Cofio Gethin Abraham-Williams

Cofio Gethin Abraham-Williams

gan Aled Edwards

Yn dawel yn ystod munudau hyfryd cyntaf Sul yr Adfent bu farw un o hoff gymeriadau’r bywyd eglwysig Cymreig, y Parchedig Gethin Abraham-Williams. Wedi wynebu her gwaeledd hir gydag ysbryd aruthrol, fe’n gadawodd yn 77 mlwydd oed yng nghwmni ei wraig Denise a’i blant Owain ac Ellen. Brodor o Aberystwyth oedd Gethin, yn fab i’r diweddar Emlyn ac Anne Elizabeth Abraham-Williams. Cafodd ei ddysgu yn ysgolion y fro cyn graddio yng Ngholeg Regent’s Park, Rhydychen ac ennill MA yn 1967. Bu’n weithgar fel Cadeirydd Undeb Colegau Diwinyddol Rhydychen. Yn hyn, cafwyd arwyddion cynnar o’i afael cadarn ar y grefft ddiwinyddol a’i ddawn i gyfathrebu ac ysgrifennu. 

gethin-2

Y diweddar Gethin Abraham-Williams

Cafodd ei ordeinio’n weinidog gyda’r Bedyddwyr yn 1965 a’i benodi’n fugail cynorthwyol yn ninas Coventry cyn symud i Sutton Coldfield, Surrey ac yn fwyaf arbennig, Milton Keynes. Yno, cyflawnodd waith blaengar yn meithrin traddodiad eciwmenaidd y ddinas. Fe ddefnyddiodd Gethin y cyfan a ddysgodd o’r profiadau eciwmenaidd cynnar hyn wedi iddo ddychwelyd i Gymru yn 1990 i wasanaethu Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol a Bwrdd Cenhadu’r Eglwys yng Nghymru. Tybir weithiau i’r broses eciwmenaidd fethu oherwydd i’r cynlluniau mawrion fethu. Nid dyna wirionedd y peth. Roedd gofal bugeiliol eithriadol Gethin o gefn mawr i sawl un mewn gweinidogaeth leol. Cynhyrchwyd gwasanaethau creadigol ar y cyd ac fe gafwyd canonau eglwysig sydd hyd heddiw yn caniatáu rhannu gweinidogaethau i rannau helaeth iawn. Bu Gethin yn hynod gefnogol i mi fel gweinidog bro gyda’r Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn ardal Botwnnog yn ystod y cyfnod hwn.

Wedi hynny, fel Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn fe adeiladodd Gethin ar waith da ei ragflaenwyr gyda dyfodiad y Cynulliad yn 1999. Arddelwyd cysylltiad â’r Cynulliad Cenedlaethol gan feithrin perthynas â chymunedau ffydd eraill. Galluogodd yr eglwysi i fod yn effeithiol wrth wynebu trychinebau fel y clwyf traed a’r genau yn 2001. Go brin cyn datganoli y byddai unrhyw un wedi dychmygu’r math o ymwneud gwleidyddol sy’n bodoli heddiw. Fe wnaeth Gethin y pethau hyn yn bosib.

Fe’n gadawodd nid yn unig i synau gweddïau’r gymuned Gristnogol ond i ddymuniadau da cymunedau ffydd eraill a chenedl ddiolchgar. Byddai clywed Iddew yn diolch am ei gyfraniad mewn Mosg yng nghwmni Cristnogion y dydd o’r blaen wedi ei blesio’n fawr. I’r rhai a fu’n ffodus i’w adnabod byddai’r wên annwyl a direidus honno a oedd yn gymaint nodwedd o Gethin yn sicr o ddod i’r cof.