Gyda’r Crynwyr yn Cofio Wncwl Gwilym

Gyda’r Crynwyr yn Cofio Wncwl Gwilym

Hefin Wyn

Llefaru’r gerdd ‘Y Tangnefeddwyr’ yn seremoni pabïau gwyn y Crynwyr yn Arberth oeddwn i. Safasom wrth y garreg Geltaidd ganol bore yn griw brith yr olwg. Clywid mwy o lefaru na’r mudandod arferol sy’n nodweddiadol o gyfarfodydd y Cyfeillion. Canolbwyntir ar y tawelwch llethol er mwyn canfod y canol llonydd.

 

hefinwyn

Hefin Wyn (Llun: Y Lolfa)

Nid yw’r Crynwr yn credu mewn trais o dan unrhyw amgylchiad. Ni wna gymryd rhan yn yr un rhyfel. Nid arwain bataliwn arfog wnâi Crist wrth orymdeithio i Jerwsalem. Nid casglu cleddyfau a wnâi. Nid hyfforddi’r disgyblion i ddefnyddio ffyn tafl a wnâi. Nid oedd yn hogi arfau o wneuthuriad dyn.

Yng nghanol hyn meddyliwn am Nwncwl Gwilym.

 

Cyfeiriwyd at broffwydoliaeth Eseia a’r geiriau “curant eu cleddyfau’n geibiau, a’u gwaywffyn yn grymanau. Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach”. Llefarwyd cân Ed McCurdy, ‘I had the strangest dream’, sydd wedi’i chyfieithu i dros saith deg o ieithoedd.

Meddyliais am eiriau Nwncwl Gwilym o’r ffosydd a’i ddisgrifiad o’r llygod mawr tewion y bu’n eu saethu.

Cyfeiriwyd at eiriau’r Corân a’r anogaeth i wrthwynebu drygioni gyda daioni gan droi eich gelyn yn gyfaill. Cyfeiriwyd at eiriau’r Iesu yn ein hannog i garu ein gelynion, i droi’r foch arall ac i gynnig ein crys pe cymerir ein siaced oddi arnom.

Meddyliais am Nwncwl Gwilym yn hysbysu ei frodyr a’i chwiorydd ei fod yn filwr cyflawn nawr.

Cyfeiriwyd at ddysgeidiaeth y Bwda nad yw casineb erioed wedi concro casineb. Ni all dim ond cariad drechu casineb. Cyfeiriwyd at egwyddor ahisma yr Hindŵiaid, sef osgoi achosi loes. Dyfarniad Mahavira oedd na cheid enaid amgenach na’r enaid di-drais ac na cheid amgenach ysbryd na’r ysbryd sy’n parchu bywyd.

Meddyliais am Nwncwl Gwilym yn hysbysu ei chwaer ei fod yn ysu i gyrraedd y llinell flaen er mwyn lladd Almaenwr.

Daeth yn bryd llefaru cerdd Waldo Williams cyn i arall lefaru cyfieithiad ohoni. Ceisiais bwysleisio’r gwynfyd sydd y tu hwnt i glyw a’r byd gobeithiol pan ddaw’r gwynfyd i glyw dynion fel y rhagwêl Waldo hynny ar sail y Gwirionedd yr oedd ei dad yn ymgorfforiad ohono a’r Maddeuant yr oedd ei fam yn ymgorfforiad ohono.

waldowilliams- llun

Waldo Williams

Roedd yna un neu ddau a gofiai Waldo’n mynychu’r Tŷ Cwrdd yn Aberdaugleddau ac eraill wedi clywed amdano i’r graddau eu bod yn ystyried eu bod yn ei adnabod. Roedd geiriau proffwydol y bardd a fu’n ysgolia yn Arberth yn eistedd yn gyffyrddus ochr yn ochr â geiriau pawb arall a lefarwyd yn ystod y gwasanaeth.

Canwyd yr emyn ‘Make me a channel of your peace’, sy’n seiliedig ar weddi Sant Ffransis o Assisi, yn lled herciog cyn gosod torch wrth y groes Geltaidd i gofio am bawb yn ddiwahân a gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd. Erbyn heddiw amcangyfrifir mai dim ond rhyw 10% o filwyr sy’n colli eu bywydau wrth ryfela. Y diniwed yw’r 90% – yn famau, plant a’r oedrannus yn eu plith. Safodd pawb mewn tawelwch am gyfnod i gyfarch y gwynt mewn gweddi.

Wedi cyfarch gwell, brasgamais drwy’r dref. Roedd yna gadetiaid ifanc mewn lifrai milwrol yn cynnig pabïau coch i bwy bynnag âi heibio. Tebyg y dynoda’r lliw y gwaed a gollwyd a chydnabyddiaeth y caiff gwaed ei golli eto. wreath1Tra bo’r pabi gwyn yn dynodi purdeb ac ymgais i edrych y tu hwnt i’r gyflafan ac ymdynghedu i sicrhau na ddigwydd rhyfeloedd eto. Caiff arian eu gwerthiant ei ddefnyddio i gefnogi gwaith Médecins Sans Frontières, elusen sy’n barod i roi triniaeth feddygol i anffodusion rhyfel heb holi pwy na beth y maen nhw’n ei gefnogi.

Ond roedd y meddyliau am Wncwl Gwilym yn dal i fy nghnoi. Meddyliwn am breswylwyr yr aelwyd yn Nant-yr-afr ym mhlwyf Tre-lech a’r Betws ar y penwythnos hwnnw ym mis Mai union gan mlynedd ’nôl. Cyrhaeddodd amlen fore Sadwrn yn cynnwys llun swyddogol o Lefftenant Gwilym Williams, B.A., yn ei lifrai milwrol. Edrychai’n drwsiadus. Ond er y trawswch a dyfodd, ni fedrai wadu mai llanc ifanc chwech ar hugain oed oedd. Roedd ym mlodau ei ddyddiau.

is-gadben-gwilym-williams-002

Yr Is-gadben Gwilym Williams

Mae’n rhaid bod y llun wedi’i osod ar y seld a bod y tair chwaer a’r ddau frawd oedd adref wedi syllu arno’n edmygus, os ychydig yn betrusgar, dros y Sul. Roedd eu rhieni wedi marw ers tro. Roedd Eleanor, y chwaer iau, yn Rhydychen a hi dderbyniodd y llythyr gyda’r nodyn oeraidd yn sôn am ei obeithion o ladd y gelyn. Dyheu am ei weld yn dod adref yr oedden nhw yn Nant-yr-afr. Doedd e ddim hyd yn oed wedi taro heibio i ffarwelio o’r gwersyll ym Mae Cinmel wedi iddo gael yr alwad i faes y gad.

Bore Llun daeth llythyr o’r ffrynt yn Ffrainc yn sôn am ei antur. Dywedodd iddo dderbyn Testament wrth ei weinidog, y Parch. John Lewis. Roedd hefyd wedi derbyn llythyr wrth Helen meddai. Byddai hynny wedi bodloni’r teulu. Ond erbyn amser te cyrhaeddodd telegram i ddweud iddo gael ei glwyfo nos Sadwrn ac iddo farw bore Sul, yn dal yn anymwybodol. Rhoddwyd y gorau i waith y ffarm er mwyn galaru a cheisio dod i delerau â’r golled.

mynwent-filwrol-merville

Mynwent filwrol Merville

Daeth gohebiaeth bellach a chafwyd nodyn wrth uchel swyddog yn disgrifio sut y dywedodd Gwilym mewn sgwrs un min hwyr ei fod o’r farn ‘fod yna ramant mewn marw’n ifanc dros eich gwlad’. Fe’i claddwyd yn Merville, yn agos i’r ffin â Gwlad Belg.

Canfuwyd ei fod, i bob pwrpas, wedi cyfansoddi ei feddargraff ei hun.

 

Aeth o’i ing i fwth ango’, – i wely
Y milwr i huno;
Heb rodres wedi’r brwydro
Erys a chroes uwch ei ro.

Ymhen y flwyddyn cyhoeddodd y teulu gyfrol o’i waith o dan y teitl Dan yr Helyg. Cynhwysai ei bryddest ‘Gwanwyn Bywyd’, oedd yn fuddugol yn Eisteddfod Ryng-golegol 1912 dan feirniadaeth T. Gwynn Jones, awdur ‘Ymadawiad Arthur’, mantra’r beirdd rhamantaidd.

Cyrhaeddodd llythyrau wrth Helen Rowlands o’r India. Disgrifiodd Gwilym fel ‘y bachgen mwyaf pur o galon a adnabûm erioed’.

Ni wyddwn hyn pan oeddwn yn grwt yn chwarae gyda’r gyllell, llwy a fforc yn un a fu yn nwylo Gwilym. Yn wir, ni wyddwn am amgylchiadau ei benderfyniad i wirfoddoli i ryfel. Ni pherthynai iddo anian y rhyfelwr. Bachgen llednais a breuddwydiol oedd Gwilym. Roedd mwy na jingoistiaeth y cyfnod wedi ei anfon i faes y gad.

Dim ond yn ddiweddar y darganfyddais iddo wirfoddoli i ryfel fis wedi i Helen o Borthaethwy gyhoeddi ei bod am gysegru ei bywyd i’r maes cenhadol.

Pe na bai hynny wedi digwydd, hwyrach y byddwn wedi adnabod Nwncwl Gwilym. Wedi’r cyfan roeddwn yn fy arddegau pan fu farw ei frawd hŷn – fy nhad-cu innau. A phe na bai ei gariad wedi mentro i gyfandir India, hwyrach y byddwn wedi adnabod Helen Rowlands hefyd a’m bywyd wedi’i gyfoethogi o’r herwydd.

Llwyddwyd i wahardd smygu o fannau cyhoeddus mewn nifer o wledydd am fod yr arfer yn aflan ac yn berygl i iechyd. Dylid yn yr un modd wahardd rhyfela am yr un rhesymau. Mae’r rhyfela sy’n digwydd yn Aleppo eisoes wedi profi y tu hwnt i amheuaeth ei fod yn ddansierus i iechyd.

Tina’r meddilie oedd yn dŵad i mi wrth droedio palmentydd Arberth ar benwythnos y ‘Cofio’.

 

NEGES GAN D. BEN REES:
Dyma ysgrif hynod o ddiddorol a phwysig . Fel un sy’n croniclo hanes y 
genhadaeth gymraeg yn yr india  ni wyddwn am garwriaeth Dr Helen Rowlands. 
Diolch o galon o Lerpwl i lenor Sir Benfro.

 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.