marine Le Pen ar y bore hwnnw.

Y tro hwn mae pethau’n wahanol. Methodd yr Almaen â datblygu arfau niwclear cyn diwedd y rhyfel, ond mae gan y Ffasgwyr hyn ddigonedd ohonynt. Mae Trump eisoes wedi gofyn, Beth yw pwrpas bod ag arfau niwclear heb allu eu defnyddio? “Dyw hi ddim yn ddiwedd y byd,” meddwn i ac eraill drannoeth y refferendwm. Ond drannoeth etholiad America, ni ellid dweud y fath beth.

Mae rhai sylwedyddion wedi ceisio gweld gobaith yn nhrefn wleidyddol UDA:

  • Cyfansoddiad ysgrifenedig – ond roedd un gan yr Almaen ym 1933 hefyd.
  • Barnwyr annibynnol – ond Trump fydd yn llenwi’r swyddi gwag.
  • Etholiadau i’r Gyngres yn 2018. Ond fe gynhelir y rheini dan gysgod cyfryngau gwenwynig a thrais ar y strydoedd. Bydd UDA bron yn sicr o bleidleisio dros “ddiogelwch”.
  • Etholiad Arlywyddol arall yn 2020. Ond erbyn hynny fe fydd Trump wedi prynu tawedogrwydd rhai o’i wrthwynebwyr, ac fe fydd y gweddill dan glo.

Ond nid cyfres o ddigwyddiadau anochel yw hanes. Fe allwn newid ei drywydd. Ni allwn aros tan yr etholiad nesaf. Rhaid dewis ein hochr nawr. Ni fydd yr un ohonom yn gwneud penderfyniad pwysicach weddill ein bywyd. Ymhle safwn ni?

Mae Gethin Rhys yn Swyddog Polisi i Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru). Barn bersonol a fynegir yn yr ysgrif hon, a ysgrifennwyd ar 19 Tachwedd 2016.

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.