Trydydd Cam yr AA

Parhad gyda’r

Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AAWynford

Wynford Ellis Owen,
Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd

Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys yn 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig, un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth a hwnnw felly’n mynnu iachâd ysbrydol. Yn 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut y bu i’r can aelod cyntaf o frawdoliaeth AA gyrraedd sobrwydd ac adferiad o’u halcoholiaeth.

Crisialwyd hyn yn y 12 Cam – rhaglen sydd, dros y blynyddoedd, wedi achub miliynau drwy’r byd o grafangau dieflig alcoholiaeth a dibyniaethau eraill. Ond mae’n rhaglen y gallwn ni i gyd elwa ohoni.  Yn wir, mae Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd, yn grediniol y dylid dysgu’r 12 Cam ym mhob ysgol drwy’r wlad. Yn y gyfres hon o erthyglau, mae Wynford yn disgrifio’r gwahanol gamau.

CAM TRI

‘FE WNAETHOM BENDERFYNIAD I DROI EIN HEWYLLYS A’N BYWYD I OFAL DUW – FEL YR YDYM YN EI DDEALL.’

Rydym wedi edrych ar Gam 1 a Cham 2 ac wedi ildio i’r ffaith nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y cyffur neu’r ymddygiad niweidiol sydd wedi ein caethiwo. Rydym wedi dangos ein parodrwydd i drio cysylltu â phŵer mwy na ni ein hunain – pŵer a all, o bosib, wneud drosom yr hyn na allwn ei wneud drosom ein hunain. Mae hyn wedi ein llenwi am y tro cyntaf â’r ymdeimlad cryf o obaith. Ond os na wnawn ni droi’r gobaith hwnnw’n weithredu – a hynny’n gyflym, fe ddiflanna mor sydyn â niwl y bore, ac fe fyddwn ni ’nôl lle dechreuson ni. Y gweithredu angenrheidiol yw Cam 3.

logo-stafell-fyw-300x177Y weithred ganolog yng Ngham 3 yw gwneud penderfyniad. Mae’r syniad o wneud penderfyniad yn ein dychryn, yn enwedig pan ystyriwn beth rydym yn bwriadu ei wneud yn y cam hwn. Mae ‘gwneud penderfyniad’ yn rhywbeth nad ydym wedi’i wneud ers tro byd. Yn y gair Saesneg ‘decide’ yr un yw’r elfen ‘-cide’ ag yn y gair ‘suicide’ (sef lladd), ac ofnwn y bydd gwneud penderfyniad yn lladd hanner ein hopsiynau. Gwell gennym yn aml eistedd ’nôl a disgwyl i’r penderfyniad gael ei wneud drosom gan ein dibyniaeth, gan yr awdurdodau neu, yn niffyg hynny, gan ryw ymyrraeth ddwyfol. Pan ychwanegwn at hyn y cysyniad o ymddiried y gofal am ein hewyllys a’n bywyd i rywbeth nad yw’r mwyfafrif ohonom yn ei ddeall ar hyn o bryd, mae peryg inni feddwl bod y cyfan yn ormod inni, a dechrau chwilio am ffordd rwyddach o weithredu’r 12 Cam. Mae’r rhain yn feddyliau peryglus, oherwydd pan gymerwn ffordd rwyddach, esmwythach, mae peryg inni danseilio’n hadferiad.

Mae’n arwyddocaol fod y cam hwn yn awgrymu ein bod yn troi ein hewyllys a’n bywyd i ofal Duw, fel yr ydym yn ei ddeall. Mae’r geiriau hyn yn arbennig o bwysig. Drwy gymryd Cam 3, rydym yn caniatáu i rywun neu rywbeth ofalu amdanom – yn hytrach na’n rheoli. Dyw’r cam hwn ddim yn golygu ein bod yn robotiaid sydd heb y gallu i fyw ein bywydau ein hunain. Yr unig beth rydym yn ei wneud yw newid cyfeiriad – a derbyn yr arweiniad a gawn ni gan y pŵer yma sydd am ofalu amdanom. ar-ryw-adeg

Ar ryw adeg ym mywydau pob un ohonom yn ddiwahân mae’n rhaid i ni ateb dau gwestiwn: ‘Pwy neu beth ydw i?’ a ‘Pwy neu beth ydy Duw?’ Ac mae’n rhaid i ni ddarganfod yr atebion i’r ddau gwestiwn drosom ein hunain. Rhaglen o hunan-adnabyddiaeth yw’r 12 Cam – ac fe ddown i adnabod a chofleidio ni ein hunain, y da a’r drwg, yng Ngham 4. Ond yng Ngham 3, mae’n rhaid inni ddod i ryw fath o gasgliad ynglŷn â beth mae’r gair ‘Duw’ yn ei olygu i ni fel unigolion. Does dim rhaid i’r casgliad hwnnw fod yn gymhleth nac yn gyflawn. Does dim rhaid iddo fod yn debyg i un neb arall, chwaith – a gall fod yn wrywaidd neu’n fenywaidd, yn Ef neu Hi. Cofiwch mai gwneud penderfyniad yn unig yr ydym yng Ngham 3. Yr unig beth sy’n hanfodol yw ein bod yn dechrau taith fydd yn caniatáu inni ddwysáu ein dealltwriaeth o’r ysbrydol.

herbert-spencer

Herbert Spencer

Ac yma canfyddwn broblem y down ar ei thraws yn aml iawn yn y Stafell Fyw: ystyfnigrwydd y meddwl caeedig.

Yn ôl Herbert Spencer, ‘Mae un egwyddor sy’n rhwystr i bob gwybodaeth, yn brawf yn erbyn pob ymresymiad, ac sy’n cadw dyn yn fythol anwybodus – a’r egwyddor honno yw dirmygu cyn chwilio.’

Mae’r gwrthwynebiad i’r cam hwn, sut bynnag, yn naturiol iawn os yw’r Duw sydd yma yn cael ei gysylltu â’r Duw a fradychodd yr adict pan oedd yn blentyn. ‘Pwy yw’r Duw hwn sy’n cadw’r bobl ddrwg ond yn cymryd y bobl dda?’ neu ‘Pa fath o Dduw fyddai’n cymryd fy Nhaid/Nhad-cu oddi arnaf?’ Yn fy achos i, roeddwn yn arfer meddwl mai marwolaeth fy nhad oedd wedi fy chwerwi – ond rwy’n deall nawr mai colled fwy o lawer oedd y colli ffydd yn fy nghalon.

gabor_mate

Gabor Maté

Nid yw plant, yn ôl Gabor Maté, yr awdur a’r cyn-golofnydd meddygol, yn deall metafforau. Pan glywant y geiriau ‘Duw’r Tad’ nid ydynt yn deall eu bod yn cynrychioli’r cariad, yr undod a’r pŵer creadigol cynhenid sydd yn y bydysawd. Dychmygant hen ddyn rywle uwchben y cymylau.

I rai, gall hyd yn oed ymdebygu i’r taid/tad-cu wnaeth eu treisio. I bobl ifanc, os nad yw’r Duwdod yn amlygu ei hun yng ngweithredoedd y bobl hynny sy’n llanw’u byd, mae’r gair ‘Duw’ yn troi’n rhagrith.

Mae AA yn awgrymu felly ein bod yn dewis Duw sy’n gariadus a gofalus ac yn fwy na ni ein hunain. Gall hyn gwmpasu cynifer o ddeongliadau o Dduw ag sydd yna o aelodau yn AA.  Nid oes neb yn cael eu cau allan, felly. Bydd ein cysyniad o Dduw yn tyfu wrth inni dyfu yn ein hadferiad. A bydd gweithredu Cam 3 yn ein helpu i ddarganfod beth sy’n gweithio orau i ni. Yn Stafell Fyw Caerdydd anogwn bawb i fabwysiadu meddwl agored wrth ystyried beth mae’r gair ‘Duw’ yn ei olygu iddynt.

quote-wynford

Mae Cam 3 yn bwysig oherwydd ein bod wedi gweithredu ar hunan-ewyllys cyhyd, gan afradu ein hawl i wneud dewisiadau a phenderfyniadau. Felly, beth yn union ydy hunan-ewyllys (self-will)? Yn aml iawn mae’n golygu ein bod yn celu ein gwir emosiynau rhag ein hunain a rhag y byd, gan greu ynom yr ymdeimlad o arwahanrwydd – rhwng yr hyn yr ydym a’r hyn y dylem fod. Ei ben draw yw bod y dioddefwr yn bodoli (yn hytrach na byw) dan faich annioddefol unigrwydd, heb falio am ddim byd arall ond am leddfu ei boen ei hun; mae fel byw gyda’r ddannodd yn barhaus. Anwybyddwn anghenion a theimladau pawb arall, gan yrru’n orffwyll drwy fywydau aelodau’r teulu, ffrindiau ac estroniaid fel ei gilydd, heb fod yn ymwybodol o’r llanast a’r dinistr a adawn o’n hôl. Mor brysur ydym yn trio cael ein ffordd ein hunain fel y collwn bob cysylltiad â’n cydwybod a chyda’r Creawdwr. Rydym fel llong fechan ar fôr tymhestlog heb lyw a heb gapten. Fe’n teflir o don i don ac â’n bywydau’n anhydrin a di-drefn. Mae’n ddisgrifiad reit agos o Uffern– a chan mai dim ond yr adict sy’n gwybod gwir ystyr unigrwydd, mae ar ei ben ei hun yn yr Uffern honno.

I weithredu Cam 3, mae’n rhaid i bob un ohonom fod yn onest a chyfaddef yr amryfal ffyrdd yr ydym wedi gweithredu ar sail hunan-ewyllys, a’r niwed mae hynny wedi’i achosi i ni ein hunain ac i eraill.

Mae’n siŵr fod rhai ohonoch yn dechrau meddwl beth yn union yw ewyllys Duw ar ein cyfer, a bod y cam yma’n gofyn inni ddarganfod hynny. Ni fyddwn yn canolbwyntio ar ddarganfod ewyllys Duw ar ein cyfer nes inni gyrraedd Cam 11. Dechrau’r broses yn unig a wnawn yng Ngham 3. Serch hynny, gallwn ddod i rai casgliadau syml fydd yn help inni ar ddechrau’r daith. Er enghraifft, ewyllys Duw i ni yw ein bod yn peidio ag yfed alcohol (neu gymryd cyffur neu ymhél ag ymddygiad niweidiol arall) ac yn gwneud pethau fydd yn help inni adfer ein hunain – fel mynd i gyfarfodydd AA, neu fynychu’r Stafell Fyw, a dechrau bod yn onest am yr hyn rydym yn ei wir deimlo ac yn ei wir feddwl.

I grynhoi a symleiddio’r broses hyd yma, felly:

CAM 1: Alla i ddim. (Rwy’n ddi-bŵer dros y cyffur neu’r ymddygiad niweidiol.)

CAM 2: Gall Ef neu Hi. (Dof i gredu y gall pŵer mwy na fi fy hunan fy adfer i’m hiawn bwyll fel y gallaf wrthsefyll yr ysfa i gymryd y cyffur.)

CAM 3: Ildiaf iddo Ef neu iddi Hi. (Gadawaf iddo Ef neu iddi Hi wneud drosof yr hyn na allaf ei wneud drosof fy hunan.)     

Ar ôl gweithreud Cam 3 daw’r dirgel yn hysbys – weithiau’n raddol ac weithiau’n sydyn. Yn aml iawn, o fethu cofio enghreifftiau o ymddygiad niweidiol tuag at eraill, yn sydyn, mae fel petai llen yn cael ei thynnu i ddatgelu’r gwir mewn paratoad ar gyfer Cam 4 – pan fydd y dioddefwr yn gorfod derbyn rhai gwirioneddau anghyfforddus ac annifyr amdano’i hun. Bydd yn gorfod wynebu a derbyn fod mwy fyth o ddüwch yn ei enaid nag yr oedd wedi’i ddychmygu’n wreiddiol. ‘Caru’r cancr tu fewn’ dwi’n galw’r broses hon yn y Stafell Fyw. Mae’r cysyniad o garu rhywbeth sy’n ein lladd yn elyniaethus inni. Ond yn y frwydr ysbrydol hon, dyna’r unig ffordd. Mae’r adict yn gorfod derbyn a chofleidio’r annerbyniol – yn wir, mae’n gorfod dysgu ‘caru ei elynion’ (ochr ddu ei enaid) fel y’i cynghorwyd ef i wneud gan yr Iesu. Ond mwy am hynny’r mis nesaf.

candles-1323090_960_720

Dyma’r weddi y byddaf yn ei defnyddio yn y Stafell Fyw pan fyddaf yn gweithredu Cam 3. Yn bersonol, byddaf yn mynd ar fy ngliniau i weddïo’r weddi drawsnewidiol hon ac yn gofyn i bawb arall barchu’r tawelwch sy’n ei dilyn bob amser:

 

‘Duw, rydw i’n cynnig fy hun i ti – i adeiladu gyda mi ac i wneud gyda mi fel y mynnot. Rhyddha fi o gaethiwed yr hunan fel y gallaf wneud dy ewyllys di yn well. Dwg ymaith oddi wrthyf fy holl anawsterau fel bod goruchafiaeth drostynt yn dystiolaeth i’r rhai y gwnawn eu helpu, o dy nerth, dy gariad, a dy ffordd di o fyw. Boed imi wneud dy ewyllys di’n wastadol. Amen.’

Wedi gweddïo’r weddi hon yn ddyddiol, dwi’n gofyn am ddim, yn disgwyl dim, ac yn derbyn popeth sy’n dod.

 

email-icon-100-flat-vol-2-iconset-graphicloads-18
YMATEB
Os hoffech chi ymateb i’r erthygl hon, 
cliciwch YMA i adael sylw.